Thema dywyll Thema golau

Meistres y Tannau

Fe gysylltir y delyn gyda sain ‘nefolaidd’ yn aml, ac mae’n nefoedd-ar-y-ddaear, o leiaf, wrth sefyll ar drothwy cartref y delynores Catrin Finch. Gyda’i merch fach Pegi yn cysgu, ei chwaer hyn Ana Gwen yn yr ysgol gynradd, a Hywel y gwr yn gweithio draw yn Stiwdio Acapela rhyw ddwy filltir lawr y ffordd ym Mhen-tyrch, mae ’na lonyddwch yn disgyn dros y ty, sydd mewn llecyn tawel, coediog yng Ngwaelod-y-garth, ychydig filltiroedd yn unig o brysurdeb dinas Caerdydd. Mae’r tawelwch yn rhywbeth y mae Catrin wedi dod i’w werthfawrogi fwyfwy yn ystod y misoedd diwethaf. Erbyn diwedd haf 2011 roedd yr holl deithio a pherfformio wedi mynd yn faich, a doedd dim amdani ond cymryd cyfnod ‘sabothol’.

‘Pan ti’n symud yn ddi-stop o un lle i’r llall mae oriau gwaith yn mynd yn hollol afreolus. Roedd chwe mis cyntaf 2011 yn wirion o brysur. Roeddwn i’n dod ’nôl gartref yn hwyr ac roedd y plant yn deffro’n gynnar bore trannoeth. Doedd oriau perfformio ddim yn gweddu i oriau teulu bach.’

Aeth pethau’n straen i Catrin, a hithau wedi bod yn gweithio’n ddi-baid ers iddi adael yr Academi Frenhinol yn Llundain yn 2002. ‘Wnes i ddechrau teimlo o ran fy hunan ’mod i ar y meri-go-rownd ’ma – yn troelli rownd a rownd. Mae’n beth od i’w ddweud, ond ro’n i wedi mynd i deimlo nad o’n i’n gwerthfawrogi cerddoriaeth. Pan mae rhywun yn perfformio drwy’r amser mae’n hawdd iawn jyst stopio gwrando. Doedd dim amser i wrando ar gerddoriaeth rhywsut. Ro’n i angen amser i ffwrdd, i bwyso a mesur y sefyllfa. Nawr mae ’na ryw fis ar ôl o’r “cyfnod sabothol” ac rwy’n edrych mlaen yn fawr i fynd ’nôl at y gwaith.’

Mae’n amlwg fod y cyfnod wedi gwneud lles mawr i Catrin. Mae’n berson cyfeillgar ac agored iawn, ac eto mae rhywun yn teimlo ei bod, o dan yr osgo hamddenol, yn siarp fel rasal ac yn sylwi ar bopeth. Mae hyn yn wir am ei chrebwyll cerddorol a’i dull o berfformio hefyd. Mae’n gallu gwneud i’r darnau mwyaf cymhleth ac anodd swnio’n hollol naturiol a diymdrech. A gyda thri deg chwech o gyngherddau wedi eu trefnu ar gyfer Mawrth ac Ebrill eleni, gan gynnwys taith i’r Unol Daleithiau ac ymweliadau â Gwlad Thai ac Awstralia cyn diwedd y flwyddyn, fe fydd llonyddwch Gwaelod-y-garth yn siwr o deimlo ymhell i ffwrdd.

Mae’n ddeng mlynedd ers i’r ferch o Lan-non ddod i sylw’r cyhoedd fel telynores fwyaf addawol ei chenhedlaeth. Dechreuodd ei gyrfa broffesiynol cyn iddi orffen ei hastudiaethau yn yr Academi Frenhinol. ‘Mi ges i’r swydd ’na gyda’r Tywysog [daeth yn delynores swyddogol i’r Tywysog Siarl yn 2000]… a doeddwn i ddim yn yr Academi ryw lawer ar ôl hynny.’ Yn fuan iawn yn ei gyrfa derbyniodd wahoddiadau o bob cwr o’r byd, gan fynd i America a Siapan a pherfformio gyda cherddorfeydd enwog megis y New York Philharmonic, London Mozart Players, y Royal Philharmonic Orchestra a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Yr un pryd â cheisio cynnal dyddiadur llawn o deithiau a chyngherddau roedd hefyd yn brysur iawn yn y stiwdio. Recordiodd Crossing the Stone ar gyfer Sony Classics yn 2003 gyda’r cyfansoddwr Karl Jenkins wrth y llyw. Mae’r ffaith iddi fynd ati i drefnu un o gampweithiau mwyaf y byd clasurol ar gyfer y delyn – Amrywiadau Goldberg J.S. Bach – yn ystod ei chyfnod mamolaeth yn 2007 yn adlewyrchiad o’i chymeriad dygn a phenderfynol. Fe fyddai’r dasg o chwarae magnum opus Bach yn ddigon uchelgeisiol ar yr harpsicord (yr offeryn y cyfansoddodd Bach ar ei gyfer), ond roedd mynd ati i feistroli’r grefft o’i chwarae ar y delyn un ai’n gam dewr neu’n wallgo’. Y cyntaf, yn amlwg, oherwydd fe welodd y label clasurol Deutsche Grammophon botensial anghyffredin y recordiad a’i ryddhau yn 2009. Cafodd sêl bendith unfrydol y beirniaid cerdd, ond nid oedd Catrin am orffwys ar ei rhwyfau. Aeth ati wedyn i gyflwyno seiniau jazz i’r offeryn, gan recordio gyda’i band CF47 a chydweithio gyda’r grwp gwerin amryddawn Cimarron o Columbia i greu cerddoriaeth fyd-eang cyffrous.

