Tua hanner ffordd trwy’r Olympics derbyniais neges gan gyfaill o Lafurwr o Sais sy’n byw yn Llundain (mae’r lleoliad gwleidyddol a daearyddol yn bwysig). Ers misoedd lawer bellach bu’r brawd mewn tipyn o wewyr yngl?n â goblygiadau posibl pleidlais gadarnhaol mewn refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban. Nid i’r Deyrnas Gyfunol, dalltwch. Ond i’w blaid ei hun.
Iddo ef mae colli’r Alban yn gyfystyr â cholli cadarnle o gefnogaeth Lafuraidd. A hyn yn hytrach nag unrhyw ymrwymiad dwfn i’r Undeb bondigrybwyll sy’n golygu pam ei fod ef a’i debyg – y bobl hynny sy’n byw ac yn bod yn y plethwaith o swyddi a sefydliadau sy’n cynnal gwleidyddion Llafur etholedig yn San Steffan – yn wrthwynebwyr mor ffyrnig i Alex Salmond a’i gynghreiriaid.
Gwrthwynebwyr ffyrnig ond ofnus hefyd. Oblegid yn sgil canlyniad rhyfeddol yr SNP yn yr etholiad ar gyfer Senedd yr Alban ym mis Mai 2011, daeth llawer o’i elynion i gredu bod gan Salmond ryw allu cyfriniol i hudo etholwyr ei wlad. Ac wrth edrych ar ei brif wrthwynebwyr ar draws llawr senedd Holyrood – Johann Lamont, Ruth Davidson a Willie Rennie – yr oeddynt wedi dechrau anobeithio y byddai modd ei rwystro rhag llusgo’r Alban allan o afael gynyddol fusgrell y wladwriaeth Brydeinig.
Ond, megis manna o’r nefoedd, dyna’r Olympics a champau ‘Team GB’ yn cynnig achubiaeth. Yr oedd hi bellach wedi darfod ar yr SNP, gorfoleddai fy nghyfaill, yn ei neges. Gyda phoblogaeth Llundain a de ddwyrain Lloegr yn perlewygu gerbron ton o’r iwfforia cenedlgarol a grëwyd gan y gemau, mae’n rhaid, fe dybiodd, fod yr un peth yn wir am weddill y wlad. O’r herwydd, yr oedd bellach wedi darfod ar Salmond. Roedd ffawd y refferendwm wedi ei selio. Beth yw’r ots os ydi Lamont, Davidson a Rennie yn dri mor ddiddim a di-liw pan fo Jess Ennis, Mo Farah a Victoria Pendleton ar gael i gamu i’r bwlch?
Wrth i unoliaethwyr ddathlu effaith dybiedig y gemau, bu cyfeillion o genedlaetholwyr yn suro a gwgu arnynt a hynny ar sail dehongliad digon tebyg o’u harwyddocâd. Eu hofn hwythau oedd – ac yw – fod yr ymchwydd mewn Prydeindod a welwyd yn haf 2012 yn arwyddo fod y llanw’n troi yn eu herbyn ar ôl cyfnod o lewyrch rhyfeddol.
Mae’n hawdd deall eu pesimistiaeth. Yn ystod y Jiwbilî a’r Olympics gwelwyd y cenedlaetholdeb disylw, di-sôn amdano sy’n sail i bob cenedl-wladwriaeth – yr hyn a alwodd Michael Billig yn banal nationalism – yn troi’n genedlaetholdeb cyhyrog ac ymwthiol. Cenedlaetholdeb a goleddwyd yn frwd gan sefydliadau’r wladwriaeth a sefydliadau cymdeithas sifil fel ei gilydd. O ddilyn y botwm coch, dyma genedlaetholdeb a ddarlledwyd gan y BBC ar ddeunaw sianel. Y rhan fwyaf ohonynt fel petaent yn cael eu cyflwyno gan Huw Edwards.
Pan fo gwladwriaeth yn fodlon taflu adnoddau enfawr at y dasg o ddathlu ei hunaniaeth a’i champau (rhai real a thybiedig), mae’n anodd iawn gwrthsefyll. Siawns felly na fydd effeithiau hirdymor yn rhwym o ddilyn?
* * *
Y gwir amdani, fodd bynnag, yw y dylai fy nghyfaill o unoliaethwr, a’m cyfeillion o genedlaetholwyr fel ei gilydd, bwyllo cyn tadogi gormod o arwyddocâd gwleidyddol i’r Olympics. Hynny am sawl rheswm.
Yn gyntaf, cymaint oedd lefel yr iwfforia anfeirniadol a feddiannodd y cyfryngau fel ei bod yn anodd gwybod i sicrwydd eto pa mor gyffredinol oedd y cyffro. Os oedd y gohebwyr i gyd yn dilyn y fatsien fawr Olympaidd ar ei chylchdaith cyn y seremoni agoriadol, a’u bod nhw hefyd i gyd wedi eu lleoli wedyn yn y canolfannau a fu’n gartref i’r gwahanol chwaraeon, nid yw’n syndod eu bod yn credu bod ‘ysbryd y gemau’ wedi gafael ym mhawb a phopeth. Ond fel un a fu’n teithio o amgylch gwahanol atyniadau ymwelwyr yng Nghymru yn ystod y gemau, fy mhrofiad i oedd fod y bobl a welais, tra’n amlwg yn mwyhau gwylio’r rhyfeddol Usain Bolt, David Rudisha a’r gweddill, yn fwy awyddus fyth i drafod pa mor brin oedd nifer y twristiaid eleni a pha mor uffernol o lwm oedd y rhagolygon ar gyfer llawer iawn o fusnesau o’r herwydd. Yn sicr, yr oedd Llundain yn ymddangos yn bell, bell i ffwrdd.
