Mandela – Yr Hen Wr a Ailadeiladodd Genedl
Ar 5 Rhagfyr, wrth i rifyn Rhagfyr/Ionawr fynd i’r wasg, daeth y newydd am farw Nelson Mandela ac felly cyhoeddir yr erthygl hon ar y wefan yn unig. Hendrik Verwoerd. Gwleidydd. Bu farw yn Ne Affrica, 1966. Ond nid gwers hanes mo hon; gyda marwolaeth un arall o arweinyddion De Affrica, hanes yr oesoedd sydd dan sylw. Does dim angen esbonio pwy oedd Nelson Mandela, ond dyfalwn na fyddai cymaint yn gallu ateb yn syth bin pwy oedd Hendrik Verwoerd. Ond bu’n Brif Weinidog, ef a sefydlodd Weriniaeth De Affrica, a dyma bensaer cyfundrefn wleidyddol newydd ei wlad. Gyda’r byd yn galaru am Mandela, a gwleidyddion – gyda gwahanol raddfeydd o ddidwylledd – yn rhugl eu teyrngedau, mae’n werth oedi am ennyd gydag un a fu’n arwain y wlad dan yr hen drefn.Y drefn honno oedd apartheid – ‘datblygiad ar wahân’. (Nid peth newydd mo ymadroddion neis am bethau hyll, welwch chi.) Verwoerd a’i cynlluniodd, a thra oedd ef mewn grym y gwaharddwyd yr ANC a mudiadau tebyg, ac y cynhaliwyd Prawf Rivonia (1963–4), lle dedfrydwyd Nelson Mandela i garchar.
10 Rhagfyr 2013
ganMeg Elis
Y Pridd a’r Concrid
Canmol carcharorion Cothi – ond ai carchar bellach yw bro mebyd?Mae’r Dyn Mynd a Dwad wedi bod wrth ei fodd yn pendilio rhwng Caerdydd a Niwbwrch ers blynyddoedd lawer. Mater gwahanol iawn, fodd bynnag, yw ystyried gadael concrid y brifddinas yn llwyr a threulio gweddill ei oes yn troedio’r llwybrau priddlyd gynt. Mae hi’n Nadolig unwaith yn rhagor. Ers tro byd addurnwyd ein strydoedd â goleuadau lliwgar ac mae geriach Nadoligaidd yn y siopau ers diwedd yr haf, bron. Ond nid yw’r pethau hyn yn llenwi fy nghalon â llawenydd diderfyn. I’r gwrthwyneb, i mi dyma dymor dechrau gofidiau a phlyciau o iselder. Diolch i’r nefoedd bod Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc eleni, yn wahanol i’r llynedd, wedi fy llonni ynghanol diflastod paratoadau’r Nadolig. Gwelsoch y llun ardderchog a welir yma. Dychwelaf innau at yr hogia yn y man.
10 Rhagfyr 2013
Pan ddaw’n adeg lledu adenydd
Ers dros flwyddyn bellach, rydw i a’m cymar wedi bod yn ymdrechu – yn aflwyddiannus – i gael lle i’n mab Joel am noson neu ddwy yng Ngerddi Glasfryn, uned breswyl Ysgol Plas Brondyffryn lle mae o’n ddisgybl. Nid am ein bod eisiau seibiant oddi wrtho, ond am ein bod yn credu y byddai’n gyfle iddo fod yn fwy annibynnol, a chael cymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau ar-ôl-ysgol efo’i gyfoedion. Byddai hefyd yn hoe iddo o’r daith ddwyawr rhwng Glyn Ceiriog a Dinbych bob dydd. Gan fod gan Gyngor Wrecsam eu Canolfan Seibiant i Blant eu hunain, roedd yn rhaid i ni ymweld â hon yn gyntaf cyn penderfynu a fyddai’n addas i Joel neu beidio. Doedd hi ddim, am sawl rheswm.
10 Rhagfyr 2013
O Ewrop- Siôn Corn Wyn a Phedr Ddu
Ers dau gan mlynedd mae Pedr Ddu wedi bod yn helpu Siôn Corn yn yr Iseldiroedd a Fflandrys i ddosbarthu anrhegion Nadolig.
10 Rhagfyr 2013
Y Mab Afradlon – dychweliad Roy Keane
Yn ystod Cwpan y Byd 2002 a gynhaliwyd yn Japan a Chorea cafodd Keano, capten a chwaraewr gorau Gweriniaeth Iwerddon, ei anfon adre ar ôl iddo golli ei limpyn yn y modd mwyaf arswydus efo’i reolwr ac efo uwch-swyddogion Cymdeithas Bêl-droed ei wlad.Anaml iawn mae penodiad rheolwr cynorthwyol tîm pêl-droed yn haeddu sylw, heb sôn am hawlio’r penawdau newyddion am ddyddiau. Ond dyna ddigwyddodd gyda phenodiad Roy Keane fel rheolwr cynorthwyol Iwerddon.
10 Rhagfyr 2013
Poenau Tyfu
O blith yr holl anrhegion Nadolig dwi wedi’u derbyn erioed, dim ond un sydd wedi gwneud imi grio dagrau o lawenydd, a nofel The Growing Pains of Adrian Mole oedd honno. Ro’n i wedi mwynhau The Secret Diary of Adrian Mole, Aged 13 ¾ i’r fath raddau nes ’mod i’n methu byw yn fy nghroen tan imi gael fy macha ar y gyfrol nesaf. Dyna ydi grym llyfr da, yntê. ‘We read to know that we are not alone,’ chwedl C.S. Lewis. Roedd sawl apêl i’r llyfrau Mole o’m rhan i – yr hiwmor, y gonestrwydd, ac obsesiwn lwyr y dyddiadurwr gyda gwleidyddiaeth yr adain chwith. Ro’n i’n blentyn od, un a dreuliodd lawer o oriau anniddig yn hyfforddi fy stumog i fedru treulio mes, gwair a thatws amrwd, rhag ofn imi ganfod fy hun mewn rhyfel niwcliar heb fwyd call.
