O’r Alban – Lawr â fo
Rhai garw ydan ni’r Albanwyr am ddathlu. Nid dathlu’r gwyliau amlwg yn unig – y Nadolig a Hogmanay. Dyw hynny ddim yn ddigon. Rhaid cychwyn ar 30 Tachwedd, Dydd Gwyl Andreas, ein nawddsant. Daliwn ati’n ddygn dros wyl y Geni a’r Flwyddyn Newydd hyd at 25 Ionawr. Honno yw Noson Burns. Fiw anghofio’n bardd cenedlaethol, siwr iawn! Dyna i chi ddau fis o ddathlu mawr ac yfed mwy. Mae yfed yn rhan o’n gwead cenedlaethol. A wyddoch chi am genedl arall ar wyneb daear sydd wedi rhoi ei henw i un o’r gwirodydd mwyaf poblogaidd yn y byd? Mae’r Rwsiaid yn llowcio fodca wrth y galwyn, ond chlywch chi neb yn cyfeirio at y gwirodyn arbennig hwnnw fel ‘Rysian’! Ond mae pobol ar bum cyfandir yn gofyn am boteleidiau o Scotch.
20 Rhagfyr 2010
“Nid yn ofer y bu’r brwydro…” – gobeithio
‘Ar ôl sicrhau ein hannibyniaeth oddi wrth Brydain a’r rhyddid i reoli ein gwlad ein hunain,’ meddai’r Irish Times (papur sydd, gyda llaw, ymhell o fod yn weriniaethol o ran ei draddodiad – Unoliaethol a Phrotestannaidd oedd yr Irish Times yn hanesyddol), ‘rydym yn awr wedi ildio ein sofraniaeth i’r IMF a’r Comisiwn.’
18 Rhagfyr 2010
Iaith Fyw?
Yn ystod mis rhagfyr bydd Gweinidog Treftadaeth Cymru yn cyhoeddi strategaeth newydd ar gyfer yr iaith Gymraeg. Yma mae o’n amlinellu ei weledigaeth mewn perthynas â dyfodol y Gymraeg. Gadewch i ni ddechrau gydag ystadegau moel. Bob blwyddyn mae 3,000 yn llai o bobol yn siarad Cymraeg yng Nghymru. Dyma’r ffaith sobreiddiol yn ôl ymchwil gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Ac, o ystyried bod mwyafrif y rhai hynny yn debygol o fod yn bobol hyn a fagwyd yn siarad Cymraeg yn rhugl, a oes rhyfedd bod cynulleidfa S4C, er enghraifft, wedi crebachu dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf? Ond, howld on, meddech chi; onid oedd y cyfrifiad diwethaf yn dangos cynnydd yn nifer o siaradwyr Cymraeg? Cywir. Yn 2011 roedd 20.8% yn honni eu bod yn medru’r Gymraeg. Cynnydd ar ffigwr 1991, sef 18.7%. O gyfrif pennau, 582,400 yn 2001. 508,100 yn 1991. Achos dathlu, onide?
18 Rhagfyr 2010
Nid Carwriaeth Ond Partneriaeth Gadarn
Serch hynny, i’r rhai ohonom sy’n ymddiddori yn y pethau hyn, mae’r gwahaniaethau, yn arbennig yn y modd y mae’r ddwy glymblaid yn gweithredu, mor drawiadol nes eu bod yn haeddu trafodaeth.
18 Rhagfyr 2010
Y Gêm Brydferth
A thasa’r Bonwr Ferguson wedi bod yn ddigon anffodus i weld yr ‘handball’ echrydus wnes i o flaen y gôl mewn gêm ddiweddar yn erbyn genod Pwllheli, mi fyddwn i wedi diodda’ dos go hegar o’r enwog ‘hairdryer treatment’ yn y fan a’r lle, a hynny’n gwbl haeddiannol. C’wilydd…
5 Tachwedd 2010
ganBeca Brown
Llafur – plaid Kinnock unwaith eto?
