Mae technoleg wedi trawsnewid y profiad o fyw dramor. Er bod ’na wrth gwrs ymdeimlad o bellter ac o ddatgysylltiad, mae gwefannau, trydar a blogiau’n sicrhau bod modd cael y newyddion diweddaraf o Gymru a darllen barn y Cymry am y cyfan. Diolch i dafarndai Gwyddelig a’u teledu cêbl, does dim rhaid colli gemau rygbi Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Ond yn anffodus, dim ond dwy raglen deledu Gymraeg y mae modd eu gwylio ar-lein ar wasanaeth Clic S4C (a diolch mai CF99 a Pawb a’i Farn yw’r rheiny). Ond yn y wlad a ddyfeisiodd ‘teledu talu wrth wylio’ mae nifer o Gymry alltud Boston yn teimlo bod S4C yn colli cyfle i godi incwm yn ogystal ag ymwybyddiaeth ddiwylliannol. ’Sgwn i a fydd persbectif a phrofiad trawsatlantig Ian Jones yn arwain at ddewis ehangach o ddeunydd S4C ar gyfer y gynulleidfa ryngwladol? Wedi’r cyfan, mae gan y sianel deledu Wyddeleg TnG a Sianel RTE wasanaethau ar-lein rhyngwladol sy’n cynnig nifer o raglenni teledu o bob math am ddim.
Er bod modd cadw cyswllt felly, hollol annisgwyl oedd gweld sylw i Gymru ddiwrnodau wedi cyrraedd yr Unol Daleithiau ym mhapur newydd y New York Times. Yn ‘The Welsh Economy Slips, but London Cushions the Fall’ roedd Landon Thomas Jr yn dadlau y dylai’r Cymry ddiolch i Lundain am eu cadw rhag ffawd economaidd Gwlad Groeg. Mae’r erthygl wedi ennyn cryn ymateb, ond pa mor arwyddocaol yw hi fod Cymru’n cael y fath sylw gan brif bapur newydd yr Unol Daleithiau?
Pwy well i ateb y cwestiwn hwnnw nag un o Gymry alltud enwocaf Boston, yr economegydd a’r cyn-Aelod Seneddol Plaid Cymru, Adam Price? Mae e’n cyfaddef bod ganddo deimladau cymysg am yr erthygl. ‘Rwy’n deall yr ymateb gan bobl adre,’ meddai, ‘o ran bod y gohebydd wedi cael y ffeithiau’n anghywir: ei fod e heb sylweddoli ein bod ni’n talu trethi a’i fod yn defnyddio delweddau ystrydebol o Gymru ac yn y blaen. Ac eto, mae unrhyw gyhoeddusrwydd yn gyhoeddusrwydd gwerth ei gael. Dyw hynny ddim bob amser yn wir wrth gwrs ond mewn gwlad mor ddylanwadol ag America, mae cael rhyw ddarn bach o bandwidth yn eitha’ pwysig rwy’n credu.’
Mae’r erthygl wedi dal sylw’r economegydd Americanaidd adnabyddus Paul Krugman, enillydd gwobr Nobel, sydd wedi ennyn trafodaeth faith ar y pwnc ar ei flog dylanwadol. Mae Krugman yn ‘dipyn o guru’ i Adam Price gan mai fe sy’n arwain yr hyn sy’n cael ei adnabod fel ‘daearyddiaeth economaidd’ sef ystyriaeth o bwysigrwydd lle, tiriogaeth a chenedl mewn economeg. ‘Mae Krugman wedi sylweddoli bod ’na rywbeth arbennig wedi digwydd o ran dirywiad yr economi Gymreig, ac mae e’n bwysig bod y stori honno wedi dod yn rhan o drafodaeth fyd-eang, yn enwedig os y’n ni’n mynd i ddarganfod yr atebion polisi sydd eu hangen. Mae’n un ffordd o gael meddylwyr praffaf y byd i feddwl “beth sy wedi digwydd i Gymru ’te?”’
Mae Cymru hefyd wedi bod yn chwarae rhan yn y stori newyddion fawr arall sy’n cael sylw yma, sef y frwydr ffyrnig ar gyfer enwebiad y Gweriniaethwyr yn y ras am y Ty Gwyn. Nid holi am Dywysog William na Kate yn ôl yr arfer y mae pobl wrth glywed fy mod yn dod o Gymru, ond gofyn a oeddwn yn gwybod bod tad-cu Ann Romney, gwraig yr ymgeisydd sy’n dal i fod yn ffefryn, Mitt Romney, yn löwr a ymfudodd yma o Gymru. Mae’r arch-geidwadwr Rick Santorum hefyd wedi bod yn sôn gyda balchder am ei wreiddiau Cymreig a’r tad-cu a ddaeth i weithio ym meysydd glo Pennsylvania. Yr hyn sydd fwyaf trawiadol am yr hel achau efallai yw bod y cyfryngau Americanaidd yn gwahaniaethu rhwng Cymru a Lloegr wrth adrodd y straeon hyn. ‘Nid Wales comma England yw hi bellach,’ noda Adam Price, ‘mae yna’n sicr fwy o ymwybyddiaeth mas ’ma na’r hyn ry’n ni’n ei dybio, efallai.’
