Thema dywyll Thema golau

Twr Ifori? Nid bellach

Yn ystod y 43 blynedd a dreuliais i yn dysgu mewn Adrannau Cymraeg – yn Nulyn, ym Mangor, ac yn Aberystwyth – fe ddaeth llawer tro ar fyd yn hanes y prifysgolion a’r Adrannau Cymraeg hwythau. Prin y gall academyddion a ymddeolodd mor ddiweddar â deng mlynedd yn ôl hyd yn oed ddirnad y byd sydd ohoni yn y prifysgolion bellach; os byddaf fi fyw am ddeng mlynedd arall, mae’n sicr mai prin fydd fy nirnadaeth innau o gyflwr pethau yr adeg honno.

Pan ddechreuais fy ngyrfa yn Adran y Gymraeg Coleg y Brifysgol, Dulyn, yn 1965 – Adran o ddau aelod staff yn unig, sef ei Phennaeth, yr hynaws a’r athrylithgar Athro Proinsias Mac Cana, a minnau’n gyw darlithydd cwbl ddibrofiad – yr oedd y drefn a oedd ohoni yn bur anffurfiol. Mewn sgwrs gyfeillgar rhwng y Pennaeth a’i ddarlithydd y penderfynid pa destunau i’w hastudio: yn wir, dewisid y testunau i raddau yn ôl anian a diddordebau y myfyrwyr a oedd i’w dysgu. Yn yr oes gymhleth sydd ohoni yr oedd yn anorfod, wrth gwrs, na allai trefn laissez-faire o’r fath oroesi. Gwahanol iawn yw’r byd a ddatblygodd yn y prifysgolion ers y nawdegau cynnar, byd mesuredig a modiwlaredig o nodau ac amcanion dysgu (‘deilliannau dysgu’, mi gredaf, yn iaith gyfrin cyfeillion Bangor a Chaerdydd!), o gredydau, o ddilysu ac o fonitro di-ben-draw.

Pan gyflwynwyd y drefn fodiwlaidd dadleuai ei chefnogwyr y byddai’n hyrwyddo ‘hyblygrwydd’ (na châi ei ddiffinio) a’r hyn a elwid yn ‘fudoledd’ rhwng prifysgolion (sef galluogi myfyrwyr i symud rhwng gwahanol brifysgolion yn ystod eu cyrsiau gradd). Beth bynnag fo rhagoriaethau eraill y drefn hon, mae’n sicr na hybodd hyblygrwydd o unrhyw fath. Yn hytrach, bu’n drefn dynn a chaeth a beirianeiddiodd brofiad academaidd staff a myfyrwyr fel ei gilydd. A darfu’n llwyr am y sôn am ‘fudoledd’: am resymau ymarferol, prin iawn yw’r myfyrwyr hynny (ar wahân i rai sy’n astudio Ieithoedd Modern – neu fyfyrwyr Astudiaethau Celtaidd fy hen Adran yn Aberystwyth – sy’n treulio cyfnod gorfodol dramor) a gaiff flasu bywyd myfyrwyr israddedig mewn mwy nag un brifysgol. Hyd yn oed yn yr hen Brifysgol Cymru ffederal, yr oedd cymaint amrywiaeth yn natur y drefn fodiwlaidd yn y gwahanol golegau fel mai anodd, onid amhosib, fyddai i fyfyriwr ‘fudo’ o’r naill sefydliad i’r llall. A Phrifysgol Cymru yn ei hen ffurf bellach yn ddim ond atgof, erys yr amrywiaeth rhwng y drefn academaidd yn y gwahanol ‘brifysgolion newydd’ yn dramgwydd posib o ran datblygu’r Coleg Ffederal Cymraeg arfaethedig.

