Thema dywyll Thema golau

Gwybod Dim, Malio Dim – Y Cyhoedd a Gwleidyddiaeth Gymreig

Ifan Morgan Jones

Pam nad oes mwy o ddiddordeb gan bobl Cymru yng ngwleidyddiaeth Bae Caerdydd? A fyddai trefn ffederal o ethol llywodraethwr ar y wlad yn fodd i fywiogi pethau?

Ym mis Mehefin datgelodd arolwg a gynhaliwyd gan y BBC pa mor anwybodus yw’r cyhoedd am y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru wedi 15 mlynedd o ddatganoli.

Gellid maddau i’r cyhoedd am rywfaint o ddryswch. Mae’n wir nad yw’r ffin rhwng grymoedd y Cynulliad a San Steffan yn gwbl eglur i’r gwleidyddion, y gweision sifil na’r newyddiadurwyr sy’n adrodd ar y sefydliad hyd yn oed – ddeallais i erioed sut roedd Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol (yr LCOs) yn gweithio!
Ond mae’n destun pryder mawr bod llai na hanner poblogaeth y wlad yn gwybod mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am iechyd, a thua’r un faint wedi tybio ar gam mai nhw sy’n gyfrifol am yr heddlu. Mae’r gamdybiaeth ynghylch iechyd hyd yn oed yn fwy syfrdanol o ystyried bod yr un arolwg yn cynnwys cwestiwn sy’n gofyn pa mor llwyddiannus y bu Llywodraeth Cymru wrth reoli’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

A ellir cael unrhyw fath o ddemocratiaeth weithredol pan fo etholwyr mor anwybodus? Y peryg yw, pan ddaw etholiad, mai pleidleisio ar sail gwleidyddiaeth San Steffan y bydd pobl – er mwyn ‘gyrru neges’, chwedl y Blaid Lafur – yn hytrach nag ar sail yr hyn mae’r pleidiau a’r gwleidyddion wedi ei gyflawni yn y Cynulliad.
Felly pwy neu beth sydd ar fai?

Gellir pwyntio bys at y cyfryngau Llundeinig am beidio â chynnwys rhagor o newyddion am Gymru. Cyfeiriwyd yn aml yn ddiweddar at amharodrwydd Question Time i gynnwys gwleidyddion a phynciau trafod Cymreig, hyd yn oed pan maen nhw’n ffilmio’r ochr yma i Glawdd Offa. Ond o safbwynt darlledwyr a chyhoeddwyr papurau newydd Llundain, canran fechan iawn o’u gwylwyr a’u darllenwyr yw’r Cymry. Nid yw’n annisgwyl eu bod yn dewis canolbwyntio ar straeon a phynciau sydd o ddiddordeb i fwyafrif eu cynulleidfa – hynny yw, trigolion de-ddwyrain Lloegr.

Mae yna beryg hefyd ein bod ni’n rhoi gormod o bwyslais ar gyfrifoldeb y wasg yn yr oes ddigidol sydd ohoni – nid yw’r golygyddion yn gwarchod pyrth gwybodaeth yn yr un modd ag yr oedden nhw. Mae’r we o fewn cyrraedd pawb, bron, erbyn hyn, ac mae ffeithiau syml am drefn lywodraethol Cymru vis-à-vis gweddill y Deyrnas Unedig ar gael o fewn clic ar borwr Google.

Mae’n amlwg fod yna broblem fwy sylfaenol fan hyn na diffyg sylw gan y cyfryngau. Nid yw’r Senedd wedi llwyddo i ddal dychymyg y bobl. Does gan bobl ddim diddordeb.

Mae’r ‘wleidyddiaeth gonsensws’ sy’n nodweddiadol o Fae Caerdydd yn beth da ym marn nifer, ond braidd yn ddiflas yn nhyb eraill. Nid oes rhyw lawer o wahaniaeth barn rhwng y prif bleidiau. Ac nid yw o gymorth yn hynny o beth fod yr un blaid wedi dal awenau grym yng Nghymru ers 15 mlynedd, ac yn debygol o wneud hynny am ddegawdau eto. Fel y dywedodd yr Athro Gerald Holtham yn ddiweddar, mae angen polau piniwn agos, a dadleuon da rhwng y pleidiau, os yw gwleidyddiaeth am fod yn ddiddorol.

Gellir cynnig dau ateb i’r broblem hon.



Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Miles sy’n dweud...Algeria a’r freuddwyd goll

Ymlaen >

Blas yr Afal a Gwin Gwyn Gwahanol