Ar ôl gwylio’r ras yn datblygu dros y misoedd diwethaf cred Adam mai Obama fydd ar ei ennill wedi’r frwydr rhwng y Gweriniaethwyr. ‘Roedd Romney yn gredadwy wrth werthu ei hunan fel y dyn o’r sector preifat a oedd yn deall rhywfaint am yr economi ac yn mynd i sortio’r cyfan mas. Roedd hynny’n apelio at y pleidleiswyr yn y canol y floating voters ac roedd ’da fe gyfle i guro Obama. Ond ma’ fe wedi gorfod symud cymaint i’r Dde, gan alw ei hunan yn ‘severe conservative’. Mae’n dod drosodd yn annidwyll a hefyd yn dieithrio’r rhan fwyaf o bleidleiswyr y canol.’
Anodd anghytuno, wrth weld y diffyg undod o fewn y blaid weriniaethol yn gwaethygu gyda phob rhagetholiad sy’n achlysuron bron yn nosweithiol ar hyn o bryd. Mae amhoblogrwydd ymddangosiadol yr Arlywydd Obama yn drawiadol, fodd bynnag. Yn wahanol i gyfnod yr etholiad diwethaf, does fawr ddim sôn am ei ddelwedd na’i sloganau ar hyd y ddinas eto. Ond gyda newyddion gwell yn dod o gyfeiriad yr economi, a’r Gweriniaethwyr yn ymosod ar ei gilydd yn bennaf ar hyn o bryd, a welwn ni dro ar fyd tybed?
Mae Adam Price yn credu nid yn unig mai Obama sydd fwyaf tebygol o gael ei ethol yn Arlywydd ym mis Tachwedd ond bod hyd yn oed siawns y bydd y Democratiaid yn adennill Ty’r Cynrychiolwyr. ‘Fe allwn ni weld sefyllfa unigryw iawn os ’nawn nhw adennill y Ty ac efallai y bydd yna gyfle i Obama gyflawni newidiadau cyfansoddiadol o ran rôl arian mewn llywodraeth a chreu tegwch yn y system drethiannol. Fe fydd yn gyfle efallai i wneud rhywbeth o sylwedd.’
Gallai hyn arwain, meddai, at sefyllfa lle byddai America, ar ôl bod yn ganolbwynt gwleidyddiaeth adweithiol am ddeng mlynedd, yn ‘arwain y gad ac yn adfywhau gwleidyddiaeth radical’. Wrth wylio’r myfyrwyr yn sipian eu lattes uwchben eu MacBooks a’u iPhones yn adeiladau ysblennydd Prifysgol Harvard, mae’n anodd credu bod yna chwyldro ar droed. Ond mae Adam Price yn tynnu fy sylw at y ffaith fod mudiad radicalaidd Occupy, er enghraifft, wedi ennyn cefnogaeth lawer ehangach yma nag ym Mhrydain a’i fod ‘erbyn y diwedd yn fudiad prif ffrwd’. Mae cangen lwyddiannus yma yn Harvard hyd yn oed, yn ymgyrchu ar hyn o bryd yn erbyn diswyddo staff llyfrgelloedd y Brifysgol.
Does dim dwywaith fod tymor cyntaf Obama wedi bod yn siom i nifer ar y Chwith yn yr Unol Daleithiau ac mae sgyrsiau gyda rhai a ymgyrchodd yn galed drosto yn 2008 yn cadarnhau’r ymdeimlad cyffredinol o ddadrith. Ond mae yna hefyd dystiolaeth, medd Adam Price, fod cyfran o’r rheiny, yn enwedig y rhai ifanc sydd wedi bod yn rhan o fudiadau fel Occupy, wedi eu radicaleiddio i symud ymhellach i’r Chwith. Mae’n sôn y gallem weld trydedd blaid yn codi efallai os na fydd Democratiaid yn cipio’r cyfle i weithredu nawr, er bod rhaid cofio bod corff sawl ‘trydedd blaid’ arfaethedig yn gorwedd yn llwch hanes gwleidyddol yr Unol Daleithiau.
Mae ’na etholiad agosach at adre yn hoelio ein sylw hefyd wrth gwrs. Mae Adam wedi datgan ei gefnogaeth i Leanne Wood yn ei hymgais i fod yn arweinydd nesaf Plaid Cymru. Mae’n cyfaddef iddo fod yn chwarae gêm fach wrth geisio meddwl pwy sy’n debyg i bwy yn y ddwy ras fawr. ‘Mae Dafydd Elis-Thomas fel Ron Paul – yr hen ben sy’n uchel ei barch, ac rwy’n gweld Elin Jones fel Mitt Romney y ffefryn canol y ffordd.’ A Leanne Wood? ‘Wel, efallai ei bod hi fel Rick Santorum a’r ddau â thad-cu yn löwr! Un peth na fyddai’r ymgeiswyr Americanaidd yn ei wneud yw datgan pwy fydd yn is-arweinydd cyn ennill yr enwebiad ac fe fyddan nhw hefyd yn sicr o ddewis dirprwy sy’n cynrychioli ardal wahanol er mwyn creu cydbwysedd ac ehangu apêl!’
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
