Thema dywyll Thema golau

Yr Ynys Las, Denmarc a Trump

Dinas Odense Dinas Odense
Ymweliad ag Odense yn Nenmarc a sbardunodd yr ysgrif hon, ond mae’n codi cwestiynau anesmwyth ynghylch amddiffyn y gwerthoedd rhyngwladol hynny y buom yn eu cymryd yn ganiataol mor hir. Dwn i ddim amdanoch chi, ond o’m rhan i os oes un gair yn dod i’r meddwl wrth feddwl am Denmarc yna ‘gwaraidd’ ydi’r gair hwnnw. Dyma wlad fechan sydd fel petai’n llwyddo i’w threfnu ei hun mewn modd sy’n effeithiol ond sydd hefyd rywsut yn ddynol. Heb fanteision adnoddau naturiol sylweddol – ac yn sicr ddim yn agos i’r hyn a fu’n etifeddiaeth i ni yng Nghymru – maent serch hynny wedi creu economi gyfoes a hynod ffyniannus. Defnyddiwyd yr arian treth sydd wedi deillio o’r ffyniant i greu isadeiledd cymdeithasol – yn ysgolion, prifysgolion a systemau trafnidiaeth gyhoeddus – a fu’n sylfaen i gymdeithas sydd ar y cyfan yn llwyddo i gynnal y gweiniaid ac eto’n caniatáu i’r galluocaf flodeuo. Serch hynny, nid oes yn rhaid treulio llawer o amser yn crwydro dinasoedd Denmarc cyn dod wyneb yn wyneb ag ochr dywyll sy’n codi cwestiynau poenus ynglŷn â seiliau eu gwarineb ymddangosiadol. Yr oeddwn yng nghanol Odense, nid nepell o’r amgueddfa sy’n olrhain bywyd hoff fab y ddinas, Hans Christian Andersen, pan welais ôl-effeithiau trychinebus trefedigaethu Danaidd ar boblogaeth frodorol yr Ynys Las (Grønland neu Greenland) am y tro cyntaf â’m llygaid fy hun. Yn crwydro i lawr y stryd o’m blaen roedd dynes fechan fach – llai na phum troedfedd o daldra – yn gwthio cart siopa o’i blaen. Roedd y cart – y math o beth sy’n gyfarwydd i bob un ohonom yn ein Lidl neu Tesco lleol – yn drymlwythog o ddillad, blancedi a geriach o bob math. Heb os, dyma holl eiddo’r sawl oedd yn gwthio’i llwyth yn llafurus o’i blaen. Erbyn craffu, o dan yr het ffelt ar ei phen, ac ar ei hesgyrn bochau uchel a’i chroen tywyll, roedd y ddynes druan yn amlwg yn feddw dwll a’i hwyneb yn frawychus o wag o unrhyw deimlad neu emosiwn. Yng nghyd-destun y strydoedd glanwaith – a golud y siopau a’r siopwyr ar bob tu – rhaid cyfaddef fod yr holl beth yn sioc ac yn dipyn o ddirgelwch. A pham oedd pawb o’m hamgylch fel petaent yn gwbl ddi-hid ynghylch yr hyn a welwn i? Fy meibion – y ddau ohonynt bellach yn fyfyrwyr yn Nenmarc – a’m goleuodd. Ymddengys fod trigolion dinasoedd y wlad yn hen gyfarwydd â gweld merched (yn aml iawn) o’r Ynys Las sy’n gaeth i alcohol, ac sy’n byw bywydau ‘anhrefnus’ (yng ngeirfa ddienaid gweithwyr cymdeithasol), yn llusgo’u hunain a’u heiddo o le i le yn y fath fodd. Dyma un agwedd o waddol ymdrechion y Daniaid i drefedigaethu a ‘gwareiddio’ yr ynys enfawr honno a’i phoblogaeth Inuit frodorol, gan gynnwys y rhai ohonynt sydd wedi mudo i Ddenmarc. Mae alcoholiaeth yn bla yn eu mysg – yn ôl un amcangyfrif a welais, mae pedwar o bob deg yn gaeth. Mae problemau iechyd meddwl hefyd yn rhemp. Ac un amlygiad o hynny yw fod brodorion yr Ynys Las naw gwaith yn fwy tebygol o gyflawni hunanladdiad na Daniaid. Y gwir amdani yw bod y rhan fwyaf o Ddaniaid yn llwyddo i fyw eu bywydau heb feddwl rhyw lawer ynglŷn â’r hyn a wnaethpwyd yn eu henwau i bobl yr Ynys Las, a hynny tan yn ddiweddar