Y Pridd A’r Concrid – Hiliaeth cefn gwlad
Ar bridd y fam ynys y bydd y Dyn Mynd a Dwad yn bwyta ei wydd y Nadolig hwn, ymhell bell o Arizona ei deulu yng nghyfraith, ac yn ddigon pell hefyd o goncrid Caerdydd. Ond cyn mynd i ysbryd yr wyl – a’r wydd – mae o angen cicio penolau a dweud y drefn wrth rai o’n ffermwyr ifainc. Treulio’r Nadolig yn Niwbwrch fyddwn ni eleni yn deulu bach cytûn. Mae Iwan ein mab yn edrych ymlaen yn eiddgar. Newidiodd ei ddewis o anrhegion yn ddyddiol. Pob un yn electronig. A phob un ymhell y tu hwnt i gyrraedd ariannol ei fam a finnau.
8 Rhagfyr 2012
Cymru a Slofenia – Beth yw’r Gwahaniaeth?
Sut mai lled-fyw y mae Cymru heddiw tra mae gwlad fechan debyg o ran maint fel Slofenia yn ffynnu?Ryw ddwy flynedd yn ôl gwahoddwyd Wiliam O. Roberts a phum llenor Cymraeg arall i Wyl Lenyddol Vilencia yn Slofenia, ac yn sgil eu hymweliad gofynnodd un o olygyddion Taliesin i’r nofelydd sgrifennu llith am y wlad a’r hyn a welodd ac a glywodd tra y buont yno. Cytunodd â’r cais ond ni chyhoeddwyd mo’i ysgrif hyd yn hyn ac nid yw hynny’n debyg o ddigwydd, sy’n biti, gan ei bod, yn fy marn i, yn debycach o blesio darllenwyr y cylchgrawn nag yw erthyglau golygyddol cosmopolitaidd, myfïol ac athronyddu syrffedus ar ‘themâu’ fel ‘Yr Enaid’, ‘Y Daith’ a’r ‘Bogail’.
8 Rhagfyr 2012
ganGareth Miles
Ar Y Groesffordd – Dyfodol Datganoli
Bu misoedd yr hydref yn rhai pwysig o ran gwleidyddiaeth Cymru. Prin y bu wythnos lle na welwyd rhyw ddatblygiad neu’i gilydd, boed hynny’n draddodi araith arwyddocaol, rhyddhau adroddiad hirddisgwyledig neu gyhoeddi dyfarniad llys pwysfawr. O ganlyniad i hyn oll daw’n gynyddol amlwg beth yw’r opsiynau sydd o’n blaenau – y rhai dichonadwy, o leiaf – o ran dyfodol ein cyfundrefn lywodraethol. Mae Cymru, fe ymddengys, yn sefyll ar groesffordd. O ddewis un llwybr fe ellir disgwyl gweld sefydlu, erbyn diwedd y degawd fan bellaf, fframwaith o sefydliadau gwleidyddol a all oroesi dros gyfnod estynedig i’r dyfodol. Fframwaith o sefydliadau a fydd yn ddigon gwydn i allu cynnal ein breichiau pa bynnag ddyfodol cenedlaethol a ddewiswn ar ein cyfer ein hunain. Ond, o ddewis y llwybr arall, fe fydd Cymru’n parhau i gropian yn llesg, yn herciog ac wysg ei thin i gyfeiriad rhywbeth sy’n haeddu’r enw ‘setliad’ wrth ddisgrifio ei chyflwr cyfansoddiadol.
8 Rhagfyr 2012
Materion y Mis – Pwyll, Weinidog Addysg, Pwyll
Beth bynnag fo barn pobl am Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, does neb all amau ei barodrwydd i dynnu nyth cacwn i’w ben os creda y byddai tarfu ar y nyth hwnnw yn llesol i system addysg Cymru. Ac felly y bu hi’r wythnos ddiwethaf. Cyhoeddodd adolygiad (arall) i edrych ar rôl awdurdodau addysg leol a’u gwaith yn cefnogi a gwella safonau addysgol. Ymhlith yr opsiynau y bydd yr adolygiad yn eu hystyried bydd tynnu’r cyfrifoldeb am addysg oddi ar awdurdodau lleol a chyfeirio’r gwaith o’r canol.
