Thema dywyll Thema golau

Ambell bwl o chwerthin

 ‘Pan fydda i’n codi yn y bore, mi fydda i’n mynd draw at y ddesg a sgrifennu. Fedra’i neud dim byd arall.’ Geiriau’r awdur Alan Bennett ydi’r rhain wrth drio esbonio pam ei fod o’n dal i gyfansoddi ar ôl yr holl flynyddoedd. Gallasai Wil Sam ddweud rhywbeth tebyg, er, yn ei achos o, ac yn wahanol i Bennett, roedd ganddo grefft arall i droi ati. Ond awdur llawn amser fu W.S. o ddechrau’r 1960au ymlaen, ac awdur rhyfeddol o gynhyrchiol hefyd. Ystyriwch hyn: tua ugain o ddramâu byrion a saith (o leiaf) o rai hwy; dwy gyfrol o straeon, ugeiniau os nad cannoedd o sgriptiau Ifas y Tryc; hanner dwsin (o leiaf) o ffilmiau, sgriptiau dramâu dogfen – Almanac (S4C) a’r Gwrthwynebwyr (HTV), cyfresi teledu Y Garej a Dr Shady ac erthyglau a straeon di-rif i bapurau newydd a phapur bro Y Ffynnon. Un o’i gas bethau oedd trafod y busnes sgwennu ’ma, ond peidied neb ag awgrymu nad oedd o’n awdur wrth reddf ac o raid.

Ond ar ben hynny, roedd o’n gymeriad (ac fe’i clywaf yn wfftio’r eiliad hon) carismataidd ar lawer cyfrif: yn heddychwr, yn seiclwr, yn genedlaetholwr, yn sgwrsiwr gwreiddiol, yn foi clên ac wrth ei fodd yng nghwmni pobl ifanc. O’r herwydd dydi hi ddim yn hawdd gwahanu’r dyn oddi wrth ei waith. Dywedodd ei gyfaill Emyr Humphreys amdano yn ei gyflwyniad i Deg Drama: ‘Y mae WSJ bellach yn un o’r cymeriadau allweddol yn nrama dyfodol y Gymraeg a’r genedl.’

Sylwch mai ‘yn nrama dyfodol y Gymraeg’ nid ‘yn nyfodol y ddrama Gymraeg’ yw’r haeriad. Ond gan ei fod o wedi ymlafnio fel saer geiriau am ran helaethaf o’i oes, dwi’n credu ei bod hi’n briodol i ddechrau trin a thrafod cynhyrchion W.S. am yr hyn ydyn nhw. Wedi’r cwbl, fyddai neb yn dilorni cerddi Dylan Thomas am fod eu crëwr yn gallu bod yn sgamp meddw, di-drefn, celwyddog! Hyd yn hyn, serch hynny, does fawr o neb wedi cynnig dadansoddiad o’i waith y tu hwnt i gylch cydnabod a chydweithwyr. ’Sgwn i pam?

Wrth gwrs, doedd W.S. ddim yn ffitio’r patrwm o lenor, hyd yn oed yn y Gymru Gymraeg. Cynnyrch y colegau a’r brifysgol ydi’r mwyafrif llethol o feirdd a llenorion amlwg Cymru’r 20g. Felly hefyd ei beirniaid llenyddol wrth reswm. Ac onid oedd y rhai heb y fath gefndir yn aml wedi ennill cadeiriau a choronau eisteddfod wrth godi i amlygrwydd llenyddol? Roedd beirdd gwlad yn iawn yn eu lle wrth gwrs, ond nid yn y sêt fawr oedd y lle hwnnw. Felly doedd olynwyr Syr John Morris-Jones ddim yn siwr iawn beth i’w wneud o’r mecanic o Eifionydd. Ar ben hynny, comedi a dychan oedd ei bethau, ac mae’n anos ysgrifennu traethodau pwysfawr gyda deunydd o’r fath. Doedd y dyn ddim yn ffitio’r model llenyddol gwaetha’r modd. Ar y llaw arall, efallai mai lol difyr ac ysgafn ydi ei waith nad yw’n haeddu sylw craff y beirniad a’r adolygydd.

