Thema dywyll Thema golau

Lle Mae’r Llwythau’n Dod Ynghyd

Dyma ddrama Gymraeg gyntaf Dafydd James, sy’n 30 oed ac yn dod o Gaerdydd. Astudiodd Lenyddiaeth Saesneg yn y Brifysgol yng Nghaeredin, a dilyn cwrs yn y London School of Performing Arts, ac yn ogystal ag ysgrifennu, mae hefyd yn cyfansoddi ac yn perfformio. Er iddo actio yn Gymraeg yn y gorffennol – er enghraifft gyda’r Theatr Genedlaethol yn y cynhyrchiad Hen Rebel, roedd angen i Sherman Cymru ddwyn perswâd arno i ysgrifennu’n Gymraeg, meddai.

‘O’n i ddim yn meddwl bo’ fi’n gallu sgrifennu yn Gymraeg, er ei bod hi’n iaith gyntaf i fi. O’n i ’di astudio llenyddiaeth Saesneg, o’n i ddim ’di sgrifennu’n Gymraeg ers imi ’neud Lefel A, ac o’n i ’di colli rhyw fath o hyder yn hynny. A hefyd o’dd ’da fi ryw feddwl y bydden i’n methu sgrifennu am yr hyn o’n i mo’yn yn Gymraeg. ’Na beth oedd e – a dychmygu falle beth oedd cynulleidfaoedd Cymru yn feddwl. O’dd ’da fi ryw fath o ddelwedd o beth oedd yn iawn i sgrifennu ’bytu fe, a wedyn yn sydyn wrth gwrs dyma fi’n sylweddoli, wel ma’ hwn yn ddiddorol, be sy’n mynd mlaen, fynna, ’da fi? Beth yw hwnna? Beth yw’r broblem fan hyn? A dyna sydd wrth wraidd y ddrama. ‘Odd ’da fi ryw deimlad bod diwylliant a chelfyddyd

Cymraeg yn uffernol o straight, ac yng Nghymru, achos bod yr iaith o dan ryw fath o warchae, y’n ni am amddiffyn celfyddyd, mae yna dueddiad wedyn bod y ffordd ni’n meddwl am y gelfyddyd yna’n eitha’ unochrog falle, yn fach, a bod dim lot o le i lot o wahaniaethau o’i fewn e. Mae’n bur debyg mai ’mhrobleme i oedd hyn i gyd, ond odd e’n deimlad cryf iawn.’

Fel ei brif gymeriad, Aneurin, roedd yr awdur yn byw yn Llundain pan gychwynnodd ysgrifennu’r ddrama. Erbyn hyn mae Dafydd wedi dychwelyd i Gymru i fyw, ac mae’n cwestiynu pam iddo deimlo’r angen hwnnw i fyw dros y ffin. Bellach mae’n teimlo y gall ddathlu ei Gymreictod – ac mae’r ddrama’n plethu dylanwadau o’r diwylliant Eingl- Americanaidd – bydd y cynnwys yn atgoffa sawl un o ddramâu teledu fel Queer as Folk a Sex and the City – gyda’r diwylliant Cymraeg.

 

‘Hefyd mae dylanwad y Gododdin a Caryl Parry Jones, a’r holl bethe fi’n meddwl sy’n wych ambytu cymdeithas Gymraeg,’ meddai Dafydd. ‘Margaret Williams! Mae’r diwylliant Cymraeg yn camp – mae’n wych! Y Steddfod – mae’n camp! Yr holl dderwyddon – dynion mewn ffrogie! Fi’n dathlu hynny! Mae ’na gymaint i’w ddathlu am ddiwylliant Cymraeg, ac mae e’n od bo fi ’di teimlo’r angen i adael – pam? O’n i’n teimlo am ryw reswm bod ishe i fi fynd dros y ffin i fod yn hapus, a wedyn, y shift sy’ ’di digwydd i fi yw dod i sylweddoli ’sdim rhaid mynd a dweud y gwir, alla i fod yn berffaith hapus fan hyn. Yn hapusach i fod yn onest, achos ma’ bod yn Gymro yn rhan o bwy ydw i.’