iawn. (Mae Prif Weinidog yr Ynys Las wedi mynd mor bell â disgrifio polisi’r wladwriaeth Ddanaidd o ddiffrwytho gorfodol ymhlith y boblogaeth frodorol fel ‘hil-laddiad’.) Ddylen ni ddim synnu ynghylch hynny, wrth gwrs. Wedi’r cyfan, rydym ni drigolion y wladwriaeth hon yn bencampwyr ar anwybyddu troseddau dirifedi’r Ymerodraeth Brydeinig. Serch hynny, hyd yn oed os nad oes llawer o obaith i’r merched druan ar strydoedd dinasoedd Denmarc, fe ellid dadlau bod yr Ynys Las ei hun wedi bod yn symud yn araf i gyfeiriad gwell dros y blynyddoedd diwethaf. Yn sgil dau refferendwm llwyddiannus yn 1979 a 2008, mae’r diriogaeth – sydd, er ei hanferthedd, yn gartref i boblogaeth lai nag un Ynys Môn – bellach yn mwynhau mesur helaeth o ymreolaeth. Mae ei llywodraeth wedi defnyddio’r statws hwnnw i wasgu mwy o adnoddau allan o’r Daniaid – a hynny’n rhannol trwy fygwth derbyn nawdd o ffynonellau eraill, megis Tsieina, oni bai fod y llywodraeth yn København yn ildio i’w dymuniadau. O ystyried ymddygiad Denmarc tuag at yr Ynys Las a’i phobl, pob lwc iddynt. Tan yn ddiweddar iawn, y disgwyliad cyffredinol ymysg sylwebwyr oedd y byddai’r Ynys Las – gwlad y mae ei diwylliant gwleidyddol yn un adain chwith, a’i thrigolion yn gefnogol i Ewrop – yn y pen draw yn symud allan o gysgod Denmarc yn gyfan gwbl ac yn hawlio ei hannibyniaeth. Ysywaeth, roedd hynny cyn i ailddyfodiad yr Arlywydd Trump godi posibilrwydd arall. Oddi ar ddechrau’r flwyddyn mae Trump wedi ei gwneud yn eglur ei fod yn dymuno gweld yr Ynys Las yn cael ei thraflyncu’n rhan o’r Unol Daleithiau, gan honni bod hynny’n allweddol ar gyfer ‘diogelwch economaidd’ ei wlad. Anfonodd ei fab, Donald Trump Jr, i Nuuk, prifddinas yr Ynys Las, fel arwydd ei fod o ddifri ynglŷn â’r mater. Wrth gwrs, mae Jr yn ffigwr cwbl ddisylwedd a gellid yn hawdd gymryd ei ymweliad â phinsiad o halen. Ond yr hyn sy’n wirioneddol drawiadol yw bod y tad – yr Arlywydd newydd – wedi gwrthod diystyru’r defnydd o rym milwrol i gipio’r diriogaeth, hynny er gwaetha’r ffaith fod Denmarc yn gyd-aelod o NATO. Am resymau a fydd eisoes yn amlwg, rwy’n ei chael hi’n anodd cydymdeimlo â Denmarc ar fater yr Ynys Las. Serch hynny, mae’n bwysig ein bod yn sylweddoli pam y mae safbwynt Trump nid yn unig yn gwbl orffwyll, ond yn ein bygwth ni i gyd – ie, hyd yn oed y ni yma yng Nghymru fach a llonydd. Nonsens ffuantus ydi unrhyw syniad fod diogelwch yr Unol Daleithiau, boed hynny’n economaidd neu’n filwrol, yn cael ei fygwth yn yr Ynys Las. Mae gan yr Americanwyr bresenoldeb milwrol yno’n barod yn ogystal â diddordebau busnes eang. Peidied neb â thwyllo’i hunan fod yna unrhyw ystyriaethau dyngarol ar waith chwaith. Yn eu hymwneud â’r Ynys Las, bu’r Americanwyr yr un mor greulon o ddi-hid o fuddiannau’r boblogaeth frodorol â’r Daniaid – ffaith na ddylai ein synnu o gofio bod yr Unol Daleithiau ei hunan yn wlad sydd wedi ei hadeiladu ar sail hil-laddiad poblogaeth frodorol. Yr unig egwyddor sy’n hydreiddio sylwadau Trump, a’r unig gymhelliant y tu ôl iddynt, yw ‘trechaf treised’: make America great again trwy ehangu imperialaidd. Ymhellach, wrth fygwth sofraniaeth Denmarc dros yr Ynys Las yr hyn y mae Trump yn ei