Gwelodd 2014 sawl carreg filltir i’r arlunydd MARY LLOYD JONES: pen-blwydd arbennig, tair arddangosfa’n cydredeg, cyhoeddi hunangofiant, ac – efallai – dechrau gwireddu breuddwyd am weld canolfan i’r celfyddydau gweledol yng Nghymru.
Bore braf o aeaf yn Aberystwyth a minnau’n mynd i gyfarfod Mary Lloyd Jones yn yr Hen Goleg, lle mae ganddi stiwdio. Mae’r gwynt yn fain yn Stryd y Brenin a chamaf i mewn yn ddiolchgar drwy borth tywodfaen un o adeiladau hynotaf Cymru; ‘this most exotic of High Victorian buildings’, yn ôl The Buildings of Wales: Carmarthenshire and Ceredigion. Adeg cyhoeddi’r llyfr hwnnw yn 2006 roedd yr adeilad yn dal yn rhan weithredol o goleg y Brifysgol, yn ferw gan fyfyrwyr fel y buasai erioed, ond daeth y dydd y bu’n rhaid i’r Adran Gymraeg, hyd yn oed, godi’i phac a’i llusgo’i hun yn anfoddog i fyny rhiw Pen-glais. Does yna fawr neb o gwmpas heddiw, dim ond ychydig fyfyrwyr o’r ysgol gelf yn braslunio’r bensaernïaeth ‘egsotig’.
’Sgen i ddim syniad ble i gael hyd i Mary ond nesâf at y cwad yn obeithiol. ‘The interiors have suffered neglect and need some spirited colour decoration’ oedd barn awduron y gyfrol uchod. Tybed a fyddai Tom Ellis yn cytuno? Dacw fo yn y pellter, ei fraich yn yr hanner gwyll yn ymestyn i gyfeiriad y galeri fel petai’n dweud ‘Galle fan’ne wneud efo chydig o liw i ddechre!’ Ond na phoener, mae Mary Lloyd Jones wedi ’morol am hynny, oherwydd mae unarddeg o’i baneri yn hongian yn osgeiddig a hyderus o’r oriel, yn llenwi’r gofod â lliwiau a ffurfiau, marciau a geiriau. A dim ond dechrau yw hyn, fel y clywaf wedyn. Mae gan Mary gynlluniau ar gyfer y lle!
Diolch byth down ar draws ein gilydd cyn i mi fynd ar goll yn y gwningar gothig yma, a dyma setlo i lawr yn ei stiwdio siriol olau i gael sgwrs go iawn, gan ddechrau gyda’i chefndir.
No Mod Cons yw teitl ei llyfr, gyda’r ‘No’ yn cyfleu, mewn modd negyddol, cyfnod ei magwraeth ym Mhontarfynach y 1930au a’r 1940au: dim trydan, dim dwr i’r ty, dim ty bach dan yr unto na stafell molchi, ar adeg pan oedd trigolion Aberystwyth yn mwynhau cyfleusterau’r 20g. Ar yr ochr gadarnhaol, fodd bynnag, cafodd blentyndod dedwydd, a phob anogaeth i arlunio, gan brofi caredigrwydd a chymdeithas cymdogaeth dda Gymraeg ar ei gorau. ‘Everyone,’ ysgrifenna, ‘who took part in these sociabilities spoke Cymraeg. Cymraeg was the unquestioned norm.’ Felly pam sgwennu yn Saesneg?
‘O’n i eisiau i bobl – ’ meddai’n bwyllog, ‘ – oedd ddim yn siarad Cymraeg, yn ogystal â’r Cymry, i ddeall beth oedd y problemau, sut beth oedd hi i fod yn artist ac yn byw yng ngorllewin Cymru, a bod yn fenyw. Allen i ddim bod wedi sgrifennu tan nawr – achos dim ond nawr rwy’n gweld y patrwm. Mae e lot i’w wneud â darllen, a deall, am agweddau gwahanol artistiaid, ac am ieithoedd lleiafrifol. Erbyn hyn dw i wedi cael amser i feddwl, a dod i gasgliadau am rai pethau.’
Roedd mynychu Ysgol Ramadeg Ardwyn, gyda’i haddysg a’i gogwydd Seisnig, yn dipyn o sioc i ferch fach swil o’r wlad, ac ymrodd i arlunio fel ffordd o oroesi, ac, yn y pen draw, i ragori. Yn ddwy ar bymtheg oed ffodd am ei bywyd i brofi rhyddid a manteision addysg mewn coleg celf yn y ddinas agosaf, Caerdydd. (Na, does dim yn newydd!)
Ymhen amser dychwelodd i orllewin Cymru i fyw a chodi teulu, ond aeth blynyddoedd heibio cyn iddi ddarganfod y ffordd ymlaen gyda’i chelfyddyd. Ar ôl treulio blynyddoedd yn awyrgylch Seisnig y coleg celf a gorfod gwadu ei hunaniaeth Gymreig, gwelodd mai ei chynefin, wedi’r cyfan, oedd yr hyn a oedd yn gwir gyfrif iddi, o ran creu celfyddyd...
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
