Thema dywyll Thema golau
“Brenhines ein Llên”
Cwrs y Byd – Y Gwych a’r Gwachul
Dan Amor

Cwrs y Byd – Y Gwych a’r Gwachul

Wrth ei glywed yn galw ar y Brifwyl i ‘foderneiddio’, mae’n amlwg nad yw Leighton Andrews yn eisteddfodwr o hil gerdd. (Nid er mwyn Mr Andrews yn unig – mae o’n datblygu’n siaradwr Cymraeg medrus, bendith arno – y dylid esbonio mai ffordd ofnadwy o hen ffasiwn yw ‘hil gerdd’ o awgrymu nad ar eisteddfodau y cafodd y Gweinidog ei fagu.) Wrth gael dogn helaethach ohoni eleni nag a gefais ers tro byd, yr hyn a’m trawodd i yn fy nhalcen oedd cymaint o ‘foderneiddio’ y mae’r Brifwyl eisoes wedi ei wneud.

Heb hel dail, bendith fu’r bar. Neu’r bariau. A dyna ddiwedd arni. Byddai’n ganol yr wythnos ar beth wmbredd o eisteddfodwyr ers talwm yn gweld y Maes am y tro cyntaf gan mor anodd oedd llusgo i gae dirwest o hwyl a chyfeddach tafarnau’r fro. (Y broblem bellach yw canfod afiaith eisteddfodol y tu allan i’r Maes. Nid fy mwriad yma yw trafod hynny. Ond wrth i’r Brifwyl fynd yn bentref hunangynhaliol fe allai’r mater hwnnw yn y man gryfhau’r ddadl dros safle neu safleoedd parhaol.) Gellir aros ar y Maes ar ôl i gystadlaethau’r dydd orffen, mwynhau pryd a gwydriad o win, cyn dychwelyd i’r Babell Binc, fel y gwnes-i i fwynhau cyngerdd ysbrydoledig Dafydd Iwan. (Gwellodd safon y bwyd a weinir ar y Maes yn syfrdanol erbyn hyn.)

Os mai ‘modern’ yw ei air mawr, edryched y Gweinidog ar Twitter a’r rhwydweithiau cymdeithasol lle mae trafod brwd ar ymddangosiadau Yr Ods ac ati yn y Brifwyl. Ac ydi o’n sylweddoli mai bandiau roc sy’n cystadlu ym Mrwydr y Bandiau? (Gwobr £1,000) Ydi o’n deall bod gigs y Steddfod ers blynyddoedd yn denu ieuenctid Cymraeg a digymraeg i’r Brifwyl? Ydi ei ymgynghorwyr yn gwybod faint o bobol ifanc oedd o fewn cyrraedd i’r gadair a’r goron eleni eto?

Diau y byddai modernydd mawr fel y Gweinidog wrth ei fodd efo’r sgrin a godwyd ar y Maes i ddangos y Gemau Olympaidd. Finnau hefyd, Mr Andrews. Ond roeddwn i’n falch ryfeddol mai lluniau mud oedden nhw.

Yr haf hwn oedd yr haf mwyaf cywilyddus yn hanes newyddiaduraeth Cymru ar y cyfryngau. Collwyd pob cymesuredd a phob gafael ar flaenoriaethau newyddiadurol wrth i’r BBC ar S4C, Radio Cymru a Radio Wales ddilyn agenda bropagandyddol a jingoistaidd Llundain. Fel hyn roedden nhw’n arfer gwneud pethau yn yr hen Undeb Sofietaidd. Roedd yr arian a wariodd BBC Cymru yn Gymraeg a Saesneg ar ddarllediadau allanol ailadroddllyd – technegol ddiffygiol, yn aml – fel gorymdaith y ffagl yn wastrafflyd ac yn ddiflas. Does dim rhyfedd bod Radio Cymru wedi colli cymaint o wrandawyr. Dyna haeddiant gorsaf sydd wedi colli ei ffordd.

Hyd yn oed pan oeddwn i’n ifanc roeddwn i’n casáu clywed Cymdeithas yr Iaith yn cyfeirio at y BBC fel Bwrdd Bradychu Cymru. Annheg, meddyliwn – er mai i HTV y gweithiwn i. Y Bîb ddarlledodd Buchedd Garmon pan oedd Saunders, DJ a Valentine yng ngharchar Worwood Scrubs am losgi’r Ysgol Fomio. Hi ddarlledodd Tynged yr Iaith. Ac yn y blaen. Ac yn y blaen. Ond yr haf hwn… ag aralleirio’r marathonwr Gwynfryn – y Brits Biau’r Cyfrwng.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

“Brenhines ein Llên”

Ymlaen >

Dan Amor