wneud yw tanseilio’r hyn sy’n weddill o normau rhyngwladol yn sgil ymosodiad Rwsia ar Wcráin a’r hil-laddiad yn Gaza. Yn wir, mae ei sylwadau ynglŷn â’r Ynys Las (a sylwadau tebyg ynglŷn â chamlas Panama) yn awgrymu’n gryf iawn na fydd y gyfundrefn ryngwladol a sefydlwyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd yn goroesi ei ail deyrnasiad fel Arlywydd. Fawr o golled, meddai rhai ohonoch. Ac yn wir, o safbwynt y Palestiniaid neu’r Cwrdiaid, bu’r gyfundrefn honno’n greulon o ddiffygiol ac annigonol. Eto, ei hoffi ai peidio, o’n safbwynt ni bobl freintiedig gorllewin Ewrop bu’n hawddfyd ni’n ddibynnol i raddau helaeth iawn ar ein gallu i swatio y tu ôl i’r Unol Daleithiau. Yn sicr ddigon, byddai’n annoeth iawn cymryd yn ganiataol y bydd byd lle mae’r Unol Daleithiau’n ymddwyn mewn modd cwbl fympwyol ac annibynadwy yn fyd mwy diogel. Mae hynny yn ei dro yn codi’r cwestiwn amlwg: beth ydym yn bwriadu ei wneud am y peth? Mae llawer o’n cefndryd Ewropeaidd eisoes wedi sylweddoli nad yw dibynnu’n llwyr ar yr Unol Daleithiau bellach yn ddigonol nac yn dderbyniol. Er mai ymosodiad lluoedd Putin ar Wcráin fu’n gyfrifol am agor eu llygaid yn y lle cyntaf, fe fydd safbwynt rhyfeddol Trump ynglŷn â’r Ynys Las yn cadarnhau ymhellach eu sylweddoliad fod y polisïau a fu yn eu lle ers bron iawn i ddeng mlynedd a thrigain bellach wedi colli eu perthnasedd. Dyna pam y mae Denmarc ei hun, er enghraifft, wedi cynyddu ei gwariant milwrol yn sylweddol, gan gyflwyno ymrestru milwrol gorfodol i ferched (roedd bechgyn eisoes yn gorfod ymrestru) a bellach yn rhoi llawer iawn mwy o bwyslais nag a welwyd ers blynyddoedd maith ar amddiffyn sifil. Dyna pam y bu i ddwy ran o dair o’r Daniaid a bleidleisiodd mewn refferendwm yn 2022 fwrw croes i ddileu’r cymal eithriad yr oedd Denmarc wedi ei sicrhau i gadw allan o bolisi amddiffyn yr Undeb Ewropeaidd. Mae arwyddion eraill fod newid sylfaenol ar droed. Wele’r ffordd y mae pleidiau’r chwith Llychlynnaidd – y pleidiau gwleidyddol hynny sydd debycaf ar lawer cyfrif i Blaid Cymru – yn cefnu ar eu gwrthwynebiad hanesyddol i NATO gan sylweddoli bod angen cymryd diogelwch o ddifri. Yn Iwerddon, hyd yn oed, mae cyn-gydweithiwr i mi yn Aberystwyth, yr Athro Ben Tonra, yn ceisio hybu trafodaeth ar sut y gall y Weriniaeth wneud mwy i amddiffyn yr isadeiledd electronig allweddol sy’n croesi’r Iwerydd o lannau gorllewinol y wlad. Fe fydd hon yn farn amhoblogaidd, rwy’n siŵr, ond onid yw’n hwyr glas i ni’r ‘Cymry da’ hefyd ddod at ein coed? A ninnau’n rhan o’r wladwriaeth Brydeinig, mae’n hawdd – yn rhy hawdd – gwaredu at y rhwysg absẃrd ynghyd â’r hen reddfau imperialaidd amlwg sy’n nodweddu’r drafodaeth ynghylch diogelwch milwrol yma yn y Deyrnas Unedig. Ond eto, mae yna rai gwerthoedd ac iawnderau sy’n werth ymladd i’w hamddiffyn. Os ydym fel Cymry ryw ddydd yn disgwyl cael ein cymryd o ddifri ar y llwyfan rhyngwladol, bydd yn rhaid i ni feddwl sut y gallwn gyfrannu at hynny.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Tala, merch fach 3 oed, ymysg cynnwys parseli bwyd

Gaza – galw am gadoediad parhaol

Ymlaen >
Geraint Evans

Amrywiaeth ac algorithmau – holi Prif Weithredwr newydd S4C