Mae’r syniad o weithio ar nifer o brosiectau amrywiol – o’r clasurol i’r poblogaidd – yn parhau i apelio, ond efallai mai’r hyn sy’n cysylltu’r gwahanol fentrau yw’r ffordd y mae Catrin yn cyflwyno elfennau newydd i’r gwaith. Mae’n teimlo angen parhaus i argyhoeddi pobl ynglyn â rhinweddau’r delyn; yn wir, mae hyn yn dipyn o genhadaeth ganddi. ‘Wrth gwrs, mae ’na nifer o bethau hen, traddodiadol sy’n siwtio sain a lliw yr offeryn, ond dwi eisiau eu cyfleu nhw mewn arddull a gwedd wahanol. Mae hynny’n rhywbeth dwi wedi ceisio’i wneud ers y cychwyn – nid yn unig sut mae pobl yn gweld y delyn oddi fewn i’r byd gwerin ond hefyd sut mae hi’n cael ei gwerthfawrogi yn y byd clasurol.’

Beth, felly, a gyflawnodd Catrin yn ystod ei chyfnod ‘sabothol’? A gafodd ei themtio ar unrhyw adeg i roi’r delyn yn y to? ‘Dim o gwbwl! Ond os mai’r cwestiwn nesa’ fysat ti’n gofyn i mi ydi “be dwi wedi bod yn ei wneud heblaw bod gyda’r teulu”, yna fyswn i’n dweud “dwi ’di bod yn cyfansoddi” – ac mae hynny wedi datblygu dros y flwyddyn aeth heibio.’

I’r rhai sydd wedi dilyn ei gyrfa, ni fydd y cam hwn i fyd cyfansoddi yn syndod. Hi, wedi’r cwbl, oedd yn gyfrifol am addasu’r Amrywiadau Goldberg, roedd ei gwaith gyda Cimarron yn ymwneud â chyfansoddi ar y pryd neu fyrfyfyrio, ac yn 2011 fe ryddhaodd Annwn, sef ei threfniannau modern a gwreiddiol iawn hi ei hun o alawon gwerin Cymraeg. ‘Dwi wastad ’di bod â diddordeb mewn cyfansoddi,’ meddai, ‘ond roedd y cyfnod sabothol yn esgus da i edrych mewn i’r peth yn fwy manwl, achos mae’n anodd os wyt ti’n perfformio drwy’r amser.’

Dangosodd Annwn ddiddordeb mawr Catrin mewn ailddehongli chwedlau’r Mabinogi, ond y bwriad gyda’r gwaith nesaf yw datblygu’r syniadau ymhellach. Nid gweithio gyda threfniannau o hen alawon fydd hi y tro hwn, ond cyfansoddi cerddoriaeth wreiddiol. Ac yn Stiwdio Acapela, lle mae ei gwr Hywel Wigley yn gweithio, mae Catrin wedi bod yn arbrofi gydag elfennau amlgyfrwng: ‘Dim ond megis dechrau y mae’r prosiect ar hyn o bryd, ond fe fydd y sioe derfynol yn cynnwys llawer o wrando, llawer o weld, a llawer o deimlo. Mae ’na griw ohonon ni’n gweithio ar y syniadau hyn – rhai sy’n brofiadol iawn gydag elfennau rhyngweithiol, rheoli’r sain mewn gofod penodol a gweithio gyda surround sound.’

Mae’r cyfan yn swnio ymhell i ffwrdd oddi wrth Bach a’r traddodiad clasurol, ond nid oes bwriad gan Catrin Finch i gefnu ar y gerddoriaeth sydd wedi ei diffinio fel cerddor. Yn wir, mae’r cyfnod o arbrofi wedi dod â hi’n ôl at ei gwreiddiau. ‘Ges i fy magu yn swn cerddoriaeth glasurol ac rwy’n ymwybodol o’r ffaith ’mod i, wrth wneud rhywbeth tu allan i’r bocs clasurol, angen gwneud rhywbeth tu fewn iddo hefyd. Maen nhw’n ddau drac gwahanol ac rwy’n ceisio cadw’r ddau i fynd.’

Ac efallai fod y seibiant rhag y teithio di-baid wedi agor ei chlustiau unwaith eto i rinweddau’r gerddoriaeth yma. ‘Dwi ’di bod yn gwrando llawer mwy ar gerddoriaeth glasurol yn ddiweddar a dweud y gwir. Mae ’na lawer o bethau ynglyn â’r byd pop sy’n mynd dan fy nghroen i – yr holl heip sy’n perthyn i X-Factor a rhaglenni tebyg – mae’r ffocws o hyd ar bethau tu allan i’r gerddoriaeth a’r math o fyd mae’n ei greu.’ Ond onid yw dulliau marchnata’r byd clasurol yn ymdebygu fwyfwy i’r X-Factor erbyn hyn? ‘Wel, ydi. Weithiau dwi’n teimlo fy mod yn ymladd yn ei erbyn o, ond ar yr un pryd dydi rhywun ddim yn gallu gwneud hynny. Mae’n ddeuoliaeth anodd. Efallai mai’r tensiwn yna sy’n fy nhynnu ’nôl at y byd clasurol yn y diwedd…’

Fe fydd Catrin Finch yn perfformio yn Y Drwm yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (www.llgc.org.uk/drwm) ar 24 Chwefror fel rhan o’r gynhadledd ‘Mapio Cerddoriaeth Cymru’ sy’n cael ei threfnu ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (manylion ar www.bangor.ac.uk/cydymaith).


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Clychau Priodas

Ymlaen >

Cwrs y Byd: Tynged yr iaith