8 Rhagfyr 2012
ganAnna Brychan
Annwn ac yn ôl – Gwaith Iwan Ap Huw Morgan
Lowri Haf Cooke<br /> <p><em>Mae artist perfformiadol o Gaerdydd yn tynnu ar brofiadau anodd ei orffennol ac ar chwedloniaeth Geltaidd yn ei waith, ac yn awr mae ar fin mynd i Beriw i astudio siamaniaeth.</em></p><p>Mae dyn yn gorwedd ar wastad ei gefn mewn ystafell dywyll. Ar wasgar o’i gwmpas y mae canhwyllbren potel wisgi, rholyn tin-ffoil arian a chwistrellau di-ri. Mae ei freichiau ar led, balaclafa am ei ben a rhaff wedi’i chlymu’n dynn am ei wddw. Ymhen dim, y mae ar ei draed, yn tynnu gwaed o’i glun chwith trwy chwistrell cyn chwistrellu’r gwaed dros ei wyneb ei hun. </p><p><img src="images/stories/2012_12/tudalen.jpg" border="0" width="336" height="241" /> </p>
8 Rhagfyr 2012
Dyfodol yr Eisteddfod
Beth bynnag feddyliwch chi o Leighton Andrews, mae’n wleidydd effeithiol. Mae wedi deall mai swydd reolaethol sydd gan y Cynulliad yn bennaf, a bod herio rhai o’n sefydliadau cyhoeddus mwy hunandybus yn ffordd ardderchog nid yn unig o wella bywyd Cymru, ond o gael ei weld yn ei wella hefyd. Fu fawr neb yn achwyn wrth iddo roi waldan yn ddiweddar i brifysgolion, Ofcom a’r byrddau arholi.
30 Hydref 2012
ganSimon Brooks
Ailgodi’r Hwyliau: Holi Betsan Llwyd
Betsan Llwyd yw cyfarwyddwr artistig newydd Theatr Bara Caws. Bu’n sôn wrth Barn am ei chynlluniau. Cyfweliad: Menna Baines
30 Hydref 2012
ganMenna Baines
BARN yn 50 – Darllen Hanfodol
Un o’n colofnwyr sy’n dweud pam y mae Barn – a’r Morning Star – yn bwysig iddo.Petawn i’n cadw pob papur newydd, cylchgrawn a chyfnodolyn a ddaw i’r ty buasent yn fryncyn tal mewn llai na blwyddyn. Darllenaf rai yn drylwyrach na’i gilydd. Y cylchgrawn hwn a’r Morning Star yn unig sy’n anhepgorol. Bûm ffyddlon i’r naill er 1962 ac i’r llall er 1982.
30 Hydref 2012
ganGareth Miles
‘Dyfodol i’r Iaith’
Mae’r awdur, sy’n un o gyfarwyddwr y mudiad iaith newydd Dyfodol i’r Iaith, yn dadlau dros chwyldro yn y modd yr eir ati i hyrwyddo’r Gymraeg. Ond mewn Cymru ddatganoledig, nid yr un yw dulliau chwyldro’r ganrif hon â’r dulliau y mae Cymdeithas yr Iaith yn glynu atyn nhw.
