Nod tebyg sydd gan baffwyr wrth iddynt hwythau ymarfer cyfuniadau o wahanol ergydion, a hynny – unwaith eto – am oriau bwygilydd: gwneud techneg gywir yn rhywbeth greddfol. I baffwyr daw hyn yn allweddol bwysig pan fo’r corff wedi ymlâdd tua diwedd gornest faith. Bryd hynny, gall y modd y cafodd techneg gywir ei gorseddu, fel petai, yn y gewynnau a’r cyhyrau gynnig dihangfa rhag curfa. Gall hyd yn oed sicrhau buddugoliaeth yn erbyn y ffactorau.
Dros yr wythnosau diwethaf cefais fy atgoffa’n gyson am hen baffwyr yn byw ar eu techneg wrth edrych ar y modd y mae’r Blaid Lafur wedi ei llusgo ei hun yn ôl i’r ornest etholiadol yn erbyn y Torïaid. Er gwaetha’r ffaith fod Llafur yn glwyfedig a blinedig ac wedi treulio’r blynyddoedd diwethaf yn hongian ar y rhaffau wrth i’w gwrthwynebydd iau golbio’n ddidrugaredd, rhywsut, rhywfodd llwyddodd yr hen stejar i aros ar ei draed. A bellach, gyda Chadfridogion Llafur Newydd, Peter Mandelson ac Alistair Campbell, yn ôl yn y gornel, mae eu gafael feistrolgar hwy ar dechnegau ymgyrchu – yr hen gyfuniadau o ergydion sydd wedi profi mor llwyddiannus ers 1997 – wedi galluogi Llafur i lanio ambell i ddwrn ar ên y Ceidwadwyr. Ac fel y mae’r rheini sy’n ymhyfrydu ym myd bocsio yn arfer ei ddweud, mae’r ên honno’n profi’n un wan. Mae’r Torïaid yn simsanu. O’r herwydd, ar ôl bod mor sicr ers cyhyd ynglan â chanlyniad tebygol yr ornest, rydym ni’r gynulleidfa’n dechrau amau y gall canlyniad gwahanol brofi’n bosib wedi’r cyfan. Pwy fyth fyddai’n meddwl...?
Ond nid dim ond techneg etholiadol Llafur Newydd sydd wedi sicrhau nad yw’r ornest bellach mor unochrog ag yr oedd hi. Er bod y cymariaethau’n drawiadol ar adegau, yn y pen draw nid gornest focsio neu ras yw etholiad. Waeth pa mor feistraidd yw gafael Llafur ar dechnegau ymgyrchu – ac ar fy ngwaethaf, alla’i ddim llai nag edmygu’r hen sarff Mandelson – fyddai hynny ddim yn ddigon ynddo’i hun i gynnig dihangfa i’r blaid. Gobaith Llafur ydi gwendidau sylfaenol y Ceidwadwyr. Nid gwendidau yn nhechnegau etholiadol y Torïaid chwaith – yn wir, yn ôl pob golwg maen nhw’n ymgyrchwyr llawr gwlad mwy atebol na Llafur – ond yn hytrach gwendidau syniadaethol. Er mwyn deall y gwendidau hyn rhaid troi at y cysgod enfawr a deflir hyd heddiw dros y Blaid Geidwadol gan Margaret Thatcher.
Aeth tuedd Llafurwyr a Phleidwyr neu Ryddfrydwyr Democrataidd adain chwith i gyfeirio byth a hefyd at Margaret Thatcher wrth geisio dwyn perswâd ar etholwyr i beidio ymddiried yn ‘Dave’ a’i ffrindiau yn destun gwawd ymysg sylwebwyr gwleidyddol. A pha ryfedd? Prin fod gan etholwyr yn eu hugeiniau unrhyw gof o gwbl amdani. Ac i’r rhan fwyaf o weddill yr etholaeth mae digwyddiadau blynyddoedd cyntaf y 1980au yn ymddangos fel hen, hen hanes. Fe soniwyd yn y tudalennau hyn am hen duedd Llafur Cymru i ‘chwifio’r faner waedlyd’. Ond onid yw hynny’n colli ei fin yn y diwedd? Serch hynny, fe fyddwn i’n dadlau bod Thatcher yn parhau’n ganolog os am ddeall gwleidyddiaeth gyfoes, ac yn benodol felly gwleidyddiaeth fewnol – a gwendid allanol – y Blaid Geidwadol. Er mwyn egluro pam, gadewch i ni gymharu’n fyr Plaid Geidwadol David Cameron hefo Plaid Lafur Tony Blair. Pan afaelodd Blair yn awenau ei blaid, ei fwriad ef a’i brif gefnogwyr – Brown yn ogystal