Pan ymwelwn i’n gyson â Chasnewydd fel gohebydd yn saithdegau’r ganrif ddiwethaf roedd yna ddeuoliaeth, a bod yn garedig, yn agwedd y trigolion tuag at Gymru. Bryd hynny doedd yr amwysedd a gafodd ei swcro gan y cysyniad o ‘Wales and Monmouthshire’ ddim wedi diflannu’n llwyr o’r tir. Er na chafodd Sir Fynwy erioed ei thraflyncu gan Loegr roedd y ffaith, dyweder, nad oedd Deddf Cau Tafarnau Cymru ar y Sul (1881) yn weithredol ym Mynwy yn dwysáu’r dryswch tiriogaethol a fodolai. (Nid, dylid pwysleisio, mewn llefydd fel Cwm Rhymni a oedd cyn Gymreicied bob tamaid â’r Cymoedd eraill.) Ond yn achos tref Casnewydd – dinas bellach – nid gormodiaith dwi’n credu ydi hawlio mai dyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol yno yn 1988 a barodd i’r bobol deimlo’n hollol gysurus am y tro cyntaf ers achau yng nghorlan Cymreictod.
Dwi ddim am ddweud bod tarfu ar ymdrechion y Saeson i ganu eu hanthem genedlaethol ar eu tomen eu hunain yn Wembley yn fynegiant creadigol na dyrchafedig o’n Cymreictod. Ond mae’r ffaith mai cefnogwyr Casnewydd, o bobman, a oedd wrthi yn arwyddocaol.
Mae hynny’n rhoi credinedd ychwanegol i’r arolwg a wnaed gan y mudiad British Future i agweddau cenhedloedd tir mawr Prydain tuag at y Frenhiniaeth ar drothwy 60 mlynedd o deyrnasiad Elizabeth 11. Datgelwyd mai 35% yn unig o’r rhai a holwyd yng Nghymru oedd yn gefnogol i’r Teulu Brenhinol. Cymharer hynny â’r 41% yn yr Alban a’r 80% yn Lloegr a oedd yn deyrngar i’r Frenhiniaeth. Teyrnas Unedig? Llai unedig nag y bu hi, mae hynny’n sicr.
Troi mae’r rhod. Ond dyw gwybod hynny ddim yn ddigon i fodloni rhai. Fe wn i am genedlaetholwyr sy’n troi eu trwynau ar bobol yn y Rhondda a Chaernarfon am gynnal partïon stryd i ddathlu’r Jiwbilî Brenhinawl. Dyma ddau o’r llefydd Cymreiciaf yng Nghymru gyfan. Yn y naill le mae’r canrannau uchaf o bobl a gafodd eu geni yng Nghymru. Yn y llall mae’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg. Nid drwy ynysu neu eithrio neu fod yn nawddoglyd tuag at y Sioni na’r Cofi mae hyrwyddo achos annibyniaeth. I’r gwrthwyneb yn llwyr.
Y garreg filltir nesaf sy’n wynebu’r Frenhines yw torri record Fictoria. Bu hi ar yr Orsedd am 63 mlynedd a 216 diwrnod, o 20 Mehefin 1837 tan 22 Ionawr 1901. Fel y dangosodd Hywel Teifi Edwards roedd gan Ceiriog a llawer o eisteddfodwyr y cyfnod feddwl mawr o Fictoria. A hawdd yw deall pam. Yn 1849 mewn llythyr at yr Arglwydd Lansdowne mynegodd y Frenhines y farn hon: ‘Welsh should be taught in Wales as well as English’. Sylwer ar y flwyddyn. Roedd hi’n sgwennu’n fuan ar ôl Brad y Llyfrau Gleision yn 1847, yr adroddiad gan dri bargyfreithiwr Anglicanaidd di-Gymraeg a briodolai holl ddiffygion y Cymry – bod yn fudr a diog ac anwybodus ac ofergoelus ac anfoesol ac ati ac ati – i’r iaith Gymraeg a’r capeli.(Eu tystion oedd cyd-Anglicaniaid rhagfarnllyd.) Does dim rhyfedd bod Fictoria, wrth dynnu’n groes i’r Comisiynwyr, wedi anwylo ei hun yng ngolwg caredigion yr iaith. Gyda llaw, ag Elizabeth o Windsor (ei henw yng Ngorsedd) yn ail i Fictoria’n unig yn siart y deg a fu’n teyrnasu am y cyfnod hiraf ar orseddau ynysoedd Prydain, wyddoch chi pwy ydi rhif wyth? Neb llai – na mwy – na Llywelyn Fawr a deyrnasodd am 44 mlynedd, o 1196 hyd 1240.
Ydan ni’n cael dathlu hynny, Leanne?
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
