Ceir enghraifft arall, lai adnabyddus o alluoedd y Cymry fel penseiri cyfansoddiadol yn y ddogfen honno a luniwyd, yn ôl y chwedl, ar fwrdd y Mimosa er mwyn gosod sylfeini sefydliadol y diriogaeth yr oedd y teithwyr ar fin ceisio ei gwladychu. Ni welais eto astudiaeth ysgolheigaidd fanwl o Gyfansoddiad y Wladfa, ond yn ddi-os mae’n ei haeddu. Yn syniadaethol ymddengys i mi fel cyfuniad diddorol o syniadau Americanaidd – mae egwyddor gwahanu grym fel petai’n amlwg iawn – a syniadau’r Siartwyr yn ôl yng Nghymru. Ac unwaith eto, dyma ddogfen sy’n syfrdanol o flaengar yn ei chyfnod. Noder, er enghraifft, y modd yr estynnai’r etholfraint i ferched ar sail gyfartal â dynion, a hynny ddegawdau lawer cyn i syniad mor herfeiddiol gael ei dderbyn yn y famwlad.
Ond er mor braf fyddai gallu rhamantu ynglyn â bodolaeth rhyw gynneddf sy’n ein gwneud yn feddylwyr cyfansoddiadol naturiol-dreiddgar, y ffaith amdani yw bod ein record yn y Gymru ddatganoledig yn rhoi’r farwol i unrhyw duedd tuag at frolio hunandybus. O ystyried mewn gwaed oer hanes yr un flynedd ar bymtheg ers refferendwm 1997, rhaid casglu fod yr ymdrech i lunio trefn gyfansoddiadol sefydlog ac effeithiol i Gymru wedi profi’n fethiant llwyr. Tra bod y cyhoedd wedi ‘gwneud eu gwaith’, fel petai, trwy goleddu gyda chryn frwdfrydedd egwyddor datganoli, methiant fu pob ymdrech hyd yma gan benseiri cyfansoddiadol Cymru i sicrhau ‘setliad’ cyfansoddiadol sy’n haeddu’r enw ar eu cyfer.
Nid wyf am lethu darllenwyr Barn trwy ailadrodd yr holl stori. Bydd y rheini a fu’n darllen y golofn hon ers ei dechrau yn ôl yng ngwanwyn 1997 yn hen gyfarwydd â’r hanes. Ond, mewn ychydig o frawddegau... Bu’n rhaid diwygio’n sylfaenol y cynllun a osodwyd gerbron etholwyr Cymru yn refferendwm 1997 wrth i’r cynllun hwnnw gael ei droi’n Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. Yna, lai na blwyddyn wedi agor drysau’r Cynulliad Cenedlaethol, cafwyd argyfwng gwleidyddol a oedd hefyd yn argyfwng cyfansoddiadol wrth i Alun Michael orfod hel ei bac yn ôl i San Steffan. Yn sgil hynny dechreuwyd proses o geisio llunio gwahaniaeth ystyrlon rhwng y Llywodraeth a’r Cynulliad (a hynny er gwaetha’r ffaith fod Deddf 1998 yn mynnu eu bod yn un ‘corff corfforaethol’... cybolfa os bu un erioed). Wedi cyhoeddi Adroddiad Richard yn 2004, cafwyd Deddf Llywodraeth Cymru gwbl newydd yn 2006. Fe greodd honno – yn groes i argymhellion Richard – gyfundrefn ddeddfu arbrofol a brofodd yn fethiant alaethus. Nid oes ond rhaid yngan y gair ‘LCO’ i ddwyn i gof hurtni’r cyfnod hwnnw. Yna, yn sgil refferendwm arall yn 2011, cyflwynwyd cyfundrefn ddeddfu newydd (a oes raid dweud bod y ffurf honno eto’n groes i argymhellion Richard?). Dyma gyfundrefn sydd eto’n un arbrofol, a’r tro hwn yn gyfundrefn a wrthodwyd yn benodol ar gyfer yr Alban yn ôl yn 1998 am nad oedd yn debygol o brofi’n ddigon eglur a sefydlog. A dew! dyna i chi syndod, o’i rhoi ar waith yng Nghymru ceir eisoes hen ddigon o dystiolaeth i gadarnhau bod yr Albanwyr yn llygad eu lle. Ar ôl cwta ddwy flynedd o’i gweithredu, ceir bellach gonsensws yng Nghymru (gydag eithriad ein Hysgrifennydd Gwladol) fod yn rhaid ’madael â’r drefn ddiweddaraf a gosod model cyfansoddiadol newydd yn ei lle.
Llinell orau ymgyrch refferendwm 1997 oedd honno gan Tim Williams, un o hoelion wyth yr Ymgyrch Na, i’r perwyl y byddai’r Gymru ddatganoledig fel ‘banana republic without the bananas’. Hyd yn oed os na fyddwn yn cytuno â Williams ar lawer o bethau, pan ddaw’n fater o geisio llunio cyfansoddiad, mae ei ergyd yn cyrraedd y marc. Mewn gair, mae’r record yn un drychinebus.
Nid yr holl ansefydlogrwydd yw elfen waethaf y stori chwaith. Oblegid mae’n rhaid ystyried beth fu canlyniad y baglu cyfansoddiadol cyson yma ar y math o gyfundrefn wleidyddol a geir bellach yng Nghymru; yr effaith ar ansawdd democratiaeth Gymreig.
