Ers i mi sgwennu amdanyn nhw yn y golofn yma ryw wyth mis yn ôl, mae Kneecap wedi taro’r penawdau gyda mwy o wmff nag y bydden nhw eu hunain erioed wedi ei ddychmygu. Maen nhw wedi llwyddo i greu helynt ar y ddwy ochr i’r Iwerydd, ym Mhrydain ac yn yr Unol Daleithiau, a hynny ar yr un pryd. Dyna dipyn o gamp i driawd ifanc o Ogledd Iwerddon, sy’n anelu, medden nhw, at ddim byd mwy na hybu’r iaith Wyddeleg a diddanu pobl.
Fe gychwynnodd yr helynt ym mis Ebrill, pan oedd Kneecap yn perfformio yng ngŵyl Coachella yng Nghaliffornia. Does dim dwywaith bod Kneecap yn fand gwleidyddol – mae’r balaclafas trilliw yn dipyn o gliw – ac mae’r ffans ifainc sy’n tyrru i’w gweld yn gwybod beth i’w ddisgwyl. Dim syndod, felly, fod y band wedi gorffen eu perfformiad gyda negeseuon o gefnogaeth i’r Palestiniaid yn Gaza, cefnogaeth sy’n rhan o’u maniffesto fel band.