Ers degawd a mwy bellach daeth ‘ansawdd’ yn air mawr ym myd y prifysgolion, arwydd efallai o’u nerfusrwydd a’u diffyg hyder yn sgil diddordeb cynyddol eu meistri ariannol yn eu gweithgarwch ac o’r newid mawr yn nifer a natur eu myfyrwyr. Yn rhy aml, ysywaeth, nid yn ôl safonau academaidd ystyrlon y mesurir ‘ansawdd’ ond yn ôl yr ymlyniad wrth brosesau biwrocrataidd sy’n aml yn rhai hynod ddiffaith. Er enghraifft, wrth ddilysu modiwl 20 credyd rhaid yw tystio ar bapur ei fod yn golygu 200 awr o waith ar ran y myfyriwr (hyn a hyn o oriau o fynychu darlithiau a seminarau, hyn a hyn o oriau yn ysgrifennu traethodau, hyn a hyn o oriau darllen, hyn a hyn o oriau yn sefyll arholiad, ac ati). Er mwyn cyrraedd y ffigur hud o 200 daeth yn ystryw gyffredin i amrywio’r oriau darllen yn gwbl fympwyol, gan honni ar bapur fod modiwl yn golygu 56 awr (neu 47 awr neu 59 awr!), dyweder, o ddarllen, yn union fel pe bai pob myfyriwr yn beiriant! Weithiau aiff gofynion ‘ansawdd’ dros ben llestri’n llwyr. Tua diwedd fy ngyrfa bu’n rhaid imi frwydro er mwyn cael osgoi sarhau’r Athro Hywel Teifi Edwards (a pheryglu f’einioes!) drwy ofyn iddo ddarparu curriculum vitae llawn yn ôl y rheolau i brofi ei fod yn berson addas a chymwys i arholi traethawd MPhil yn y Gymraeg! Prysuraf i nodi nad Prifysgol Aberystwyth yn unig sy’n ymagweddu fel hyn. Ar brydiau, niwrosis taeogaidd y prifysgolion eu hunain sy’n gyfrifol am oferedd o’r fath, ond hybwyd y meddylfryd hwn hefyd gan gyrff allanol a sefydlwyd i’w plismona, ar hyn o bryd y QAA (y Quality Assurance Agency for Higher Education neu’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd). Cyfyd amheuaeth o bryd i’w gilydd ynghylch ‘ansawdd’ y plismyn ansawdd eu hunain. Yn fuan ar ôl dod yn Bennaeth yr Adran Gymraeg yn Aberystwyth derbyniais adroddiad ar Ansawdd Dysgu’r Adran yn dilyn ymweliad gan dîm o aseswyr allanol. Gwyddwn eisoes fod awdur yr adroddiad – cyn-ddarlithydd mewn pwnc gwyddonol mewn prifysgol arall – yn anllythrennog yn y Gymraeg. Syndod, fodd bynnag, o dderbyn ei adroddiad uniaith Saesneg oedd canfod ei fod bron mor anllythrennog yn yr iaith honno hefyd!

Pan oeddwn i’n fyfyriwr mynychai llai na 10% o bobl ifainc rhwng 18 a 21 oed brifysgolion gwledydd Prydain. Dros y degawdau, ac yn ystod y degawd diwethaf yn enwedig, fe gynyddodd y ganran sy’n mynd i’r prifysgolion yn sylweddol, nes bod dros 40% o bobl ifainc rhwng 18 a 21 oed yn eu mynychu bellach, a’r llywodraeth bresennol yn awchu i godi’r ganran ymhellach i 50%. Golygodd y datblygiad hwn newid aruthrol yn y prifysgolion. Yn amlwg iawn, rhaid fu iddynt ymdopi ag addysgu myfyrwyr sy’n amrywio’n ddirfawr o ran eu gallu academaidd. Y perygl amlwg mewn sefyllfa o’r fath yw peidio â gwneud cyfiawnder â neb. Yn sicr, bu’n rhaid crebachu cynnwys llawer o gyrsiau a’u dysgu’n arafach yn ystod y blynyddoedd diwethaf (a bu tawelwch llethol o du’r plismyn ansawdd!). Diau fod yr hen ganran o lai na 10% o bobl ifainc a fynychai’r prifysgolion yn bechadurus o isel, ac y gall canran anrhaethol uwch na hynny elwa’n ddiwylliannol ac o ran eu twf personol o dreulio tair blynedd mewn prifysgol. Ond yn fy marn i, mae codi’r ganran i fwy na 40%, heb sôn am anelu at 50%, yn ffolineb. Lawer tro yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwelais ormod o bobl ifainc hyfryd a dymunol ond nad oeddynt yn academaidd alluog – er bod ganddynt lawer o rinweddau eraill – yn syrthio i bydew o anhapusrwydd ac o anobaith oherwydd bod gofynion eu cyrsiau yn drech na hwy. O ran meithrin hunanhyder a hunan-barch mae’n sicr fod profiad o’r fath yn ddifaol. Fe’m hargyhoeddwyd fwyfwy mai anghymwynas â phobl ifainc fel hyn yw eu dedfrydu i dair blynedd o anhapusrwydd er mwyn gwireddu targed ideolegol mympwyol unrhyw lywodraeth neu darged mynediad prifysgol sy’n crafangu am adnoddau.

