Yn reddfol, neidiwn i amddiffyn y Sianel. Wedi’r cyfan, mae rhai ohonom yn gwneud bywoliaeth deg ar gefn teledu. Mae eraill yn gweld S4C yn symbol o iaith y mae’n rhaid ei hamddiffyn ar bob cyfrif, rhag i sylfaen fregus y Gymraeg, ei siaradwyr, ei chymunedau, ei sefydliadau a’i rôl ym mywyd Cymru falu’n deilchion o’n hamgylch. Mae’r ymosodiadau hyn hefyd yn ein hatgoffa o rywbeth arall: os byddwn yn cymryd S4C yn ganiataol, yna gallem ei cholli. Gallai colli S4C neu leihau rôl y Sianel fod yn gam cyntaf tuag at golli’r tir a enillodd yr iaith dros y 30 mlynedd diwethaf.
Rhaid i S4C newid, nid er mwyn lleddfu gelynion, ond oherwydd bod angen i’r Sianel newid yn gyson. Diben y Sianel yw darparu’r gwasanaethau hynny sydd eu hangen ar gyfer siaradwyr Cymraeg, mewn marchnad gyfryngol lle nad yw’r incwm masnachol yn ddigonol. Rhaid asesu’r gwasanaethau hyn yn barhaus wrth i broblemau newydd ddisodli hen broblemau. Bydd pob cenhedlaeth yn ei thro yn gwarchod y Sianel a’r iaith drwy ymladd ar sail materion ac anghenion a chyd-destunau cyfoes. Nid ydym fel pobl erioed wedi cyflawni ein dyletswydd i helpu S4C ddiffinio beth yw ei rôl yn yr oes gyfryngol newydd.
Cafodd S4C wared ar y gwrthdaro rhwng siaradwyr Cymraeg oedd o blaid teledu Cymraeg, a’r di-gymraeg oedd o blaid rhaglenni rhwydwaith. Trwy gyfuno rhaglenni Cymraeg a rhai Sianel 4 cyrhaeddwyd cyfaddawd – cyfaddawd llwyddiannus ar y cyfan, ac eithrio ambell i broblem dros rasio ceffylau. Mae’r dadleuon yma wedi diflannu gyda’r cyfyngiadau technolegol a’u hachosodd. Yn unol â mwyafrif y sianelau digidol bychain, problem S4C heddiw yw dod o hyd i’r arian a’r ddawn i lenwi beth a allai, yn dechnegol, fod yn sianel 24 awr.
Bu’n rhaid i S4C ymateb drwy ddarlledu canran uchel o raglenni a ailddarlledwyd droeon. Nid yw hyn wrth fodd y gwylwyr; ond rydym yn fodlon derbyn hyn wrth wylio sianelau tebyg eraill. Rhaid i ni dderbyn mai ailddarlledu yw’r unig ddull o ddarparu sianel uniaith Gymraeg. Does dim cyllid ar gael i ddarlledu mwy o raglenni uniaith Gymraeg. Yn ogystal â hyn mae’r cylch talent creadigol sydd gennym yn gyfyngedig, a byddem yn ei chael hi’n anodd darparu mwy o raglenni ychwanegol safonol sy’n cynnig gwerth am arian.
Problem arall yn yr hir dymor yw’r anghydbwysedd mewn gwariant cyhoeddus ar deledu Saesneg a Chymraeg yng Nghymru. Ers datganoli cawsom gonsensws newydd ar Gymru ddwyieithog. Yn ymarferol, mae’r Gymraeg bellach yn iaith swyddogol ac mae’r ymdriniaeth gyfartal o’r Gymraeg a’r Saesneg wedi’i dderbyn ledled Cymru. Ond mae cost i’r cydraddoldeb hwn – a bydd yn rhaid talu’r pris rhyw ddiwrnod. Mae lled a dyfnder teledu Saesneg yng Nghymru yn cymharu’n wael â’r ddarpariaeth Gymraeg. Mae teledu cyfrwng Saesneg yn rhan allweddol o greu’r Gymru newydd ac atgyfnerthu’r teimlad o fod yn Gymreig. Ni fydd y Gymraeg yn goroesi mewn gwlad nad yw bellach yn gwybod nac yn deall beth yw bod yn Gymry.
Mae ITV yn anfodlon cadw eu hymrwymiad trwydded i Gymru. Efallai fod y BBC yn ei chael hi’n haws cyflawni ei chyfrifoldebau tuag at Gymru drwy fewnforio cynyrchiadau rhwydwaith yn hytrach na chynhyrchu rhaglenni i Gymru. Nid yw’r anghydbwysedd hwn yn gynaliadwy. Mae gwleidyddiaeth a thegwch yn datgan hynny. Does fawr o obaith y bydd unrhyw lywodraeth yn y dyfodol yn darparu cyllid ychwanegol ar gyfer darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Gall gwelliannau i’r gwasanaeth cyfrwng Saesneg yng Nghymru ddod o ddwy ffynhonnell – cyllid presennol S4C neu’r BBC. Ni all y Gymraeg fforddio rhannu cyllid S4C. Ond er mwyn gwarchod y gyllideb honno, rhaid ymgyrchu dros ail-lunio gwariant y BBC. Mae’r BBC yn ei chael hi’n anodd esbonio paham y dylid defnyddio cyllid o’r drwydded deledu i dalu am y mwyafrif o’i wasanaethau ledled y DG – ond yn achos Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru mae methiant clir yn y farchnad. Mae’r arian yng nghoffrau’r BBC ac mae ei angen ar y tair gwlad.
