Thema dywyll Thema golau

Bwyell Cameron

Lleihau cost gwleidyddiaeth. Dyma syniad a fydd, yn ddi-os, yn apelio at lawer mewn cyfnod pan mae’r mwyafrif yn credu bod gwleidyddion yn griw o rabscaliwns diegwyddor sy’n poeni am ddim ond eu golud a’u hawddfyd eu hunain. Mae apêl boblogaidd – poblyddol – y neges yn rhannol egluro pam y daeth yn rhan mor ganolog o ymateb David Cameron i’r sgandalau treuliau sydd wedi sigo ffydd trigolion y Deyrnas Gyfunol yn eu cyfundrefn wleidyddol. Mae peint o Fosters ym mariau San Steffan yn rhy rhad, meddai, mewn araith ddechrau Medi. Ac onid ydyw’n warth o beth fod bwytai’r Senedd yn gwerthu ‘lean salad of lemon and lime marinated roasted tofu with baby spinach and rocket, home-roasted plum tomatoes and grilled ficelle crouton’ am ddim ond £1.70?  

Yn ogystal â gorfodi’r Aelodau a’u staff i dalu mwy am eu bwyd a’u diod, byddai llywodraeth Geidwadol yn rhewi neu gwtogi cyflogau gweinidogion yn ogystal â chwtogi eu niferoedd; dileu awdurdodau rhanbarthol anetholedig Lloegr; cwtogi cyllideb y Comisiwn Etholiadol (bu’r darpar- Brif Weinidog yn arbennig o ddirmygus o ymdrechion y Comisiwn i annog etholwyr i bleidleisio); lleihau’r nifer o geir swyddogol sydd ar gael i ddanfon Gweinidogion i gyfarfodydd, ac ati.  

O safbwynt gwleidyddol, fodd bynnag, does dim dwywaith mai’r elfen fwyaf arwyddocaol o ddigon yn araith Cameron oedd ei ymrwymiad i orfodi’r Comisiwn Ffiniau i lunio ffiniau etholiadol newydd a fyddai’n galluogi lleihau nifer yr Aelodau Seneddol o ddeg y cant, a hynny cyn yr etholiad cyffredinol ar ôl y nesaf. Mewn termau diriaethol golygai hynny leihau nifer yr Aelodau Seneddol yn Nhy'r Cyffredin o 650 i 585. Yn ôl yr arweinydd Ceidwadol, byddai hynny’n arbed £15.5 miliwn.  

Wrth reswm, byddai hynny’n newid pellgyrhaeddol; newid a fydd yn sicr o dramgwyddo carfanau sylweddol a phwerus. Dychmygwch sut y bydd y 65 Aelod Seneddol fydd ar fin colli ‘eu’ seddau yn ymateb? Heb sôn am y wasg leol a’r etholwyr yn yr ardaloedd rheini a fydd yn colli gwasanaeth ‘eu’ cynrychiolydd. Hawdd felly y gellid maddau i’r sawl a dybia na fydd Cameron yn gweithredu ar yr ymrwymiadau hyn unwaith y daw hi’n amser iddo groesi trothwy Rhif 10. Wedi’r cwbl, mae hanes gwleidyddol Prydain yn llawn enghreifftiau o wleidyddion sy’n cefnogi camau radical tra yn yr wrthblaid ond yn darganfod manteision y status quo unwaith y maent yn dal awenau grym eu hunain. Fel un enghraifft ymysg llaweroedd, cofier Tony Blair ar fater pleidlais gyfrannol...  

