Thema dywyll Thema golau

Y Cymun a’r Castell Bownsio

Pan fydd y plant yn wyth neu naw oed, caniateir iddyn nhw dderbyn y Cymun Cyntaf. Maen nhw’n treulio dipyn go lew o’u hamser mewn dosbarthiadau yn ystod y flwyddyn flaenorol yn paratoi ar gyfer yr achlysur. Dysgir gweddïau a chaneuon arbennig iddyn nhw a chynhelir ymarferion ar gyfer y seremoni ei hun. Ychydig wythnosau ymlaen llaw mae’r plant yn gwneud eu cyffes gyntaf. Pendronir yn hir pa un o’u lliaws ‘bechodau’ wyth mlwydd y dylen nhw gyffesu iddo. Ymhlith Top 10 pechodau’r plant mae ‘anghofio helpu Mam’, ‘wedi dweud anwiredd’ a ‘wedi bod yn gas wrth fy mrawd / chwaer’.

Ar y Diwrnod Mawr, gwisgir y plant yn ofalus: y bechgyn mewn trowsusau a chrysau smart a’r genethod mewn ffrogiau gwynion – a gorau po fwyaf o ffrils a rhubanau a gaiff eu harddangos. Mae’r eglwys yn llawn dop o rieni, neiniau a theidiau ac ati – hwythau yn eu dillad gorau hefyd. Yr elfen bwysicaf i’r plant (er mawr ofid i’r offeiriaid) yw’r arian a roddir i’r plant gan berthnasau, ffrindiau i’r teulu, a chymdogion. Mae’n gwbl dderbyniol, yn ofynnol hyd yn oed, i’r plant alw yn nhai cymdogion i hel pres. Wedyn, wrth gwrs, maen nhw’n cymharu’r hyn a gesglid gyda’u ffrindiau. Mae plant sydd â theuluoedd mawr yn casglu cannoedd o ewros.

Ar ôl y seremoni, cynhelir parti ar gyfer y teulu – adre yn yr ardd efo’r castell bownsio os yw’r tywydd yn braf. Neu mae pawb yn mynd allan am bryd o fwyd.

Efallai bod llai a llai o bobl yn mynychu’r offeren – mae’n sicr bod yr Eglwys fel sefydliad wedi cael ei niweidio gan y sgandalau cam-drin plant – ond mae gafael ei thraddodiad a’i defodaeth ar y gymdeithas yn dal yn gryf.

Yn ôl Cyfrifiad 2011 roedd 84% o’r boblogaeth, sef 3.86 miliwn, yn eu disgrifio eu hunain fel pabyddion. Roedd hyn yn gwymp o bron i 3% ers y Cyfrifiad blaenorol ond gwelir yn glir fod mwyafrif helaeth o’r bobl yn dal i’w hystyried eu hunain yn babyddion, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n mynd i’r eglwys yn selog. Dim ond 35% o’r boblogaeth sy’n mynychu gwasanaeth yn wythnosol. (Gyda llaw, roedd nifer y Methodistiaid yn y Weriniaeth wedi haneru, bron – o 12,160 yn 2006 i 6,842 yn 2011.)

Dichon y byddai’n gywirach i ddisgrifio Iwerddon erbyn hyn fel gwlad sy’n ddiwylliannol babyddol yn hytrach na gwlad sy’n llawn o ffyddloniaid selog. Dangos mae pob arolwg fod y Gwyddelod yn ymbellhau oddi wrth yr Eglwys.

Dengys arolwg gan Gymdeithas yr Offeiriaid Pabyddol, yr ACP, fod 75 % o’r bobl sy’n eu hystyried eu hunain yn babyddion yn credu nad yw dysgeidiaeth yr Eglwys ar rywioldeb yn berthnasol iddyn nhw o gwbl. Mae 87% yn credu y dylid caniatáu i offeiriaid briodi, a 77% yn credu y dylid caniatáu i ferched fod yn offeiriaid. Mae 61% yn anghytuno gyda safiad yr Eglwys ar bobl hoyw.

Mae’r Eglwys yn Rhufain wedi cosbi offeiriad am feiddio ysgrifennu erthyglau yn sôn am yr angen i drafod materion fel ordeinio merched, offeiriaid priod a chyffelyb bynciau o bwys. Mae un ysgrifennwr, y Tad Tony Flannery, wedi cael ei anfon i fynachlog am gyfnod i weddïo – ac i ‘ystyried ei sefyllfa’. Ac mae’r offeiriad sy’n olygydd ar y cylchgrawn a gyhoeddodd erthyglau’r Tad Flannery wedi cael gorchymyn i beidio â chyhoeddi dim byd o’r fath byth eto. Mae’r ACP, sy’n cynrychioli 800 o offeiriaid, wedi cefnogi’r Tad Flannery gan ddweud bod agwedd Rhufain yn mynd i ledaenu’r bwlch rhwng yr eglwys a’r bobl.