30 Hydref 2012
Cwrs y Byd – Cymwynas Charlie Symes
Dwi wedi bod yn darllen hunangofiant* Meic Stephens, y pwerdy-un-dyn hwnnw o olygydd, awdur, cyfieithydd a choffäwr. Nid yw Meic ei hun yn hollol sicr faint o lyfrau’n union sydd ganddo i’w enw. Fyddwn i ddim ymhell ohoni, fodd bynnag, pe mentrwn glandro bod cyfanswm ei gyhoeddiadau rywle o gwmpas 180. A fyddwn i ddim yn cyfeiliorni’r mymryn lleiaf pe dywedwn mai’r pwysicaf o ddigon o blith y lliaws rhyfeddol hwnnw yw’r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (1986) a ddiweddarwyd ac a helaethwyd un mlynedd ar ddeg yn ddiweddarach. Dyma gyfrol hollol anhepgor.
30 Hydref 2012
Allan I Chwarae
Ychydig oriau ar ôl diflaniad April Jones o Fachynlleth, clywais y geiriau cwbwl ragweladwy: ‘Wel, be’ oedd hi’n dda yn chwara’ allan am saith o’r gloch y nos?’ Ia, dowch inni bwyntio bys yn sgwâr at y rhieni druan, yn hytrach nag at y sawl a benderfynodd gipio’r ferch fach oedd allan yn chwarae o fewn golwg ei chartref.
30 Hydref 2012
ganBeca Brown
O’r Alban: Annibyniaeth – Dwy Flynedd i Fynd
Yn fuan bydd deddfwriaeth ar gyfer y bleidlais ar annibyniaeth yn dod gerbron Senedd yr Alban. Ond er bod dwy flynedd gron gyfan i fynd tan y bleidlais dyngedfennol honno, mae’r Unoliaethwyr eisoes wedi dechrau clochdar. Ac mae’n rhaid cydnabod na fu’r haf a aeth heibio yn un hawdd i gefnogwyr Yes Scotland. Wrth ymhelaethu ar y syniad a oedd ganddo o ddatgymalu’r BBC yn yr Alban, a gosod yn ei lle gyfundrefn debyg i RTÉ yng Ngweriniaeth Iwerddon, tynnodd Alex Salmond y gwrthbleidiau yn ei ben.
2 Hydref 2012
Y Dyn Fu yn y Lleuad
I’r genhedlaeth a gododd yn afresymol o gynnar ar 20 Gorffennaf 1969 i weld y darllediad byw cyntaf o’r lleuad, daeth rhywbeth go arbennig i ben ar ddiwedd yr haf a aeth heibio. Roedd y dyn cyntaf i gamu ar y lleuad, Neil Armstrong, wedi cymryd ei gam olaf ar y ddaear. Drwy hynny dyna roi atalnod llawn terfynol ar y Ras i’r Gofod, ras a fu’n rhan mor fawr o’r ugeinfed ganrif.
2 Hydref 2012
Y Pla Anhygoel
Cafodd yr awdur driniaeth i’w lygaid yn ddiweddar ond merwino’i glustiau y mae rhai pethau y mae’n eu clywed ar y cyfryngau Cymraeg y dyddiau hyn. Yn sgil llwyddiant a phoblogrwydd y dreth ar fagiau plastig, da fyddai gweld ymgais gyffelyb i gosbi gorddefnydd o ‘anhygoel’ gan ddarlledwyr a chyfweledigion ar raglenni’r BBC ac S4C. Gellid tybio mai hwn yw’r unig ansoddair Cymraeg sy’n mynegi cymeradwyaeth, pleser neu foddhad.
2 Hydref 2012
ganGareth Miles
Camu i’r Goleuni o Gysgod Breivik
O’i gartref yn Norwy anfonodd yr awdur y darlun dadlennol hwn o genedl yn cofleidio ei gwerthoedd gwâr yn dilyn carchariad y terfysgwr hiliol Anders Behring Breivik. Mae’n ddydd Sul digon cyffredin ym Medi ar benrhyn Nesodden; llain o dir coediog sy’n wynebu dinas Oslo dros ddyfroedd cysgodol y fjord. Yn ystod yr wythnos mae fflyd o longau bach yn cludo cymudwyr i galon y brifddinas. Ond ar benwythnosau mae mwy o gychod hwylio a kayaks ar y dwr na llongau gwaith wrth i’r cymudwyr ymlacio.
