Thema dywyll Thema golau

Afon v Llyfrgell

Yn sicr, doedd y ffaith i blot Y Llyfrgell  Fflur Dafydd (enillydd Gwobr Daniel Owen) gael ei grynhoi ym mhob adolygiad bron ddim yn help (er yn anochel o bosib), gan ’mod i wedi syrffedu ar y stori cyn mynd ati i’w darllen. Neu geisio ailafael ynddi, ddylwn i ddweud, gan i mi ddechrau ei darllen yn ystod y Steddfod a cholli diddordeb ynddi ar ôl ychydig benodau.  

Mae’r nofel wedi’i gosod yn 2020, gyda merched wrth y llyw a dim llyfrau ar ôl gan fod popeth ar ddisg. Darogan treiddgar? Dim mwy na’r proffwydoliaethau y deuthum ar eu traws wrth feirniadu cystadlaethau llên yr Urdd ac Eisteddfod Môn yn ymwneud â’r dyfodol – a dweud y gwir, roedd rhai o’r rheini yn fwy craff a dychmygus.  

Y peth gorau amdani i mi oedd y clawr cartwn-noir, sy’n gwneud i mi feddwl y byddai wedi bod yn fwy effeithiol fel nofel graffig, yn enwedig gan y byddai’r genre hwnnw wedi gweddu i’w naws antur-ffarsaidd.  

Fel arall yr oedd hi efo Y Trydydd Peth Siân Melangell Dafydd (enillydd y Fedal Ryddiaith): clawr digon di-nod ond cynnwys a’m cyfareddodd, sef hanes hen wr egsentrig sydd wedi mynnu ar hyd ei oes mai fo ‘piau’ afon Dyfrdwy.  

Un peth ydi cael syniad gwreiddiol – peth arall ydi ei gynnal. Ond mae’r awdures yn llwyddo’n ddeheuig wrth iddi fynd dan groen George Owens a’i obsesiwn. Obsesiwn sy’n peri iddo fynd ar drywydd y ‘trydydd peth’ dirgel, sydd (ynghyd â hydrogen ac ocsigen) yn gwneud dwr yn ddwr. Obsesiwn sy’n gwneud iddo benderfynu nofio afon Dyfrdwy ar ei hyd fel prawf mai ei afon o ydi hi.  

Nid ei fod yn ddim nes at y lan o ran argyhoeddi eraill o hyn ar ôl ei epig ddyfrllyd. Ac er fod ei wraig Nan yn gydymaith iddo wrth iddi ei ddilyn yn y car a’i fwydo, y daith hon sy’n amlygu ac yn ehangu’r gagendor rhyngddynt.

Eilradd yw perthynas pobl â’i gilydd yn y nofel, fodd bynnag, gan ei bod yn ymwneud yn bennaf â pherthynas dyn â natur; dyn â dwr – neu ddyn ag un afon benodol, yn yr achos yma. Mae gwybodaeth yr awdures am natur, am ei milltir sgwâr ac am afon Dyfrdwy yn fanwl i’w ryfeddu, a’r modd y mae’n cyfleu’r wybodaeth honno yn gywrain a naturiol.  

Nid fod y nofel heb ei gwallau, er mai rhai ieithyddol y dylai’r golygydd fod wedi sylwi arnynt ydyn nhw’n bennaf. Pethau fel cyfeirio at flew llygad fel ‘amrannau’ (eyelids ydi’r rheini), a dywediadau Seisnig fel ‘rhoi owns ymlaen’.

Fel un sy’n byw ger Llangollen, rydw i’n eitha’ cyfarwydd ag afon Dyfrdwy. Byddaf yn ei chroesi dros bontffordd uchel wrth deithio i’m gwaith yn Wrecsam, ac mae’r olygfa o’r afon a’r wlad o gwmpas yn ddramatig. Mae afon Ceiriog, sy’n rhedeg tu ôl i’n ty ni, yn llifo i mewn iddi, ac un tro fe aethom fel teulu i chwilio am gydlifiad y ddwy afon a dod o hyd iddo tu hwnt i Halton ger y Waun. Hoffwn fynd yno eto cyn bo hir.  

Yn wir, mae Y Trydydd Peth wedi newid fy ffordd o feddwl am afonydd, gan gynnau diddordeb newydd ynof. Wnaeth Y Llyfrgell ddim newid y ffordd yr ydw i’n meddwl am lyfrau nac am lyfrgelloedd.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Bugeiliaid newydd ar y Preselau – helynt yr ecobentref

Ymlaen >

Chwalfa