Mae denu pobl o bell ac agos i fwynhau’r arlwy yn un o amcanion menter arall y mae Ioan Williams wedi bod ynghlwm â hi, ond mai arlwy theatrig ac nid stêc a chips a chwrw sy’n cael ei chynnig gan y fenter honno. Ef fu cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Theatr Genedlaethol Cymru ers 2008 tan eleni. Cydiodd yn yr awenau yr un flwyddyn ag yr ymddeolodd fel pennaeth Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn Aberystwyth, gan olynu’r cadeirydd cyntaf, sef Lyn T. Jones. Bu’n gyfnod o gryn newid oddi mewn i’r cwmni, gydag Arwel Gruffydd yn cael ei benodi’n gyfarwyddwr artistig yn 2011 i olynu Cefin Roberts, deiliad cyntaf y swydd.
Yn gyffredinol, wrth edrych yn ôl ar ei chwe mlynedd fel cadeirydd, dywed Ioan Williams ei fod yn hapus iawn gyda’r modd y mae’r cwmni wedi datblygu yn ystod y cyfnod hwnnw.
‘Dwi’n falch iawn o’r hyn y mae’r cwmni wedi’i gyflawni, yn enwedig yn y tair blynedd diwethaf. Buom ni fel Bwrdd yn rhedeg y cwmni ein hunain am gyfnod wedi ymadawiad Cefin Roberts cyn penodi Arwel Gruffydd, gyda chryn dipyn o lwyddiant, ac mae’r llwyddiant wedi parhau o dan Arwel.’
Mae’n sôn am Y Storm, Dyled Eileen a Blodeuwedd fel enghreifftiau o gynyrchiadau a gafodd ymateb da iawn. Er hynny, ef yw’r cyntaf i gyfaddef na fu pethau’n fêl i gyd ac nad pawb sy’n hapus gyda datblygiadau diweddar yng ngwaith y cwmni.
‘Mae’n amhosib plesio pawb. Mae’r Theatr Genedlaethol yn gorfod ceisio bodloni sawl amcan ar unwaith. Ry’n ni’n gorfod plesio cynulleidfa draddodiadol y theatr Gymraeg. Ry’n ni’n gorfod treial apelio at bobol ifanc. Ry’n ni’n gorfod ymestyn mas fel bo’n ni’n agor drysau i’r di-Gymraeg. Ry’n ni’n gorfod plesio Cyngor y Celfyddydau, ein noddwyr ni, drwy “greu celfyddyd o’r safon uchaf”, beth bynnag yw ystyr hynny! Ac ati ac ati. Dwi’n meddwl weithiau ein bod fel troellwr platiau yn trio cadw pob plât i droelli!’
O ran yr amcan cyntaf ar y rhestr – cadw’r gynulleidfa draddodiadol yn hapus – yn sicr, mae natur gwaith diweddaraf y cwmni yn awgrymu newid cyfeiriad a hynny wedi codi trafodaeth am y math o waith y dylai cwmni theatr genedlaethol fod yn ei wneud. O dan Arwel Gruffydd, mae’r cwmni wedi gwneud llawer o waith sydd ynghlwm wrth safleoedd penodol, fel yn achos Y Bont yn Aberystwyth, Tir Sir Gâr yng Nghaerfyrddin a Blodeuwedd yn Nhomen y Mur, Trawsfynydd, a gwaith hefyd sy’n arbrofi gyda gwahanol gyfryngau. Fel hyn y disgrifiodd Simon Brooks y datblygiad yma yn y cylchgrawn hwn yn ddiweddar: ‘Cynyrchiadau a lwyfennir in situ yn hytrach na mewn theatr, sioeau amlgyfrwng yn lle dramâu, a dwyieithrwydd ar draul Cymraeg’. Ychwanegodd fod honno’n weledigaeth na allai ef mo’i chymeradwyo.
Croesawu beirniadaeth o’r fath fel rhan o drafodaeth agored, iach y mae Ioan Williams. Mae’n gweld y tyndra rhwng y traddodiadol a’r newydd fel rhywbeth anochel yn sgil y duedd ôl-fodernaidd ymhlith academwyr ym maes drama i gredu bod chwyldro wedi bod yn myd y theatr a bod defnyddioldeb yr hen gysyniad o theatr draddodiadol wedi darfod. Yn ôl yr ysgol hon o feddwl, mae’r oes newydd yn galw am waith sy’n fwy arbrofol, yn fwy distrwythur, gyda mwy o bwyslais ar berfformio nag ar actio. Er nad yw ef ei hun yn llyncu’r syniadau hyn i gyd, mae’n ymwybodol iawn fod gwrthdaro ym myd y theatr Gymraeg rhwng y gwneuthurwyr ar un llaw a mynychwyr y theatr ar y llaw arall. Eto i gyd, rhaid gwylio rhag gorgyffredinoli, meddai.