2 Hydref 2012
Cwrs y Byd – Awr Dywylla’r Heddlu
Mi ydw i wedi cael cryn dipyn i’w wneud â phlismyn ar hyd y blynyddoedd. Fy ngwaith fel newyddiadurwr, prysuraf i esbonio, fu’n gyfrifol am hynny nid unrhyw duedd anghyffredin ynof i dorri’r gyfraith. Ar wahân, hynny ydi, i oryrru. Ar un achlysur cefais fy nhemtio i roi fy nhroed i lawr yn drymach nag arfer yng nghyffiniau Trawsfynydd, ar yr unig damaid unionsyth o ffordd a oedd yn bod ar y pryd rhwng de a gogledd. Nid digon y tro hwnnw oedd taro siec yn y post. Rhaid oedd ymddangos gerbron y llys ym Mlaenau Ffestiniog. Cynghorwyd fi nad peth doeth fyddai i un a ddaliwyd yn gwneud 103 wynebu llid a chynddaredd ynadon Stiniog ar ei ben ei hun. Yn y gobaith y gallwn osgoi gwaharddiad hir bu’n rhaid i minnau logi’r Barnwr, bellach, Niclas Parry i eiriol ar fy rhan. Diolch i’w ddoniau llachar gosodwyd arnaf ddirwy drom yn gyfnewid am waharddiad o ddeg diwrnod yn unig. Bargen, mewn gwirionedd. A phrawf bod arian yn gallu, nid osgoi yn hollol, ond lliniaru cosb. Doedd hi’n ddim syndod o gwbl i mi fod potsiar mor ddeheuig ag ef wedi cael ei ddyrchafu’n gipar y gyfraith.
2 Hydref 2012
Ffarwel Crycymalix, Henffych Gwyddoniadix
Mae Ann Gruffydd Rhys yn rhoi croeso twymgalon i gyfieithiadau newydd o glasuron straeon stribed Ffrengig ar gyfer darllenwyr o bob oed. Cafodd ein meibion eu magu ar Asterix. Roedd enwau Obelix ac Odlgymix, Crycymalix ac Einharweinix mor gyfarwydd iddyn nhw â Siôn Blewyn Coch a Barti Ddu, Mr Picton a Dai Tecsas. Roedd hiwmor y straeon stribed Ffrengig yma’n ogleisiol o ddoniol, yn fyrlymus o wreiddiol. Dim ond i rywun gladdu’i ben rhwng dau glawr, fyddai hi fawr o dro cyn i chwerthiniad direidus ddianc o blith y dalennau. Does ryfedd fod ein cyfrolau wedi treulio – rhoesant flynyddoedd o fwynhad i ni fel teulu.Digri, lliwgar, a Chymreig. Gyda’n cefndir cyffredin Celtaidd, yn cael ein goresgyn gan ‘y Rhufeiniaid gwallgo ’ma!’, roedd rhywbeth naturiol mewn trosi helyntion ein lled-gefndryd Galaidd, gyda’u derwydd a’u bardd yn gymeriadau stoc, i’n hiaith a’n diwylliant ni. Daeth saith cyfrol hardd o Wasg y Dref Wen i ddwylo’r plant, ac yna – ‘myn Twtatis!’– sychodd y ffrwd. Yn ofer y chwiliais am Asterix a Cleopatra, yr unig un nad oedd gennym, yn y siopau llyfrau.
2 Hydref 2012
Eileen Beasley (1921–2012)
Eileen Beasley a’i gwr, Trefor, a ddechreuodd y traddodiad o weithredu’n uniongyrchol dros yr iaith Gymraeg.Pan ddaeth Eileen a Trefor Beasley ynghyd fe grewyd cyfuniad dansierus (yng ngwir ystyr y gair) o ddeallusrwydd, diwylliant, minogrwydd dadansoddol, cyndynrwydd ystyfnig, cymwynasgarwch, cynhesrwydd rhadlon, ac yn arbennig ddewrder.