10 Rhagfyr 2013
ganBeca Brown
Y Stabl Wag
Ydi Dyn y Llety wedi cael bai ar gam? Oes unrhyw sail ysgrythurol o fath yn y byd i Ddrama’r Geni, un o’n hoff ddefodau Nadoligaidd? Bu Enoch Powell, Saunders Lewis, Y Bardd Cwsg, yr Apostol Paul a chwrw’r Rising Sun yn cynorthwyo’r awdur efo’i ymchwiliadau. Chai byth wybod beth oedd offeiriad Eglwys Gatholig Sant Joseff yn ei feddwl ohonom wrth inni faglu’n chwil ulw allan o’r Rising Sun yn Epsom, Surrey ac i mewn i’w gysegr ar gyfer offeren Noswyl Nadolig 1993. Ni fûm erioed yn Babydd, ond fel miliynau o Brydeinwyr roeddwn i’n ysu am ‘Nadolig go iawn’, am ‘wir ystyr y Nadolig’, a llond pen dryslyd o bethau cyffelyb. Ni wnâi dim y tro ond offeren Rufeinig draddodiadol – gydag allor, arogldarth, clychau a chanhwyllau. Gorau oll pe byddai’n offeren Dridentaidd Ladin. Ond ers Ail Gyngor y Fatican rhaid oedd bodloni ar oedfa yn yr iaith fain. Mae’n siwr bod eglwysi Cymru’n llawn pobl eithaf tebyg i mi bob Nadolig, gan gynnwys llawer sy’n dymuno cael eu crefydd mewn hen iaith sy’n eu cysylltu â gorffennol diflanedig.
10 Rhagfyr 2013
Cwrs y Byd – Pocedi Llawn, Cypyrddau Gweigion
Adroddwyd hyd at syrffed yn ystod y mis a aeth heibio mai Prydain yw’r seithfed wladwriaeth fwyaf cyfoethog yn y byd i gyd. Hawliwyd hynny ar sail canfyddiadau’r Ganolfan Ymchwil Economaidd a Busnes. Mae’r Ganolfan yn cyhoeddi cynghrair flynyddol o’r gwledydd mwyaf goludog. Cesglir y wybodaeth a’i phrosesu gan 750 o gymrodyr ymchwil mewn prifysgolion, yn bennaf, led led Ewrop.
31 Hydref 2013
Codi Cenedl: Creu Cyfansoddiad
Mae’r awdur yn croesawu’r adroddiad sy’n galw am gynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad o 60 i 100. Ond mae angen gwneud mwy na hynny i ddod â gwir ddemocratiaeth ac atebolrwydd i Gymru. Mae’n debyg ein bod ni’r Cymry ar un adeg yn giamstars am ysgrifennu cyfansoddiadau. Dwn i ddim a yw haneswyr cyfoes yn cytuno, ond yr honiad oedd bod canran uchel o’r rheini a fu wrth y gwaith o ysgrifennu cyfansoddiad Unol Daleithiau America – traean a mwy ohonynt – yn hanu o gefndir Cymreig. A beth bynnag ei thrafferthion presennol yn sgil agweddau gwrthnysig y Tea Party bondigrybwyll, go brin y byddai unrhyw un yn amau na phrofodd y cyfansoddiad hwnnw’n gampwaith o’i fath.
31 Hydref 2013
Wrth Gamu o’r Gadair
Y mis diwethaf daeth tymor IOAN WILLIAMS fel cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Theatr Genedlaethol Cymru i ben. Beth yw ei deimladau am y cwmni a’i gyflawniadau wrth roi’r gorau iddi? Mae’n ddiwrnod braf o Hydref ac mae Ceredigion ar ei gorau. Mae ystafell fyw Y Gwyndy, cartref yr Athro Ioan Williams ar gyrion pentref Lledrod, yn cynnig golygfa braf o goed a gwyrddni cyffredinol. Un o Lynebwy yw Ioan ond treuliodd gyfnod yn darlithio yn Lloegr, ym Mhrifysgol Warwick, a phan ddychwelodd i Gymru ar ddiwedd y 1970au, ar ôl ei benodi i staff yr Adran Ddrama yn Aberystwyth, ymsefydlodd yn Lledrod ac yno y magodd ef a’i wraig eu pum plentyn. Mae’n amlwg wrth ei fodd yn ei gynefin mabwysiedig ac wedi chwarae’i ran ar hyd y blynyddoedd ym mywyd y gymuned leol. Mae’n un o gyfarwyddwyr menter gymunedol sy’n rhedeg tafarn a thy bwyta rhedeg Tafarn y Bont, Bronnant, sydd hefyd yn dy bwyta, ac yn dweud bod pethau’n mynd yn dda yno. Ar fin cyrraedd y noson honno, meddai, mae criw o fechgyn ar ‘stag night’ o Fryste, o bob man. Mae’n prysuro i ddweud mai pobl leol yw mynychwyr selocaf y lle, er bod croeso i bawb waeth o ble maen nhw’n dod.
31 Hydref 2013
ganMenna Baines
Y Gwir Feirniaid
Trafodaeth yn y cyfryngau ar feirniadu eisteddfodol sydd wedi sbarduno sylwadau ein colofnydd y mis hwn.Pwysicach yw’r chwilotwr Nag awdur llyfr o gân, A phwysicach ydyw’r beirniad Na’r cystadleuwyr mân, Onid yw ei ddysg a’i ddawn Yn hawlio dwfn logelli llawn?
31 Hydref 2013
Y Priordy Melltigedig
Mae Iwerddon yn dal i dalu’r pris – yn llythrennol a ffigurol – am y cyfnod anhygoel hwnnw ar ddechrau’r ganrif hon pan ymgyfoethogodd y wlad yn aruthrol dros nos, bron. Fel pob seren wib, digwydd a darfod fu hanes y golud. Ond mae’r galar yn aros.Bloc o fflatiau ar gyrion Dulyn yw Priory Hall. Daeth yn symbol o bopeth a aeth o’i le yn ystod blynyddoedd y Teigr Celtaidd yn Iwerddon. Datblygu gwallgof ac ansafonol, rheolau cynllunio gwan, a morgeisi anferthol. Datblygwyr barus ac esgeulus, a phobol gyffredin yn benthyca arian mawr i fyw mewn bocsys bach anaddas – ac yna, yn methu talu.Ond yn achos Priory Hall, roedd pethau’n waeth na hynny hyd yn oed. Fe arweiniodd yr esgeulustod a’r torcyfraith at ddioddefaint enbyd, ac yn y pen draw, at drasiedi.
31 Hydref 2013
Materion y Mis – Y Gymraeg, Cynllunio a NCT 20
Pan ddaeth Cyngor Gwynedd ar ei newydd wedd i fod yn 1996, un o’r bwganod oedd yn llercian yn yr atig oedd caniatâd cynllunio i filoedd o dai ym Morfa Bychan; caniatâd oedd hwn a roddwyd gan hen Gyngor Sir Gaernarfon. Chwarae teg i Gyngor Dwyfor, gynt, am geisio rhoi pob rhwystr yn ffordd y datblygwyr ond roedd y caniatâd yn dal yn fyw. O’r diwedd, ar ôl cryn ddadlau a chyfreitha, cafwyd cytundeb a chyfaddawd. Ond roedd yn enghraifft lachar o fethiant y broses gynllunio i ystyried lles y Gymraeg.
