Thema dywyll Thema golau

Dilys Elwyn-Edwards (1918–2012)

Pe bai Dilys wedi derbyn yr ysgoloriaeth a gynigwyd iddi yn wreiddiol gan Goleg Girton, Caergrawnt (un o’r unig ddau goleg yn y Brifysgol honno oedd yn derbyn merched ar y pryd), digon posib y byddai wedi dod ar draws Howells yn gynt yn ei gyrfa. Ond credai mewn ffawd a dywedai’n aml mai ei phenderfyniad i ddewis Caerdydd dros Gaergrawnt a’i harweiniodd i gyfarfod ei g?r, David Elwyn Edwards. Un o Gymry Llundain oedd Elwyn a’i fryd ar y weinidogaeth, a buan y daeth yn gonglfaen bywyd Dilys.

Ar ôl ymgartrefu am gyfnod byr iawn ym Mhontypridd aeth Elwyn ymlaen i astudio ymhellach yng Ngholeg Mansfield, Rhydychen, gyda Dilys yn cael gwersi organ gan Sir Thomas Armstrong yng Nghadeirlan Christ Church ac yn clywed perfformiadau o’i gwaith dan nawdd Clwb Cerdd Rhydychen yn Ystafell Gerdd hynafol Holywell. Pan gafodd Elwyn alwad yn 1951 i weinidogaethu yng Nghaernarfon dyma ddychwelyd i Gymru. Roedd hynny’n ddechrau cyfnod hapus o hanner canrif a mwy yn byw ar lannau’r Fenai. Gyda’i bryd ar gyfansoddi, ac fel pantheist o ran ei hanian grefyddol, nid oedd Dilys yn wraig gweinidog arferol a dweud y lleiaf, ac anaml y byddai’n gadael i ddyletswyddau capel darfu ar yr awen. Roedd Elwyn ei hun yn gadarn ei gefnogaeth iddi ganolbwyntio ar ei chelfyddyd, ac ar ei gwaith yn dysgu piano yn y Coleg Normal ac yn ddiweddarach yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor.

Yr oedd Herbert Howells wedi adnabod tinc arbennig, Celtaidd yn ieithwedd gerddorol Dilys ers ei dyddiau coleg, ac ar ôl hynny roedd wedi parhau i feithrin ei doniau telynegol cynhenid ynghyd â’i sensitifrwydd naturiol wrth ymdrin â geiriau. Ar gyfer geiriau Saesneg y cyfansoddodd Dilys ei darnau cyhoeddedig cyntaf, ond wedi setlo yng Nghaernarfon buan yr arweiniodd ceisiadau gan gyhoeddwyr, cantorion a gwahanol gyrff yng Nghymru at osod geiriau Cymraeg. Dyma gyfnod rhai o’i chaneuon enwocaf. Byddai Chwe Chân i Blant (‘my Arthur Askey songs’, chwedl Dilys) yn anfarwoli cymeriadau ‘Morus y Gwynt ac Ifan y Glaw’ a’r ‘Ddwy Gwningen Fechan’ i genedlaethau o blant Cymru, ac yn 1961 comisynodd y BBC y gyfres Caneuon y Tri Aderyn. R. Williams Parry oedd yr ysbrydoliaeth y tro hwn ac wrth osod y soned ‘Mae hiraeth yn y môr’ (ar anogaeth John Gwilym Jones) dyma daro ar agoriad trawiadol feiddgar i’r llais, un na ellir fyth ei anghofio unwaith y’i clywir. Mae’n agoriad sy’n codi’n syth at A fflat uchel a bu Dilys yn petruso ynghylch hynny, gan bryderai na fyddai unrhyw ganwr, boed denor na soprano, yn barod i ymateb i’r fath her. Dyma ffonio ei chyfaill o gyfansoddwr ym Mangor, y diweddar Athro William Mathias, am gyngor. Ei ateb parod ef oedd ‘Dim problem Dilly – bydd Kenneth Bowen yn berffaith.’ Ac roedd yn iawn!

Yn dilyn marwolaeth Elwyn yn 2004 fe gollodd Dilys ei sbarc yn raddol, ac i bawb a oedd wedi eu hadnabod fel cwpl roedd yn amlwg fod ei dyddiau cyfansoddi ar ben. Ond roedd wedi cynhyrchu swmp cyfoethog o waith yn ystod ei hoes hir. Gellir datgan yn sicr iddi greu rhai o ganeuon gorau’r traddodiad Cymreig a rhai y bydd canu arnynt byth tra bo’r iaith Gymraeg yn fyw.

Bu farw Dilys Elwyn-Edwards ar 13 Ionawr 2012.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Golwg i’r Dyfodol

Ymlaen >

Addoli Ddoe ar Draul Heddiw