‘I’ve got my party back’: ymateb cofiadwy Neil Kinnock i fuddugoliaeth Ed Miliband yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur Brydeinig.
5 Tachwedd 2010
Fi, hi – a’r delyn
Y tu ôl i bob cerdd dantwraig o fri mae yna wr ufudd a diwyd sy’n aberthu popeth er mwyn hybu llwyddiant ei gymar ym myd y canu gyda’r tannau. Ar drothwy Gwyl Gerdd Dant 2010, mae un ‘gweddw cerdd dant’ yn rhannu ei brofiadau.
5 Tachwedd 2010
ganIoan Roberts
Cwrs y Byd : Chile a Chymru
Vaughan Hughes <br /> <p>Ar setiau teledu ledled y byd gwyliodd biliwn o bobol y cyntaf o fwynwyr Chile yn cael ei ryddhau. Roedd Florencio Avalos a’i gydweithwyr, 33 ohonyn nhw igyd, wedi bod yn gaeth dan ddaear am 69 o ddyddiau. Fel y tystia anferthedd y gynulleidfa deledu, a phresenoldeb 1,500 o newyddiadurwyr o bum cyfandir, roedd yr ymdrechion i achub mwynwyr gwaith copr ac aur San José wedi cyffwrdd â chalonnau’r ddynoliaeth gron gyfan. Yn enwedig, felly,pobloedd cenhedloedd sydd â thraddodiad maith o fwyngloddio. Fel mae erthygl Alun Lenny yn y rhifyn hwn o Barn (tud.21) yn ein hatgoffa, mae Cymru ymhlith y cynharaf a’r mwyaf nodedig o’r cenhedloedd hynny. Mae tystiolaeth bod dynion wedi bod yn tyllu am fwynau ym mynyddoedd a dyffrynnoedd a chymoedd Cymru ers miloedd lawer o flynyddoedd.</p>
5 Tachwedd 2010
Ai diwedd y gân yw’r geiniog?
Gair o gefndir i ddechrau. Mae PRS (Performing Right Society) yn gwmni annibynol yn Llundain ac iddyn nhw y mae gorsafoedd radio yn talu pan fyddan nhw’n chwarae unrhyw ddarn o gerddoriaeth.
5 Tachwedd 2010
ganGriff Lynch
“Tyrd yn ôl, Peter Hain…”
Er ei fod bellach wedi hen golli ei le fel Ysgrifennydd Cymru, mae Peter Hain yn parhau’n ddylanwad llawer mwy pwysfawr ac arwyddocaol ar wleidyddiaeth ein gwlad na’i olynydd.
16 Medi 2010
Radicaliaeth Ar Gân
Mewn cyfnod pan fo’r diwylliant canu poblogaidd yn gyffredinol wedi cyrraedd ‘cul de sac’, beth yw’r ffordd ymlaen i fandiau a chantorion Cymraeg a Chymreig? Cydio’n gadarn yn eu gwreiddiau yw’r ateb, meddai’r awdur. Y geiryn diystyr ‘wplabobihocdw’ sy’n crynhoi’r ymdeimlad o ddim o bwys yn digwydd ym maes diwylliant yr ifanc yn y 1980au, a’r cwestiwn ‘ble wyt ti rhwng?’ sy’n crynhoi’r ymdeimlad o ymholi, a’r mentro hyderus i gyfeiriadau newydd, a fodolai yn y 1990au. Y geiryn roc a rôl hwnnw oedd teitl un o raglenni radio Huw ‘Bobs’ Pritchard, a oedd yn cyfleu i’r blewyn natur fyrlymus os nad corwyntog y cyflwynydd. O ganlyniad i ehangu oriau darlledu radio a sefydlu S4C yn gynnar yn y 1980au, fe sugnwyd talentau lu i weithio i’r cyfryngau Cymraeg.
Deddfwriaeth Iaith Rhy Bwysig i’w Gadael i’r Cyfreithwyr
Pethau byw ac ystwyth yw ieithoedd, yn newid yn gyson, yn sgil ymwneud pobl a chymunedau â’i gilydd.