31 Hydref 2013
Perchnogion Tramor, Gwaredwyr Pêl-droed – ond am ba hyd?
Dim ond megis dechrau mae tymor pêl-droed 2013–14. Dyma dymor na fu ei debyg erioed o’r blaen gan fod dau dîm o Gymru yn Uwch Gynghrair Lloegr. Ond pa mor gynaliadwy yw pêl-droed, gêm a ystyrir gan yr awdur fel ein gwir gêm genedlaethol?
30 Medi 2013
ganTim Hartley
Llun y Mis – Taith Feicio Hedd Wyn
Mae ein Llun y Mis yn dangos tri a seiclodd dros 9 diwrnod o Fangor i Langemark yn Fflandrys, ddau ohonynt yr holl ffordd – cyfanswm o 630 milltir – ganol Medi, i godi arian at y gofeb y bwriedir ei chodi erbyn Awst 2014 i goffáu’r milwyr o Gymru a syrthiodd yn y Rhyfel Mawr, sef Cofeb y Cymry yn Fflandrys.
30 Medi 2013
ganSian Rees
Y Sgets a Gadd ei Gwrthod
Caiff Cynan ei gofio yn bennaf fel bardd ac fel un o’r Archdderwyddon mwyaf lliwgar erioed. Ond yma mae awdur cofiant arfaethedig iddo yn trafod pennod arall, lai cyfarwydd yn ei yrfa – Cynan y sensor. Mewn erthygl Barn yn rhifyn Gorffennaf/Awst o’r cylchgrawn hwn, erthygl sydd mewn gwirionedd yn enghreifftio’i holl raison d’être ac a sgrifennwyd, fel y mae’n digwydd, gan ei olygydd cyntaf yn 1962, Emlyn Evans, dadleuir mai ‘colled anaele i’r bywyd cymdeithasol ym Mhrydain oedd dileu sensoriaeth yn y byd celfyddydol’. Carreg filltir arwyddocaol ar y pryd oedd yr achos llys yn 1960 pan enillodd Llyfrau Penguin eu hachos a chyhoeddi Lady Chatterley’s Lover D.H. Lawrence yn gyfreithlon am y tro cyntaf. Ac yna ym Medi 1968 gyda Deddf Theatrau’r flwyddyn honno, daeth sensoriaeth llwyfan hefyd i ben, cam a olygodd fod un o Gymry amlycaf ei ddydd, Syr Cynan Evans-Jones, yn sydyn reit yn ddi-waith. Oherwydd rhwng 1931 ac 1968 ef oedd unig ddeiliad swydd unigryw sef Archwiliwr neu Ddarllenydd Cymraeg i’r Arglwydd Siambrlen, un o bennaf gweision y frenhiniaeth yr oedd yn rhaid wrth drwydded ganddo os am berfformio unrhyw ddrama ar lwyfan cyhoeddus ym Mhrydain.
30 Medi 2013
Ysu am Etholiad
Efo blwyddyn a hanner i fynd tan yr etholiad cyffredinol Prydeinig nesaf, mae’r pleidiau – a’r sylwebyddion academaidd a newyddiadurol – yn ymbaratoi ar gyfer brwydr na fu ei thebyg yn hanes gwleidyddol yr ynysoedd hyn o fewn cof y mwyafrif llethol ohonom. Mae’r gêm yn mynd i newid – hyd yn oed os nad yw’n gwbl eglur eto beth fydd y sgôr derfynol.
30 Medi 2013
Cwrs y Byd – Camu o’r Tywyllwch
Sbïwch arni hi yn ei holl ogoniant yn y llun. Ers 2008 mae Kate Goldsworthy, y wraig efo’r lifrau a’r enw euraid, wedi bod yn esgob Anglicanaidd yn Awstralia. Wnaeth hynny ddim peri i’r cangarw roi’r gorau i sboncian ar hyd eangderau’r wlad. Ddaeth yr un crac i dalcen Ty Opera Sydney pan grybwyllwyd y newydd am ei phenodiad. A dal i ddisychedu ar Castlemaine XXXX mae cefndryd Crocodile Dundee gan ddyheu fel erioed am un walts arall efo Matilda yn eu breichiau.Ceisio dweud ydw i na ddaru codi merch i fod yn esgob ddim tanseilio’r mymryn lleiaf ar yr hen ffordd Awstralaidd o fyw. Mae’r wlad lle trawsgludwyd llongeidiau o hwrs a lladron, ynghyd â’r diniwed, eto yn ddigon goleuedig i ddyrchafu merch i uchel swydd eglwysig. Lloegr, ystyfnig a gwrthnysig, yw’r unig un bellach o blith eglwysi gwledydd Prydain sy’n gwahardd merched ordeiniedig rhag bod yn esgobion.
30 Medi 2013
Ar Yr Un Donfedd: Holi Betsan Powys
Ers mis Gorffennaf eleni, mae gan Radio Cymru Olygydd newydd. Bu’n sôn wrth Barn am ei gweledigaeth, am y syniad o ail donfedd ac am ffrwyth ymchwil sydd wedi’i chalonogi.Magwyd Betsan Powys ar aelwyd lle nad oedd dim ond un orsaf radio i’w chlywed, a Radio Cymru oedd honno. Tyfodd i fyny yn swn Helo Bobol a Stondin Sulwyn. Radio Cymru oedd prif gyswllt y teulu, yng Nghaerdydd ac yna yn Nhregarth yn y gogledd, gyda’r hyn a oedd yn digwydd yng ngweddill Cymru, ac mae Betsan yn cofio cael ysgytwad wrth fynd i’r coleg yn Aberystwyth a dod ar draws Cymraes Gymraeg yn y neuadd breswyl a oedd yn gwrando o ddydd i ddydd ar Radio One. ‘Mae’n siwr fod y ferch honno, oedd yn dod o Lanelli, wedi cael yr un sioc bo’ fi’n gwrando ar Radio Cymru!’
30 Medi 2013
ganMenna Baines
Marwolaeth Seamus Heaney (1939-2013)
FFARWEL CENEDL I’W BARDD CENEDLAETHOL Ai dim ond yn Iwerddon y byddai prif raglen newyddion y genedl yn cael ei neilltuo bron yn llwyr i goffáu bardd? Ond nid bardd na dyn cyffredin oedd y gwr o Swydd Derry.