3 Medi 2012
ganCynog Dafis
Fflam Unoliaethol yr Olympics – neu dân siafins?
A heip Gemau Olympaidd Llundain yn hollbresennol dros yr haf, mae rhai’n llawenhau ac eraill yn ofni bod y cwlwm sy’n dal gwledydd Prydain yn sownd yn ei gilydd yn dynnach bellach nag y bu ers cenedlaethau. Ond ai dyna’r gwir?
3 Medi 2012
Annibyniaeth Barn
Dyma’r ddarlith a draddododd Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg fel rhan o ddathliadau Barn yn hanner cant oed eleni. Llun gan Marian Delyth Stori am ddau bâr o frodyr yw hyn, dau bâr o geffylau deallusol dan ddwy dwy wedd os hoffwch chi ddelwedd amaethyddol. Adroddaf i hi yma heddiw o ran parch a chydnabod dyled personol, ond hefyd o ran gosod cyd-destun hanesyddol i’r drafodaeth a gychwynnwyd ac a gynhaliwyd ganddynt, trafodaeth yr ydym ninnau heddiw yn parhau yn rhan ohoni. Mae’r ddau bâr o frodyr nid yn unig yn gyd-gyfrifol am y cylchgrawn ‘Barn’ ond yn sicr ddigon am y cyd-destun ysgolheigaidd a deallusol y mae ein trafodaeth heddiw yn barhad clir ohoni.
Dan Amor
tir amor Canwr-gyfansoddwr o ardal Dyffryn Conwy yw Dan Amor, ac arlunydd proffesiynol yw ei fam, Yvonne. Aeth ANN GRUFFYDD RHYS i Gwm Penmachno i’w cyfweld. 'Dan Amor, a'i fam Yvonne' Rywbryd tua 2008 daeth canwr newydd i ty ni. Wysg ei ochr y daeth i mewn, yn ddigon diymhongar. Cyn hir roedd ei lais yn rhan o’n bywyd bob dydd. Mynnai ei gerddoriaeth ailchwarae yn ein pennau, ar ôl i’r CD dawelu, fel y bydd rhai caneuon. A’r darluniau – roedd golygfeydd, a haul, a glaw yn aros, fel olion disglair o flaen ein llygaid. Gwnaethom le iddo ar ein silffoedd gorlawn, a daeth yn gydymaith cyson i ni nid yn unig gartref ond ar deithiau hir hyd priffyrdd Cymru a thu hwnt.
3 Medi 2012
Cwrs y Byd – Y Gwych a’r Gwachul
Eisteddfodau Cenedlaethol y Gogledd yn unig dwi wedi bod yn ymweld â nhw yn y blynyddoedd diwethaf gan fynd a dwad ddwywaith neu dair yr wythnos yn fy nghar. Mae’n bur debyg mai adwaith yw hynny, yn rhannol o leiaf, i’r chwarter canrif a dreuliais yn darlledu’n ddyddiol o’r Maes, yn aml tan berfeddion nos. Gormod o bwdin, fel petai. Eleni, fodd bynnag, golygai pen-blwydd Barn yn hanner cant bod yn rhaid imi fod yn bresennol yn Y Fro. Felly, am y tro cyntaf ers Tyddewi 2002, nid picio i’r Steddfod oedd fy hanes. Blasais y Brifwyl o bnawn Llun tan imi ei throi hi am adra ar y bore Iau. Ac mae’n rhaid imi ddweud bod hynny wedi rhoi amgenach gwerthfawrogiad imi o’r newidiadau a ddigwyddodd i’r Steddfod yn y deng mlynedd diwethaf. Llun gan Marian Delyth
3 Medi 2012
“Brenhines ein Llên”
Ddiwedd Gorffennaf eleni sgubodd ton o alar dros Iwerddon gyda marwolaeth Maeve Binchy, nofelydd a ystyrid yn drysor cenedlaethol.
