Na, doedd y trafodaethau ddim mor ysgogol ag eiddo’r fforwm ‘Deialog ’88’ a gynhaliwyd yn Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth, dros ugain mlynedd yn ôl bellach, neu’r cyfarfod yng Ngwesty’r Richmond, Aberystwyth, ychydig fisoedd yn ddiweddarach a ddilynai’r un llinellau. Rhyw fath o ffrwyth i’r cyfarfodydd hynny oedd y gyfrol Sglefrio ar Eiriau a ymddangosodd o Wasg Gomer yn 1992. Ni feiddiwn ddweud i’r pethau hynny ychwaith esgor ar chwyldro mewn beirniadaeth Gymraeg, ac eto fyth, fe welwyd adfywiad bychan hefyd, petai ond ym mywiogrwydd Taliesin a gwrthbwynt Tu Chwith dan olygyddiaeth Simon Brooks. Dyfynnwyd yn Sglefrio ar Eiriau rai o sylwadau’r Athro M. Wynn Thomas. Er enghraifft, ei sylw fod ‘diffyg traddodiad deallusol amrywiol, grymus yng Nghymru’. Gan osgoi’r duedd i ymddangos yn ostyngedig, rhaid i minnau ddweud bod cyhoeddi ugain cyfrol yn y gyfres ‘Y Meddwl a’r Dychymyg Cymreig’ wedi mynd ran o’r ffordd i unioni’r diffyg hwnnw.
Eto ni chafwyd fawr o egni deallusol yng nghynhadledd yr Academi ym mis Mawrth. Roedd y gynhadledd honno yn rhan o ddathliadau pen-blwydd yr Academi Gymreig yn hanner cant oed, a chlywyd yr Athro R. M. Jones yn dweud ychydig ynghynt nad amcan creu’r Academi oedd paratoi llwyfan ar gyfer trafodaethau i ddifyrru’r amser fel yn y Babell Lên, ond yn hytrach rhoi cyfle i drafodaethau mwy deallusol a chyda mwy o asgwrn cefn iddynt. Hwyrach mai dyma’r fan i nodi i’r diweddar Hywel Teifi Edwards geisio creu fforwm deallusol o’r fath yn yr Eisteddfod Genedlaethol, trwy sefydlu’r hyn a alwyd ar y pryd yn Iglw. Yn anffodus, tân siafins fu’r Iglw, ond nid bai Hywel Teifi oedd hynny. Clod iddo am fentro torri tir newydd.
Roeddem yn ffodus yng nghynhadledd yr Academi i gael Jon Gower wrth y llyw. Roedd ei gefndir eang a’i ddarllen eclectig yn fodd i osod cyd-destun rhyngwladol i’r trafod, a gallai symud yn sionc o un pwnc i’r llall rhag i bethau ferwino.
Gareth Miles a gafodd y cyfle mwyaf i ddweud ei ddweud, gan ei fod yn darlithio ar ‘ddiffyg trafodaeth feirniadol ar y celfyddydau yng Nghymru’. Priodolai ef wendid beirniadaeth Gymreig (neu Gymraeg) i ddau ffactor: sef syniad annelwig pobl o hunaniaeth Gymreig, a diffyg cysyniad clir o bwrpas y celfyddydau. Aeth ati wedyn i glodfori Saunders Lewis fel beirniad, a go brin y gellid croesi cleddyfau ag ef ar y mater hwnnw. Serch hynny, rhyfedd clywed canmol ar ysgrif Saunders ar ‘Safonau Beirniadaeth Lenyddol’ yn Y Llenor yn 1922, o gofio i’r awdur ei hun ei diarddel. Doniol oedd clywed aelodau’r gynulleidfa’n chwerthin yn llencynnaidd wrth glywed dyfynnu’r sylwadau enwog ar ‘golli Pechod’ o’r ‘Llythyr ynghylch Catholigiaeth’ – fel petai’r sylwadau hynny’n newydd iddynt, ac yn destun crechwen. Ymddangosai i mi i’r gynulleidfa golli ergyd ddifrifol Saunders yn ei ‘Lythyr’ athrylithgar. Go brin bod y cysyniad o bechod yn ystyrlon iawn i’r anffyddiwr, ac nid clodfori pechod per se a wnâi Saunders, wrth gwrs, ond dangos mor bwysig yw hi i’r awdur Catholig yn arbennig gydnabod lle pechod a rhoi iddo’i swyddogaeth lawn mewn llenyddiaeth.
