Thema dywyll Thema golau

Cwrs y byd – Rhoi TAW ar Dy Dduw

Yn lle canolbwyntio ar yr hyn a wna llywodraeth San Steffan, gwell fyddai iddo roi sylw i’r hyn nad yw llywodraeth Cymru yn ei wneud. Testun gofid a phryder dwfn i lawer iawn ohonom yw amharodrwydd Prif Weinidog Cymru i wneud unrhyw beth o bwys, boed dda neu ddrwg neu weddol. Roeddwn i’n meddwl, Carwyn, mai dim ond y math mwyaf ffwndamentalaidd a chibddall o Nashi oedd yn beio’r Saeson am ein holl broblemau. Byddai’n rheitiach o lawer iddo roi cynnig ar esbonio – er mor anodd yw’r dasg honno – pam y byddai’r Gymru ddatganoledig ar ei hennill o gael ei rheoli gan gynghorau Llafur.

Cofiwch, nid Carwyn Jones yw’r unig un sy’n credu bod y gyllideb a luniwyd yn San Steffan, gan gabinet o filiwnyddion, yn warthus a chywilyddus mewn sawl dull a modd. Ac yn wleidyddol anghelfydd hefyd. Pa ffwlcyn benderfynodd mai da o beth fyddai dwyn oddi ar bensiynwyr drwy gyflwyno’r hyn a ddisgrifiai’r wasg Dorïaidd, hyd yn oed, fel Treth Nain? Nid yn unig hynny ond, ar yr un gwynt, rhoddwyd gostyngiad treth i bawb sy’n ennill £3,000 yr wythnos a rhagor. Fersiwn wyrdröedig gythreulig o chwedl Robin Hood yw ysbeilio’r tlawd i gyfoethogi’r cyfoethog. Ond efallai mai dyna fel y’i hadroddir yn yr ysgolion preswyl lle cafodd y giwed eu haddysg.

Parhau i godi yn unol â chwyddiant fydd y dreth ar betrol a diesel. Golyga hynny y bydd y llywodraeth yn elwa – a’r werin yn cael ei chosbi – bob tro y bydd cynnydd ym mhris olew. Afraid dweud mai treth hollol anghyfartal yw hon. Y gwladwr nid y dinesydd sy’n gwbl ddibynnol ar gar, i gael at ei waith ac i gymdeithasu.

Mae’n debyg mai er mwyn ceisio ein darbwyllo bod y llywodraeth yn brathu pawb yn ddiwahân y cyfyngwyd ar yr arian y gall cyfoethogion ei gyfrannu’n ddi-dreth i elusennau, gan gynnwys ysbytai a phrifysgolion. Drwy arbed talu treth, mae llawer o’r cymwynaswyr hyn hefyd wedi arbed miliynau o bunnau o wariant cyhoeddus. Eisoes o’r tu mewn i’r blaid Geidwadol ei hun clywyd rhybuddion mai cam gwag fydd hwn.

Bellach bydd Treth Ar Werth yn cael ei chodi ar y gwaith adfer ac atgyweirio y mae eglwys neu gadeirlan yn gorfod ei wneud yn rheolaidd. Roedd adeg pan fyddai Eglwys Loegr a’r blaid Geidwadol yn anwahanadwy. Ond, eglwyswyr, cadwch un llygad ar agor, hyd yn oed wrth weddïo, os gwelwch chi George Osborne yn archwilio eich dry rot. A fydd datgysylltiad 1920 o ddim cymorth i’r Eglwys yng Nghymru chwaith. Mae’r Archesgob Barry Morgan yn ofni y bydd TAW ar drwsio Ty Dduw yn faich ychwanegol o £800,000 y flwyddyn ar yr esgobaethau Cymreig.

Ychwaneger at hynny ddyhead llywodraeth San Steffan i gyflwyno tâl rhanbarthol yn y sector cyhoeddus. Ddylai neb synnu mai syniad y Ceidwadwyr o ailddosbarthu cyfoeth yw talu llai o gyflog i athro yng nghefn gwlad Cymru nag mae athro yn ei dderbyn am wneud yr un gwaith mewn dinas fawr. Roedd rhai yn grediniol pan oedd John Redwood yn Ysgrifennydd Cymru ers talwm ei fod o’n hanu o’r blaned Fwlcan. O ble y daeth y rhain tybed?


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Y Cymun a'r Castell Bownsio

Ymlaen >

Carwyn: Darlunio Dyfodol Cymru a Phrydain