Drwy Brydain benbaladr rhaid fydd gwneud i ffwrdd â 50 etholaeth. Bydd hynny’n gadael 600 o Aelodau Seneddol yn San Steffan. Trwy gyfraith, gorfodwyd y Comisiynau i sicrhau’n hollol gysáct na fydd poblogaeth pob etholaeth unigol yn ddim llai na 72,810 ac yn ddim mwy na 80,473. Un etholaeth Gymreig yn unig oedd yn cydymffurfio â’r gofynion ystadegol hynny, sef De Caerdydd a Phenarth oedd â phoblogaeth o 73,690. Gan mai 57,000 oedd poblogaeth etholaethau Cymru ar gyfartaledd, roedd mathemateg fympwyol llywodraeth Llundain yn arwain yn anochel at ostyngiad o 25% yn nifer yr Aelodau a etholir i San Steffan o Gymru. Golyga hynny golli 10 sedd a 10 aelod. Aiff y 40 presennol yn 30.
Er bod poblogaeth Lloegr yn 50 miliwn a phoblogaeth Cymru’n ddim ond 3 miliwn,7% yn unig o’u cynrychiolaeth seneddol fydd y Saeson yn ei golli, i lawr o 533 aelod i 502. Dau Aelod yn llai fydd gan Ogledd Iwerddon yn San Steffan – 16 yn lle 18.
Ond sefyllfa’r Alban yw’r un sydd wedi gwirioneddol gynddeiriogi’r Cymry hynny a raglenwyd i gredu mai pennaf difyrrwch Llundain yw dirmygu ein gwlad. (Arall yw’r gwir, ysywaeth: nid yw Cymru’n ymddangos o gwbl ar radar mandariniaid Whitehall.) Poenais am iechyd ambell un a glywyd yn bytheirio ar y cyfryngau mai ‘dim ond’ saith Aelod Seneddol – 52 lle cynt roedd 59 – mae’r Alban yn mynd i’w golli. Wrth gwrs, y gwir ydi bod cynrychiolaeth seneddol yr Alban wedi cael ei thorri’n bur helaeth, o 72 i 59, mor ddiweddar â 2005. Parhad o’r broses ôl-ddatganoledig honno yw’r 7 sedd ychwanegol a dargedir bellach gan Gomisiwn Ffiniau’r Alban. Tan rwan nid oedd y broses ddatganoli wedi effeithio o gwbl ar bresenoldeb Cymru yn San Steffan.
Gan nad oes gan Senedd Cymru – yn wahanol i’r cyngor cymuned mwyaf distadl – hawl i godi trethi, gellir deall dadl y rhai sy’n mynnu na ddylid eto lleihau presenoldeb Cymru yn San Steffan.
Amherthnasol, fodd bynnag, oedd ystyriaethau o’r fath unwaith y penderfynodd Cameron a Clegg mai ar sail poblogaeth y seilir yr etholaethau newydd. Cael y symiau’n iawn oedd gorchwyl statudol y Comisiwn. Wrth orfod corlannu’r niferoedd ‘cywir’ o fewn y ffiniau nid oedd modd rhoi’r ystyriaeth briodol i bwysigrwydd cyffiniau. Gyrrwyd yr holl ymarferiad gan ormes y rhifau gosodedig.
Dan y fath amodau, mae Comisiwn Ffiniau Cymru i’w longyfarch yn hael am wneud cystal joban ohoni. Efo ambell eithriad, nid yw’n hawdd rhagori ar y modd y cyflawnodd y Comisiwn y dasg amhosib a orfodwyd arno. Ac nid yw’r mater ar ben eto. Gan mai argymhellion y Comisiwn a gyflwynwyd ger ein bron, mae cyfle inni ymateb i’r argymhellion hynny mewn pum ymgynghoriad cyhoeddus a gynhelir yn fuan iawn gan y Comisiwn. (15–16 Chwefror: Stadiwm Liberty, Abertawe; 22–23 Chwefror: Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd; 29 Chwefror–1 Mawrth: Prifysgol Glyndwr, Wrecsam; 7–8 Mawrth: Gwesty’r Celt, Caernarfon; 20–21 Mawrth: Y Pafiliwn, Llandrindod.)