‘Edrychwch ar Y Storm, er enghraifft. Dyna i chi ddrama draddodiadol oedd hefyd yn sioe, wedi’i lleoli mewn pabell gyda defnydd o sgiliau syrcas ac ati. Ac mae hynny’n briodol. Mae theatr erioed wedi cynnwys yr elfen yma o sioe. Dydi unrhyw un sy’n credu nad oedd Shakespeare ddim yn creu sioe ddim yn deall rhyw lawer am Shakespeare.’
O ran y cyhuddiad fod y Theatr Genedlaethol erbyn hyn yn ‘theatr ddwyieithog’, lol yw hynny yn ôl Ioan Williams. Iddo ef nid yw defnydd o uwchdeitlau Saesneg, fel ag a gafwyd yn Y Storm, yn cyfiawnhau’r label ‘dwyieithog’, nac ychwaith ddefnydd ambell gymeriad mewn drama Gymraeg o’r iaith Saesneg, fel yn y ddrama Llwyth gan Dafydd James rai blynyddoedd yn ôl. Ond mae trafodaeth bwysig i’w chynnal, meddai, er mwyn diffinio’n well beth yn union a olygwn wrth ddwyieithrwydd yn y theatr.
‘Mae’n bwysig fod y Theatr Genedlaethol yn ymdrechu i gyrraedd pawb yng Nghymru. Er bod ein cyfrifoldeb cyntaf ni o hyd at y Cymry Cymraeg, mae’n rhaid cofio hefyd ein bod yn cael ein hariannu gan holl bobl Cymru, drwy arian cyhoeddus, ac felly mae rhywun yn gobeithio gallu apelio atyn nhw a’u denu nhw at waith y cwmni. Ond ddylem ni byth adael i hynny ymyrryd â phrofiad y Cymry Cymraeg o’n gwaith ni.
‘At hynny, mae archwilio’r tensiwn ieithyddol hwnnw rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yn rhywbeth y dylai’r theatr Gymraeg gyfoes fod yn ei wneud, fel y gwnaeth Llwyth mor llwyddiannus. Wedi’r cwbl, y gwrthdrawiad hwnnw rhwng y ddwy iaith ydi un o brif ‘ddramâu’ ein bwyd bob dydd ni Gymry Cymraeg!’
O ran sicrhau cynulleidfaoedd da i gynyrchiadau – rhywbeth arall y mae Cyngor y Celfyddydau yn cadw llygad barcud arno – dywed Ioan Williams fod sawl her wedi wynebu’r cwmni yng yng nghyfnod ei gadeiryddiaeth. Un o’r rheini fu ‘argyfwng colli’r theatrau’, chwedl yntau – colli Theatr Gwynedd ym Mangor pan gaeodd honno a cholli’r defnydd o’r Sherman hithau yng Nghaerdydd tra oedd hi’n cael ei hail-wneud. Ond gyda’r Sherman bellach wedi ailagor a chyfarwyddwr artistig newydd wedi’i benodi, a chanolfan Pontio yn agor ym Mangor y flwyddyn nesaf, mae cyfnod newydd yn dechrau’n awr, meddai. Cynhyrchiad y Theatr Gendlaethol o Chwalfa T. Rowland Hughes, addasiad Gareth Miles, fydd sioe gyntaf Pontio. Ar y gweill hefyd ar gyfer 2014 mae taith y fersiwn lwyfan o’r Blodeuwedd awyr-agored.
Er cymaint y problemau, ac er mor anodd yw pethau’n ariannol – mae’r nawdd gan Gyngor y Celfyddydau wedi aros yr un fath ers blynyddoedd (£1,050,000) – mae Ioan Williams yn bur fodlon felly wrth ildio’r gadair i’r cadeirydd newydd, sef Gwerfyl Pierce Jones.
‘Ar hyn o bryd, dwi’n meddwl ein bod ni ar frig ton o lwyddiant a chanmoliaeth, yn creu gwaith diddorol a da. I’r cwmni mae’r diolch am hynny. Mae’r platiau’n dal i droelli!’
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