Rwy’n tybio, fodd bynnag, y bydd Cameron yn cadw’n driw i’w ymrwymiad i leihau maint Ty’r Cyffredin, a hynny’n syml oherwydd bod y drefn bresennol mor anfanteisiol i’w blaid ei hun. Gan fod hwn yn fater sydd wedi ei drafod droeon yn y golofn hon, nid wyf yn bwriadu ymhelaethu ar y mater. Digon yw tynnu sylw at y brif broblem (o safbwynt Ceidwadol), sef bod angen llawer iawn mwy o bleidleisiau arnynt hwy ar gyfartaledd na Llafur er mwyn ethol Aelod Seneddol. Mae nifer o resymau am hyn. Un ohonynt yw gor-gynrychiolaeth Cymru (ac i raddau llawer iawn llai, yr Alban). Ond pwysicach na hynny yw lleoliad y ffiniau etholaethol yn Lloegr. Er bod y rheini’n cael eu diwygio’n gyson, nid yw’r diwygio’n ddigon cyson er mwyn adlewyrchu’r ffordd y mae’r boblogaeth yn symud o’r gogledd i’r de, gan adael seddau Llafur cymharol fach yn y naill a seddau Ceidwadol anferthol ym maestrefi’r llall. O safbwynt y Ceidwadwyr, felly, byddai ad-drefnu’r ffiniau i gyd mewn un diwygiad mawr yn fanteisiol dros ben. A byddai lleihau nifer yr Aelodau Seneddol yn enw darbodaeth yn ffordd ddelfrydol o sicrhau hynny.  

O safbwynt Cymreig, fodd bynnag, bydd arwyddocâd arbennig i gwtogi nifer yr Aelodau Seneddol, a hynny mewn o leiaf ddwy ffordd nad ydynt – am wn i – wedi derbyn unrhyw sylw hyd yma.  

Yn gyntaf, byddai unrhyw leihad yn rhwym o olygu newid yn y trefniadau etholiadol ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol.

Ar hyn o bryd mae trefniadau’r rheini wedi eu clymu wrth rai San Steffan. Yn benodol, dan dermau Rhan 1 Deddf Llywodraeth Cymru 2006, mae dwy ran o dair o Aelodau’r Cynulliad yn cael eu hethol ar sail ffiniau etholiadol San Steffan. Heb ddiwygio termau Deddf Llywodraeth Cymru 2006, felly, byddai lleihau nifer yr Aelodau Seneddol o Gymru yn arwain yn ei dro at leihau maint y Cynulliad Cenedlaethol. O ystyried fod pawb sydd wedi edrych o ddifrif ar weithrediad y Cynulliad – gan gynnwys, er enghraifft, Comisiwn Richard – wedi casglu bod Cynulliad o 60 aelod yn rhy fychan yn barod, byddai hynny’n drychineb i Gymru. Ar y llaw arall, pe na chwtogid maint y Cynulliad, yna byddai’r ffiniau etholaethol ar gyfer San Steffan a’r Cynulliad yn wahanol i’w gilydd – sefyllfa sydd eisoes yn bodoli yn yr Alban, wrth gwrs. Ond byddai’n dipyn o sioc i’r system yn y cyd-destun Cymreig. Nid oes angen llawer o ddawn y proffwyd i ragweld y byddai lleihau nifer yr Aelodau Seneddol Cymreig yn hwb i’r rheini – eto, fel aelodau Comisiwn Richard – sydd am weld mabwysiadu cyfundrefn etholiadol cwbl wahanol ar gyfer y Cynulliad, megis STV.  

Ond mae ail ystyriaeth hefyd. Beth yn union fydd yn weddill o bresenoldeb Cymru yn San Steffan ei hun ar ôl y cwtogi? Fel y nodwyd eisoes, 10 y cant o doriad yn nifer yr Aelodau Seneddol a gefnogir gan Cameron. Ysywaeth, ni chafwyd unrhyw arweiniad pellach ganddo ef na’i ysweiniaid ynglan â’r canllawiau manwl y disgwylir i’r Comisiwn Ffiniau eu gweithredu. Ond bydd union natur y canllawiau hynny yn hollbwysig i Gymru.  

Pe gweithredid toriad o 10 y cant yn gyson ar draws gwledydd y Deyrnas Gyfunol (hynny yw, 10 y cant yn llai yn Lloegr, 10 y cant yng Nghymru, ac ati) byddai hynny’n golygu lleihad o 40 i 36 Aelod yng Nghymru. Yn amlwg byddai goblygiadau lleol sylweddol i newid o’r fath. Go brin y byddai Ynys Môn, er enghraifft, yn cadw ei Haelod dan drefn o’r fath. Serch hynny, ni ddylid gor-ddweud chwaith. Nid chwyldro fyddai hyn. Fodd bynnag, mae opsiynau a allai arwain at gwtogi llawer iawn mwy llym.

