Mae Gethin Wyn Jones yn gweithio i un o arlunwyr enwocaf Prydain, ac yn sicr un o’r rhai cyfoethocaf yn y byd os nad y cyfoethocaf oll. Ond nid yw’n un i ymffrostio yn hynny. Yn wir, prin ei fod yn dangos unrhyw gynnwrf yngl?n â bod yn gyflogedig i Damien Hirst, fel un o’i gynorthwywyr, mewn stiwdio yng ngogledd Dyfnaint. ‘Stiwdio fach ydi’r un dwi’n gweithio ynddi,’ meddai’n ostyngedig. ‘Mae ganddo lot o stiwdios mewn sawl lle, a dwi ddim ynghanol yr holl bethau mae o’n eu gwneud!’
Cynorthwyo Damien Hirst fu gwaith y Cymro ifanc ers iddo raddio mewn celfyddyd gain a pheintio ym Mhrifysgol Caerfaddon yn 2006. Bydd yn treulio’i ddyddiau yn peintio gweithiau sydd wedi’u cynllunio gan Hirst ac sy’n cymryd blynyddoedd i’w cwblhau. Dichon fod ôl ei frwsh paent i’w weld yn rhywle yn yr arddangosfa fawr o waith Hirst sydd i’w gweld yn y Tate Modern yn Llundain ar hyn o bryd. Cynorthwywyr fel Gethin, er enghraifft, sydd wedi peintio’r rhan fwyaf o’r cannoedd o luniau o ysmotiau lliwgar y mae Hirst yn enwog amdanynt; yn wir, mae ei arfer o gyflogi eraill i beintio ar ei ran wedi denu beirniadaeth rhai, yn eu plith David Hockney a ddywedod ei fod yn ‘sarhad ar grefftwyr’. Ond ynghanol y dadlau di-baid am hyn ac agweddau eraill ar waith Hirst, mae Gethin yn amlwg yn mwynhau’r hyn y mae’n ei wneud.
‘Dwi’n falch ’mod i’n cael y cyfle yma. Dwi’n peintio drwy’r dydd – ac yn yfed lot o de!’
Yn ddiweddar, fodd bynnag, mae prysurdeb Gethin yn ystod y dydd wedi parhau gyda’r nos ac ar benwythnosau hefyd yn aml iawn, wrth iddo baratoi at ei arddangosfa ef ei hun. Er i luniau o’i eiddo gael eu harddangos droeon o’r blaen, er enghraifft yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yng Nghanolfan Gelf Exeter, y sioe hon yn Oriel Mostyn, Llandudno, fydd ei arddangosfa lawn gyntaf.
Fel un a fagwyd yn bennaf ym Mangor, tyfodd Gethin i fyny yng ngolwg mynyddoedd Eryri – o ffenestr ei lofft gallai weld yr Wyddfa a’r Carneddau. Yn ei gartref presennol, ym mhentref Braunton ger arfordir Dyfnaint, mae ganddo olygfeydd gwahanol iawn o’i gwmpas gan gynnwys traethau ysblennydd. Ac yn sicr mae tirlun bro ei fagwraeth, a’r hyn a wêl bob dydd o’i gwmpas yn Nyfnaint, yn rhan o’r ysbrydoliaeth ar gyfer ei waith. Ond peidied neb â mynd i Oriel Mostyn gan ddisgwyl gweld tirluniau traddodiadol. Celfyddyd yw hon sy’r un mor ddyledus i wyrthiau’r byd cyfrifiadurol ag ydyw i harddwch y byd naturiol.
Fel ‘tirweddau geometrig’ y mae Gethin yn disgrifio’r gweithiau fydd i’w gweld yn Oriel Mostyn. Maent wedi’u sgrin-brintio ar fetel a’u fframio, a bydd un gwaith enfawr yn cael ei adeiladu o fetel ar wal yr oriel. Gemau cyfrifiadurol fu’r man cychwyn i’r gweithiau hyn. Bu’n hoff o’u chwarae ers pan oedd yn ei arddegau, ond dyma’r tro cyntaf iddo eu defnyddio i greu celf.