Y ffaith amdani yw fod gennym bellach yng Nghymru lywodraeth gref. Llywodraeth sy’n meddu ar rymoedd gweithredol helaeth ac adnoddau dynol ac ariannol sylweddol iawn. Mewn cyferbyniad mae gennym senedd – Cynulliad Cenedlaethol Cymru – sydd yn wantan dros ben. Senedd sy’n ei chael hi’n anodd iawn i ddal Llywodraeth Cymru’n atebol mewn modd effeithiol.
Mae’r ffaith fod y Cynulliad mor fach yn rhan o’r broblem. Mewn democratiaeth iach byddai Gweinidogion a gweision sifil yn teimlo frisson o nerfusrwydd wrth dderbyn gwys i ymddangos gerbron y ddeddfwrfa. Ond gyda dim ond 42 o aelodau mainc gefn i wasanaethu ar holl bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol, nid oes obaith gan Aelodau’r Cynulliad i ddatblygu’r math o wybodaeth arbenigol sy’n angenrheidiol os am sicrhau fod tystion yn chwysu wrth ddod ger eu bron. Mae bywyd y llywodraeth lawer iawn yn rhy esmwyth. Ac nid oes unrhyw un yn elwa ar hynny – gan gynnwys, yn y pen draw, y llywodraeth ei hun.
Dyma paham y cyhoeddwyd adroddiad newydd sy’n galw am 100 o Aelodau Cynulliad yn hytrach na’r 60 presennol.** Byddai 100 Aelod yn golygu bod y Cynulliad Cenedlaethol yn parhau’n llai na Chynulliad Gogledd Iwerddon (108) a Senedd yr Alban (129), ond fe fyddai, serch hynny, yn chwyldroi’r cydbwysedd grym rhwng ein sefydliadau democrataidd.
O gofio fod gennym yng Nghymru fwy o Aelodau Seneddol y pen nag y gellir ei gyfiawnhau, a llawer iawn gormod o gynghorau a chynghorwyr lleol, siawns nad yw hi’n hwyr glas i ni fynd ati i sicrhau fod gennym fwy o gynrychiolwyr yn y fan lle mae eu hangen fwyaf arnom.
Ond hyd yn oed o wneud hynny, rhan yn unig o’r stori yw cynyddu maint y Cynulliad. Dros gyfnod o ddegawdau mae datganolwyr wedi tueddu i ystyried mai’r unig beth sy’n cyfrif ydi lleoliad grym rhwng Llundain a Chaerdydd. Ac yn araf deg a phob yn dipyn – ydym, rydym ni wedi llwyddo i gipio mwy a mwy o rym o afael San Steffan a Whitehall a’i symud tua’r gorllewin. Ond wrth wneud hynny, rydym wedi bod mwy neu lai yn gwbl ddi-hid o leoliad grym oddi mewn i Gymru. Yn ddiau roedd hyn yn adlewyrchu’r ffaith fod datganolwyr yn teimlo eu bod yn gorfod nofio yn erbyn y llif a bod unrhyw symudiad ‘i’r cyfeiriad cywir’ yn fuddugoliaeth fawr. Yr unig beth a gyfrifai oedd fod Cymru fel endid gwleidyddol cenedlaethol yn symud yn ei blaen.
Erbyn hyn, fodd bynnag, mae angen newid meddylfryd. Hyd yn oed os bydd rhaid parhau i ymladd ambell frwydr, mae’r rhyfel wedi ei ennill a ni ydi’r buddugwyr. Ystyriwch mewn difrif yr ymchwil ddiweddaraf ar gyfer Comisiwn Silk, lle gwelir fod 80% o bobl Cymru bellach yn cefnogi datganoli a dim ond un o bob deg am ddychwelyd i’r sefyllfa a fodolai cyn 1999! Yn wyneb tystiolaeth o’r fath, gellir bod yn gwbl hyderus wrth ddatgan fod yr ymdrech i godi Cymru’n genedl wleidyddol wedi llwyddo. Y cwestiwn sy’n aros yw: sut fath o genedl wleidyddol fydd hi?
Roedd llunwyr cyfansoddiadau’r Unol Daleithiau a’r Wladfa wedi deall bod cyfansoddiadau’n fwy na disgrifiad sych o sefydliadau a llywodraethau a’u cydberthynas. Maent yn ymgorfforiad o werthoedd ac o ddyheadau. Os felly, mae ein cyfansoddiad presennol (Deddf 2006) yn awgrymu ein bod yn fodlon ar sefyllfa lle gall llywodraeth, o’i hethol, lywodraethu heb boeni ryw lawer am farn ein cynrychiolwyr etholedig. Yn wir, mae’n awgrymu ein bod yn bobl nad ydym yn poeni ryw lawer ynglyn ag atebolrwydd nac, yn y pen draw, effeithiolrwydd, ond sydd yn hytrach yn coleddu ansefydlogrwydd parhaol ac arbrofi disynnwyr. Mae gennyf ddigon o ffydd yn fy nghydwladwyr i gredu nad felly y mae pethau mewn gwirionedd. Ond fyddan nhw ddim yn newid nes ein bod yn efelychu gwerthoedd yr hen Gymry hynny a gymerai egwyddorion cyfansoddiadol o ddifrif.
** Mae Maint yn Cyfrif: Gwneud y Cynulliad Cenedlaethol yn fwy effeithiol (ar gael i’w lawrlwytho www.ukchangingunion.org.uk)
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
