Mae penllanw’r gefnogaeth i’r Blaid Lafur ar ei gwedd ‘Newydd’ wedi hen basio. Ni allai hyd yn oed y Llafurwr neu’r Llafurwraig mwyaf un llygeidiog wadu hynny bellach. Yn wir, i’r sawl sydd â llygaid i weld, ceir arwyddion ar bob tu o blaid sydd ar fin cwymp egar iawn.
Fe aeth aelodau gweithgar ar y lefel leol yn fodau prin ar y naw. O’r herwydd ceir hanesion am ad-drefnu cyson er mwyn ceisio cynnal rhyw fath o weithgarwch lleol. Hyd yn oed yng nghadarnleoedd y gorffennol gwelir uno canghennau a arferai fod yn ganghennau ward yn ganghennau mwy gan nad oedd digon yn mynychu i gael cyfarfodydd cyfansoddiadol-ddilys. Yna gwelwyd proses o uno’r canghennau mwy yn ganghennau mwy fyth gan nad oedd digon o aelodau yn mynychu cyfarfodydd rheini chwaith. Yn wir, erbyn hyn, ar lefel etholaethol yn unig y ceir trefniadaeth ystyrlon mewn llawer i fan; a hyd yn oed ar y lefel honno gall trefniadaeth fod yn drybeilig o wan - a hynny mewn etholaethau a gynrychiolir gan aelodau Llafur.
Heneiddio y mae’r aelodau sy’n parhau’n ffyddlon. Ychydig iawn, iawn o bobl ifanc sy’n ymuno â’r rhengoedd bellach. Yn y ffeiriau’r glas fyfyrwyr a gynhelir yn niwrnodau cyntaf y flwyddyn academaidd newydd, y Torïaid ifanc sy’n denu myfyrwyr. Ddiwedd Medi 2008, os oedd Llafurwyr ifanc yn bresennol o gwbl, roedd eu cyd-fyfyrwyr yn mynd o’r tu arall heibio iddynt. O, mor wahanol i’r sefyllfa ganol y 1990au pan oedd trwch y to iau yn tueddu i ffieiddio’r Ceidwadwyr ac yn wirioneddol gyffrous ynglyn â’r hyn a fyddai’n deillio o fuddugoliaeth Llafur.
Ond yr hyn sy’n gwneud sefyllfa Llafur yn wirioneddol fregus yw’r argyfwng gwacter ystyr sydd wedi gafael ynddi. Beth bellach yw pwynt y blaid? Cyn i Blair a Brown droi Llafur yn Newydd gan fwrw heibio gwaddol syniadaeth hanesyddol y blaid, go brin fod 'na lawer o amheuaeth. Cydraddoldeb, gwleidyddiaeth dosbarth, gwladoli: rhain oedd y sylfeini, hyd yn oed os oedd de a chwith y blaid yn anghytuno ynglyn â’r union beth yr oedd hyn yn ei olygu mewn termau ymarferol. Yn wir, da y cofiaf ddarllen traethodau ddechrau’r 1990au gan un myfyriwr abl a oedd, bryd hynny, fel petai â dyfodol disglair yn y blaid, yn moli ‘sosialaeth ddemocrataidd’ fel sail egwyddorol ei rhaglen bolisi. Yr oedd, bryd hynny o leiaf, yn credu.
Dichon fod cydraddoldeb, gwleidyddiaeth dosbarth, ac yn y blaen, i gyd yn gysyniadau problemataidd dros ben. Dichon yn wir, ei bod yn hwyr glas eu diwygio. Dagrau pethau, fodd bynnag, yw na roddwyd dim yn eu lle y tu hwnt i falu awyr ynglyn â ‘chyfiawnder cymdeithasol’ - cysyniad sydd mor amwys a hollgynhwysol fel bod Cameron, Clegg a Brown yn gallu ei raffu am y gorau.