30 Medi 2013
Cymru a’r UE – gwersi’r gorffennol
DIWEDD AELODAETH CYMRU O'R UNDEB EWROPEAIDD – Y GWERSI O DDIFLANIAD YMERODRAETH AWSTRIA-HWNGARINid pob diwrnod y mae rhywun yn cael gwahoddiad i draddodi darlith Barn yn yr Eisteddfod, yn enwedig felly os yw'r un a wahoddir yn aelod o'r Blaid Geidwadol.
Saunders: “Mae rhywbeth amdanat ti…”
Dim ots beth yw’r gwirionedd, pedlerir o hyd y myth mai Ffasgydd oedd Saunders Lewis. Cyhoeddodd yr awdur lyfr yr haf hwn yn gwadu’r cyhuddiad. Ond "peidied â gadael i’r ffeithiau ddifetha’r stori" yw agwedd pobol a ddylai wybod yn well – yn eu plith haneswyr Cymreig o fri. A hithau eleni’n gant ac ugain o flynyddoedd ers ei eni, mae Saunders Lewis yn parhau i gorddi a chythruddo. Cymerwch ein cyn-Brif Weinidog Rhodri Morgan. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod eleni fe achubodd ar y cyfle, yn sgil cyhoeddi fy nghyfrol newydd yn trafod y cyhuddiad o Ffasgaeth yn erbyn Plaid Cymru, i sôn wrth ddarllenwyr y Western Mail am drafodaeth dros fwrdd brecwast rhwng tad Rhodri, yr Athro T.J. Morgan, a Saunders Lewis. Yn nhyb Lewis, yr oedd yr ochr gywir wedi ennill y Rhyfel Cartref yn Sbaen. Yn ddiau, bwriad Morgan (y mab) wrth adrodd yr hanes oedd cyffelybu agwedd adweithiol (ffasgaidd?) Lewis gydag agweddau chwith-ryddfrydol iach ei dad.
30 Awst 2013
Saunders, Kate ac Aled
Roedd bwrlwm o weithgaredd theatrig yn yr Eisteddfod eleni fel pob blwyddyn, a chafodd ein hadolygydd ei blesio ar y cyfan.Os ewch ar wefan Youtube a theipio Stomp Plant Eisteddfod 2013 i’r chwiliwr fe ddowch o hyd i fideo ohonof i yn adrodd cerdd ac yn jyglo ar yr un pryd. (Peidiwch gofyn pam, roedd o’n gwneud synnwyr ar y pryd.) A dyna’n union sut y treuliais fy wythnos yn yr Eisteddfod, yn jyglo gan geisio gwneud fy ngorau (a methu gan amlaf) i’w dal hi ym mhob man. Dyma rai o uchafbwyntiau fy wythnos theatrig yn yr Eisteddfod.
30 Awst 2013
“ Seren y Dwyrain” – papur bro Cairo a’r Dwyrain Canol
Saith deg o flynyddoedd yn ôl i’r mis hwn rhoddwyd cychwyn ym mhrifddinas yr Aifft ar un o’r mentrau cyhoeddi mwyaf hynod yn holl hanes y wasg Gymraeg. Rydym i gyd yn gyfarwydd ag anwybodaeth ein cymdogion agosaf o Gymru a’r Gymraeg. Nid fi yw’r unig un, mae’n siwr, sy’n teimlo fel cenhadwr bob tro y byddaf yn croesi Clawdd Offa. Ond pitw a dibwys yw fy ymdrechion achlysurol i o’u cymharu â menter ryfeddol a barhaodd am bum mis ar hugain yng nghanol anhrefn yr Ail Ryfel Byd. Menter a aeth â’r Gymraeg i barthau llawer iawn pellach na Lloegr.
30 Awst 2013
Isetholiad Ynys Môn
Daeth ymgyrch Plaid Cymru yn ei chrynswth i ymdebygu fwyfwy i garnifal, cymaint oedd yr ymdeimlad o hwyl ac asbri ymhlith cefnogwyr Rhun ap Iorwerth.
30 Awst 2013
Dwi’n dal i fod – mewn – band roc a rôl
Roedd presenoldeb bandiau o’r gorffennol yn yr Eisteddfod eleni, ochr yn ochr â bandiau cyfoes, yn nodwedd ddifyr ar yr arlwy roc a phop yn Ninbych – ond roedd yn codi ambell gwestiwn pwysig hefyd.Mae’r haf yn gyfle perffaith i gerddorion a threfnwyr y sîn roc yma yng Nghymru gael arddangos eu talentau ar bob math o lwyfannau gwahanol, rhai awyr-agored yn aml – o gefn lori ar sgwâr Rhuthun i erddi Plas Newydd, o draeth Llangrannog i awyrgylch ganoloesol Castell Caernarfon. Ond mae pob dim i’w weld yn dod at ei gilydd yn daclus ar ddechrau mis Awst. I lawer, yr Eisteddfod Genedlaethol yw uchafbwynt y flwyddyn o ran cerddoriaeth roc, gyda detholiad mor eang o fandiau ac artistiaid yn chwarae yn ystod yr wythnos. Yma daw pobl o bob oedran a chwaeth gerddorol i wylio eu hoff fandiau’n chwarae o flaen torfeydd o gannoedd o bobl, ac efallai i ddarganfod ambell fand newydd hefyd.
30 Awst 2013
Catrin o Ferain – Mam Cymru
Bro’r Brifwyl: Sir Ddinbych a’r Cyffiniau Catrin o Ferain - Mam Cymru Priododd Catrin o Ferain bedair gwaith er mwyn diogelu dyfodol ei stad, ac fe ysbrydolodd gerddi – ac ambell stori ofnadwy. Llun: Amgueddfa Cymru Peidiwch da chi â throi at lyfrau hanes os am wybod hynt a helynt un o ferched hynotaf Dinbych a’r cylch, Catrin o Ferain. Cwta baragraff sydd amdani yn Hanes Cymru, clasur Dr John Davies. Yn hytrach ewch ar sgowt. Ewch i Eglwys Llannefydd lle claddwyd Catrin ar 1 Medi 1591, ond gair o rybudd rhag ofn i chi gael eich siomi: does yr un dim yno i’w choffáu. Ewch i chwilio am blasty bychan Berain, neu Lywenni neu Blas-y-ward, neu’n well fyth, ewch gam ymhellach i Gastell Gwydir ger Llanrwst i glywed gwich y drysau derw ac i deimlo ias yr awyrgylch yn y neuaddau ysblennydd. Ewch am dro i Eglwys Llanfarchell ar gyrion Dinbych i ryfeddu at feddrod mam yng nghyfraith gyntaf Catrin, Dâm Salsbri, peiriant o ddynes os bu un erioed. Yn well fyth, darllenwch nofelau gwych R. Cyril Hughes, Catrin o Ferain, Dinas Ddihenydd a Castell Cyfaddawd, os am drwytho’ch hun yn hanes ardal a thrigolion Dinbych a’r cylch yn yr 16g.