Yn sgil derbyn dros 40% o’r ystod oedran berthnasol yn fyfyrwyr mae’n anorfod fod poblogaeth y prifysgolion yn adlewyrchu natur y boblogaeth gyfan fwyfwy. Golyga hyn nad Twr Ifori (hoff ddelwedd prif golbiwr academyddion Cymru, Mr Gwilym Owen!) yw unrhyw brifysgol bellach. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf fy mhrofiad i fel Pennaeth Adran a’m cydweithwyr fu gorfod treulio mwy a mwy o amser ar ofal bugeiliol. Ac nid mân bryderon oedd problemau llawer o’r myfyrwyr ychwaith ond problemau dwys a dyrys yr oedd clywed amdanynt weithiau yn dorcalonnus.

Bûm yn ffodus i dreulio’r cyfan o’m gyrfa mewn Adrannau Cymraeg yn dilyn fy niddordeb yn yr iaith a’i llenyddiaeth, meysydd sydd i mi yn dal yn ddihysbydd o ran eu gallu i gyffroi a chynhyrfu. Yn ddarlithydd ifanc yn Nulyn ddiwedd y chwedegau cofiaf i’r diweddar Athro J. E. Caerwyn Williams ymweld â ni fel Arholydd Allanol. Ar y pryd yr oedd nifer y myfyrwyr yn Adran Gymraeg Bangor wedi gostwng, ac yr oedd Caerwyn yn gwbl ddiobaith ynghylch dyfodol yr adrannau Cymraeg. Ond ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, er gwaethaf pob newid yn nemograffeg Cymru, mae’r adrannau Cymraeg (fel y tueddaf i feddwl amdanynt, er i ambell un ‘ymddyrchafu’ yn ‘Ysgol’!) yma o hyd, ac, ar y cyfan, yn ffynnu. Gan mai cymharol sefydlog ers blynyddoedd fu nifer y disgyblion sy’n astudio’r Gymraeg hyd at yr arholiad Safon Uwch, ac oherwydd y ddarpariaeth gynyddol mewn pynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg yn y prifysgolion, y mae’n frwydr i gynnal niferoedd (ac yn ôl eu niferoedd yr ariennir adrannau prifysgol). I oroesi bu’n rhaid i’r Adrannau Cymraeg ymaddasu i ofynion yr oes gan gyfuno’u cyrsiau academaidd traddodiadol â rhai mwy ymarferol eu natur sy’n adlewyrchu anghenion y Gymraeg yn y byd sydd ohoni. Ymfalchïaf i Adran y Gymraeg yn Aberystwyth yn ystod fy nhymor fel Pennaeth arloesi drwy gyflwyno elfen o arholi llafar ar gyfer ein myfyrwyr iaith gyntaf, yn ogystal â’r myfyrwyr ail iaith, ac inni’n ddiweddar sefydlu cwrs ‘Y Gymraeg yn y Gweithle’ (dan arweiniad brwd Dr Bleddyn Huws) lle caiff myfyrwyr gyfle i gael profiad gwaith gyda chyflogwyr ledled Cymru sy’n arddel ac yn defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith beunyddiol. Bu datblygiadau tebyg yn yr Adrannau Cymraeg eraill hwythau: nid drwy hen sbectol ‘bywyd a gwaith’ yn unig yr edrychir ar lenyddiaeth Gymraeg yn yr un ohonynt bellach, ac fe ehangodd y ddirnadaeth o beth yw llenyddiaeth hefyd. Weithiau, mae’n wir, fe feirniedir yr Adrannau Cymraeg am fod yn ‘geidwadol’ ac yn ‘draddodiadol’. Ond beirniadaeth yw honno sy’n anwybyddu amrediad amrywiol eu gweithgarwch cyfoes ac sy’n adlewyrchu weithiau’r genfigen sy’n ysu rhai oherwydd llwyddiant cymharol yr Adrannau Cymraeg mewn asesiadau allanol. Cofier yn y cyswllt hwn hefyd, er gwaethaf y cynnydd a fu yn statws y Gymraeg ym mhob un o’n sefydliadau prifysgol, fod gwrth-Gymreictod yn dal yn fyw ac yn iach o dan yr wyneb, er nas lleisir yn agored yn aml bellach. (Coffa da am Athro dysgedig ym Mangor gynt a broffwydai y byddai rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg yn y Coleg yn golygu ‘we will be swamped by Welshmen’!)