Fyddwn i ddim yn honni bod ei gynnyrch yn un rhes o gampweithiau, a fyddech chi ddim yn disgwyl hynny. Cymharol ychydig o waith unrhyw lenor sy’n taro deuddeg ac yn goroesi. Ac o gofio ei fod o yn sgrifennu yn aml i ordor er mwyn cael dau pen llinyn ynghyd, neu er mwyn diwallu angen rhyw gwmni lleol neu’i gilydd, does ryfedd fod rhai o’r sgriptiau yn ailadrodd yr un patrymau. Ond mae rhyw wreiddioldeb a doethineb yn ei weithiau gorau sy’n eu codi uwchlaw cyffredinedd ystrydebol. Mewn cyfnod pan oedd pob yn ail stori fer yn swnio fel Kate Roberts ar ddiwrnod glawog, mae egni a dyfeisgarwch straeon Wil yn donic.

Bu cryn drafod ar arwyddocâd yr awdur toreithiog John Updike yn dilyn ei farw yn ddiweddar; pawb yn gytûn ei fod o wedi rhoi llais i dalp o America – ac wedi cloddio’n ddwfn yn seici ‘small town America’ ond fod rhai yn rhyw led awgrymu ei fod, oherwydd iddo gyfyngu maes ei ddiddordeb, efallai heb godi i’r tir uchaf. Serch hynny, roedd pawb yn unfryd unfarn fod yr arddull, ei lais, yn unigryw, a’i fod yn meddu ar ddawn i ryfeddu’r darllenydd dro ar ôl tro gyda rhyw sylw annisgwyl neu droad ymadrodd. Mi ddwedwn innau fod W.S. yn ei chael hi’n anodd sgrifennu brawddeg anniddorol, y math o frawddeg sy’n gorwedd fel hen ddeilen letys lipa ar dudalen; y math sy’n britho ein sgriptiau teledu.

Fel pob awdur o unrhyw werth, datblygodd ei lais ei hun. Ie, iaith lafar gyhyrog Eifionydd cyn y Seisnigo mawr oedd hi, ond wedi ei hidlo trwy feddwl heb ei bylu â syniadau treuliedig ail-law. Mae’n deg dweud nad yw hi’n hawdd tiwnio i mewn i’w ffordd o sgrifennu, a bod angen amynedd i werthfawrogi’r patrymau i rai nad ydynt wedi eu magu yn swn y dafodiaith. Ond mae ei ddylanwad yn eglur ar do o awduron gan gynnwys Meic Povey, sydd wedi cydnabod ei ddyled, a’i edmygedd.

Ac o feddwl am iaith dramâu, fedra i ddim peidio â chyfeirio at un arall a’n gadawodd yn ddiweddar, Harold Pinter. Ar un wedd roedd W.S. a Pinter ar ddau begwn; un yn awdur dinesig soffistigedig uchel ei gloch a’r llall yn fwy gwerinol swil. Ac eto, ar wahân i’r ffaith fod y ddau yn wleidyddol effro, mae peth tebygrwydd rhwng gyrfa’r naill a’r llall.

Y ddrama lwyfan gyntaf i danio ’nychymyg oedd The Caretaker gan Pinter. Cyfieithiad W.S., cynhyrchiad ei frawd Elis Gwyn, a Guto Roberts yn wefreiddiol fel Jenkins y trempyn sy’n trio ac yn methu cychwyn am Sidcup i nôl ‘ei bapurau’. Eisteddfod Genedlaethol y Drenewydd, 1965. Gwych. Cynhyrchiad proffesiynol gan amaturiaid.