â Madelson a Campbell – oedd bwrw ymaith cymaint fyth ag oedd modd o etifeddiaeth yr hen Blaid Lafur. Fe gai’r undebau barhau i roi arian i’r blaid, ond dyna’r cyfan, mewn gwirionedd. Yn sicr byddai eu dylanwad ar bolisi – heb sôn am holl rethreg y ‘mudiad llafur’ – yn diflannu. Fe fwriwyd heibio’r holl etifeddiaeth honno nid yn unig oherwydd ei bod yn dân ar groen etholwyr – er na ellir gwadu bod hynny’n ffactor – ond oherwydd bod penseiri Llafur Newydd yn credu bod y polisïau yr arferai Llafur eu harddel ar y gorau yn amherthnasol i’r problemau cymdeithasol ac economaidd a wynebai Prydain, ac ar y gwaethaf yn gwbl wrthgynhyrchiol. Yr hyn a anghofir yn fynych yw fod Llafur Newydd yn brosiect deallusol yn ogystal ag yn ymarferiad mewn cyfathrebu gwleidyddol neu ‘sbin’. Roedd yn cynnwys dehongliad o natur cymdeithas gyfoes, ynghyd â chyfres o dybiaethau ynglan â beth y gallai’r wladwriaeth obeithio ei gyflawni – a beth na ddylai geisio ei wneud – wrth ymyrryd ym mywyd y gymdeithas honno. Nid oedd yn rhaid darllen rhwng y llinellau, chwaith, er mwyn sylweddoli pa mor bellgyrhaeddol oedd beirniadaeth Llafur Newydd o gredoau mwyaf sylfaenol hen Lafuriaeth. Yn hytrach, roedd Blair a’i gynghreiriaid fel petaent yn ymffrostio lawn cymaint yn y cyfleoedd a godai i roi ram-dam i’w plaid eu hunain ag yr oeddynt mewn cyfleoedd i estyn bonclust i lywodraeth ranedig John Major. Ac wrth gwrs, un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol a’i cynigia ei hun iddynt wrth droi tu min ar yr hen Lafuriaeth oedd coleddu Thatcher a Thatcheriaeth. Trwy ei gwahodd i Downing Street mor fuan yn ei gyfnod fel Prif Weinidog – ar ôl mabwysiadu, yn gyntaf, gymaint o’i rhagdybiaethau ynglan â grym daionus y farchnad, ac ati – roedd Blair yn cadarnhau i bawb (ac i gefnogwyr ei blaid ei hun yn anad neb) bod Llafur wedi newid yn sylfaenol.
Sut mae Ceidwadwyr Cameron yn cymharu? Nid oes amheuaeth fod y blaid yn fwy rhyddfrydol a chynhwysol ei hagwedd tuag at bobl o liw croen neu dueddiad rhywiol gwahanol nag yr oedd yng nghyfnod Thatcher, Tebbit, ac ati. Ac mae’n sifir gen i fod rhyw fath o feirniadaeth o ‘hen Geidwadaeth’ ymhlyg yn hynny, er mai yn anaml iawn, iawn y rhoddir llais i’r feirniadaeth honno. Ond beth yw sylwedd ‘Ceidwadaeth newydd’ Cameron y tu hwnt i hynny? I ba raddau y mae ef a’i blaid yn fodlon bwrw gweddill yr etifeddiaeth heibio? Nid oes angen llawer o ddawn y ditectif i sylweddoli mai dyma’r cwestiynau sydd wrth wraidd problemau presennol y Blaid Geidwadol.
Ar y naill ochr ceir Steve Hilton, Pennaeth Strategaeth Cameron, sydd wedi gwthio am newidiadau sylweddol a sylfaenol yn agweddau yn ogystal ag osgo’r blaid. Iddo ef, gellir tybio nad ‘spin’ yw sôn am gynhesu byd-eang, er enghraifft, ond rheidrwydd moesol yn wyneb un o’r problemau mwyaf sylfaenol i wynebu dynol ryw. Ond ar y llaw arall ceir Andy Coulson, y dyn a benodwyd gan Cameron yn Bennaeth Cyfathrebu a Chynllunio. Yn gyn-olygydd y News of the World, mae’n Thatcherydd i’r carn. Iddo ef a’i debyg, gellir tybio nad oedd fawr ddim o’i le hefo agenda blaenorol y blaid ar wahân i agwedd ‘hen ffasiwn’ tuag at bobl groenddu a hoywon. Yn sicr ddigon nid oes gan lawer ohonyn nhw unrhyw amynedd efo ryw hen ‘lol’ megis newid hinsawdd.