3 Medi 2012
Coalas, Cangarwod a Choed
Gwaith celf Cymro oddi cartrefAeth Tim Jones i Awstralia gryn ddeng mlynedd ar hugain yn ôl. Bellach mae’n un o artistiaid cyfoes amlycaf y wlad, a’i waith yn cael ei ysbrydoli gan fywyd gwyllt ei gynefin mabwysiedig yn ardal Melbourne ond yn tynnu hefyd ar ei wreiddiau Cymreig. Cafodd awdur yr erthygl hon gyfle annisgwyl i gyfarfod ag ef yn ystod taith ddiweddar a oedd yn rhan o gynllun datblygu beirniaid celf Cymreig.
21 Mehefin 2012
Cwrs y Byd – Croeso Chwedeg Nain Windsor
Er fy mod i’n hoff iawn o bêl-droed doeddwn i ddim ar dân eisiau gwrando ar sylwebaeth rownd derfynol Tlws yr FA yn Wembley y mis diwethaf rhwng Casnewydd a Chaerefrog. Ond clywais gychwyn y gêm ar radio’r car a chael fy synnu a’m rhyfeddu gan ymateb chwyrn cefnogwyr Casnewydd i God Save the Queen. Dwi wedi clywed anthem y Saeson yn cael ei dirmygu cyn heddiw, wrth reswm. Ond nid gyda’r un lefel o ffyrnigrwydd mileinig a fynegodd Cymry Gwent tuag ati yng nghysegr sancteiddiolaf pêl-droed Lloegr.
11 Mehefin 2012
Chwarae â Rhithiau
Bu Damien Hirst yn enwog am roi aneifeiliaid marw mewn fformaldehyd a’u harddangos mewn cypyrddau gwydr. Mae Gethin Wyn Jones, fel un o’i gynorthwywyr, yn cyfrannu mewn ffordd ymarferol at rai o’i ddelweddau. Ond mae hefyd yn creu ei gelfyddyd unigryw ei hun a hynny ar sail gemau cyfrifiadurol.
11 Mehefin 2012
ganMenna Baines
Mudiad Dirwest Iwerddon
Nid rhyw fath o jôc Wyddelig yw pennawd yr erthygl hon. Yn ogystal â’r enw sydd ganddynt o fod yn yfwyr o fri mae gan y Gwyddelod hefyd draddodiad hir o lwyr ymwrthod ag alcohol.
11 Mehefin 2012
Sefydliad Cenedlaethol yn Bendifaddau
Yn ein rhifyn diwethaf honnodd Gareth Miles mai "Seisnig a Phrydeinllyd iawn" yw rhai o brif sefydliadau cenedlaethol Cymru. Yma mae Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru yn ymateb i’r feirniadaeth honno o safbwynt y sefydliad y mae ef yn ei arwain.
11 Mehefin 2012
Chwilio am yr Awdur
Er bod arwyddion o fywiogrwydd newydd yn y theatr Gymraeg yn ddiweddar, prin iawn o hyd yw’r dramâu gwreiddiol. Beth sydd i’w gyfrif am fudandod awduron yn y theatr a beth mae’n ei ddweud am ein diwylliant?
11 Mehefin 2012
Rhiannon Mathias – Canu Ei Chân ei Hun
Mae Rhiannon Mathias yn cynnal y traddodiad teuluol o ymroi i fyd cerdd, yn ymarferol ac yn academaidd. A hithau ar fin cyhoeddi llyfr newydd am dair cyfansoddwraig, bu’n sôn wrth Barn sut beth oedd tyfu i fyny ar aelwyd gerddorol.Yn hwyr y pnawn ar aml nos Wener, finnau’n dal wrthi’n dysgu piano yng Nghanolfan Gerdd William Mathias, yn y Galeri, Caernarfon, ac yn disgwyl myfyriwr olaf y dydd, byddaf yn clywed sain denau, felys dwy ffliwt yn prin dreiddio’n hudolus drwy’r waliau. Byddaf yng gwybod wedyn fod Rhiannon Mathias wedi cyrraedd i ddysgu ei myfyrwyr hithau.