16 Medi 2010
ganEmyr Lewis
Cwrs Y Byd: Lle Aeth Pawb?
Flwyddyn union yn ôl ym mis Medi 2009 roedd ’na 17 o ddisgyblion yn yr ysgol. Ond pan ddeallwyd bod Cyngor Sir Ynys Môn yn mynd i gau’r ysgol, fe ddechreuodd y rhieni symud eu plant o’r ysgol gondemniedig.
16 Medi 2010
Brifo Bob Dydd
Dwedodd ei bod wedi bwcio awyren yn ôl i’r Unol Daleithiau ar ei chyfer ei hun.
16 Medi 2010
ganChris Cope
Wrth Eu Llwythau…
Mae llwythau ac islwythau yn ddiddiwedd o ddifyr, yn enwedig mewn gwlad sy’n teimlo y dylai dynnu at ei gilydd yn gytûn er mwyn ymwrthod â gelyn sydd i fod yn gyffredin. be
7 Mehefin 2010
ganBeca Brown
Pawb at y Peth y Bo
Ac eto, pam ddyliwn i boeni’n ormodol amdano ac yntau’n greadur annwyl a llawen ar y cyfan?
7 Mehefin 2010
Llywodraeth Lloegr a Diwedd Prydeindod
Mae canlyniadau’r Etholiad Cyffredinol yn tanlinellu’r newid y mae datganoli wedi ei wneud i’r Deyrnas Gyfunol. Os yw’r gair Cyfunol yn briodol bellach...
7 Mehefin 2010
Cavendish – Gwrth-Arwr Arwrol
Draw yn Wimbledon mi fydd Albanwr yn sifir o gythruddo’r wasg yn Lloegr trwy ddweud ei fod e’n cefnogi ‘unrhyw un ond Lloegr’ yn y bencampwriaeth yn Ne Affrica.
7 Mehefin 2010
ganDot Davies
Cwrs Y Byd – Hogiau Del
Ond o! wrth edrych eto ar y llun, roedd o ei werth o i gyd, Mami a Dadi, onid oedd o?
7 Mehefin 2010
Ym Mhawen y Wasg
Y fi fyddai’r cynta’ i gyfaddef nad wyf y ffan mwya’ o sioeau cerdd – yn aml iawn dwi’n eu cael yn rhy ystrydebol a chyfleus. Fodd bynnag, cefais fy siomi ar yr ochr orau y tro yma a drwyddi draw roedd Heb ei Fai… yn gynhyrchiad hynod lwyddiannus.
28 Ebrill 2010
Yn ôl i Zimbabwe
Pen-blwydd fy mrawd yng nghyfraith, Solomon, yn 80 oed eleni a barodd i fy ngwraig a minnau ymweld eto â Zimbabwe er gwaethaf y ffaith nad oes unrhyw adroddiad positif yn dod oddi yno. Roeddwn i hefyd am fentro gwneud tipyn o ffilmio answyddogol.
28 Ebrill 2010
Gitar (Ddim) yn y Twll Dan Star
Ond a yw’r obsesiwn hwn â phopeth retro yn beth da? Ac ar ôl i fand roi’r stratocaster yn y to, ai doeth yw dychwelyd eto i’r llwyfan? Bûm yn pendroni am hyn yn ystod Eisteddfod Caerdydd yn 2008, ar ôl gweld Hanner Pei yn perfformio, sef band yr oeddwn yn hoff iawn ohonynt yn ystod fy arddegau cynnar – a’r hoffter hwnnw bron â throi’n obsesiwn.
28 Ebrill 2010
ganEiry Miles
Hen Wlad Fy Nhadau’n Wynebu Newidiadau
Serch y difyrrwch, rhaid cyfaddef bod sawl gwedd ar yr ymgyrch bresennol yn codi’r felan arnaf.
28 Ebrill 2010
Bww Mewnfudo Grr
‘Mewnfudo’ yw un o’r geiriau hynny sydd â rhyw werth cysylltiedig ganddo, fel ‘democratiaeth’ a ‘rhyddid’.