Fel y nodais, mae’r drefn bresennol yn golygu bod Cymru (a Gogledd Iwerddon) yn cael eu gorgynrychioli’n sylweddol yn Nhy'r Cyffredin. Mae elfen o orgynrychiolaeth yn yr Alban hefyd. Ond mae hynny’n llawer iawn llai ers i nifer yr Aelodau Seneddol Albanaidd gael eu torri o 72 i 59 yn 2005 er mwyn adlewyrchu’r ffaith fod gan Senedd yr Alban bwerau deddfu cynradd. Petai gan etholwyr Cymru’r un nifer o Aelodau Seneddol y pen ag etholwyr Lloegr, yna byddai hynny’n golygu gostwng nifer yr Aelodau Seneddol Cymreig i tua 32. (A hynny cyn unrhyw doriad pellach fel cyfran Cymru o unrhyw leihad cyffredinol a gyflwynir gan Cameron.)  

Mae’r cynsail Albanaidd yn awgrymu mai dim ond yn sgil refferendwm llwyddiannus y gwelir dileu’r gorgynrychiolaeth Cymreig. Fodd bynnag, nid yw’n gwbl eglur i mi fod y Ceidwadwyr yn derbyn y cynsail hwnnw. Yn ddi-os mae ’na amwysedd yn natganiadau cyhoeddus llefarwyr y blaid.  Mae’n amlwg, hefyd, y byddai dileu gorgynrychiolaeth Gymreig yn rhyngu bodd y sylwebwyr Seisnig hynny sy’n edliw ‘annhegwch’ y gyfundrefn bresennol. Tybed, felly, beth fydd agwedd llywodraeth Geidwadol?  

Dichon y byddai lleihad i 32 (neu lai) o Aelodau Seneddol yn golygu newid pur sylfaenol yn natur gwleidyddiaeth Cymru. Yn un peth byddai’r cydbwysedd grym yng nghyfundrefnau mewnol y pleidiau eu hunain rhwng Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad yn rhwym o newid. Dychmygwch, er enghraifft, pa mor wahanol fyddai’r etholiad presennol am arweinyddiaeth Llafur yng Nghymru pe bai llawer llai o Aelodau Seneddol?

Ond mae senario arall a allai arwain at leihad llawer iawn mwy sylweddol na hynny, hyd yn oed.  

Ers canrif a mwy bu gwleidyddion Prydeinig yn ceisio ateb i’r cwestiwn a elwir (ers ymyrraeth Tam Dalyell yng nghanol y 1970au) yn gwestiwn ‘gorllewin Lothian’. Sef, mewn byr eiriau, sut i ddelio â’r sefyllfa a grëir gan ddatganoli rhannol oddi mewn i’r wladwriaeth. Dyma sefyllfa sy’n golygu bod gan Aelodau Seneddol o’r tiriogaethau datganoledig hawl i bleidleisio ar faterion yn Lloegr sydd wedi eu datganoli i’r Alban a Chymru ac sydd felly y tu hwnt i afael Aelodau Seneddol o Loegr. Ateb gwreiddiol Llafur i’r cwestiwn oedd creu Cynulliadau etholedig i ranbarthau Lloegr. Ond wedi i bobl Lloegr ddangos nad oedd ganddynt unrhyw ddiddordeb yn hynny, mae Llafur wedi ceisio cymryd arnynt nad oedd yn gwestiwn o bwys wedi’r cwbl. Ateb y Torïaid, ar y llaw arall, fu ceisio llunio rhyw fath o drefn a fydd yn caniatáu’r hyn a adweinir gan y cognoscenti yn ‘EVEL’ – ‘English votes for English laws’. Dyna fu polisi’r blaid yn etholiadau 2001 a 2005. Dichon y bydd fersiwn arall ohono’n rhan o’u Maniffesto y flwyddyn nesaf. Y broblem i’r Ceidwadwyr, fodd bynnag, yw mai slogan yn hytrach na pholisi credadwy a gweithredadwy yw ‘EVEL’. Fel mater o ffaith, prin iawn yw mesurau seneddol sy’n ymwneud â Lloegr yn unig ac mae hyd yn oed y rheini (trwy ddirgel ffyrdd fformiwla Barnett) yn cael dylanwad uniongyrchol ar y tiriogaethau datganoledig. Beth felly y gall y Ceidwadwyr ei wneud os ydynt o ddifrif am fynd i’r afael â chwestiwn Dalyell?  

