Thema dywyll Thema golau
Llwyfan i Freuddwydion
Cwrs y Byd – Ymweld â’r gorffennol
Yr Ornest

Cwrs y Byd – Ymweld â’r gorffennol

Diau mai’r dieithrwch hwnnw, a fynegwyd yn 1998 yn hunangofiant Paul, a barodd i’r Athro W. J. Gruffydd ochneidio yn Hen Atgofion ym 1936: ‘Gresyn o beth yw i Gymro fod yn alltud yng Nghymru, ac alltud heddiw yw pob Cymro sy’n byw yng Nghaerdydd a’i maestrefi’.

Afraid dweud nad oedd pethau cynddrwg â hynny pan gyrhaeddais i yno yn 1970. Ac eto, gall pawb o ’nghenhedlaeth i ddwyn i gof y profiad annymunol o bobol fusnes yn bytheirio ac yn gwrthod derbyn ein sieciau Cymraeg. (Doedd y cerdyn plastig â’i esperanto hwylus ddim yn bod ar y pryd.)

Ac roedd symud ta yn golygu galw ar arbenigwr i ailosod erial y teledu os oeddem eisiau derbyn rhaglenni Cymraeg – neu raglenni Saesneg o Gymru. Os na fyddai cwsmer yn mynnu bod ei erial yn pwyntio at drosglwyddydd Gwenfô, yr arferiad yng Nghaerdydd oedd troi pob erial at drosglwyddydd y Mendips. Gwir swyddogaeth y trosglwyddydd hwnnw oedd gwasanaethu Bryste a Gorllewin Lloegr. Roedd o, felly, yn wynfydedig rydd o’r Gymraeg.

Fi fyddai’r cyntaf i gydnabod bod Caerdydd yn ddinas anhraethol Gymreiciach erbyn heddiw. (Ond deil yn dân ar fy nghroen bod Caerdydd, a fyddai’n ymelwa mwy na neb o’r Cynulliad, wedi gwrthod datganoli mor ddiweddar â 1997.)

Ynfytyn, serch hynny, fyddai’n ceisio dadlau nad yw Caerdydd wedi newid. Diawch erioed, newidiodd i’r fath raddau fel nad yw’r môr bellach yn yr un man ag yr oedd o’n arfer bod! Fe’i symudwyd er mwyn creu’r Bae.

Dychmygwch felly’r sioc a’r siom a gefais pan logodd y BBC ystafell imi’n ddiweddar yn y Mercure Holland House, Caerdydd. Roedd y gwesty’n gysurus. Ystafell ddymunol, os ychydig yn flinedig ei diwyg, efo gwely mawr braf. Ond... Yn hollol wahanol i Westy Dewi Sant yn y Bae, neu’r Hilton yng nghanol Caerdydd, aeth yr Holland ati’n wrthnysig i anwybyddu yn hytrach nag arddel Cymreictod. Mae’n wir – ysywaeth – bod mymryn o Gymraeg carbwl yn y llythyr cyfarch yn yr ystafelloedd: ‘Gobeithiwch dy fod chi’n mwynhewch eich aros’.

Ond, am y fwydlen... Mewn cyfnod pan fo pob ta bwyta yn ymffrostio yn ei ddefnydd o gynhwysion lleol, mae’r Mercure Holland yn ymwrthod â chynnyrch Cymru. Cynigir – wnâi ddim tarfu ar y Saesneg gwreiddiol a damniol – Casterbridge beef. Only English beef reared and sourced in the six counties of South West England. Neu beth am Cornish blue cheese? Neu English cheddar? Neu Gloucester ham? Ayyb. Ayyb ...

Er bod y pecyn ymwelwyr yn nodi nifer o atyniadau megis Stadiwm a Chanolfan y Mileniwm, a Techniquest, does dim cyfeiriad o gwbl at adeilad y Senedd. Mae fel pe byddai hyrwyddo unrhyw arlliw o arwahanrwydd gwleidyddol Cymru yn fasnachol niweidiol.

Roald Dahl, ddwywaith, yw’r unig ‘Gymro’ a grybwyllir.

H’m... Y bore a ddaeth. Yn f’aros roedd ‘a full traditional English breakfast’. Ond, chwarae teg, roedd sgwaryn bychan o gardfwrdd yn sownd wrth y Sacsonaidd frecwast-fwydlen. Ar hwnnw, wele, roedd – ‘Local Speciality – Laver Bread’. Ie, ‘local’. Nid ‘national’. Ond pan ofynnais i am fara lawr yn yr Holland doedd dim ohono ar gael. Ydi o ar gael fel arfer? holais. ‘Dunno,’ meddai’r gweinydd syfrdan. Wnes i ddim trafferthu i ddweud wrtho fo fy mod i wedi gweld llwythi o fara lawr ym marchnad Caerdydd y pnawn cynt.

Cwestiwn. Wnaeth yr Holland House dderbyn nawdd gan yr union Gynulliad y mae’r gwesty mor benderfynol o anwybyddu ei fodolaeth?

Ac un peth arall. Doedd dim S4C ar y teledu yn fy llofft yn y Mercure Holland. Fe wyddom bellach mai dyna’r arferiad hefyd mewn gwestai ledled Cymru.

Gweithreder yn ddidrugaredd. Dim S4C. Dim bwydydd Cymreig. Dim ceiniog o grant. Dim o’n cefnogaeth ninnau.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Llwyfan i Freuddwydion

Ymlaen >

Yr Ornest