28 Ebrill 2010
ganChris Cope
Materion y Mis – Y Gân a’r Geiniog
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl. Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael…
28 Ebrill 2010
Sianel Pawb Neu Sianel Neb
Cadeirydd gweithredol Tinopolis, un o’r cwmnïau cyfryngol mwyaf ym Mhrydain, sy’n ymateb i ffigyrau gwylio S4C. Ond nid y Sianel yn unig sydd ar brawf, meddai, ond Cymreictod. A phawb ohonom ni’r Cymry. Cipiodd S4C y penawdau ym mis Mawrth – a hynny ar dudalen 3 papur y Sun, yn cysgodi islaw Stacey, 22, o Portsmouth. Efallai i Stacey lwyddo i ddenu sylw’r darllenwyr rhag canolbwyntio ar asesiad deallusol o S4C. Ond mae’r honiadau ar dudalen 3 nad yw llawer o raglenni’r Sianel yn cael eu gwylio gan neb yn porthi rhagfarnau hir-sefydledig yn erbyn S4C a’r iaith. Yn y cyfamser, mae’r Western Mail, Papur Cenedlaethol Caerdydd, yn parhau â’i ymgyrch newydd yn erbyn S4C.
31 Mawrth 2010
ganRon Jones
Lle Mae’r Llwythau’n Dod Ynghyd
Mae drama Gymraeg gyntaf awdur ifanc o Gaerdydd yn archwilio Cymreictod gan ddefnyddio noson allan pum Cymro hoyw fel cyfle i wneud hynny. Os bydd drama newydd Sherman Cymru, Llwyth, sydd ar daith yn ystod y mis hwn a’r mis nesaf, yn creu penawdau – ac mae’n bur debyg y bydd hi – yna’r elfennau mwy cignoeth ohoni sy’n sifir o ddenu sylw. Mae’n ddrama am bum Cymro hoyw ar noson allan yng nghlybiau a thafarndai Caerdydd: mae’n cynnwys iaith gref, mae’r cymeriadau’n trafod eu profiadau rhywiol, maen nhw’n cymryd cyffuriau, ac yn siarad Wenglish. Digon felly i godi aeliau rhai ymhlith y gynulleidfa draddodiadol. Ond byddai canolbwyntio ar yr elfennau hynny yn golygu colli golwg ar brif thema Llwyth, sydd, yn ôl awdur y ddrama, Dafydd James, yn archwiliad o Gymreictod. Mae’r teitl yn cyfeirio lawn cymaint at y Cymry Cymraeg a llwyth y teulu ag y mae at y llwyth hoyw, ac mae’r ddrama’n edrych ar y ffordd y mae’r cymeriadau’n perthyn i fwy nag un garfan ar yr un pryd.
31 Mawrth 2010
Dydd y Farn – heb y tân a’r brwmstan
Ddechrau Mawrth, fel rhan o ddathliadau’r Academi yn hanner cant oed, cynhaliwyd cynhadledd i drafod beirniadaeth yng Nghymru heddiw. Difyr ond dof oedd y trafod, yn ôl un a fu yno Diwrnod difyr oedd yr un a gynhaliwyd gan yr Academi yn Aberystwyth ddechrau’r mis diwethaf i drafod sefyllfa beirniadaeth yng Nghymru. Roedd y gynhadledd yn llawn dop, a’r trafod yn fywiog, ac fel islais i’r trafodaethau clywid rhyw anfodlonrwydd gyda theneurwydd beirniadaeth Gymraeg, a chyda’i diffyg gonestrwydd. Mae’n rheidrwydd arnaf innau, felly, i ddweud y gwir plaen, sef nad oedd neb fawr callach erbyn diwedd y diwrnod, ac mai cyfle i ollwng stêm oedd y gynhadledd yn bennaf, heb ddim oll i ddangos cyfeiriadau newydd, nac i greu daeargrynfâu dan gadarn goncrid Philistia.