16 Gorffennaf 2013
Llenyddiaeth Gymraeg yn Taro’r Gwaelod
Golygydd cyntaf Barn sy’n dweud ei ddweud am safon a ieithwedd ffuglen Gymraeg ddiweddar. Yr wyf ar fin gwneud rhywbeth sydd yn wirioneddol gas gennyf, sef collfarnu llenyddiaeth fy ngwlad a’m iaith fy hun. Ond dyna sydd raid.Ers rhai blynyddoedd, cedwais lygaid ar ffuglen Gymraeg, a’r gwir yw fy mod yn wastad yn mynd yn fwy pryderus – a thrist – yn ei chylch, o ran y cyfrwng a’r cynnwys. Cwbl atgas gennyf yw rhegi, ar lafar ac mewn print – yn neilltuol gan ferched. A merched yw awduron y rhan fwyaf o nofelau Cymraeg y cyfnod hwn. Dywedaf yn blaen fod amryw byd o’r cyfrolau a gyhoeddwyd yn y blynyddoedd diweddar yn dwyn mawr warth ar ein cenedl. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o ‘straeon erotig’, Tinboeth a Tinboethach, y naill o ddeg stori a’r llall o ddwsin, a 21 o awduron rhyngddynt – un gwryw (sylwer) ac ugain o fenywod, ac y mae’r ieithwedd, yn gyffredinol, yn ddirmygus. Cafodd y ddau lyfr gefnogaeth ariannol gan Gyngor Llyfrau Cymru.
16 Gorffennaf 2013
ganEmlyn Evans
Adroddiad arbennig i Barn – Celwydd, Twyll a Thywallt Gwaed
Rhwng 2002 a 2003, roedd fy nghydweithwyr ym Mhlaid Cymru ar y pryd – Adam Price, Simon Thomas a Hywel Williams (ynghyd â’n cyfeillion yn yr SNP) – yn unfrydol ein gwrthwynebiad i ryfel Irac. Ar 18 Mawrth 2003 pleidleisiodd pob un ohonom yn erbyn ymosod ar y wlad.
16 Gorffennaf 2013
ganElfyn Llwyd
Yr Ymerodraeth Yn Taro ‘Nôl…
Er ei fod yn ymatal rhag cyffelybu David Jones i Darth Vader, mae’r awdur yn gweld tebygrwydd rhwng ymgais Ysgrifennydd Cymru i’n clymu’n dynnach wrth Loegr a’r dial a gafwyd yn ail ffilm y gyfres Star Wars. Ond nid Jones gaiff ei ffordd y tro hwn...
16 Gorffennaf 2013
Ysbyty Dinbych 1848–1995
Bro’r Brifwyl: Sir Ddinbych a’r Cyffiniau Ysbyty Dinbych 1848–1995Sut yr aeth un dyn ati i ryddhau cannoedd o bobol a fu’n gaeth mewn ysbyty meddwl.Mewn ymateb i gwynion nad oedd cleifion seiciatryddol uniaith Gymraeg yn cael chwarae teg yn ysbytai meddwl Lloegr y dechreuwyd darparu ar eu cyfer yng Nghymru.Seilam Dinbych – neu’r Denbighshire County Lunatic Asylum, yn ieithwedd ddidostur y cyfnod – oedd y gyntaf i gael ei hadeiladu yng Nghymru. Dros ganrif yn ddiweddarach, yn ugain oed yn 1950, cefais fy mhrofiad cyntaf o’r lle wrth fynd i ymweld â pherthynas imi. Trawyd fi’n syth gan ddau beth. Yn gyntaf, roedd yr ysbyty mor orlawn fel nad oedd bwlch o fath yn y byd rhwng gwelyau’r cleifion. Ac yn ail, cofiaf arogleuon yr ysbyty, cyfuniad o bi-pi a’r tawelydd drycsawrus paraldehyde.
16 Gorffennaf 2013
Ieuan Wyn – “Pro Gwleidyddol Par Excellence”
Yn ddisymwth ym Mehefin rhoddodd cyn-arweinydd Plaid Cymru gorau i fod yn Aelod Cynulliad Ynys Môn, sedd a gynrychiolodd – yn an Steffan i gychwyn ac wedi hynny ym Mae Caerdydd – am dros chwarter canrif. Cyd-weithiwr iddo yn y ddau Senedd-dy sy’n cloriannu ei yrfa.
16 Gorffennaf 2013
ganCynog Dafis
Stori Teulu a Chyfandir
Mae CERIDWEN LLOYD-MORGAN yn croesawu nofel hanesyddol bwysig, un sy’n Ewropeaidd yn ei bydolwg a’i chynhysgaeth lenyddol, ond yn gwaredu at safon y golygu.Paris Wiliam Owen Roberts tt. 520, Cyhoeddiadau Barddas, £12.95
29 Mai 2013
Cyfannu Cylch – Holi Cyfarwyddwr Opera
Cyfweliad Barn Mae’r gwr sydd bellach wrth lyw Opera Cenedlaethol Cymru yn fwy ymwybodol na neb o orffennol anrhydeddus y cwmni, ond wrth fynd ati i wireddu ei weledigaeth ar ei gyfer mae golygon David Pountney yn gadarn ar y dyfodol hefyd.
29 Mai 2013
Er Mwyn y Plant – Cofio Llangyndeyrn
‘Mor bwysig yn hanes gwleidyddol ac economaidd y Sir yw’r clwydi. Gwyr y Beca Anghydffurfiol yn cario’r ceffyl pren a’r gynau, A malu’r clwydi â bwyell a bilwg a gordd. A ffermwyr Llangyndeyrn Yn cloi, cadwyno’r clwydi; a rhoi tractor ym mhob bwlch ac adwy; A chloch yr Eglwys yn gwylio’r ffiniau rhag y Lefiathan Sosialaidd.’ Gwenallt (o’r gerdd ‘Sir Gaerfyrddin’)Ar un ochr i’r gât roedd swyddogion Corfforaeth Abertawe, a grym cyfraith gwlad y tu cefn iddynt. Ar yr ochr arall roedd rheng o ffermwyr yn brwydro am eu bywoliaeth, yn fodlon mynd i garchar pe byddai raid. Dewrder a dyfalbarhad y ffermwyr a achubodd eu cwm rhag mynd dan y dwr, ac mae pentrefwyr Llangyndeyrn yma o hyd i ddweud eu stori.