Dechreuodd y ddau ddramodydd gyfansoddi dramâu tua’r un pryd yn niwedd y pumdegau. Ar ôl methiant The Birthday Party yn 1957, ‘achubwyd’ Pinter gan gynhyrchwyr o Radio 3 a gomisiynodd gyfres o ddramâu newydd beiddgar, od ganddo. Yna, gydag ITV yn egino ac yn chwilio am leisiau newydd bachwyd Pinter ac ysgrifennodd nifer o sgriptiau, fel A Night Out a oedd yn denu cynulleidfaoedd o dros 10 miliwn. Lluniodd chwe drama deledu yn 1960 yn unig, a bu’n sgriptiwr ffilm llwyddiannus.

Yn achos Wil, a oedd eisoes yn potsian ysgrifennu, Emyr Humphreys a oedd yn gynhyrchydd yn y BBC ar y pryd, a gomisiynodd y perchennog garej i sgrifennu ar gyfer y radio. I Bant y Bwgan oedd y gyntaf o nifer o ddramâu. Ac yn ddigon diddorol, daeth teledu annibynnol ym mherson Aled Vaughan i’r adwy wedyn gan gomisiynu gwaith ganddo a chreu swydd iddo fel darllenwr sgriptiau (Saesneg yn bennaf) i gwmni HTV. Bu honno yn ffon fara werthfawr am nifer o flynyddoedd. Cafodd Pinter ei lwyddiant mawr gyda’r Caretaker yn 1961, a Wil gyda’r Dalar Deg yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 1962.

Ond yn eu deunydd a’u heithwedd y mae’r gymhariaeth yn ddiddorol. Mae Jenkins yn ‘perthyn’ yn agos i Vladimir ac Estragon, dau drempyn Beckett yn Wrth Aros Godot. Perthyn i’r un teulu y mae Bobi a Sami yn y ddrama o’r un enw, a Dai yn Dinas Barhaus, er bod gan W.S. ei brototeip ei hun yn y trempyn go iawn, John Preis. Galwyd Pinter ‘the poet of ordinary lives’, a does dim dwywaith fod ei ieithwedd ddramatig yn llawn adleisiau o iaith lafar Llundain wedi ei hidlo a’i hail-greu. Ail greu iaith lafar Eifionydd wnaeth Wil a dyna pam fod ei waith mor wahanol i ddramodwyr ‘cydnabyddedig’ y cyfnod yn y Gymraeg. Ei gymeriadau yn galeidosgop o fyddigions hanner pan, plismyn dwl a gwerinwyr o bob gradd. Nid W.S. oedd y dramodydd cyntaf i ddefnyddio tafodiaith chwaith. Roedd D. T. Davies, dramodydd da ond anghofiedig o Forgannwg, wedi gwneud hynny flynyddoedd ynghynt. Ond roedd Wil yn rhan o chwyldro o ran iaith a chynnwys yn y theatr yn y chwedegau cynnar.

Mae dramâu Pinter yn drymlwythog, a rhyw fygythiad annelwig yn mudlosgi ac yna’n ffrwydro’n annisgwyl. Serch hynny, mae’n debyg mai ei ymateb i ddieithriaid a ddywedai eu bod wedi gweld un o’i ddramâu fyddai ‘Did you have a few laughs?’ Ynghanol y tensiwn, roedd Pinter yn disgwyl ichi gael ambell bwl o chwerthin. Chwarae teg iddo fo.

Y gred gyffredinol ydi mai chwerthin ddylech chi ei wneud yn nramâu Wil, er ’mod i wedi tynnu sylw o’r blaen at y ffaith fod tair o’r dramâu yn diweddu gyda llofruddiaeth! Ac yn sicr, yn nhraddodiad gorau’r 20g., mae chwithdod a thristwch y ddynoliaeth yn rhan o wead ei ddramâu gorau.

Awgrymu rydw i, yn ddigon blêr, ei bod hi’n werth dal gweithiau Wil i fyny i’r golau, a’i weld o ei hun yng nghyd-destun awduron eraill o Gymru a thu hwnt. Mae’n haeddu hynny. Ac wrth wneud, mae’n werth cofio gofyn, gyda chaniatâd Mr Pinter, ‘Gawsoch chi ambell bwl o chwerthin?’

 


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Twr Ifori? Nid bellach

Ymlaen >

Cwlt y Bydiaid