Cafwyd wedyn beth ideolegu Marcsaidd, ac ychydig o draethu ar hanes a gwleidyddiaeth Cymru. Diau i’r ddarlith godi cwr y llen ar nifer o bynciau pwysig, ond nid oedd cyfle i fynd i’r afael â hwy o ddifrif. Fel y dywedodd Jon Gower, ‘consertina o ddarlith’ a gafwyd. Da fyddai i Gareth Miles ehangu ar ei sylwadau mewn cyfres o erthyglau, neu yn wir, mewn cyfrol, oherwydd mae llawer i’w ddweud dros ei ddelfryd o ‘realaeth ddyneiddiol a democrataidd’.
Difyr yw’r ansoddair treuliedig sy’n dod i’r meddwl eto wrth gofio Siân Melangell Dafydd, Karen Owen a Menna Machreth yn crybwyll ffrwyth eu profiad o ymweld â Washington i ddysgu sut i adolygu. Gellir disgwyl yn eiddgar am adolygiadau gan y tair ohonynt a fydd yn arddangos peth o’r ffrwyth hwnnw. Un peth gwerth ei ddweud oedd fod llawer o adolygwyr Cymraeg yn aros tan eu brawddeg olaf cyn tafoli’r gwaith dan sylw, gan wastraffu’r rhan fwyaf o’r gofod yn cyflwyno’r gwaith.
Ar ddechrau’r pnawn, cafwyd sesiwn hwyliog gyda Ceri Wyn Jones ac Alan Llwyd ar feirniadaeth eisteddfodol. Mae Alan wedi cyhoeddi’n helaeth ar gystadlaethau a beirniadaethau’r Eisteddfod Genedlaethol, ac mae’i wybodaeth am y maes yn gwbl ddihafal. Mae ef yn un o’r bobol lwcus hynny sydd yn gwybod yn union beth yw’r meini prawf, yn arbennig yng nghystadleuaeth y Gadair. Mae’n amlwg yn gredwr cryf mewn safonau gwrthrychol, ac yn un sydd ag amgyffrediad o berffeithrwydd. Mae’n ddisgybl ffyddlon i John Morris-Jones, ac yn elyn anghymodlon i ôl-foderniaeth. Ond os yw’n sefyll ar dir cadarn gyda chystadlaethau’r canu caeth, mae ar dir mwy simsan gyda’r canu rhydd neu benrhydd, ac ni chlywais ateb boddhaol i gwestiwn Ceri Wyn: beth yw’r gwahaniaeth rhwng beirniadaeth yr Eisteddfod Genedlaethol a beirniadaeth lenyddol yn gyffredinol?
Yn ystod gweddill y pnawn, cafwyd adolygiadau ymarferol gan dri beirniad a oedd yn feistri ar eu gwaith: Dafydd Morgan Lewis ar Mr Blaidd Llwyd Owen, Sioned Williams ar gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Y Gofalwr Pinter, a Kate Woodward ar arlwy Nadolig ffilmiau S4C, Ryan a Ronnie ac Ar y Tracs. Clywsom draethu hyderus a chytbwys gan y tri hyn, a gwelwyd ymdrech deg iawn i fod yn onest heb fod yn rhagfarnllyd.
Yn dilyn yr ysgol undydd, cynhaliodd Gwasg Prifysgol Cymru gyfarfod i lansio cyfrol newydd Eleri Hedd James, Casglu Darnau’r Jig-so: theori beirniadaeth lenyddol R. M. (Bobi) Jones. Hon yw’r unfed gyfrol ar hugain yn y gyfres ‘Y Meddwl a’r Dychymyg Cymreig’, a’r gyntaf o law’r golygydd newydd, yr Athro Gerwyn Wiliams. Dyma’r tro cyntaf inni gael ymdriniaeth drylwyr ac o ddifri o gyfraniad Bobi’r beirniad neu’r theorïwr beirniadol. Yr ydym yma mewn byd deallusol gwahanol iawn i ddim a welwyd yn ystod y gynhadledd ei hun. Mae Eleri wedi cyflwyno theorïau cymhleth Bobi a’u gwyntyllu’n deg, fel bod ei chyfrol yn rhagarweiniad hygyrch – ond nid anfeirniadol – i’r gwaith beirniadol. Dylai pawb a fynychodd y gynhadledd, a llawer mwy wrth gwrs, gnoi cil ar y gyfrol bwysig hon. Dyma, i mi, ffrwyth pwysica’r diwrnod difyr hwn yn Aberystwyth.
‘Dydd y Farn’ oedd teitl yr Academi ar y gynhadledd, ond y gwir plaen oedd na chafwyd na thân na brwmstan. Diolch, fodd bynnag, fod gennym Casglu Darnau’r Jig-so i’w chario dan ein cesail a chael maeth ohoni ar ôl mynd adref.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
