Codi Cenedl: Creu Cyfansoddiad
Mae’r awdur yn croesawu’r adroddiad sy’n galw am gynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad o 60 i 100. Ond mae angen gwneud mwy na hynny i ddod â gwir ddemocratiaeth ac atebolrwydd i Gymru. Mae’n debyg ein bod ni’r Cymry ar un adeg yn giamstars am ysgrifennu cyfansoddiadau. Dwn i ddim a yw haneswyr cyfoes yn cytuno, ond yr honiad oedd bod canran uchel o’r rheini a fu wrth y gwaith o ysgrifennu cyfansoddiad Unol Daleithiau America – traean a mwy ohonynt – yn hanu o gefndir Cymreig. A beth bynnag ei thrafferthion presennol yn sgil agweddau gwrthnysig y Tea Party bondigrybwyll, go brin y byddai unrhyw un yn amau na phrofodd y cyfansoddiad hwnnw’n gampwaith o’i fath.
31 Hydref 2013
Wrth Gamu o’r Gadair
Y mis diwethaf daeth tymor IOAN WILLIAMS fel cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Theatr Genedlaethol Cymru i ben. Beth yw ei deimladau am y cwmni a’i gyflawniadau wrth roi’r gorau iddi? Mae’n ddiwrnod braf o Hydref ac mae Ceredigion ar ei gorau. Mae ystafell fyw Y Gwyndy, cartref yr Athro Ioan Williams ar gyrion pentref Lledrod, yn cynnig golygfa braf o goed a gwyrddni cyffredinol. Un o Lynebwy yw Ioan ond treuliodd gyfnod yn darlithio yn Lloegr, ym Mhrifysgol Warwick, a phan ddychwelodd i Gymru ar ddiwedd y 1970au, ar ôl ei benodi i staff yr Adran Ddrama yn Aberystwyth, ymsefydlodd yn Lledrod ac yno y magodd ef a’i wraig eu pum plentyn. Mae’n amlwg wrth ei fodd yn ei gynefin mabwysiedig ac wedi chwarae’i ran ar hyd y blynyddoedd ym mywyd y gymuned leol. Mae’n un o gyfarwyddwyr menter gymunedol sy’n rhedeg tafarn a thy bwyta rhedeg Tafarn y Bont, Bronnant, sydd hefyd yn dy bwyta, ac yn dweud bod pethau’n mynd yn dda yno. Ar fin cyrraedd y noson honno, meddai, mae criw o fechgyn ar ‘stag night’ o Fryste, o bob man. Mae’n prysuro i ddweud mai pobl leol yw mynychwyr selocaf y lle, er bod croeso i bawb waeth o ble maen nhw’n dod.
31 Hydref 2013
ganMenna Baines
Y Gwir Feirniaid
Trafodaeth yn y cyfryngau ar feirniadu eisteddfodol sydd wedi sbarduno sylwadau ein colofnydd y mis hwn.Pwysicach yw’r chwilotwr Nag awdur llyfr o gân, A phwysicach ydyw’r beirniad Na’r cystadleuwyr mân, Onid yw ei ddysg a’i ddawn Yn hawlio dwfn logelli llawn?
31 Hydref 2013
Y Priordy Melltigedig
Mae Iwerddon yn dal i dalu’r pris – yn llythrennol a ffigurol – am y cyfnod anhygoel hwnnw ar ddechrau’r ganrif hon pan ymgyfoethogodd y wlad yn aruthrol dros nos, bron. Fel pob seren wib, digwydd a darfod fu hanes y golud. Ond mae’r galar yn aros.Bloc o fflatiau ar gyrion Dulyn yw Priory Hall. Daeth yn symbol o bopeth a aeth o’i le yn ystod blynyddoedd y Teigr Celtaidd yn Iwerddon. Datblygu gwallgof ac ansafonol, rheolau cynllunio gwan, a morgeisi anferthol. Datblygwyr barus ac esgeulus, a phobol gyffredin yn benthyca arian mawr i fyw mewn bocsys bach anaddas – ac yna, yn methu talu.Ond yn achos Priory Hall, roedd pethau’n waeth na hynny hyd yn oed. Fe arweiniodd yr esgeulustod a’r torcyfraith at ddioddefaint enbyd, ac yn y pen draw, at drasiedi.
31 Hydref 2013
Materion y Mis – Y Gymraeg, Cynllunio a NCT 20
Pan ddaeth Cyngor Gwynedd ar ei newydd wedd i fod yn 1996, un o’r bwganod oedd yn llercian yn yr atig oedd caniatâd cynllunio i filoedd o dai ym Morfa Bychan; caniatâd oedd hwn a roddwyd gan hen Gyngor Sir Gaernarfon. Chwarae teg i Gyngor Dwyfor, gynt, am geisio rhoi pob rhwystr yn ffordd y datblygwyr ond roedd y caniatâd yn dal yn fyw. O’r diwedd, ar ôl cryn ddadlau a chyfreitha, cafwyd cytundeb a chyfaddawd. Ond roedd yn enghraifft lachar o fethiant y broses gynllunio i ystyried lles y Gymraeg.
31 Hydref 2013