Cofio ei ymweliad, yn ôl yn y 1960au, â gwlad a gafodd ddylanwad mawr ar ei wleidyddiaeth y mae’r colofnydd y tro hwn, er y bu tro ar fyd yn y gyn-drefedigaeth Ffrengig ers y dyddiau delfrytgar hynny.
Byddaf, o bryd i’w gilydd, yn dyfalu beth fuasai fy hanes petawn i heb daro ar y diweddar W.J. Davies, prifathro cyntaf Ysgol Morgan Llwyd a ffrind i ffrind i mi – Gwenlyn Parry – yn hen faes parcio Stryd Llyn, yng Nghaernarfon, fis Mehefin 1964, bron union hanner canrif yn ôl.
Roeddwn newydd gyflwyno fy ymddiswyddiad i brifathro Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, gyda’r bwriad o dreulio cyfnod amhenodol yn Algeria yn helpu, orau gallwn, drigolion y wlad honno i’w chodi ar ei thraed wedi canrif a mwy o orthrwm trefedigaethol a degawd o ryfel annibyniaeth gyda’r creulonaf a welwyd yn yr 20g.
Deilliai fy niddordeb yn y wlad o’r flwyddyn-ysgol, 1960–61, a dreuliaswn yn Bordeaux fel assistant de langue anglaise. Cefnogwn yr FLN (Front de Libération Nationale), cyfeillachwn gyda myfyrwyr o Algeria a mynychwn gyfarfodydd yr undebau llafur a’r Blaid Gomiwnyddol a alwai ar yr Arlywydd Charles de Gaulle i ddirwyn y rhyfel i ben. Cofiaf yn arbennig y rali enfawr a gynhaliwyd fis Ionawr 1961 yn y sgwâr o flaen Eglwys Gadeiriol Bordeaux pan fygythiai cadfridogion yn Algeria a Corsica groesi Môr y Canoldir gyda’u lluoedd a dymchwel y Llywodraeth.
Drylliwyd fy ffrancoffiliaeth ramantus a cheidwadol gan y profiadau hynny a phenderfynais mai ar y Chwith y byddai fy nhrigfan wleidyddol.
Gwlad drist a diobaith oedd Cymru 1964 i genedlaetholwr ifanc a siomwyd gan aflwydd Tryweryn. Methiant truenus fu protest dorfol, gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, fis Chwefror 1963, yn Aberystwyth, yn fy marn i ac eraill. Rhoddodd y Comisiwn Brenhinol a ddeilliodd ohoni esgus i adrannau o’r llywodraeth ganol a llywodraeth leol ohirio ystyried codi statws swyddogol y Gymraeg ‘nes byddwn ni wedi darllen Adroddiad Syr David Hughes-Parry’.
Dyna pam y penderfynais yr awn i wasanaethu cenedl a werthfawrogai fy nelfrydiaeth a gwlad lle y dysgwn bethau a fyddai o fudd i ’ngwlad fy hun pe deffrai honno. Sgrifennais at ryw adran o Lywodraeth Algeria a derbyn gair yn ôl yn cynnig swydd i mi fel athro neu gyfieithydd.
Ond roedd gan W.J. broblem ddifrifol: neb i ddysgu Saesneg na Ffrangeg yn ei ysgol gyfun Gymraeg newydd sbon ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Pan grybwyllais fod gen i’r cymwysterau perthnasol anogodd fi i gynnig am y swydd. Gwnes hynny a’i chael.
Mi es i Algeria y flwyddyn honno ond ar bererindod yn hytrach nag i weithio; taith a ysgogwyd gan euogrwydd ac awydd i dalu teyrnged i genedl a edmygwn ac a ddylanwadodd i’r fath raddau ar fy naliadau gwleidyddol.
Comet – yr awyren jet gyntaf imi hedfan ynddi – o Lundain i Gibraltar. Croesi’r ffin i borthladd Algeciras yn Sbaen a chwch o fan’no i Ceuta, dinas ar arfordir Moroco sy’n dal yn drefedigaeth Sbaenaidd. Bws o Ceuta i Tetouan. Bws arall i Oujda ger y ffin ag Algeria. Croesi’r ffin ac ymlaen tuag Algiers mewn tacsi efo chwech o Arabiaid hynafol mewn djebellas gwynion, llaes ac un Affricanwr mawr, hwyliog a wnaeth i mi chwerthin lawn cymaint â’r lleill, gydol y siwrnai dros yr anialwch, er na ddeallwn air a ddywedai. Bore Llun Eisteddfod Genedlaethol Abertawe oedd hi a meddyliais am Orsedd y Beirdd ac Eirwyn Pont-siân. Cyrhaeddais Algiers mewn trên o’r math a welir mewn ffilmiau cowbois.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