Rhan o’i hunaniaeth hefyd yw bod yn Gymro hoyw ac wrth gyfansoddi’r ddrama, ceisiodd gadw’n driw i’r hen wireb i awdur – ysgrifennu am yr hyn sy’n gyfarwydd. Er bod elfennau o’r cymeriadau yn seiliedig ar Dafydd ei hun ac ar rai o’i ffrindiau, mae’n prysuro i ddweud mai man cychwyn yn unig oedd hynny. Ef hefyd yw cyfarwyddwr cerdd y ddrama, ac mae wedi dewis yr hyn y mae’n ei alw’n ‘ganeuon eiconig Cymreig’ – ‘Y Cwm’ (Huw Chiswell), ‘Ysbryd y Nos’ (Edward H. Dafis), ‘Chwarae’n Troi’n Chwerw’ (Caryl Parry Jones) – i’w perfformio yn ystod y sioe. Bydd côr gwahanol ar y llwyfan ym mhob canolfan ar y daith, ac wrth ymweld â’r corau i drafod y ddrama, mae Dafydd a’r cyfarwyddwr Arwel Gruffydd yn gobeithio creu diddordeb er mwyn sicrhau cynulleidfa deilwng, gan gydnabod bod y cynnwys yn debygol o fod yn heriol i rai.

‘Dwi ddim ’di mynd mas i greu drama heriol o gwbl, ond dw i ddim ’di cyfaddawdu ar beth ’wy mo’yn sgrifennu,’ meddai Dafydd. Eto i gyd bydd rhai o’r themâu a’r ieithwedd yn gyfarwydd i’r rhai sy’n mwynhau gwaith llenyddol Llwyd Owen a Catrin Dafydd, er enghraifft, a fydd yna ddim byd i godi braw ar gynulleidfa sydd wedi arfer gwylio’r gyfres Caerdydd ar S4C. Ac er bod iddi elfennau tywyll a thrasig, mae addewid am ddrama sy’n llawn hwyl a llinellau bachog, cofiadwy, ac sy’n portreadu’r bywyd dinesig Cymraeg – peth digon prin o’i gymharu â’r llu dramâu sydd wedi’u gosod yng nghefn gwlad Cymru.

Cyfuno’r tywyll a’r ysgafn yw prif nodwedd gwaith Dafydd, a chyn bo hir bydd yn teithio Prydain yn perfformio ei sioe My Name is Sue, a gafodd lwyddiant mawr yng Ngfiyl Caeredin y llynedd. Er mai Dafydd ei hun sy’n chwarae rhan Sue’r teitl, nid drag act arferol yw’r perfformiad, meddai, gan fod i Sue hefyd elfennau trasig, sy’n cael eu datgelu’n raddol yn ystod caneuon ysgafnach am hoffter y cymeriad o deithio ar fysus o amgylch Caerdydd.

Dros y misoedd nesaf, bydd Dafydd hefyd yn gweithio ar ddatblygu dau egin syniad gyda’r cwmni newydd National Theatre Wales – sioe gerdd o’r enw Greek Tragedy, ac addasiad o My People gan Caradoc Evans. Efallai mai Llwyth fydd yn cyflwyno enw Dafydd James fel dramodydd am y tro cyntaf i lawer o bobl, ond go brin mai dyma’r unig waith o’i eiddo fydd yn procio cynulleidfaoedd Cymru yn ystod y blynyddoedd i ddod.

 

Bydd Llwyth (Sherman Cymru) yn cael ei pherfformio yn Chapter, Caerdydd, o 15 hyd 24 Ebrill ac yna’n teithio rhwng 27 Ebrill a 22 Mai. Bydd Trafodaeth Banel yn dilyn y perfformiad ar 21 Ebrill, gyda’r awdur Dafydd James, y cyfarwyddwr Arwel Gruffydd, y dyfarnwr Nigel Owens a’r awdur Bethan Marlow o dan gadeiryddiaeth Cris Dafis.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Dydd y Farn - heb y tân a'r brwmstan

Ymlaen >

Sianel Pawb Neu Sianel Neb