Yn ôl nifer o’u cynghorwyr academaidd mwyaf dylanwadol, dylid dysgu gwers o’r arfer yng ngogledd Iwerddon yn y cyfnod pan gâi’r chwe sir eu rheoli gan Senedd Stormont (rhwng 1921 a 1972). Bryd hynny roedd gan Ogledd Iwerddon lai o Aelodau Seneddol y pen na gweddill y wladwriaeth – tua dwy ran o dair yn llai – a hynny’n fwriadol er mwyn lleihau eu dylanwad ar San Steffan. Yn ôl cynghorwyr y Ceidwadwyr, byddai cyflwyno’r hyn a elwir ganddynt yn ‘Stormont discount’ yn briodol yn y cyd-destun datganoledig cyfoes hefyd. Er na fyddai’n ateb cwestiwn gorllewin Lothian – dim ond Senedd i Loegr neu ddatganoli i ranbarthau Lloegr a allai wneud hynny – fe fyddai’n lliniaru ei effeithiau’n sylweddol iawn. Golygai mai dim ond yn anaml iawn, iawn y byddai gan Aelodau Seneddol o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ddigon o ddylanwad i benderfynu canlyniad unrhyw bleidlais ar fater Seisnig. Pe gweithredid ‘disgownt Stormont’, byddai nifer yr Aelodau Cymreig yn disgyn i tua 21 (eto, cyn gweithredu unrhyw doriadau cyffredinol ym maint Ty’r Cyffredin). Afraid dweud y byddai hynny’n troi gwleidyddiaeth Cymru wyneb i waered. Beth, wedi’r cyfan, fyddai hyd a lled dylanwad Cymru yn San Steffan gyda dim ond 21 (neu lai) o Aelodau yn Nhy'r Cyffredin?  

Ond pa mor debygol yw hynny? Annhebygol ond nid amhosib, fyddai fy nyfarniad i. Yn sicr ni ellir ei ddiystyru’n gyfan gwbl. Mae ’na bobl ddylanwadol yn ei gefnogi. Ar y llaw arall, fe fyddai’n tynnu nyth cacwn ym mhen y llywodraeth a benderfynai geisio ei gyflwyno – gan efallai wthio’r Alban, os nad Cymru, i gyfeiriad annibyniaeth.

Fel y gwelir, felly, mae pob math o bosibiliadau ynghlwm ym mwriad David Cameron i leihau maint Ty'r Cyffredin – ac  i Gymru’n enwedig. Eto i gyd, ar hyn o bryd mae’r manylion yn brin iawn. A heb y manylion rheini does dim modd gwybod hyd a lled yr effaith tebygol. Yng nghanol holl firi sioe Carwyn, Edwina a Huw, gobeithio y bydd ein gohebwyr yn achub ar y cyfle i holi mwy ynglyn â’r mater tyngedfennol hwn. Wedi’r cwbl, o safbwynt dyfodol hir dymor gwleidyddiaeth Cymru, gallai’r gwahaniaeth rhwng 36, ar y naill law, a 21, ar y llaw arall, brofi’n llawer iawn mwy arwyddocaol nag enw’r buddugwr yn y ras ar gyfer arweinyddiaeth Llafur yn y Cynulliad Cenedlaethol.  


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Cyfiawnder i bawb – gan gynnwys gwleidyddion!

Ymlaen >

Cwrs y Byd - Betio, Bwcis a Beirdd