Thema dywyll Thema golau
Colli Mam
Cyfiawnder i bawb – gan gynnwys gwleidyddion!
Bwyell Cameron

Cyfiawnder i bawb – gan gynnwys gwleidyddion!

Ond does dim cyfiawnhad ychwaith dros y modd yr oedd y Swyddfa Ffioedd yn San Steffan yn eu hannog nhw i ymelwa. Yn rhifyn Mehefin o’r cylchgrawn hwn datgelais sut y gwnaeth swyddog ffioedd ei orau glas, ar ôl Etholiad Cyffredinol 1992, i berswadio’r newydd ddyfodiad Elfyn Llwyd i ddatgan mai yn Llundain, bellach, yr oedd ei brif gartref. Pwysai’n daer ar Elfyn i gofrestru ei da yn Llanuwchllyn fel ei ail gartref. Ofer fu ymdrechion y swyddog i demtio’r newyddian o aelod gyda manteision ariannol trefniant o’r fath. Wrth ganmol dyn sydd ers blynyddoedd bellach yn arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, rhaid ar yr un pryd feirniadu’n hallt y diwylliant pwdr a thwyllodrus a oedd yn gosod aelod seneddol newydd sbon a hollol ddibrofiad yn y fath sefyllfa.

Afraid dweud bod gwir angen carthu stablau Ty’r Cyffredin. Ond dwi’n amheus iawn o’r modd y mae dewis- garthwr Gordon Brown, y gwas sifil Syr Thomas Legg, wedi mynd o’i chwmpas hi. Roedd y modd roedd o’n osgoi’r wasg yn nodweddiadol o draha dyn sydd wedi treulio oes yn ymarfer grym y tu ôl i’r llenni, yn hollol anhysbys. Dyn na fu’n atebol i affliw o neb erioed ar wahân i fandariniaid Whitehall. Am wneud ei job, sef bod yn was ffyddlon i’r Sefydliad, y cafodd hwn ei godi’n farchog. Dim byd arall.

(Dyna’r drefn. Un o bercs y swydd yw teimlo cyffyrddiad ysgafn y cleddyf Brenhinol ar ysgwydd yr ufudd.)

Bid a fo am hynny. Prawf o fwngleriaeth affwysol Legg yw’r modd y bu bron iddo ennyn ein cydymdeimlad tuag at aelodau seneddol. Gosododd drothwy yn ôl-dremiol neu’n ôl-weithredol – dyna mae Geiriadur Bruce yn ei gynnig am ‘retrospective’. Ei neges i aelodau seneddol oedd eu bod nhw wedi cadw at y rheolau ond ei fod o rfian wedi penderfynu newid y rheolau hynny. Roedd gofyn iddyn nhw, felly, ad-dalu’r Senedd! Gwir a ddywedodd Ann Widdecombe, y cyn-weinidog Torïaidd: ‘Pe byddai unrhyw gyflogwr arall yn ceisio gwneud y fath beth, byddai’n cael ei lusgo gerfydd ei glustiau gerbron tribiwnlys cyflogaeth. Mae hyn yn groes i reolau cyfiawnder naturiol.’

Ond yn yr hinsawdd ddiawledig sydd ohoni dyw ein haelodau seneddol, yr union bobol sy’n llunio’r gyfraith, ddim yn malio botwm corn am gyfiawnder. Cyfoglyd i’r eithaf oedd gweld David Cameron, dyn â’i gyfoeth personol yn £12 miliwn, yn gorchymyn Torïaid hollol ddiniwed, yn y cyswllt hwn, i dalu biliau anghyfiawn yr anghyfiawn Legg. Os na fydden nhw’n ufuddhau byddai’r goludog Etoniad – ‘cyfaill y tlodion’, honnai yng nghynhadledd Manceinion! – yn gwrthod gadael iddyn nhw sefyll eto dros y blaid.

Y gwir, wrth gwrs, ydi bod 109 o’r aelodau seneddol presennol wedi cyhoeddi eisoes y byddan nhw’n gadael o’u gwirfodd ar derfyn y Senedd hon. A faint yn rhagor ohonyn nhw fydd yn cael eu cicio allan gan etholwyr sy’n udo am waed? Gwaed yr euog neu waed y diniwed, dim ots. Dyw hynny erioed wedi poeni tyrfa a gynddeiriogwyd. Gellir yn hawdd rhagweld y bydd y Llywodraeth nesaf, a’r Senedd yn ei chyfanrwydd, yn llawn o aelodau amhrofiadol.

Ymateb hollol ddealladwy trwch y boblogaeth i hynny fyddai dymuno gwynt teg ar ôl y giwed sydd wedi dwyn y fath anfri ar wleidyddiaeth seneddol. Ond ystyrier hyn: y bobol a fyddai hapusaf o ddigon pe byddai hynny’n digwydd yw’r uwch weision sifil y mae’r anatebol Legg yn gynrychiolydd mor sinistr ohonyn nhw.  