Gwlad y Basg – Mwy Na Man Gwyn Man Draw
Does dim dwywaith nad oes yna wersi pwysig i’r Gymraeg, o ran cynllunio ieithyddol, yn yr hyn sy’n digwydd yng Ngwlad y Basg. Mae awdur yr erthygl, sy’n gwneud ymchwil ar safoni’r iaith Gymraeg, newydd fod yno fel rhan o ymweliad gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor.
1 Mai 2012
ganRobat Trefor
Carwyn: Darlunio Dyfodol Cymru a Phrydain
Fyth ers i Ron Davies draddodi darlith (yn harddwch Gregynog) yn disgrifio datganoli fel ‘proses nid digwyddiad’, mae un cwestiwn amlwg wedi parhau heb ei ateb, sef proses yn arwain at beth?
1 Mai 2012
Cwrs y byd – Rhoi TAW ar Dy Dduw
Yn lle canolbwyntio ar yr hyn a wna llywodraeth San Steffan, gwell fyddai iddo roi sylw i’r hyn nad yw llywodraeth Cymru yn ei wneud.
1 Mai 2012
Y Cymun a’r Castell Bownsio
Pan fydd y plant yn wyth neu naw oed, caniateir iddyn nhw dderbyn y Cymun Cyntaf.
1 Mai 2012
Ar Ddu a Gwyn
Dywedir weithiau bod gwleidyddion a chadfridogion y ganrif hon yn hiraethu am symlrwydd yr hen Ryfel Oer.
29 Mawrth 2012
Ymgyrchwn o Hyd!
Dydw i ddim wedi gweld Richard Wyn Jones ers blynyddoedd. Rhaid ein bod yn troi mewn cylchoedd gwahanol. Ond os ydw i wedi sathru nerf, dwi’n ymddiheuro am hynny.
29 Mawrth 2012
Mici Mows + Mistar Urdd = Anifail Annhebygol…
Feddyliais i erioed y byddai gofyn imi fynd i brifddinas Ffrainc ac i sefydliad Americanaidd er mwyn gweld Cymreictod yn cael sbloets a sioe. A feddyliais i chwaith y byddai parc gwyliau sy’n moli diddordeb y mwyafrif ac yn pedlera adloniant poblogaidd yn rhoi’r fath fri i ddiwylliant lleiafrifol, gan roi llwyfan ar yr un pryd i gongol lai fyth o’r lleiafrif hwnnw, sef aelodau’r Urdd.
29 Mawrth 2012
ganBeca Brown
I Wigan Mr Strangle efo’r Elyrch
Wel, am fis Mawrth o chwaraeon! Cymru’n cyflawni’r Gamp Lawn ar y cae rygbi am y trydydd tro mewn wyth tymor, a hynny gydag artistri ac argyhoeddiad; Rory McIlroy o Ogledd Iwerddon yn dod yn Rhif 1 ym myd y golff; rhai o nofwyr Cymru’n ennill eu lle yn y Gemau Olympaidd; a thîm pêl-droed Abertawe (nad oes neb ynddo’n ennill un rhan o ddeg o gyflog Carlos Tevez) yn curo miliynyddion Manchester City.
29 Mawrth 2012
Ethol Leanne – Cam Beiddgar
Cafodd Leanne Wood fuddugoliaeth ysgubol ond mae sawl her aruthrol yn ei hwynebu fel arweinydd newydd Plaid Cymru. ‘If you really want to get on in the Blaid [noder, byth "Plaid"] you need to be a perpetual learner. That way, as long as you’re making the effort to learn, Welsh speakers will want to do all they can to encourage and support you. And so long as you haven’t quite mastered it yet then English speakers won’t think that you’ve abandoned them either!’