‘Be dwi’n ’neud ydi newid graffeg gêm gyfrifiadurol a gwneud tirlun allan ohono. Y gemau gorau ar gyfer hyn ydi’r hen rai – maen nhw’n llai pwerus ac felly ddim yn gallu cyfleu pethau mewn ffordd mor realistig â gemau heddiw. Mae hynny’n golygu eu bod yn gorfod dibynnu ar greu argraff o bethau fel gelltydd a mynyddoedd, gwair a choed, ac mae’r symlder yna yn y lliwiau a’r siapiau yn apelio ata’i.’
Bydd y rhai sy’n gyfarwydd â gwaith blaenorol yr artist hwn, a enillodd wobr gelf y Nationwide Mercury yn 2006, yn gwybod bod ganddo ddiddordeb erioed mewn lliwiau, ac mewn perthynas lliwiau â’i gilydd – patrymau lliwgar a chysact oedd canolbwynt llawer o’i waith blaenorol. Ond yn ddiweddar daeth yr awydd i wneud gwaith sy’n cyfleu mwy o ystyr, yn enwedig yngl?n â theyrnasiad y sgrin yn ein bywydau heddiw, boed yn sgrin cyfrifiadur, teledu neu gêm gyfrifiadurol.
‘Mae enwau rhai o’r gemau yn ddadlennol, fel God Game. Yn y gêm honno chi ydi Duw, yn cael newid y tirlun ar y sgrin fel mynnwch chi. Neu dyna ichi Sim City, lle ’dach chi’n cael creu eich dinas eich hun. Ac wrth i gyfrifiaduron fynd yn mwy a mwy pwerus, mae rhywun yn gofyn lle mae pen draw’r peth – a fyddwn ni mewn rhyw gant neu ddau o flynyddoedd yn gallu creu byd go iawn ar gyfrifiadur?’
Agwedd arall ar fyd y sgrin sy’n ei ddiddori yw persbectif, a gallu delweddau i dwyllo’r llygad, ac mae’n ceisio chwarae gyda’r un twyll yn ei waith ei hun. Trwy gyfrwng y delweddau, mae hefyd yn ceisio ‘oedi’ y llifeiriant cyflym o ddelweddau sy’n dod inni’n feunyddiol drwy gyfrwng y dechnoleg electronaidd, boed ar y we neu’r teledu.
‘Ro’n ni’n arfer printio gwaith a’i fframio fo ond do’n i ddim yn hollol gyfforddus efo hyn. Dyna pam dwi wedi troi, yn y gwaith diweddar, at sgrin-brintio ar fetel a chreu allan o fetel. Mae o’n ymdrech i roi ffurf go iawn i rywbeth rhithiol oddi ar sgrin. Rhoi pwysau iddo, go iawn ac mewn ystyr drosiadol. Dwi eisiau gwneud y digidol yn real, fel y gallwch chi ei deimlo a’i gyffwrdd o.’
Bwriadol hollol yw’r dewis o fetel fel cyfrwng hefyd. Gan fod golwg metel yn newid mewn gwahanol olau, mae’n gobeithio y bydd pobol yn yr oriel yn edrych ar y gweithiau fwy nag unwaith, gan ddychwelyd i edrych arnynt o wahanol onglau wrth gerdded o gwmpas.
Yn nyddiau Bangor gynt, roedd byd gwibiol y gemau cyfrifiadurol yn ddihangfa i lanc yn ei arddegau a oedd am osgoi gwlybaniaeth y tywydd a llonyddwch y tirlun mynyddig yn y byd tu allan. Ond mae’r rhod wedi troi bellach.
‘Erstalwm, er ’mod i’n gallu gweld yr Wyddfa allan drwy ffenest fy llofft, roedd byd llachar realiti rhithiol yn ymddangos yn llawer mwy diddorol. R?an, efo ‘ngwaith diweddara’, dwi’n sylweddoli ’mod i wedi mynd yn ôl i’r dechrau, drwy droi’r gêm gyfrifiadurol yn rhywbeth llonydd, fel edrych allan drwy’r ffenest ar yr Wyddfa. Mae o wedi bod yn ffordd o edrych yn ôl ar fy mhlentyndod.’
Bydd gwaith Gethin Wyn Jones i’w weld yn Oriel Mostyn, Llandudno, o 16 Mehefin hyd 30 Medi.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