29 Mai 2013
Materion y Mis – Carafán mewn cwr o fynydd – yn barhaol?
Mae’n ffaith gydnabyddedig ar lawr gwlad fod yna bobl yn byw mewn meysydd carafanau yn groes i’r rheolau. Nodir yn aml bod y bobl yma’n mynd ar eu gwyliau i Sbaen neu Malta neu fynd i weld perthnasau yn ystod y cyfnod hwnnw yn y gaeaf pan fydd y meysydd wedi cau.
29 Mai 2013
ganAled Evans
Cymru ac Ewrop: Rhwng y Cwn a’r Brain…
1973–2013. Bu Cymru yn Ewrop ers deugain mlynedd i eleni. Nid ydym yn rhannu ewrosgeptiaeth gynyddol Lloegr. Ond pan ddaw – ac fe ddaw – refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd, llais negyddol Lloegr fydd yn cario’r dydd. A lle fydd hynny’n gadael Cymru?
29 Mai 2013
Cwrs y Byd
Fydd y Diwygiad ddim ar y teledu, gyfaill Mewn llyfr yr wyf yn ymdrechu i’w sgwennu i wasg hynod amyneddgar Carreg Gwalch rhoddaf le canolog i Anghydffurfiaeth yn ogystal â diwydiant yn y broses o adeiladu’r genedl Gymreig fodern. Does dim rhyfedd, felly, imi foeli ’nghlustiau pan glywais John Roberts ar ei raglen radio yng nghanol Mai yn sôn am ddigwyddiadau rhyfeddol yn y Victory Church, hen ffatri yn ymyl B&Q yng Nghwmbrân. Mewn cwta fis roedd naw mil o bobol wedi heidio i’r gwasanaethau diwygiadol a gynhelid yno bob nos gan wr ifanc o ardal Llanelli. Mymryn o Gymraeg oedd gan y diwygiwr ond ymhlith ei ddilynwyr roedd pedair merch ysgol a siaradai’n hynod aeddfed mewn Cymraeg rhagorol – yn angerddol ond heb fynd i sterics – am eu profiadau.
29 Mai 2013
‘Bomwyr Boston’
Ar ôl deffro’r bore ’ma a rhuthro at y teledu, fe welais i enw’r ail ddyn. Dzhokhar Tsarnaev. Roeddwn i’n nabod yr enw. Edrychais ar y llun aneglur. Na, doedd bosib. Nid yr un bachgen bach a ddysgais ddeng mlynedd ’nôl.
29 Ebrill 2013
Teledu – Gwyliwr disgwylgar
Mae Chris Cope wedi symud ei stondin. Ef yw colofnydd teledu newydd Barn. Wrth ddechrau ar y gwaith, mae ganddo gyffes i’w rhannu – a rhai disgwyliadau i’w nodi.Meddyliwch yn ôl at ddiwedd mis Mawrth, gyfeillion. Yn benodol, meddyliwch yn ôl at y rhaglen Great British Menu. Ydych chi’n cofio? Gofiwch chi’r cogyddion oedd yn cystadlu i gynrychioli Cymru yn y wledd?Os na welsoch mo’r rhaglen o’r blaen, mae yna dri chogydd sy’n dod o wahanol rannau o Brydain yn cystadlu yn erbyn ei gilydd er mwyn ennill yr ‘anrhydedd’ o goginio ar gyfer rhyw wledd fawr. Daw’r goreuon o sawl rhanbarth yn Lloegr, yn ogystal â rhai o’r Alban, Gogledd Iwerddon, a Chymru. Yn hanesyddol, ni chaiff Cymru fach ei chynrychioli’n dda – mae tuedd i’r cogyddion ‘Cymreig’ fod yn Saeson.
29 Ebrill 2013
ganChris Cope
Cwrs y Byd – RS
Cafodd marwolaeth Margaret Thatcher sylw’r byd a’r betws – a Barn. (Mae sawl cyfeiriad ati yn y rhifyn hwn.) Unwaith yn unig y bûm i’n ei holi hi a hynny y tu allan i gatiau Rio Tinto, Caergybi yn 1980. Bellach daeth diwedd y daith i’r ddau fel ei gilydd, y gwaith alwminiwm a’r ddynes haearn. A does dim angen imi ddweud ar ôl p’run un o’r ddau y mae’r hiraeth mwyaf ymhlith y bobol y byddaf i yn ymwneud â nhw.
29 Ebrill 2013
Mewn undod mae nerth? Heddlu cenedlaethol newydd yr Alban
Mae wyth llu’r heddlu yn yr Alban newydd uno i greu un llu cenedlaethol. Cam angenrheidiol meddai cefnogwyr y cynllun ond mae eraill yn anghytuno’n chwyrn. Ac a welwn ddatblygiad tebyg yng Nghymru? Bu’r awdur yn Bennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus Heddlu Gogledd Cymru ac yn asiant i Winston Roddick, Comisiynydd cyntaf y llu hwnnw.
29 Ebrill 2013
Dangos dy Liwiau
Mae dyfodiad mis Mai yn ein ty ni fel arfer yn golygu dau beth: Eisteddfod yr Urdd, a thymor y twrnameintiau pêl-droed. Ymylol ydi’n rhan i yn y naill gwffas na’r llall fel arfer, a chyn belled â bod ’na betrol yn y car ac arian yn fy mhwrs, rydw i wedi cyflawni fy nyletswydd yn llygaid y beirniaid bach.Ond eleni, mae pethau’n wahanol gan mai fi, o bawb, sydd wrthi’n paratoi i reoli tîm dan-9 Llewod Llanrug yn nhwrnameint pwysica’r tymor ymhen yr wythnos. Jaman, ys dywed fy mhlant.
29 Ebrill 2013
ganBeca Brown
UKIP: Plaid Genedlaethol Lloegr
Wrth ddarogan y bydd UKIP yn gwneud yn dda yn etholiadau Mai yn Lloegr, mae’r awdur o’r farn fod twf y blaid honno yn arwyddo newid hollol sylfaenol yng ngwleidyddiaeth y Saeson. Mae’r ysgrif hon yn cynnwys gwybodaeth a ddatgelir am y tro cyntaf ar dudalennau Barn yn unig.