Yn ddiweddar cafwyd dadleuon ynghylch ffigyrau gwylwyr, ac ni ddylid credu bod y rhain yn ganlyniad i amserlennu digidol yn unig. Dros y blynyddoedd mae cynulleidfaoedd S4C wedi gostwng ac mae oedran y gwylwyr, ar gyfartaledd, yn anghyffyrddus o uchel. Fel gwylwyr mae gennym rôl i’w chwarae yma. Oes gwir angen y Sianel arnom ni? Ar hyn o bryd mae’n ymddangos bod llawer o Gymry yn dweud ‘Na’. Mae S4C wedi dynodi ei dymuniad i ymgynghori gyda’r gwylwyr. Rhaid i ni helpu’r Sianel adnabod beth yw ei rôl heddiw.
Mewn oes o gwtogi ar gyllid a gyda cannoedd o sianelau ar gael ar ein cyfer, does dim diben cwyno nad yw S4C yn cyflawni ein holl anghenion. Rhaid i’r Sianel ganolbwyntio ar y rhannau angenrheidiol o raglenni gwasanaeth cyhoeddus. Bach iawn o deyrngarwch sydd gan siaradwyr Cymraeg bellach tuag at raglenni am eu bod yn rhaglenni Cymraeg. Mae’n rhaid i S4C ddarparu gwasanaeth lle mae ganddi fantais gystadleuol dros y cannoedd o sianelau eraill sydd bellach ar gael i siaradwyr Cymraeg.
Er mwyn gwneud hyn bydd rhaid rhoi blaenoriaeth i Gymru, newyddion Cymru, rhaglenni sy’n seiliedig ar newyddion Cymru, materion cyfoes, digwyddiadau a chwaraeon. Ac wrth ychwanegu ystod o raglenni gwasanaeth cyhoeddus, o hanes i ddiwylliant, mae’n debygol y bydd yn rhaid i nifer o raglenni cyfarwydd ddiflannu.
Mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom i ddiffinio beth sydd ei angen arnom a beth sydd ei eisiau arnom. Bydd angen meddwl yn graff a sicrhau bod S4C yn sianel sy’n cyrraedd pawb sy’n siarad Cymraeg – nid y rhai gyda’r lleisiau amlycaf yn unig. Cafodd nifer o’n sefydliadau a’n gwasanaethau cyfrwng Cymraeg eu herwgipio er budd ychydig iawn ohonom. Rhaid i S4C gyrraedd pawb neu fe fydd yn methu, ac fe fydd ein hiaith yn methu hefyd.
Mae sawl her newydd yn ein hwynebu. Mae prinder cynnwys a gwasanaethau ar-lein. Y BBC yw’r darparwr ar- lein mwyaf poblogaidd yn y DG. Yng Nghymru, nid yw gwasanaethau o’r fath ar gael ac eto mae’r farchnad yn fethiant. Drwy’r pwrs cyhoeddus yn unig y gellir darparu’r gwasanaethau hyn. Mae’n amlwg nad yw’r BBC am fod yn weithredol. Ac eithrio S4C does gan ddim un sefydliad arall yr arian na’r cyfle i lenwi’r gofod hwn. Yn hanesyddol nid oedd hyn o fewn cylch gorchwyl S4C ond os na fyddwn yn diogelu’r Gymraeg fel iaith ar-lein, ni all yr iaith hawlio’i lle yn y byd modern. Pe byddai S4C yn blaenoriaethu gwasanaethau ar-lein, byddai’n rhaid i’r arian ddod oddi wrth raglenni teledu. Mae’n benderfyniad anodd – ond mae’n benderfyniad sydd yn rhaid ei wneud er mwyn cynnal y Gymraeg.
Mae gan S4C ymrwymiad pwysig i ddarparu rhaglenni i blant, ond mae ein plant, hyd yn oed, yn fwy eangfrydig eu chwaeth na’u rhieni yn eu dewis o raglenni. Mae iaith yn ystyriaeth eilradd. Yn y cyfamser mae prinder cynnwys modern, addysgiadol yn y Gymraeg, o ran rhaglenni teledu a chynnwys ar-lein. A ddylai S4C lynu’n agosach at y cwricwlwm? Mae’r cwricwlwm newydd yng Nghymru yn gam enfawr ymlaen ym myd addysg ond mae angen deunyddiau sy’n defnyddio’r technolegau newydd. Unwaith eto rhaid dewis – o ganlyniad i adnoddau cyfyngedig. Beth fydd ein dewis? Beth sydd orau i’r iaith ac i’w siaradwyr?
Mae S4C yn ymwneud â mwy na theledu. Mae’n arf allweddol i ddiogelu’r iaith a threfi a phentrefi Cymru lle mae’r iaith yn para’n iaith gymunedol. Bydd hanes yn barnu S4C yn erbyn y blaenoriaethau hyn. Ond nid S4C yn unig gaiff ei barnu. Mae’n rhaid i’r siaradwyr Cymraeg rannu’r cyfrifoldeb. Bydd pob cenhedlaeth yn derbyn yr S4C y mae’n ei haeddu. Prin y gellir dweud bod ein cenhedlaeth ni yn cymryd rhan hyd yn oed yn y drafodaeth.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