Argraff anecdotaidd? Ie si?r iawn! Ond mewn cyfnod pan gollodd newyddiadurwyr eu pennau’n lân, mae’n bwysig ein bod yn ein hatgoffa ein hunain pa mor dde-ddwyrain Lloegr-ganolig oedd y gemau. Nid yw’n afresymol credu mai yn fan honno hefyd y cafwyd y brif effaith gymdeithasol.
Pwynt arall i’w ddwyn i gof yw pa mor fyrhoedlog yw effaith rhai o’r symudiadau poblogaidd hynny sydd, ar y pryd, yn ymddangos mor arwyddocaol. Ystyrier, er enghraifft, farwolaeth y Dywysoges Diana. Y miliynau’n sefyll yn ochr y stryd. Y caeau o flodau. Y miloedd, os nad degau o filoedd, yn udo crïo, gymaint oedd eu galar ym mhresenoldeb yr arch. Dyma gyfnod pan haerwyd fod y teulu brenhinol yn wynebu argyfwng o faintioli hanesyddol oherwydd lleoliad baner ar fast y tu allan i’r Palas. Cyfnod a fyddai, fe honnwyd, yn creu Prydain mwy goddefgar; Prydain a fyddai’n llacio ei staes, ac yn dod yn fwy parod i gofleidio holl amrywiaeth cyfoethog ei dinasyddion, o bob cefndir a phob lliw. Eto, beth mewn difrif a newidiodd?
Hyd yn oed yng Nghymru ofnus, roedd rhai o gefnogwyr datganoli’n pryderu’n ddirfawr y byddai’r don o Brydeindod a oedd yn rhan mor weledol o’r adwaith i’r ddamwain ger Pont de l’Alma yn gymorth i’r Ymgyrch Na. Ond lai na phythefnos wedi’r angladd cafwyd pleidlais gadarnhaol yn y refferendwm. Go brin fod marwolaeth Diana wedi cael unrhyw effaith o gwbl.
Rhaid cofio fod y berthynas rhwng y math o falchder cenedlaethol a ddeillia o lwyddiant mewn chwaraeon, ar y naill law, a gwleidyddiaeth, ar y llaw arall, yn fater mwy cymhleth o lawer nag y credir gan rai – fy nghyfaill o unoliaethwr yn eu plith. Nid yw hynny’n newyddion i’r rheini a greithiwyd gan brofiad refferendwm 1979. Er bod ein gêm genedlaethol yn yr entrychion ar y pryd, a nifer dda o arwyr y tîm yn cefnogi’r ymgyrch o blaid datganoli, colli’n rhacs fu’r hanes. Er gwaethaf gobeithion fy nghyfaill – ac yn ôl tystiolaeth ei araith ddiweddar, y cyn-Brif Weinidog Gordon Brown – go brin y bydd digwyddiadau Llundain 2012 yn cael unrhyw ddylanwad o gwbl ar agweddau pleidleiswyr yn refferendwm 2014.
* * *
Beth bynnag yw ein barn am yr Olympics, nid yw’n newid hanfodion y ddadl yngl?n â dyfodol yr Alban. Ar y naill law, erys y clymau sydd wedi hen gadw’r Alban a Lloegr ynghyd. Clymau hanesyddol a theuluol yn ogystal, wrth gwrs, â chlymau hunaniaeth. Ar y llaw arall, mae’n amlwg fod bodolaeth datganoli – cyfundrefn sy’n amlygu’r gwahaniaethau mawr rhwng diwylliannau gwleidyddol yr Alban a Lloegr – yn prysur freuo’r clymau. A fyddent yn parhau’n ddigon cryf i wrthsefyll ymdrechion cefnogwyr annibyniaeth dros y ddwy flynedd nesaf i’w torri? Amser a ddengys. Mae’r polau’n awgrymu fod Salmond a’i gyfeillion yn wynebu talcen caled ar y naw. Ond nid yr Olympics nac ychwaith gemau’r Gymanwlad yn Glasgow – i’w cynnal ychydig wythnosau cyn y refferendwm – fydd yn penderfynu canlyniad y bleidlais.
Yn hytrach, bydd y dadleuon pwysig a phwysfawr yn troi o gylch gallu neu anallu Alban annibynnol i gynnig cynhaliaeth faterol i’w thrigolion. Gyda’r ewro’n parhau i ogor-droi ar ymyl y dibyn ac economi’r Deyrnas Gyfunol yn edrych yn fregus tu hwnt, y ffaith amdani yw y gall y dadleuon hynny ymddangos yn wahanol iawn erbyn Hydref 2014. Bryd hynny bydd Llundain 2012 yn hen, hen hanes.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