31 Mawrth 2010
Yr Ornest
"Dave" y paffiwr ifanc yn y gornel las a enillodd y rowndiau cynnar. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae Brown, yr hen focsar o’r gornel goch, yn ergydio’n galed. Ond pwy sy’n dal i fwrw ei chysgod dros y cylch?... A minnau bellach yn byw nid nepell o stadiwm athletau Lecwydd yng Nghaerdydd, dwi’n eu gweld nhw’n gyson yn ymarfer. Mae rhywbeth go ryfedd mewn gweld ein hathletwyr mwyaf talentog yn ymarfer eu drills. Er eu bod nhw i gyd yn chwim i’w ryfeddu – o leiaf i’n llygaid ni, feidrolion – maen nhw’n treulio oriau lawer yn symud yn bwyllog o amgylch y trac rhedeg. Codir pen-glin dde a braich chwith i’r awyr gyda’i gilydd. Yna gollyngir nhw a chodir yn eu lle y pen-glin chwith a’r fraich dde. Ac felly ymlaen. Am yn ail. Am hydoedd. Pwrpas yr ymarferiad, yn ôl a ddeallaf, yw plannu’r symudiadau hyn yn ddwfn yn y cof fel bod technegau rhedeg cywir yn dod yn ail natur i’r athletwyr.
31 Mawrth 2010
Cwrs y Byd – Ymweld â’r gorffennol
Fe dreuliais i’r rhan helaethaf o saithdegau’r ganrif ddiwethaf yng Nghaerdydd. Roeddwn i’n ifanc. Ac fe wnes i fwynhau’r ddinas. Sylwer mai’r ddinas ddywedais i. Nid y brifddinas. Doedd Caerdydd y cyfnod ddim yn ymarweddu fel prifddinas. Yn ei hunangofiant, Baglu ’Mlaen, mae Paul Flynn yn dyfynnu’r hyn a ddywedodd ei fam dreiddgar wrtho ar yr aelwyd yn Grangetown yn y pedwardegau. Bodolai tair gradd o Gymreictod, meddai’r fam. Roedd y Flynniaid, ‘mwngreliaid Gwyddelig/Sbaenaidd/Eidalaidd Caerdydd’ yn Welsh. Pobol y Cymoedd oedd y Real Welsh. Ac wedyn, meddai Mrs Flynn, roedd y Proper Welsh, sef y Cymry Cymraeg: ‘Protestaniaid pybyr oedd nid yn unig yn estroniaid ond yn byw hefyd ar ryw blaned arall’.
31 Mawrth 2010
Llwyfan i Freuddwydion
Mae’r newyddion am ymadawiad Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru â’r cwmni wedi ysgogi trafodaeth o’r newydd am anghenion ac amcanion y theatr Gymraeg a Chymreig. Dyma farn IAN ROWLANDS.
6 Mawrth 2010
ganIan Rowlands
Radio Pop a Radio Pawb
Yn sgil cwynion o sawl cyfeiriad am natur rhaglenni Radio Cymru, gostyngiad sylweddol yn ddiweddar yn nifer y gwrandawyr, heb sôn am y toriad yn incwm breindal i gerddorion Cymraeg, onid creu ail donfedd yw’r ateb amlwg? Dyma hi’n wyl Dewi – amser cystal â’r un i gyflwyno syniad i’r Genedl. Nid syniad hollol newydd efallai – mae rhai wedi awgrymu rhywbeth tebyg o’r blaen – ond yn hytrach un sy’n cydio wrth drafodaethau a fu yn nhudalennau Barn o’r blaen yn lled ddiweddar.
5 Mawrth 2010
Owen Meilir: Kyffin y Dyn Tlawd
Mae Cymru’n hen gyfarwydd â beirdd gwlad. Ond ym Môn mae arlunydd gwlad yn cynhyrfu dyfroedd tawel a chysurus y byd celf.