29 Mawrth 2012
Addoli Ddoe ar Draul Heddiw
Wedi’r cadarnhad diweddaraf bod y Gymraeg yn parhau i golli tir yn frawychus o gyflym – sef y newyddion o gyfeiriad Bwrdd yr Iaith bod 3,000 y flwyddyn yn llai o siaradwyr Cymraeg rhugl – mae cwestiwn syml yn codi. Yn wyneb yr argyfwng sy’n parhau o ran sefyllfa’r Gymraeg a ydym yn gwneud y defnydd gorau posibl o’r cyfleoedd sydd ar gael i adfer ei sefyllfa ac i hybu ei defnydd?
2 Mawrth 2012
Dilys Elwyn-Edwards (1918–2012)
Pe bai Dilys wedi derbyn yr ysgoloriaeth a gynigwyd iddi yn wreiddiol gan Goleg Girton, Caergrawnt (un o’r unig ddau goleg yn y Brifysgol honno oedd yn derbyn merched ar y pryd), digon posib y byddai wedi dod ar draws Howells yn gynt yn ei gyrfa.
2 Mawrth 2012
Golwg i’r Dyfodol
Ychydig ddyddiau cyn y Nadolig fe gymerodd dau o gwmnïau cyhoeddi mwyaf blaenllaw’r Gymraeg gam mawr i’r dyfodol.
2 Mawrth 2012
Llythyr o America
A hithau wedi symud i fyw dros dro yn Boston, Massachussetts, mae awdur yr erthygl yn trafod sylw annisgwyl i Gymru yn y cyfryngau Americanaidd a’r ras am y Ty Gwyn gydag un o Gymry alltud mwyaf adnabyddus y ddinas, Adam Price.
2 Mawrth 2012
Cwrs y Byd: Tynged yr iaith
Mewn cyfweliad teledu efo Aneirin Talfan Davies yn 1960, fe alwodd Saunders Lewis ei hun yn fethiant llwyr fel gwleidydd. Y cyfan a ddywedaf yw ei bod hi’n cymryd math arbennig iawn o fethiant i gyflawni’r hyn a wnaeth Saunders Lewis ym mis Chwefror eleni. Am wythnos gron fe lwyddodd, o’i fedd, i wneud gwrando ar Radio Cymru yn weithred hanfodol ac angenrheidiol unwaith eto i’r llu ohonom sy’n teimlo mai dim ond yn achlysurol bellach y bydd yr orsaf yn trafferthu i siarad efo ni.
2 Mawrth 2012
Meistres y Tannau
Fe gysylltir y delyn gyda sain ‘nefolaidd’ yn aml, ac mae’n nefoedd-ar-y-ddaear, o leiaf, wrth sefyll ar drothwy cartref y delynores Catrin Finch.
6 Chwefror 2012
Clychau Priodas
Gallaf ddibynnu ar y ddau i wneud yr un peth y tu allan i’m breuddwydion hefyd.
6 Chwefror 2012
ganChris Cope
Cwrs y Byd: Ffiniau Nid Cyffiniau
Drwy Brydain benbaladr rhaid fydd gwneud i ffwrdd â 50 etholaeth. Bydd hynny’n gadael 600 o Aelodau Seneddol yn San Steffan.
6 Chwefror 2012
O Ewrop – Ms Jonesova, Merch Mrs Jones
Ond wrth i bobl symud o wlad i wlad, mae’r anghysonderau yn neddfwriaethau cofrestru babanod Ewrop wedi aros yn yr unfan.
6 Chwefror 2012
Camu ’Mlaen: Adfywio Plaid Cymru. Go brin!
Wedi iddo ennill ei fuddugoliaeth dila yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur, fe aeth Ed Miliband gam ymhellach.
6 Chwefror 2012