Y tu hwnt i ddiffygion y Ceidwadwyr, charisma Blair ac enw da Brown fel gwarchodwr cadw-mi-gei’r wlad oedd sail llwyddiant etholaethol Llafur. Wrth i’r charisma bylu, ac wrth i’r enw da golli ei rin yn wyneb realiti’r Dirwasgiad Mawr, doedd - a does - dim ar ôl i gymryd eu lle. Dyna pam y mae’r golofn hon wedi bod mor gyson dros y cyfnod diwethaf yn darogan buddugoliaeth i’r Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol Prydeinig nesaf, a hynny er gwaetha’r ffaith fod yr arolygon barn wedi bod yn gymharol ffafriol i Lafur ar wahanol adegau yn ystod y cyfnod hwnnw. Hyd yn oed os bydd awydd i amddiffyn statws a swyddi, ynghyd â’ hen elyniaeth lwythol tuag at y Torïaid, yn parhau’n sbardun, y gwir amdani yw hyn. Nid yw calonnau Llafur ynddi bellach. Mewn byr eiriau, mae’r blaid wedi colli ei raison d’etre.
Un peth ydi cydnabod hyn oll ar wastad cyffredinol a Phrydeinig. Beth fyddai canlyniadau tebygol buddugoliaeth etholiadol Geidwadol i’r Blaid Lafur Gymreig? Mae llawer iawn, wrth gwrs, yn dibynnu ar berfformiad y ddwy blaid yng Nghymru. Petai Llafur yn perfformio’n symol yn Lloegr ond yn weddol yng Nghymru – fel y digwyddodd yn 1987 neu yn 1992 - yna, ar un ystyr o leiaf, fyddai pethau ddim yn rhy ddrwg. Buan y gellid adfer rhyw fath o hunan-barch a hygrededd - yng Nghymru, o leiaf - fel cynrychiolwyr y farn ddemocrataidd Gymreig. Ond nid felly y mae hi’n debygol o fod - o leiaf os ydym i gredu'r dystiolaeth orau a mwyaf manwl sydd ar gael ar hyn o bryd. Sôn yr ydwyf am y pôl piniwn o gynhaliwyd mewn etholaethau ymylol ar draws Prydain ar gyfer y wefan PoliticsHome yn ôl ym mis Medi'r llynedd.
Roedd yr arolwg hwnnw’n arwyddocaol am sawl rheswm. Yn gyntaf, oherwydd ei fod yn tynnu ar sampl anferthol o bron i 35,000 etholydd mewn 238 etholaeth wahanol, 18 ohonynt yng Nghymru. Mae hyn ynddo’i hunain yn ddigon i’n gorfodi i’w gymryd o ddifrif. Yr ail reswm yw’r ffaith ei fod yn arolwg sy’n canolbwyntio ar etholaethau ymylol. Dyma’r seddau lle y gwelir y pleidiau yn canolbwyntio eu hegnïon. Yn fwy penodol, yma y mae’r Arglwydd Ashcroft yn tywallt ei filiynau i gynnal breichiau ymgeiswyr Ceidwadol - arian y mae llawer, boed yn Llafurwyr pryderus neu’n Geidwadwyr hyderus, yn credu y gall wneud gwahaniaeth mawr yn nhermau’r canlyniad terfynol. Yn olaf, ceir amseriad yr arolwg, cyn i Lafur fwynhau pwl byrhoedlog o gefnogaeth uwch ar gychwyn y Dirwasgiad Mawr sydd ohoni. Faswn i’n synnu dim petai lefelau cefnogaeth fis Medi diwethaf - cyfnod pan oedd Cameron ar gefn ei geffyl a Llafur wedi ei gwasgu nôl at ei phleidlais graidd - yn cael ei hailadrodd adeg yr etholiad Prydeinig nesaf. Yn wir, os fydd sefyllfa’r economi yn parhau i fynd o ddrwg i waeth, ac o waeth i uffernol, fe allai pethau fod hyd yn oed yn dywyllach iddynt.