5 Mawrth 2010
Cwrs y Byd – Pennaeth newydd Bangor
Wrth i Barn fynd i’r wasg mae Bwrdd yr Iaith yn cynnal ymchwiliad i ganfod a yw Prifysgol Bangor fel sefydliad ‘wedi methu â chyflawni ei gynllun iaith wrth hysbysebu am Is-Ganghellor’. Asgwrn y gynnen, wrth reswm, yw penderfyniad dadleuol Bangor i beidio â gwneud y gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol na hyd yn oed yn ddymunol ar gyfer y person a benodir i olynu’r Athro Merfyn Jones. Gadawaf oblygiadau cyfreithiol hynny i Gwion Lewis sy’n trafod y mater efo’i dreiddgarwch dadansoddol arferol yn y rhifyn hwn (gweler tudalen 5).
5 Mawrth 2010
Y Bobl Biau’r Cyfrwng – O Ddifri
Er bod Iwerddon, drwy deledu lloeren, yn derbyn cannoedd o sianeli radio a theledu, mae’r wlad yn hynod o driw i raglenni o Iwerddon ac am Iwerddon. Yno nid yw materion cyfoes yn cael eu hystyried yn ymylol. Ac mae un sioe yn arbennig wedi arwain, yn ogystal ag adlewyrchu, y newidiadau a fu yn y gymdeithas Wyddelig.
5 Mawrth 2010
Y ‘Saint’ yn eu Gogoniant
Holi Angharad Price am ei nofel newyddGo brin y byddai neb yn anghytuno mai O! Tyn y Gorchudd yw un o’r nofelau gorau i ennill y Fedal Ryddiaith yn y blynyddoedd diweddar. Yn ogystal â phlesio beirniaid y Fedal yn Eisteddfod Genedlaethol 2002, dyma Lyfr y Flwyddyn yn 2003. Stori Rebecca Jones (chwaer i daid yr awdur) oedd y nofel, ac fe gafodd ei chanmol am geinder yr ysgrifennu, angerdd a thynerwch y portread o fywyd un teulu a’i darlun hudol o gynefin y teulu hwnnw, sef cwm Maesglasau ym Meirionnydd. Yn awr, mae O! Tyn y Gorchudd ar fin ymddangos mewn cyfieithiad Saesneg o waith Lloyd Jones, o dan y teitl The Life of Rebecca Jones.
5 Mawrth 2010
ganMenna Baines
Colli Llenor a Symbylydd
Yn fuan iawn wedi fy mhenodiad, yn 2007, yn Olygydd Ffuglen yn S4C, fe’m gwahoddwyd i fynychu’r wyl Ffilmiau Geltaidd yn Skye, ac i gyfrannu i sesiwn drafod o dan y teitl “Drama Queens” yn yr wyl.
28 Ionawr 2010
Ferrari a Golf GTI
Dair blynedd ar ôl rhoi’r gorau iddi, mi fydd Michael Schumacher yn dychwelyd fel rhan o dîm Mercedes Grand Prix, ac yntau’n 41 erbyn i’r tymor gychwyn. Mae’r ffaith fod y newyddion yma wedi creu cymaint o gyffro yn dweud cyfrolau am gyflwr presennol Fformiwla Un a’r angen am ychydig o gyffro. Ynghanol yr holl ddathlu mae pawb wedi anghofio’r cyfnod pan oedd Schumacher yn ennill y bencampwriaeth bob blwyddyn. Ras. Ennill. Ras. Ennill. Pencampwriaeth arall. Saith i gyd. Diflas, diflas, diflas. Yn enwedig yn 2002 a 2004, pan enillodd Schumacher a Rubens Barrichello 30 o’r 35 ras dros dîm Ferrari. Mi fyddai wedi bod dipyn haws, ac yn well i’r amgylchedd, rhoi’r tlysau i Schumacher ar ddechrau’r tymor a pheidio trafferthu rasio. Ond dyna ni, dair blynedd yn ddiweddarach, ac yn bwysicach, un dirwasgiad bydeang yn ddiweddarach, yn sydyn reit Schumacher yw’r arwr. Oni bai amdano fe mi fyddai tymor 2010 yn un arall i’w anghofio. Toyota, BMW a Honda wedi mynd, diolch i’r economi a’r ffaith fod Fformiwla Un wedi gwrthod cwtogi ar y costau, ac mai mewn enw yn unig y bydd Renault yno. Mae ’na dîmau newydd yn cymryd eu lle ond go brin y byddan nhw’n dod yn agos at gystadlu gyda Ferrari, McLaren a Mercedes.