Nid y Comisiwn sydd ar fai am y ffaith y bydd chwe etholaeth Gymreig yn ymestyn dros 1,000 cilomedr sgwâr a bod dwy ohonyn nhw, Gwynedd a De Powys, dros 3,000 o gilomedrau sgwâr. Mae pobol eisoes yn hynod o amharod i fynd i bleidleisio.
Ein pellhau ymhellach, yn llythrennol a throsiadol, oddi wrth y prosesau democrataidd wnaiff etholaethau mawrion na ellir uniaethu â hwy.
Dyna’r peryg.
Ar y llaw arall, mae’r Comisiwn wedi gwrando ar yr hyn oedd gan gynrychiolwyr y pleidiau gwleidyddol i’w ddweud wrtho mewn cyfarfod ym mis Ebrill y llynedd. Deallaf fod Plaid Cymru’n arbennig wedi pwyso ar y Comisiwn i sicrhau bod cymunedau Cymraeg eu hiaith yn aros o fewn yr un etholaethau; gwelir hynny’n arbennig wrth i hen etholaeth Ceredigion a Gogledd Penfro gael ei hadfer. Yna yn sedd newydd sbon Glyndwr a Gogledd Maldwyn mae creadigaeth hynod ddiddorol, un y bydd pob un o’r pleidiau yn teimlo bod ganddyn nhw obaith o’i hennill. Er mwyn cadw’r cwlwm ieithyddol yn gyfan, deallaf hefyd fod y Comisiwn wedi gwrthod cynnig sinigaidd o hunanol gan y Democratiaid i uno llefydd fel Tregaron yng Ngheredigion efo Rhaeadr Gwy ym Maesyfed, gynt.
Fel Monwysyn, dylwn gwyno y byddwn yn dod yn rhan o etholaeth newydd Menai ac Ynys Môn, yr unig ynys ym Mhrydain i gael ei chlymu wrth ran o’r Tir Mawr. Yn wir, yn achos Ynys Wyth anwybyddwyd y rheolau rhifyddol. Yno argymhellir ffurfio dwy etholaeth efo poblogaethau o ddim ond 56,253 a 54,67! Dyfalwch pam! Er mai ynys yn bendifaddau yw Môn, erys y ffaith bod dwy bont hwylus yn cysylltu glannau Menai, yn wahanol, dyweder, i Ynysoedd Heledd yng ngorllewin yr Alban.
Yn Ne Cymru y gwnaed y stomp fwyaf, yn yr ieuo anghymarus rhwng dinas Casnewydd a Nelson ac Abercynon yng nghyffiniau Pontypridd; Gogledd Caerdydd ddeiliog lewyrchus a Chaerffili – mae mwy na mynydd rhyngddynt; ac wrth gysylltu ar bapur ardaloedd yng Nghwm Cynon a’r Rhondda nad oes ffordd o unrhyw fath yn eu cysylltu’n gorfforol. Enghreifftiau prin o’r ffigyrau caeth yn mynd yn drech na’r Comisiwn.
Dihangfa Guto Bebb
Sedd Guto Bebb yn Aberconwy yw un o’r seddi yng Nghymru sy’n wynebu’r fwyell. Wrth i’r llofrudd torfol o Fae Cinmel, Peter Moore, glywed na fydd o byth yn cael ei ryddhau’n fyw o garchar, diau i feddwl Guto wibio’n ôl i’r noson yn y 1990au a dreuliodd yn nhywyllwch sinema’r llofrudd yng Nghaergybi. Tri yn unig oedd yn bresennol. Guto. Ei gyfaill. A Peter Moore… Fe fydd Mr Bebb yn deall yn iawn nad colli eich sedd yw’r peth gwaethaf a all ddigwydd ichi.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
