Felly, bu croeso cyffredinol pan gyhoeddwyd ym Mehefin 2000 y byddai’r Gymraeg yn ffactor y gellid ei chydnabod o fewn y drefn gynllunio. Wn i ddim a oedd gan ddyfodiad y Cynulliad rywbeth i’w wneud â hynny. Go brin efallai.
Gwell imi drïo esbonio yma rywbeth am y drefn. Mae dogfen swmpus o’r enw Polisi Cynllunio Cymru yn gosod allan ganllawiau cyffredinol Llywodraeth Cymru yn y maes cynllunio. Mewn gwirionedd, mae’n debyg iawn i un Lloegr. Pan fydd y Llywodraeth am fanylu ar ryw agwedd neilltuol i roi arweiniad i gynghorau lleol, mae’n anfon rhywbeth a elwir yn Nodyn Cynghori Technegol (Technical Advice Note) a rhif ar ei ôl. Felly mae NCT 8, er enghraifft, yn manylu ar ble a than ba amodau y gallwch chi godi ffermydd gwynt. Ond yn y bôn, pwrpas unrhyw NCT yw creu rheoliadau newydd neu egluro lle mae amwysedd.
Gwaetha’r modd, doedd NCT 20 ar y Gymraeg yn 2000 fawr o help ymarferol. Chafodd o mo’i ddefnyddio ond mewn llond dwrn o achosion. Ac mae’n ymwneud yn bennaf â’r broses o greu Cynlluniau Datblygu Lleol pob Cyngor Sir. Dydi’r NCT o ddim iws o gwbl wrth ystyried ceisiadau unigol, ac mae’n cymryd yn ganiataol mai dim ond lle mae’r Gymraeg yn brif iaith cyfathrebu y dylid ei hystyried fel mater perthnasol.
Felly, bu cryn edrych ymlaen a disgwyl am y fersiwn ddiwygiedig. Yn y cytundeb a wnaed rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn Llywodraeth Cymru’n Un, roedd addewid y byddem yn diwygio’r NCT 20. Ond roedd blaenoriaethau eraill gan yr adran. Dim ond trwy fygwth ffrae gyhoeddus y llwyddwyd i gytuno i ymgynghori ym misoedd olaf y Llywodraeth. Y gwir yw nad oedd gan y Gweision Sifil unrhyw ddiddordeb na brwdfrydedd dros wneud dim.
Er ei fod deirgwaith yn hirach, nid yw’r NCT 20 newydd, a gyhoeddwyd ym mis Hydref eleni, fawr cliriach. Yn wir mae dogfen arall i ddod sy’n esbonio sut i weithredu NCT 20 yn ymarferol! Ond ddaw honno ddim tan 2014 ...
Yn ddigon rhesymol, mae’r pwyslais eto ar y broses o greu Cynllun Datblygu. Ond mae rhai siroedd wedi cwblhau’r broses. Does dim arweiniad ymarferol o fewn y NCT a does dim rhaid i unrhyw gyngor ystyried y Gymraeg fel ffactor. A does dim hawl i ystyried y Gymraeg os daw tir annisgwyl (‘windfall sites’) i adeiladu arno. Ac o ran arwyddion siopau, rydym yn ôl gyda’r hen gyfaill ‘hawl i hyrwyddo’.
Ond i mi y bwgan mawr yw’r Arolygwyr Cynllunio hollalluog. Yn y gorffennol nid yw’r rhain, sydd â’u pencadlys ym Mryste, wedi dangos dim dealltwriaeth na chydymdeimlad ag anghenion y Gymraeg. Y rhain hefyd sy’n pennu nifer y tai newydd fydd eu hangen, sy’n amlach na pheidio ymhell uwchlaw’r twf naturiol. Y nhw hefyd yn y gorffennol sydd wedi gwrthwynebu’r cynlluniau i ganiatáu datblygiadau bach mewn pentrefi. Heb arweiniad cadarn o’r NCT 20 bydd rhwydd hynt i’r rhain wneud fel y mynnont.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