Yn 1983 y cyrhaeddodd cefnogaeth y Torïaid ei benllanw diwethaf yng Nghymru pan lwyddodd y blaid i gipio 13 o’r 38 sedd Gymreig a fodolai'r adeg hynny. Ar y pryd roedd nifer o sylwebwyr gwleidyddol yn darogan fod y canlyniad yn arwyddo newid hanesyddol mewn patrymau pleidleisio Cymreig. Nid felly y bu. Serch hynny, bu’n ergyd drom iawn i Lafur (ac i genedlaetholwyr Cymreig, o ran hynny). Neges arolwg PoliticsHome, fodd bynnag, yw y gall 1983 fod yn ddim o’i chymharu â’r etholiad cyffredinol nesaf. Ymddengys fod y Blaid Geidwadol ar drothwy ei chanlyniad gorau yng Nghymru ers gwawrddydd democratiaeth yn ôl yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Gadewch i ni fanylu. Roedd yr arolwg yn darogan y bydd y Ceidwadwyr yn cadw'r ddwy sedd ymylol y maent yn ei dal ar hyn o bryd, sef Preseli Penfro a Gorllewin Clwyd (mae Mynwy bellach yn sedd ddiogel felly nid oedd yn rhan o’r arolwg.) Yn ogystal, byddai Torïaid yn cipio 12 o seddau ymylol eraill, 11 ohonynt oddi wrth y Blaid Lafur, sef Aberconwy, Bro Morgannwg, De Clwyd, Delyn, Dyffryn Clwyd, Gwyr, Gogledd Caerdydd, Gorllewin Caerdydd, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, Gorllewin Casnewydd a Phen-y-bont. Yn ogystal â hynny, y darogan oedd y byddai’r Rhyddfrydwyr yn gorfod ildio eu lle i Dori ym Mrycheiniog a Maesyfed. Galaru fyddai hanes Rhyddfrydwyr Ceredigion hefyd wrth i Blaid Cymru gipio’r sedd honno, yn ogystal ag Ynys Môn ag Arfon oddi ar Lafur. (Wrth reswm y Blaid sy’n cynrychioli Arfon ar hyn o bryd, ond mae’r arbenigwyr yn ystyried mai Llafur fyddai wedi ennill y sedd honno yn ôl yn 2005 o’i hymladd ar sail ei ffiniau newydd.) Yn wir, Llanelli oedd yr unig sedd lled-ymylol lle y disgwylid i Lafur ddal ei gafael ynddi. Cynddrwg oedd y rhagolygon i Lafur, fel bod PoliticsHome yn darogan y gallai’r Torïaid gipio Alun a Dyfrdwy, De Caerdydd a Phenarth a Dwyrain Casnewydd petai’r gogwydd cyffredinol Cymreig yn cael ei ailadrodd yn y seddau hynny hefyd.
Mae’r Tabl gyntaf yn nodi'r seddau ymylol a grybwyllir yn arolwg PoliticsHome gan nodi hefyd yr Aelodau Seneddol presennol er mwyn i ni gael gwell syniad o hyd a lled y chwalfa bosib.