28 Ionawr 2010
ganDot Davies
Degawd fy Mrawd wrth y Llyw
Peth peryglus yw dechrau ‘siarad am eich tylwyth’. Ystyr yr ymadrodd i ni ym Morgannwg yw gradd o feddwdod lle mae dyn yn gorymffrostio yn ei ddiod, ac ar fin troi’n flagardus a dangos ei ddyrnau. Ond yma siarad am dylwyth sydd yn rhaid, er ei bod yn rhaid cyfaddef ein bod ni fel teulu yn teimlo ers deng mlynedd nad oedd Rhodri yn perthyn i ni eithr yn rhyw fath o eiddo i’r genedl. Rwyf yn cofio am brynhawn Sul yn yr haf lle roeddem yn ceisio mwynhau tawelwch yn ei ardd ar ôl cinio, a dyma griw teledu yn cyrraedd ac yn erfyn arno i roi barn ar ryw bwnc llosg a oedd wedi codi y bore hwnnw. Ac yna, wedi i’r cyfweliad hir dynnu at ei derfyn, roedd rhaid i Rhodri newid a mynd draw i Eglwys Llandaf at ryw gwrdd coffa. Bûm yn aros gydag ef dros y Nadolig, a’r tro hwn, paradwys oedd cael amser tawel gyda’n gilydd, heb deleffon na chriw teledu, ac ymlacio trwy gerdded trwy’r wlad yn yr eira. Cyfaddefodd Rhodri mai dyma’r tro cyntaf iddo fwynhau noswaith fwyn o gwsg di-dor ers deng mlynedd.
28 Ionawr 2010
ganPrys Morgan
Cwrs y Byd – Eira
Pan fyddwn wedi cynhyrfu ac wedi mynd i banig llwyr, y peth cyntaf rydan ni’n ei golli ydi’r gallu i ymbwyllo a meddwl yn glir. A does dim byd tebyg i’r eira a ddisgynnodd yn ddiweddar i wneud inni ymddwyn yn afresymol. Fe wyddom i gyd fod ein cynghorau’n gorfod torri miliynau o bunnau oddi ar wasanaethau hanfodol. Ac eto roedden nhw’n cael eu beirniadu’n arw gennym am beidio darparu’n amgenach ar gyfer eira a rhew dechrau’r flwyddyn ’ma.
28 Ionawr 2010
Cofio Hywel Teifi Edwards: Ysgolhaig y Bobl
Drannoeth clywed inni golli Hywel holodd un o gyfeillion y wasg a allwn gynnig un frawddeg fer neu ychydig eiriau a fyddai’n cyfleu orau beth oedd y bersonoliaeth fawr hon yn ei olygu i mi fel un o’i gyfeillion, ac i’r gynulleidfa ehangach yng Nghymru. Tasg amhosibl wrth gwrs. I ddechrau, nid yw ‘byr’ ac ‘ychydig’ ymhlith yr ansoddeiriau a ddaw gyntaf i’r cof wrth feddwl am Hywel Teifi Edwards. Ond heb feddwl ymhellach dyma gynnig ateb, ‘Ysgolhaig y Bobl’.
28 Ionawr 2010
Blwyddyn Dyngedfennol i Blaid Cymru
Trwy hawlio mai hwn fydd yr Etholiad Cyffredinol mwyaf llwyddiannus o ddigon yn ei hanes, mae’r Blaid wedi ei rhoi ei hun mewn sefyllfa lle byddai ennill pum sedd yn ddim mwy na boddhaol. A beth am y refferendwm...?
28 Ionawr 2010