Cafwyd cadarnhad nad rhith yw sôn am raniad o’r fath yng nghanol mis Mawrth pan gyhoeddodd y Blaid Geidwadol y byddai Hilton a Coulson bellach yn rhannu swyddfa – yr union fath o ddatganiad cyhoeddus o undod sy’n amlygu bodolaeth coblyn o rwyg o dan yr wyneb! Ond, wrth reswm, ni fydd symud desgiau’n nes at ei gilydd yn newid dim ar y tensiwn sylfaenol: tensiwn sydd, hyd y gwelaf i, yn cylchdroi o amgylch y cwestiwn o berthynas y Blaid Geidwadol efo’r etifeddiaeth Thatcheraidd. Yn ôl Hilton mae unrhyw ateb yn golygu pellhau mewn rhai ffyrdd go sylfaenol oddi wrth yr etifeddiaeth honno. Yn sicr, go brin y byddai gan y Fonesig Thatcher lawer i’w ddweud wrth blaid Geidwadol drwyadl Hiltonaidd. I Coulson, ar y llaw arall, ymddengys nad oes angen gwneud mwy na diweddaru neges y cyn-Brif Weinidog. Nid oedd ac nid oes unrhyw wendid neu fai sylfaenol mewn Thatcheriaeth, dim ond bod angen i’r Blaid Geidwadol gyfathrebu’n fwy effeithlon yn ei chylch, yn rhannol trwy sicrhau bod wynebau amgen yn ei chynrychioli’n gyhoeddus.
Lle mae Cameron yn sefyll yn hyn o beth? Ar ôl iddo gipio’r awenau nid oes amheuaeth ei fod wedi coleddu’r agenda Hiltonaidd yn frwd. Pwy all anghofio ei daith i Svalbard i ddangos i’r camerâu faint yr oedd o’n poeni am newid hinsawdd?! Ond ers cychwyn y chwalfa economaidd bresennol ymddengys ei fod wedi newid ei gân. Mae fel petai bod y greddfau Thatcheraidd wedi eu rhyddhau unwaith yn rhagor. Yn sicr, nid yw wedi gwneud dim i rwystro George Osborne rhag argymell yr opsiwn anghywir bob tro wrth i’r llywodraeth bresennol geisio mynd i’r afael â’r argyfwng ariannol: a’r opsiwn a argymhellwyd gan y darpar Ganghellor yn adlewyrchu marchnad-addoliaeth Thatcheraidd ar ei mwyaf amrwd, mwyaf cibddall ac anneallus. Bellach yn wir, ar wahân i’r pwyslais (sydd i’w groesawu, wrth reswm) ar gynwysoldeb a goddefgarwch, ymddengys fod yr agenda Hiltonaidd wedi cilio i’r cefndir bron yn gyfan gwbl. Ychydig iawn sy’n newydd, mewn gwirionedd, am Geidwadwyr Cameron. Er bod llawer yn ei gymharu â Blair, nid yw’r gymhariaeth yn dal dfir. Mae Cameroniaeth – os maddeuir bathiad mor hyll – yn fwy bas o’r hanner na Blairiaeth: ac ydw, rydw i’n llawn sylweddoli peth mor rhyfedd ydi hynny i orfod ei ddweud!
Ar ôl un o’r etholiadau diweddar pan berfformiodd ei blaid yn dda iawn yng Nghymru, cefais y pleser o ymddangos ar yr un rhaglen â’m hen gyfaill Guto Bebb. Ac yntau yn llawn hwyliau, fe feiddiais awgrymu mai’r unig broblem posibl hefo’r canlyniad o safbwynt y Ceidwadwyr yw y gallent fod wedi gwneud yn rhy dda. Tybed, meddwn i, y gallai gwneud cystal olygu fod Ceidwadwyr yn anghofio faint o waith oedd ganddynt i’w wneud eto wrth argyhoeddi’r etholwyr eu bod wedi newid? Yn naturiol ac yn haeddiannol ddigon, efallai, fu Guto fawr o dro yn tywallt dfir oer dros fy mhen! Ond wrth feddwl ymhellach tybed mai’r broblem fawr, o safbwynt y Ceidwadwyr, yw fod yr holl lwyddiant a ddaeth i ran Cameron ers iddo ddod yn arweinydd yn golygu ei fod ef ei hun wedi anghofio natur a maintioli’r dasg a wynebai mewn gwirionedd?
Dim ots pa mor galed y mae rhedwyr a phaffwyr yn gweithio i droi techneg ardderchog yn ail natur, fe fydd treigl amser yn rhwym o olygu bod rhedwr cyflymach neu baffiwr cynt a chryfach yn dod i’r amlwg i’w herio’n llwyddiannus. Dichon fod y ffaith fod y Blaid Lafur yn parhau i gadw’r ornest yn fyw er gwaethaf ei chyflwr lluddedig a chlwyfedig yn dysteb i drylwyrder yr ymarfer a wnaethpwyd gan Mandelson a Campbell ac, a bod yn deg, gan Brown ei hun ar hyd y blynyddoedd. Ond, yn fwy o lawer na hynny, mae’n arwyddo methiant Cameron a’i blaid i fwrw heibio etifeddiaeth Thatcher a llunio gweledigaeth amgen ar gyfer gwleidyddiaeth y dde yn yr oes sydd ohoni. Hyd yn oed os y llwyddant i ennill yr etholiad – ac rwy’n dal i deimlo mai felly y bydd hi – fe fydd y broblem sylfaenol honno’n parhau.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
