Thema dywyll Thema golau

Ymgyrchwn o Hyd!

Dydw i ddim wedi gweld Richard Wyn Jones ers blynyddoedd. Rhaid ein bod yn troi mewn cylchoedd gwahanol. Ond os ydw i wedi sathru nerf, dwi’n ymddiheuro am hynny.

Petawn yn ei weld mewn rali neu gyfarfod, byddwn yn mynd ato i siarad a thrafod, ond er bod y ddau ohonom yn byw yng Nghymru, dydyn ni ddim yn gweld ein gilydd yn gyson.

Diolch am dudalennau Barn felly i’n galluogi i gynnal deialog.

Dylai hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith fod yn gyfle i ddiolch i’r holl bobl a frwydrodd, mewn amrywiol ffyrdd, i sicrhau dyfodol i’r Gymraeg. Yn anffodus, yn ystod y trafodaethau i gofio Tynged yr Iaith, cododd rhyw syniad eich bod naill ai yn ochri gyda phrotestiadau Cymdeithas yr Iaith, neu eich bod wedi camu ymlaen ac wedi dod i weld yr angen am fudiad iaith newydd, fyddai yn canolbwyntio ei egnïon ar lobïo.

Gaf i gytuno efo rhai pwyntiau a wnaeth Richard Wyn Jones – mae Cymru wedi newid, mae sefyllfa’r iaith wedi newid, ac mae posibiliadau gwleidyddol gwahanol yn bodoli bellach. Mae mwy o statws i’r Gymraeg na fu erioed o’r blaen, ond mae’r nifer sy’n ei defnyddio ar wastad cymunedol yn llai nag erioed. Dyna bryder Cymdeithas yr Iaith.

Dyna pam y mae yn ymgyrchu ac yn lobïo. Mae rhai sy’n ymaelodi yn ei rhengoedd ac yn weithgar yn gweld bod angen am y ddeubeth. Fel y dywedodd Mr Jones, mae ganddi’r hanes a’r brand a’r ymroddiad. Mae’r rhai sy’n ymaelodi yn gweld bod ganddi record hir o weithio’n effeithiol er lles y Gymraeg. (Dydw i ddim yn siwr am yr ewyllys da a’r adnoddau a’r peirianwaith. Fe allai wneud efo llawer mwy o ewyllys da, a gallai’r adnoddau a’r peirianwaith fod yn llawer gwell o gael yr arian digonol.) Ond mae’n gwneud yr hyn a all.

Gwendid dadleuon Mr Jones yw nad yw’n gwybod digon am y mudiad y mae’n ei feirniadu. (Fel y byddwn innau petawn yn ceisio cynnig beirniadaeth o’r adran wleidyddiaeth yn y Brifysgol.) Yn amlwg, wyr o ddim am y gwaith lobïo helaeth a wneir gan Gymdeithas yr Iaith. Doedd hi’n gwneud fawr o lobïo yn y Chwedegau, mae’n wir, ond ers Maniffesto 1972, gwelodd werth cyhoeddi dogfennau a lobïo ar fater Sianel Deledu Gymraeg. Erbyn yr Wythdegau, cofiaf gynnal cyfres o gynadleddau i annog cynghorwyr i fabwysiadu’r egwyddor o ystyried y Gymraeg fel ffactor cynllunio. Ym maes addysg, bum am ddeng mlynedd yn lobïo’r syniad o gorff penodol i ddatblygu addysg Gymraeg. buom yn cydweithio â nifer helaeth o fudiadau ac yn curo ar ddrws y Swyddfa Gymreig yn gyson. Gwir i’r Torïaid wrthod cyfarfod â ni yn y cyfnod hwn, ond agorodd dorau’r Swyddfa Gymreig wrth inni lobïo am Fesur Iaith. Unwaith y daeth Cynulliad Cenedlaethol, ymgyrchwyd i gael y corff hwnnw i roi statws priodol i’r iaith, ac yna, aethpwyd ati i lobïo ac ymgyrchu i gryfhau’r mesur iaith. Llwyddwyd – drwy lobio – i sefydlu Coleg Cymraeg, er nad oedd yn cwrdd â’n gweledigaeth ni. Gobeithio fod y lobïo dros sicrhau dyfodol S4C yn ddigon ffres yn y cof i mi beidio mynd dros y bennod honno. Ond mae rhan helaeth o waith Cymdeithas yr Iaith yn waith lobïo, o’i gymharu â’r gweithredu anghyfansoddiadol.