Mae yna newidiadau ar droed ym myd addysg hefyd. Yn hanesyddol yn Iwerddon, yr Eglwys Babyddol, nid y wladwriaeth, sydd wedi bod yn gyfrifol am addysg. Mae’r rhan fwyaf o ysgolion cynradd yn dal dan ofal yr Eglwys. Hynny yw, yr Adran Addysg sy’n gyfrifol am dalu cyflogau’r athrawon ac am ariannu’r ysgolion, ond mae 3,000 allan o’r cyfanswm o 3,200 o ysgolion cynradd dan ‘nawdd’ esgobion lleol. Nhw yw cadeiryddion y byrddau sy’n gyfrifol am benodi athrawon, ac am reolaeth yr ysgolion. Golyga hynny y gall y byrddau ofyn i ddarpar-athrawon a ydyn nhw’n babyddion. Mae rhai athrawon hoyw yn teimlo bod rhaid iddyn nhw guddio eu rhywioldeb os am gadw eu swyddi. Dan reolau’r ysgolion, rhaid hybu ethos Cristnogol. Ac mae gan yr ysgolion yr hawl i wrthod plant ar sail crefydd.

O’r 200 o ysgolion cynradd sy’n weddill, mae rhai yn perthyn i’r Eglwys Brotestannaidd a rhai yn ysgolion drwy gyfrwng y Wyddeleg – y Gaelscoileanna – sydd dan nawdd eu corff arbennig eu hunain (er bod y rhan fwyaf yn glynu at ethos pabyddol). Mae tua 60 o’r ysgolion cynradd yn ddi-enwad. Maen nhw’n perthyn i fudiad o’r enw Educate Together, ac ynddyn nhw mae’r plant yn dysgu dipyn am brif grefyddau’r byd.

Yn ôl arolwg yn 2007 gan yr Eglwys ei hun, dim ond 50% o rieni oedd eisiau anfon eu plant i ysgolion enwadol. Ac yn ôl pôl piniwn diweddar yn yr Irish Times roedd 61% o rieni’n dymuno gweld y wladwriaeth yn gyfrifol am ysgolion. Ruari Quinn, y Gweinidog Addysg presennol, yw’r Gweinidog cyntaf yn y swydd i fynd ati i newid y drefn. Fe ddywedodd y llynedd ei fod yn rhagweld hanner yr ysgolion cynradd yn eithrio o nawdd yr Eglwys. Cafwyd ymateb digon pigog i hyn gan yr Eglwys – er i Archesgob Dulyn, Diarmuid Martin, nodi bod 90% o ysgolion y brifddinas dan ei nawdd, er mai dim ond 50% o’r rhieni oedd eisiau addysg babyddol i’w plant.

Mae Ruari Quinn newydd gyhoeddi adroddiad gan gr?p a benodwyd i ystyried y mater. Argymhelliad yr adroddiad yw y dylid edrych yn ofalus ar 250 o ysgolion o gwmpas y wlad lle mae galw am newid, a chychwyn drwy dynnu 50 ohonyn nhw oddi tan nawdd yr Eglwys.

Ar hyn o bryd does gan bobl – boed babyddion neu beidio, neu babyddion mewn enw yn unig – ddim dewis ar y cyfan ond anfon eu plant i ysgol babyddol. Mewn theori, gall plant gael eu hesgusodi pan fo gweddill y dosbarth yn paratoi ar gyfer y Cymun Cyntaf, ond weithiau nid yw hynny’n ymarferol bosib. Prun bynnag, nid yw rhieni eisiau i’w plant deimlo’n wahanol. Ac nid yw’r plant eisiau cael eu hamddifadu o sbloet – ac arian – y Cymun Cyntaf.

O bosib, wrth i’r Eglwys gilio o’r ysgolion, bydd llai o bwyslais ar y Cymun Cyntaf. Ond bydd pwysau’r traddodiad diwylliannol yn parhau. Yn y cyfamser, mi fyddwn ni, fel teuluoedd di-ri drwy Iwerddon benbaladr, yn mynd ati i fwcio’r castell bownsio pan ddaw diwedd mis Mai.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Ar Ddu a Gwyn

Ymlaen >

Cwrs y byd - Rhoi TAW ar Dy Dduw