Felly dyma ista i lawr efo ’ngwynab dydd Sul gorau, yn llwyr ddisgwyl cael fy nghythruddo. Wrth i’r golofn yma fynd i’r wasg, mae tair o’r pum rhaglen wedi cael eu darlledu, ac rydw i wedi gweld dwy ohonyn nhw.
Oes, mae yna ganiau cwrw yn cael eu hyfed cyn brecwast, cyffuriau yn cael eu defnyddio, strydoedd llawn sbwriel, soffas mewn gerddi, lot o regi, tipyn o weiddi a phlant yn crwydro.
Ond mae yma hefyd gymuned o bobol sydd yn nabod ei gilydd. Mae pobol yn rhannu bwyd efo’u cymdogion, a phlant yn gallu chwarae allan ar eu beics. Mae ’na gynhesrwydd a thynerwch yn gymysg â’r caledi a’r caniau cwrw.
Bu rhai o drigolion yr ardal yn cwestiynu’r ffeithiau a roddwyd am James Turner Street yn Birmingham lle gwnaethpwyd y rhaglenni, a nifer yn dweud mai dim ond cyfran fechan o breswylwyr y stryd sydd wedi cael eu dangos. Bid a fo am hynny, ond os mai’r brif gwyn yw bod y gyfres yn pardduo pobol ar fudd-daliadau, welais i mo hynny yn y rhaglenni.
Mi welais i fam sengl yn poeni am brynu dwy wisg ysgol newydd ar ôl i elfen o’i budd-dal gael ei rewi yn annisgwyl; welais i ddyn yn cychwyn busnes sgrap a dyn arall yn trio ennill cyflog mewn swydd comisiwn-yn-unig. Welais i ferch yn swnian i gael gweld ei phlant ar ôl hanes hir o gymryd cyffuriau, ac yn trio anwybyddu’r pedlerwyr a oedd yn ei gwitshad hi ar ddiwrnod dôl. Welais i 14 o bobol o Rwmania yn gweithio oriau gwallgo ac yn cael eu conio gan ddyn dienw a diwyneb mewn fan. Welais i gwpwl yn mynychu cwrs rhianta er mwyn cael gwell trefn ar eu dau blentyn bach, ac mi wnes i wrando’n astud ar y tad ifanc yn disgrifio’i gariad at fam ei blant fel blodyn sydd wedi colli hanner ei betalau, ond a allai dyfu’n ôl yn gryfach gydag ychydig o help.
Ychydig o flynyddoedd yn ôl mi fues i’n gweithio ar gyfres fer i S4C o’r enw Cegin Cofi, a oedd yn dogfennu menter gymunedol ar stad Sgubor Goch, Caernarfon. Fues i’n ffilmio hanner dwsin o deuluoedd ar y stad dros gyfnod o amser. Cafwyd ymateb da i’r gyfres, ond roedd ’na rai bryd hynny yn anhapus efo’r cynnwys, ac yn teimlo ei fod o’n ‘dangos Caernarfon mewn gola gwael’. Eto, doeddwn i ddim yn deall pam, achos be welais i oedd criw o bobol ifanc mewn amgylchiadau go anodd yn trio gwneud bywyd gwell iddyn nhw eu hunain ac i weddill pobol y stad. Mae gan bawb stori, a dyna oedd eu stori nhw.
Eleni, mi ges i’r anrheg ’Dolig ora eto. Mewn ysgol gynradd yn ardal Caernarfon roedd ’na griw o blant bach yn llwyfannu cyngerdd Nadolig. Dim byd newydd yn hynny, meddech chi. Ond mi glywish i drwy’r jyngl dryms mai pedwar o brif gymeriadau’r sioe oedd hogia Cegin Cofi, a’r actorion bach wedi eu gwisgo mewn hwdis ac yn sgwario cerddad am y gorau. Y stori oedd bod yr Angel Gabriel wedi dod i’r ddaear ac wedi landio yng Nghaernarfon. Wrth chwilio am noddfa ac enllyn fe ddaeth o ar draws y Cofis, a chanfod eu bod nhw’n groesawus a chyfeillgar, er gwaetha’u golwg galed, a bod rhaid peidio barnu neb ar yr olwg gyntaf...
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