|
Ymylol – darogan arolwg PoliticsHome |
Gorllewin Clwyd |
Ceid. cadw |
David Jones |
|
|
Preseli Penfro |
Ceid. cadw |
Stephen Crabb |
|
|
|
|
|
|
|
Aberconwy |
Ceid. cipio |
Betty Williams |
|
|
Bro Morgannwg |
Ceid. cipio |
John Smith |
|
|
Brycheiniog a Maesyfed |
Ceid. cipio |
Roger Williams |
|
|
De Clwyd |
Ceid. cipio |
Martin Jones |
|
|
Delyn |
Ceid. cipio |
David Hanson |
|
|
Dyffryn Clwyd |
Ceid. cipio |
Chris Ruane |
|
|
Gogledd Caerdydd |
Ceid. cipio |
Julie Morgan |
|
|
Gorllewin Caerdydd |
Ceid. cipio |
Kevin Brennan |
|
|
Gorllewin Casnewydd |
Ceid. cipio |
Paul Flynn |
|
|
Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro |
Ceid. cipio |
Nick Ainger |
|
|
Gwyr |
Ceid. cipio |
Martin Caton |
|
|
Pen-y-bont |
Ceid. cipio |
Madeleine Moon |
|
|
|
|
|
|
|
Llanelli |
Llafur cadw |
Nia Griffith |
|
|
|
|
|
|
|
Arfon |
[Plaid cipio] |
Hywel Williams |
|
|
Ceredigion |
Plaid cipio |
Mark Williams |
|
|
Ynys Môn |
Plaid cipio |
Albert Owen |
|
|
|
|
|
|
Ail-adrodd gogwydd arolwg PoliticsHome |
Alun a Dyfrdwy |
Ceid. Cipio |
Mark Tami |
|
|
Dwyrain Casnewydd |
Ceid. cipio |
Jessica Morden |
|
|
De Caerdydd a Phenarth |
Ceid. cipio |
Alun Michael |
Os cywir y darogan yna dyma fyddai canlyniad yr etholiad cyffredinol Prydeinig nesaf yng Nghymru (gan nodi hefyd y gwahaniaeth ers 2005, gyda ffigyrau 2005 yn seiliedig ar ddarogan arbenigol ar sail y ffiniau presennol):
Ceidwadwyr 18 ( +15)
Llafur 14 (-16)
Plaid Cymru 5 (+3)
Rhyddfrydwyr Democrataidd 2 (-2)
Eraill 1(-)
Byddai hynny - neu unrhyw beth tebyg i hynny - yn ganlyniad cwbl syfrdanol, wrth gwrs. Y Ceidwadwyr yn diorseddu’r Blaid Lafur fel plaid fwyaf Cymru?! 'Rargian fawr. O’m rhan fy hun, mae’n anodd iawn, iawn gen i gredu mai dyna fydd y canlyniad pan ddaw hi’n adeg cyfri’r pleidleisiau. Fel pob un arall o ddarllenwyr Barn, decini, gallwn bwyntio at ffactorau penodol mewn gwahanol etholaethau sy’n debygol o sicrhau y bydd Llafur yn dal ei gafael yno. Dichon, yn wir, y bydd Llafur yn gobeithio gallu ail-gipio Blaenau Gwent. Ond wedi dweud hynny, gall ffactorau penodol eraill ffafrio ymgeiswyr Ceidwadol hefyd. Pwy feddyliai, er enghraifft, y byddai Aelod presennol Trefaldwyn mor ddiwyd yn ei ymdrechion i dorri llwybr i gyfeiriad San Steffan ar gyfer Glyn Davies? Fe fydd y Rhyddfrydwyr ei hunain hefyd yn llygadu Abertawe a Wrecsam yn awchus, tra bod Plaid Cymru am wthio’n galed yn Llanelli.
Ond gadewch i ni anghofio’r union fanylion, er mor ddifyr yw pendroni yn eu cylch. Gadewch i ni yn hytrach godi ein golygon at arwyddocâd yr hyn y mae’n cyfeillion Americanaidd yn mynnu ei alw’n ‘ddarlun mawr’. Os yw darogan arolwg PoliticsHome hyd yn oed yn weddol agos i’w le yna fe fydd y Blaid Lafur Gymreig mewn sefyllfa cwbl argyfyngus wedi’r etholiad nesaf. Fe fydd, mae’n debyg, wedi colli ei safle fel y grym gwleidyddol Cymreig. Yn fwy diriaethol, prin iawn, iawn fydd ei haelodau etholedig yn unman y tu allan i’r Cymoedd, ac o’r herwydd fe fydd wedi colli cysylltiad uniongyrchol hefo’r rhan fwyaf o gymunedau Cymru.
Heb beirianwaith; heb aelodau; heb ideoleg sy’n cymell ac ysbrydoli; heb arweinyddiaeth Gymreig neu Brydeinig sy’n argyhoeddi...heb ddyfodol? Does bosib bod prif rym gwleidyddol Cymru’r ugeinfed ganrif ar fin cwymp mor fawr â hynny?
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