Gofynnir imi’n aml a fu dirywiad yn ansawdd iaith myfyrwyr yr Adrannau Cymraeg yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ysywaeth, yn gyffredinol mae’n rhaid cyfaddef mai felly y bu. Mae gafael trwch y myfyrwyr ar nodweddion fel cenedl enwau ac amserau’r ferf yn ansicrach nag a fu, eu geirfa’n deneuach a’u cystrawen yn llai cadarn hefyd. (Peryglus yw cyffredinoli, wrth gwrs: cofiaf imi weld yn Llyfrgell Prifysgol Bangor lythyrau mewn Cymraeg truenus a sgrifennodd John Morris-Jones at ei rieni pan oedd yn fyfyriwr yn Rhydychen!) Eto, testun llawenydd i mi yn ystod y blynyddoedd diwethaf fu dysgu nifer o Gymreigwyr ardderchog na welais eu gwell yn ystod degawdau cyntaf fy ngyrfa. Yn aml, nid magwraeth a daearyddiaeth ond gallu ac ymroddiad sy’n pennu gafael myfyrwyr ar y Gymraeg. Yr oedd Cymreigiwr gorau fy mlwyddyn olaf yng Nghadair Gymraeg Aberystwyth yn hanu o Ferthyr Tudful ac yn yr ysgol y dysgodd yr iaith. Hyfrydwch mewn seremonïau graddio bob blwyddyn oedd cyfarfod rhieni di-Gymraeg llawer o fyfyrwyr a adfeddiannodd iaith eu cyndeidiau, weithiau wedi bwlch o sawl cenhedlaeth, a rhieni nifer lai na fu i’r un o’u cyndeidiau erioed fedru sill o’r iaith.

Ar lawer cyfrif rhaid pwysleisio bod yr oes sydd ohoni yn gyfnod o ffyniant rhyfeddol o ran ysgolheictod Cymraeg gyda chynnyrch toreithiog yr Adrannau Cymraeg a sefydliad iau fel y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd fel ei gilydd yn cymharu’n ffafriol iawn â chynnyrch cewri dysg Gymraeg hanner cyntaf yr 20g. Cwmwl ar y gorwel, fodd bynnag, yw’r ansicrwydd ynghylch dyfodol hirdymor Prifysgol Cymru a fu, er gwaethaf ei gwendidau lu, yn gefn i ysgolheictod a dysg y Gymraeg ar hyd y blynyddoedd. (Trueni na sylweddolwyd hynny gan rai o’n gwleidyddion – a chenedlaetholwyr da ac egwyddorol yn eu plith – a fu’n unllygeidiog wrthwynebus i’r Brifysgol.) Er gwaethaf rhai diffygion diweddar yng ngweinyddiaeth Gwasg Prifysgol Cymru, bu’r Wasg honno a’r Bwrdd Gwybodau Celtaidd (y bu’r Brifysgol mor ffôl â’i ddiddymu mewn modd a ddieithrodd rai o’i chefnogwyr selocaf) yn sefydliadau allweddol o safbwynt cynnal ysgolheictod Cymraeg. Byddai colli Gwasg y Brifysgol a nawdd y Brifysgol i gyhoeddiadau academaidd Cymraeg – na fyddant fyth yn fasnachol gynaliadwy – yn ergyd drom iawn i ddysg ac i ddiwylliant y Gymraeg. Prawf ar ymlyniad y ‘prifysgolion newydd’ wrth y Gymraeg fyddai eu parodrwydd i ddod i’r adwy mewn sefyllfa felly.

O ymddeol fe fyddaf, wrth gwrs, yn colli cwmnïaeth gynnes a hwyliog cydweithwyr galluog, ymroddedig a diddorol. Fe fyddaf yn colli hefyd ymwneud beunyddiol â myfyrwyr, yr ymroddedig a’r didoreth fel ei gilydd, yn fendigedig gymysg oll i gyd. Ar hyd fy ngyrfa bu delfrydiaeth a dewrder llawer ohonynt yn ysbrydoliaeth ac yn destun edmygedd (yn rhy aml, o hirbell, ysywaeth). Yn Nulyn ddiwedd y chwedegau sylwais fod wynebau rhai o’r hogiau yn y dosbarth un bore Llun yn gleisiau i gyd: cefais yr hanes fel y bu i heddlu’r RUC eu dyrnu â phastynau yn ninas Derry lle buont yn gorymdeithio dros hawliau sifil. Ac, wrth gwrs, ym Mangor ac yn Aberystwyth gwelais ddewrder ac ehofndra rhyfeddol cyfres hir o ymgyrchoedd iaith y myfyrwyr: er pob cyndynrwydd sefydliadol a siom, fe gafwyd hefyd fuddugoliaethau sylweddol. Aeth llawer ohonynt, y protestwyr a’r rhai mwy tawedog, y Cymry Cymraeg cynhenid a dysgwyr yr iaith, ymlaen i gyfrannu mewn amryfal ffyrdd at fywyd y Gymraeg, weithiau’n amlwg genedlaethol, dro arall yn lleol ac yn fwy dirgel. A dyna destun balchder gwirioneddol i hen Athro Cymraeg wedi ymddeol!


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Cymru las?

Ymlaen >

Ambell bwl o chwerthin