Thema dywyll Thema golau

Cwrs y Byd – Kitchener a Brynsiencyn

Mae gan y Torïaid yr enw o ymdrybaeddu yng ngorchestion milwrol Prydain Fawr. Maen nhw hefyd, fel Llafur a’r pleidiau unoliaethol eraill, yn barod i’n tlodi drwy ddal i wario biliynau ar arfau. Glynant wrth y gred bathetig mai mawr o hyd yw Prydain a bod Britannia yn dal i fod yn feistres y tonnau. Ond chwarae teg i David Cameron, doedd dim arlliw o jingoistiaeth hyll ei ragflaenwyr yn y datganiadau a wnaeth ef yng nghyswllt canmlwyddiant 1914.

Ar y cofio y bu ei bwyslais. Ac nid sôn oedd o am un sbloet anferthol ger y Senotaff yng nghanol Llundain yn Nhachwedd. (Er, diau, y bydd mwy hyd yn oed nag arfer o bomp a rhwysg milwrol yn gysylltiedig eleni â Sul y Cofio.) Yn ddoeth iawn, canolbwyntio wnaeth Cameron ar annog cymunedau drwy’r Deyrnas i fynd ati yn eu bröydd eu hunain, ac yn eu ffyrdd eu hunain, i gofio’r rhyfel. Tebyg oedd ei gywair i’r un a drawodd R. Williams Parry wrth eiriol arnom oll ‘… i ddwys goffáu/ Y rhwyg o golli’r hogiau’. Roedd Cameron fel petai’n awyddus i osgoi unrhyw arlliw o imperialaeth Rupert Brooke a’i ‘… there’s some corner of a foreign field/ that is forever England’. (Wedi’r cyfan mae eleni’n flwyddyn y Refferendwm Annibyniaeth yn yr Alban a gwyr Cameron yn dda nad doeth fyddai arddel Sassenachiaeth Brooke.)

Ysywaeth, mae’r Bathdy Brenhinol yn Llantrisant wedi difetha’r consensws a fodolai o blaid cofio’r Rhyfel Mawr. Cam gwag dwl a diangen, a gweithred hollol ansensitif, oedd bathu darn arian wedi ei seilio ar y poster drwg-enwog o’r Arglwydd Kitchener yn pwyntio ei fys ac yn cyfarth, ‘Your country needs YOU’. Wrth i mi sgwennu’r geiriau hyn mae miloedd o bobol wedi arwyddo deisebau ar-lein yn galw ar y Bathdy i roi’r gorau i gynhyrchu’r darn £2 ohono. A chalondid neilltuol yw gweld Cymry megis cyn Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Dr Dai Lloyd, yn dweud yn blwmp ac yn blaen nad milwr anrhydeddus ond dyn efo gwaed ar ei ddwylo oedd Kitchener, wrth ryfela yn y Swdan a De Affrica. Mewn adroddiad yn 1902 disgrifiodd J.C. Smith, a ddaeth wedyn yn Brif Weinidog De Affrica, ymddygiad Kitchener yn Rhyfel y Böer fel ‘unbelievable barbarism and gruesomenesses’.

A dyma’r bwtsiar a oedd yn hel hogiau Prydain i ffosydd Ffrainc! Ond ni fu mor llwyddiannus ym mhobman. Fel y soniais o’r blaen yn y golofn hon, ar ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, araf oedd gweision ffermydd Môn a chwarelwyr Arfon a Meirionnydd i listio. Perswadiwyd Kitchener gan Lloyd George i ddyrchafu’r Parch. John Williams, Brynsiencyn, yn Gyrnol yn y Fyddin Brydeinig gyda’r cyfrifoldeb o recriwtio, yn ei wisg filwrol a’i goler gron, ymhlith gwerin gapelyddol uniaith Gymraeg Môn a’r glannau. Camddefnyddiodd hwnnw ei ddylanwad aruthrol fel gweinidog yr efengyl i berswadio’r bechgyn bod Duw ei hun o blaid y rhyfel.

Y tebygolrwydd ydi bod Brynsiencyn, a gweinidogion dylanwadol eraill megis Thomas Charles Williams a J.T. Job – hyrwyddwyr pennaf Diwygiad 1904–05 – wedi anfon mwy o fechgyn Môn a Gwynedd i uffern y Rhyfel Mawr nag a wnaeth Kitchener.

Ond dyw hynny’n ddim esgus dros y £2 fudr sy’n dwyn delw hwnnw.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Y Brymis a’r Cofis

Ymlaen >

Materion y Mis - Bwyell Williams yn Sbaddu Llywodraeth Leol