29 Ebrill 2013
O Ewrop – “Cydlyniant” – Gair Arall am Doriadau
Mae gan swyddogion Brwsel y ddawn ryfeddol o ddewis enwau lletchwith a chamarweiniol ar gyfer rhaglenni pwysig. Y diweddaraf o’r polisïau hynny yw Polisi ‘Cydlyniant’ yr Undeb Ewropeaidd. Dan hwnnw y gweithredir y cymorthdaliadau sydd i fod i leihau’r bwlch enfawr rhwng rhanbarthau cyfoethocaf a rhai tlotaf Ewrop. Afraid dweud bod hynny’n hynod o berthnasol i Gymru – yn hanfodol, mewn gwirionedd. Ar sail ein tlodi, mae tri chwarter Cymru wedi teilyngu’r lefel uchaf o gymorth Ewropeaidd yn ystod y ganrif hon. Ac mae gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn parhau i fod yng nghategori ardaloedd tlotaf Ewrop gyfan.
15 Ebrill 2013
Llyfrgelloedd Mewn Peryg
Wrth iddo ymddeol o’i swydd fel Pennaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru mae’r awdur yn rhoi her inni wrthsefyll pob ymgais i wneud i ffwrdd â llyfrgelloedd cyhoeddus. Yn ôl ysgolheigion, Ashurbanipal, brenin Asyria yn y seithfed ganrif cyn Crist, a sefydlodd y llyfrgell fawr gyntaf y gwyddom amdani, yn ei balas yn Ninefe. Byth er hynny mae llyfrgelloedd wedi goroesi fel casgliadau defnyddiol o wybodaeth gofnodedig ac ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel ffordd o addysgu ac ysbrydoli pobl o bob rhan o’r gymdeithas.
15 Ebrill 2013
ganAndrew Green
Llafur Ofer David y Tori
"Digon i godi’r felan ar yr anorak cyfansoddiadol mwyaf"yw disgrifiad yr awdur o dystiolaeth Llywodraeth Llundain i Gomisiwn Silk. Ond er mai atal twf y Wladwriaeth Gymreig yw bwriad David Jones nid yw’n dilyn o gwbl mai dyna fydd yn digwydd.
5 Ebrill 2013
Cwrs y Byd – Troedigaethau?
Cymro o Gaerdydd, Ivor Novello, oedd cyfansoddwr Keep the Home Fires Burning (’Till the Boys Come Home), cân a fu’n gymaint o gysur i anwyliaid y bechgyn a frwydrai yn uffern y Rhyfel Mawr. Trosiadol, wrth reswm, yw’r tanau y cyfeirir atyn nhw. Ond rywsut rywfodd mi ydan ni hefyd wedi llwyddo’n llythrennol i gadw’r tanau ynghyn ar ein haelwydydd drwy’r can mlynedd, bron, a aeth heibio ers cyfansoddi’r gân yn 1914. Fu hynny ddim yn hawdd bob amser. I’r gwrthwyneb. Bu’n felltigedig o anodd. Sigwyd Cymru rhwng y ddau ryfel byd gan ddirwasgiad a gychwynnodd yn gynt ac a barodd yn hirach yma nag yn unman arall yng ngwledydd Prydain.
5 Ebrill 2013
Chwaraeon – Pam Nad Oes Mulod Ar Brom Y Rhyl
Heblaw’r gêm rygbi dyngedfennol rhwng Cymru a Lloegr, y mae’n drist cofnodi mai un o brif bynciau trafod byd y bêl – gron a hirgron – y mis diwethaf oedd penderfyniadau dyfarnwyr. Datganodd Syr Alex Ferguson – nage, Sur Alex Ferguson – fod Manceinion Unedig – nage, Manic-gwynion Unedig – wedi colli yn erbyn Real Madrid y 5ed o Fawrth am fod yr asgellwr Nani wedi cael ei anfon o’r maes. O leiaf, buasai wedi datgan hynny pe na buasai, druan, yn rhy drallodus i siarad yng nghynhadledd y wasg yn union ar ôl y gêm. Bu’n rhaid i’w ddirprwy, Michael Phelan, siarad drosto. Yn rhyfedd iawn, doedd Mr Phelan ddim yn rhy drallodus i siarad â’r wasg. (Ni ellir gwadu bod Fergie yn un o’r rheolwyr gorau yn hanes pêl-droed, ond ni ellir gwadu chwaith ei fod yn o’r cwynfanwyr mwyaf sarrug a fu erioed o flaen – neu ddim o flaen – meicroffon, ac yn llyncwr digon o fulod i esbonio pam nad oes yr un ar ôl ar bromenâd y Rhyl.)
5 Ebrill 2013
Ffransis y Cyntaf – Pab Cyntaf De America
Fedr y Pab newydd adfer ffydd Iwerddon yn Eglwys Rufain? O’i blaid mae’r ffaith nad oedd ganddo ddim i’w wneud â’r ymdrechion cywilyddus, o’r Fatican i lawr, i roi lles Pabyddiaeth o flaen lles y cannoedd os nad miloedd o blant a gam-driniwyd yn rhywiol gan offeiriaid y Weriniaeth. Ond faint wnaeth y Pab Ffransis i herio rheolaeth lofruddiaethol y Cadfridogion dros ei famwlad?
5 Ebrill 2013
Wylfa B Wnaiff Gadw’r Lampau Ynghyn – Ond Gochelwn
Dros yr hanner canrif a rhagor diwethaf gweithredwyd yn ddiogel mewn cannoedd ar gannoedd o bwerdai niwclear ar draws y byd, gan gynnwys Trawsfynydd a’r Wylfa. Cyfrannodd atomfeydd Meirionnydd a Môn yn sylweddol at ffyniant economaidd ac at Gymreigrwydd eu hardaloedd.
4 Mawrth 2013
Priodasau Cyfartal: Cam yn Nes at Gyfartaledd
Malan Vaughan Wilkinson sy’n croesawu’r bleidlais ddiweddar yn Nhy’r Cyffredin dros fesur i ganiatáu i bobl o’r un rhyw briodi.Bwystfileiddiwch, gweithredu’n ‘annaturiol’, priodi mwy nag un wraig, camdrin plant ac israddio sefydliad priodas. Dyma rai o’r cysyniadau a chymariaethau eithafol sydd wedi’u defnyddio gan wrthwynebwyr yng Nghymru i gyfiawnhau gwrthod y Mesur ar Briodasau i Gyplau o’r un Rhyw yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er gwaethaf y dadleuon deinosoraidd hyn, roedd y bleidlais gyntaf ar y mesur yn Nhy’r Cyffredin yn ddiweddar yn llwyddiant ysgubol o safbwynt cyplau hoyw.