Felly, wrth gwrs fod Cymdeithas yr Iaith yn croesawu beirniadaeth adeiladol, ond boed honno yn un ddilys, wedi ei chefnogi gan ffeithiau. Dydi dadlau nad ydi’r mudiad heb ddatblygu, a’n bod yn sownd yn y gorffennol ddim yn wir, ac annheg yw parhau i ail-adrodd hynny yn gyson yn y Wasg a’r cyfryngau. Am ryw reswm, mae yntau a Simon Brooks a Dafydd Iwan ac eraill yn dal ati i ddweud fod gweithredu uniongyrchol yn atal datblygiadau pellach. Ni roddir tystiolaeth i gefnogi hyn.

Ydym, rydym wedi cael Cynulliad, ond grymoedd cyfyngedig sydd ganddo. Dydw i ddim yn deall o gwbl pa reswm sydd gennym i orffwys ar ein rhwyfau. Yr un grymoedd economaidd byd-eang sy’n milwrio yn erbyn cymunedau Cymraeg ag sydd wedi gwneud erioed. Gwaethygu mae pethau, nid gwella. Fel sy’n digwydd ledled y byd, mae stomp cyfalafiaeth yn difetha ein diwylliant, ein rhyddid a’n hamgylchedd. Mae mwy o reswm nag erioed i ymuno gyda Chymdeithas yr Iaith a lobïo a gweithredu. Mae’r ddeubeth yn mynd law yn llaw.

Croesawodd Cymdeithas yr Iaith y syniad o greu mudiad lobïo newydd dros y Gymraeg. (Nawr fod Cefn wedi dirwyn i ben, falle gallwch enwi’r mudiad newydd yn ‘Ffrynt’) Ond does neb yn gwneud dim. Mae Mr Jones yn credu mai Cymdeithas yr Iaith ddylai ei arwain. Nid yn y modd y mae’r Gymdeithas ei hun eisiau ei wneud, ond yn y modd y mae ef ac eraill am ei weld. Dydi hynny ddim am ddigwydd. Y bobl o fewn y mudiad sy’n llywio ei drywydd. Dyna ydi democratiaeth.

Yn ôl at y cwestiynau a ofynnir gan Mr Jones ar gychwyn ei erthygl - a ydym yn gwneud y defnydd gorau o’r cyfleoedd sydd ar gael i adfer y sefyllfa ac i hybu ei defnydd?

Mae’n crybwyll y gweithle a’n peuoedd cymdeithasol, a sicrhau fod polisïau cyhoeddus yn diogelu’r Gymraeg. Braidd yn unigolyddol yw’r agwedd hon, yn dilyn trywydd Bwrdd yr Iaith. Mae cannoedd o Gymry bob dydd yn cyfarch ei gilydd yn Gymraeg, yn siarad Cymraeg bob cyfle a gant ac yn ceisio cael polisïau cryfach wedi eu pasio. Gallwn wneud hyn hyd syrffed, ond dydi o ddim yn ddigon.

Mae angen corff o bobl sydd yn datblygu polisiau sydd yn galw am newid sylfaenol i’r drefn. Rhaid ymgyrchu i wireddu’r polisïau hyn, ac fe all gymryd oes gyfan i wneud hynny. Nid aberth sy’n nodweddu’r ymgyrchu, ond llawenydd a hwyl dod at ein gilydd.

Mae’r rhai sy’n gwneud dim ond aberthu yn aros yn llawer llai yn y mudiad nad yw’r rhai sy’n profi llawenydd y frwydr. Ond nid consensws fan hyn a fan draw sydd ei angen, ond newid sylfaenol o’r gwaelod i’r top.

Yr hyn sy’n wirioneddol rwystredig yw y byddai’r sefyllfa wedi ei gweddnewid, petai polisiau Cymdeithas yr Iaith wedi eu mabwysiadu gan y cynghorau a’r Llywodraeth ers y Saithdegau. Byddai statws cynllunio i’r iaith. Byddai cynllun led led Cymru i sicrhau addysg Gymraeg i bawb. Byddai’r Gymraeg wedi treiddio i bob maes. byddai rhwydwaith o ddulliau cyfathrebu naturiol Gymraeg. A gaf i fentro dweud, ni fyddai 3,000 yn llai o siaradwyr Cymraeg bob blwyddyn?

Ond waeth i ni heb a chwerwi – wynebwn yr ail hanner can mlynedd mewn ysbryd o obaith – yn hyderus y bydd dyfodol sicrach i’r Gymraeg – OS bydd pethau’n newid!

 


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Mici Mows + Mistar Urdd = Anifail Annhebygol...

Ymlaen >

Ar Ddu a Gwyn