Peidiwn â chymryd ein twyllo. Nid carthu’r stabal yw gwir ddiddordeb pobol o’r fath. Torri crib gwleidyddion etholedig a llesteirio democratiaeth fu cenhadaeth rhain erioed.

Cofier Syr Humphrey...   

Cyfiawnder neu hunangyfiawnder?  

Fel un na fydd byth braidd yn mynd ar gyfyl Bae Caerdydd nid yn aml y byddaf yn cael cwmni Aelodau’r Cynulliad. Gwelaf nhw yn yr Eisteddfod ac mewn sioeau amaethyddol. Yn wir, yr haf diwethaf hwn fe wnes i gyfarfod amryw ohonyn nhw am y tro cyntaf. Pan godais efo nhw’r modd yr adweithiodd awdurdodau’r Cynulliad i sgandal treuliau SanSteffan, mynegodd sawl aelod amheuon dwfn. Amheuon nad oedden nhw’n meiddio eu mynegi’n gyhoeddus.

Adroddiad Syr Roger Jones – dyn na chefais i erioed achos i’w edmygu – fu’n gyfrifol am ‘adolygu’ treuliau a lwfansau pob AC. Bydd un o’i argymhellion ‘dewr’ yn rhoi terfyn ar y trefniant a roddai gymorth ariannol i aelod brynu ail gartref yng nghyffiniau’r Cynulliad. Diau fod estyn cymorth o’r fath i aelodau etholaethau cyfagos i’r Bae yn ddiangen. Ond byrbwyll a dweud y lleiaf fu rhoi terfyn llwyr ar y trefniant yn ei gyfanrwydd i bob aelod yn ddiwahân.

Chefais i na neb arall erioed le i alw Llywydd y Cynulliad yn biwritan. A dyw hi’n rhoi dim pleser imi ei alw’n hunangyfiawn. Ond mae arnaf ofn mai ymgais i ymddangos yn burach a mwy egwyddorol na’r Saeson yw’r mesurau llym a fabwysiadwyd. Beryg bod hyn hefyd yn ymgais gan Gynulliad sydd eto i ennill ymddiriedaeth y genedl gyfan i geisio ei anwylo ei hun yn ein golwg?

Os na fyddwn ni’n ofalus, dim ond y cyfoethog fydd yn gallu fforddio i fynd yn wleidydd.   

Nid bai Toshack yn llwyr

Ar derfyn ymgyrch bêl-droed ryngwladol ddiffaith arall cyfaddefodd John Toshack mai dirywio nid gwella mae Cymru wedi ei wneud yn achos y tîm han. Yn ystod ei bum mlynedd wrth y llyw daeth yn amlwg nad yw trin pobol yn un o gryfderau Toshack. Cyn dod i’r swydd cythruddodd genhedlaeth o chwaraewyr oherwydd ei barodrwydd sadistaidd ar y teledu i gystwyo a dilorni ymdrechion ei ragflaenydd yn y swydd, Mark Hughes. Fyddai nifer o’r hen lawiau profiadol ddim wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol pe byddai rhywun heblaw Toshack wrth y llyw.

Ond er gwaethaf ei ffaeleddau niferus, y gwir reswm am ein methiant yw’r ffaith syml nad oes gan Gymru ddigon o chwaraewyr sy’n chwarae o wythnos i wythnos ar y lefel uchaf. Mae cymaint o chwaraewyr tramor yn yr ynysoedd hyn bellach fel ei bod hi’n mynd yn anos nag erioed i Gymry ifanc gael cyfle. Ac mae’r un peth yn wir hefyd yn achos Saeson ifanc.

Ar Sadwrn cyntaf yr Uwch Adran yn Awst 1992 dim ond 11 o chwaraewyr tramor oedd ar lyfrau’r clybiau a oedd yn cymryd rhan. Erbyn Chwefror 2005 rhoddodd Arsenal dîm cyfan o dramorwyr ar y cae. A bellach mae gan glybiau’r Uwch Adran dros 260 o chwaraewyr tramor, cyfartaledd o dros 13 i’r clwb.

Dan amgylchiadau o’r fath mae hi’n mynd yn fwyfwy anodd i Loegr ddewis tîm o’r safon uchaf. Pa obaith, felly, sydd gan Gymru, mewn difri? Mae’n wir fod ein tîm cenedlaethol dan 21 ar y brig ar hyn o bryd. Ond os na fyddan nhw’n cael y cyfle i ddatblygu eu doniau ni ellir cymryd yn ganiataol bod rhagolygon rhyngwladol Cymru yn mynd i wella’n sylweddol.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Colli Mam

Ymlaen >

Bwyell Cameron