4 Mawrth 2013
Unoliaethwyr Cenedlaetholgar Cymru
Dal i ymchwilio i briodoldeb ymestyn pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru y mae Comisiwn Silk.Ond y mis hwn disgwylir i Gomisiwn McKay adrodd ar statws Lloegr o fewn Ty’r Cyffredin mewn Prydain ddatganoledig. Cychwynna’r awdur gyda’r ffaith mai’r Democratiaid Rhyddfrydol fu’n gyfrifol am sicrhau parhad gorgynrychiolaeth Cymru yn San Steffan.Afraid dweud na fu’r blynyddoedd diwethaf yn rhai rhwydd i Aelodau Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol. Cyn 2010 roedd y rhain yn bobl a arferai allu cyflwyno eu hunain fel gwleidyddion a oedd uwchlaw’r cyfaddawdu blêr sy’n rhan annatod o lywodraethu. Nhw oedd ceidwaid a chynheiliaid gwerthoedd ac egwyddor. Nhw oedd yn wahanol. Nhw oedd yn bur.
4 Mawrth 2013
Peiriant a Hanner
Pa awdur Cymraeg a ysgrifennodd ysgrif nodedig am feic modur? T. H. Parry-Williams, tybed? Ni chofiaf. Mae llenorion Cymraeg yn weddol anhysbys i Google ac rydw i’n rhy ddiog i fentro allan i’r llyfrgell. Ond ta beth, ysgrifennodd rhywun, rywbryd, ysgrif am feic modur a bu’n rhaid imi ei darllen yn y brifysgol.
4 Mawrth 2013
ganChris Cope
Chwip o Bentra
Cyfarchion o bentra Cymreicia’r byd! Ydw i’n swnio’n smyg? Ddrwg calon gen i am hynny, ond heblaw am y ddiarhebol Mrs Jones Llanrug, a rhai o’r lleoliadau yng nghyfresi C’mon Mid-ffîld, dydi’n pentra ni ddim wedi arfer cael y ffasiwn sylw, a ’dan ni’n cweit licio fo, a deud y gwir.
4 Mawrth 2013
ganBeca Brown
Emynau Mawl i America
Cyfeiriwyd at Hollywood fel Y Ffatri Freuddwydion. Yma mae gwleidydd a chyn-gyfarwyddwr ffilm yn dadlau bod Hollywood yn fwy na hynny. Fel y dengys tair ffilm newydd, hyrwyddo gwerthoedd "gwâr" America yw ei gwir genhadaeth.
4 Mawrth 2013
Materion y Mis – Bygwth Cerddoriaeth Yn Yr Ysgol
Mater o dristwch mawr oedd clywed fod Cyngor Casnewydd am dorri canran uchel o’r arian a glustnodwyd ar gyfer gwersi cerdd offerynnol yn yr ysgolion. Mae angen athrawon a cherddorion i ddysgu offerynnau ac mae hyn yn costio arian. Ai dim ond plant i rieni cefnog fydd yn gallu canu telyn, ffidil neu ffliwt yn y dyfodol? Dyna fyddai canlyniad anorfod penderfyniad fel yr un a wnaed gan gynghorwyr Casnewydd.
1 Chwefror 2013
Y Pridd A’r Concrid – Y Frenhines A’r Eos
Mae dyddiadur dechrau blwyddyn y Dyn Mynd a Dwad yn cofnodi ei fod eisoes eleni wedi ymddiddori yn rhywioldeb y Frenhines Fictoria ac wedi tynnu cerddorion i’w ben.Ar ôl dychwelyd o Fôn i’r brifddinas i groesawu’r Flwyddyn Newydd, cefais hi’n anodd ailafael yn fy ngwaith. Profiad digon cyffredin reit siwr. Mae gen i domen o waith ysgrifennu ac mae’r dyddiad y cytundebais i’w gwblhau yn dod yn nes ac yn nes. Ar ben hynny mae gen i ddau arholiad morwrol i’w sefyll mewn rhyw dair wythnos. Yn lle torchi llewys a mynd ati rhag blaen dwi’n gwneud pob dim ond agor y cyfrifiadur. Gwyliaf ffilmiau ‘Carry On’ yn y pnawniau. Gwnaf unrhyw beth a phopeth i ohirio gweithio.
1 Chwefror 2013
“Gwell Cymraeg slac na Saesneg slic…”
Wrth ymateb i’r hyn a ddatgelodd y Cyfrifiad am sefyllfa’r iaith Gymraeg mae Athro Gwleidyddiaeth Cymru a Chyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, yn tynnu cymhariaeth annisgwyl rhwng gweithredoedd yn Llyn a Belffast. Mae’n cychwyn efo llinell o farddoniaeth gyfoes, llinell y bydd yn ychwanegu ati ar derfyn ei ysgrif. "Gwell Cymraeg slac na Saesneg slic…"
1 Chwefror 2013
Dei Fôn Sy’n Dweud – Pledu Cnau Coco Addysgol
Colofn newydd yw hon i ymddangos bob yn ail gyda cholofn Gareth Miles, lle bydd y ddau awdur yn dweud eu dweud am y byd a’i bethau. Fel cyn-brifathro ysgol uwchradd yn y gogledd, rhai o ryfeddodau byd addysg yng Nghymru sy’n mynd â bryd colofnydd y mis hwn.
1 Chwefror 2013
Cwrs y Byd – Gee Ceffyl Blasus
Mae’r pethau rhyfeddaf yn gallu peri i benodau o’n gorffennol a aeth yn angof lamu’n eglur yn ôl i’r meddwl. Pwy fyddai wedi dychmygu am eiliad y byddai sgandal y byrgars a wnaed â dogn helaeth o gig ceffyl yn dod â ddoe yn ôl i mi? Ac nid i mi yn unig. Cefais sgyrsiau atgofus dros y dyddiau diwethaf efo tri o’m cyd-bererinion o’r dyddiau pell-yn-ôl hynny pan oeddem yn ifanc yng Nghaerdydd yn saithdegau’r ganrif ddiwethaf.
1 Chwefror 2013
Mynd i’r Capel
Tua chwe mis yn ôl, mi wnes i ganfod fy hun mewn oedfa capel. Be’ di’r big dîl, meddach chi. Wel, mi ges i fy magu gan anffyddwyr, ches i mo ’medyddio, wnes i ddim bedyddio fy mhlant, a tan chwe mis yn ôl yr unig droeon imi fod mewn capel oedd i fynychu priodas neu angladd.
1 Chwefror 2013
ganBeca Brown