Thema dywyll Thema golau
Codi Cenedl: Creu Cyfansoddiad
Cwrs y Byd – Pocedi Llawn, Cypyrddau Gweigion
Y Stabl Wag

Cwrs y Byd – Pocedi Llawn, Cypyrddau Gweigion

Fynnwn i ddim dadlau efo pobol o’r fath, ac ni feiddiwn ychwaith ddilorni eu gwaith. Mae o’n berffaith wir fod gan Brydain gyfoeth aruthrol: £337 biliwn mewn asedau, yn ôl un anorac ar Radio 4. Ond er ein bod yn tueddu i ganolbwyntio ar unigolion yn y byd ariannol, lawer ohonyn nhw, sy’n ennill cyflogau o filiwn y flwyddyn a rhagor, eithriadau ydyn nhw. Mwy niferus o lawer yw’r bobol yr ydym ni i gyd yn eu hadnabod yn y byd addysg, iechyd, llywodraeth leol, yr heddlu ac ati ac ati sydd nid yn unig yn ennill cyflogau chwe ffigwr, lawer ohonyn nhw, ond a fydd hefyd yn ymddeol ar bensiynau y tu hwnt i freuddwydion ymddeoledigion y sector preifat.

Tony Blair, a adnabyddir fel ap Thatcher neu Bwdl Bush yng Ngorsedd Gwarth, aeth ati’n fuan ar ôl cael ei ethol am y tro cyntaf yn 1997 i roi codiad cyflog sylweddol i’r dosbarth proffesiynol, meddygon teulu a’u tebyg. Ei fwriad hollol sinigaidd oedd ceisio denu’r rhain i drosglwyddo eu teyrngarwch traddodiadol o’r Ceidwadwyr i’w Lafur Newydd gyfalafol-gyfeillgar ef ei hun. Does dim gwell dameg o’r pellter rhwng Llafur Blair a Hen Lafur na honno am y propagandydd Blairaidd, Peter Mandelson, yn gofyn yn ei etholaeth werinol yn Hartlepool am bysgodyn, sglodion a guacamole. Mae designer Sosialwyr Islington yn fwy cyfarwydd â purée afocado na phys slwtsh.

Cyfoeth y rhai a elwodd ar haelioni hunanol ac anghyfrifol Blair sy’n esbonio pam, yn nannedd y dirwasgiad, bod 1.79 miliwn o geir newydd wedi cael eu cofrestru ym Mhrydain yn naw mis cyntaf eleni, bron iawn cymaint â’r Almaen, a’r gwerthiant gorau ers pum mlynedd a hanner.

Ar yr un pryd, fe wyr pawb ohonom am y cyni gwirioneddol yn y deyrnas anghyfartal hon. Mae’r cynnydd cyson ym mhris bwyd, trydan a nwy yn taro miliynau o bobol sydd wedi dioddef toriad yn eu lwfansau a dim codiad yn eu cyflogau. Adroddodd yr Holyhead & Anglesey Mail ar derfyn Hydref bod cynnydd o 700% wedi bod ers mis Hydref y llynedd yn y nifer o deuluoedd sy’n gorfod mynd ar ofyn Pantri Pobl, sef banc bwyd tref Caergybi. A neges sobreiddiol un o drefnyddion y gwasanaeth bwyd, Sandra Fisher-Holt, yw bod teuluoedd sydd mewn gwaith yn gorfod troi at Pantri Pobl. Maen nhw’n methu fforddio cynhesrwydd a bwyd.

Mae hwn yn mynd i fod yn aeaf caled. Ond nid i bawb.

 

Y Party of Wales
Yn y gynhadledd hydref yn Aberystwyth gwelwyd slogan newydd Plaid Cymru am y tro cyntaf. Yn naturiol roedd hi wedi ei phlastro dros y lle ym mhobman, gan gynnwys, wrth gwrs, y lectern annerch ar ganol y llwyfan. Oddi yno, wrth gyfeirio at leoliad y Gymraeg islaw’r Saesneg ar y cyfryw slogan, gwnaeth Dafydd Elis Thomas sylw i’r perwyl hwn: ‘Dwi’n ddigon parod rhoi Cymru’n gyntaf ond nid os yw hynny’n golygu rhoi’r Gymraeg yn ail.’

Gwrandawed ar eiriau’r Arglwydd.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Codi Cenedl: Creu Cyfansoddiad

Ymlaen >

Y Stabl Wag