Yn ystod mis Awst eleni rhoddodd Arolygwr Cynllunio’r Cynulliad ganiatâd i godi pentref hunangynhaliol ar gyrion pentref Glandwr yn ardal y Preselau. Ystyrir y fenter ar fferm Pont-y-gafel, gan gymuned sy’n galw ei hun yn Lammas, fel y cyntaf o’i bath yng Nghymru fydd yn hyrwyddo ffordd o fyw’n agos at y tir; arddelir yr hyn a elwir yn permaddiwylliant sy’n wfftio dulliau dwys o amaethu.
Roedd y cais wedi’i wrthod gan Gyngor Sir Penfro am ei fod y tu fas i’r ffiniau anheddu. Mae’r AS a’r AC lleol, Paul Davies a Stephen Crabb, sydd ill dau’n Dorïaid, wedi adleisio datganiad arweinydd yr awdurdod lleol, y Cyng. John Davies, fod yna gynsail wedi’i osod ar gyfer codi toreth o ecobentrefi ledled gogledd Sir Benfro a hynny ar draul caniatáu ceisiadau gan frodorion i godi tai unigol ar gyrion eu pentrefi.
Cred y delfrydwyr o blith Lammas eu bod yn braenaru tir newydd ac y bydd eu prosiect yn gyfraniad bychan i geisio achub y blaned o ystyried y gorddefnydd affwysol a wneir o’n hadnoddau naturiol. Am nad ydyn nhw â’u bryd ar wneud elw materol mae’n rhaid eu hedmygu am fentro byw mewn tai fydd wedi’u codi’n rhannol o wellt ac am neilltuo eu hamser a’u hegni i dyfu ffrwythau a llysiau.
Erbyn hyn dylai’r gwaith o godi’r gyntaf o bum annedd ar wahân, teras o bedair annedd ynghyd â chanolfan gymunedol sylweddol, ar gyfer staff ac ymwelwyr, fod ar y gweill, gyda’r toeon oll wedi’u gorchuddio â glaswellt er mwyn ymdoddi i’r amgylchedd. Bwriedir cyflenwi’r rhain â d?r sydd ar y safle 76 erw a chreu trydan adnewyddol trwy dyfu a chynaeafu helyg a hesg eliffant yn danwydd.
Bydd carthion yn cael eu compostio a’r bwriad yw cynaeafu cnau cyll, llysiau a ffrwythau’r meysydd yn ogystal â chochi ham i’w gwerthu’n lleol. Mae arwyddocâd i’r enw Lammas, gan mai enw ydyw ar wyl baganaidd yn dathlu cynaeafu’r grawn pan bobir y dorth gyntaf ddechrau mis Awst; gelwir hi’n Lughnasad hefyd.
Deil gwrthwynebiad chwyrn i’r datblygiad o du’r trigolion lleol, yn fewnfudwyr a Chymry cynhenid, sy’n credu nad yw’r prosiect ei hun yn gynaliadwy ac y bydd yn ergyd arall i Gymreictod bregus y cylch.
Nid yw prosiectau o’r fath yn ddieithr i’r ardal o gofio am John Seymour yn pregethu efengyl hunangynhaliaeth yn Fachongle Isaf, ger Trefdraeth, yn y 1980au, a chymuned Tir Ysbrydol ar fferm Brithdir Mawr, gerllaw, o fewn golwg i Garn Ingli. Er bod trigolion Lammas wedi cyflwyno wmbreth o adroddiadau arbenigol yn cefnogi eu bwriadau ac yn ceisio profi eu dichonolrwydd, gerbron yr ymchwiliad cyhoeddus yng Nghrymych, nid yw’r trigolion lleol wedi’u hargyhoeddi y bydd eu ffordd o fyw’n ymarferol yn y modd y mae ein ffordd gonfensiynol ni o fyw yn ymarferol.
O ran y Gymraeg mater hawdd i drigolion Lammas oedd bodloni gofynion Nodyn Canllaw Technegol 20 sy’n dweud y dylid ystyried effaith unrhyw ddatblygiad ar yr iaith Gymraeg. Mae ganddyn nhw bolisi o gydraddoldeb ieithyddol yn ei le ac mae rhannau helaeth o’u gwefan yn ddwyieithog. Yn ddiddorol, mae’r fersiwn Gymraeg yn dweud fod Lammas ‘wedi ymrwymo i gefnogi’r iaith Gymraeg a’i diwylliant’ ond y fersiwn Saesneg yn sôn am ‘wneud cyn lleied fyth â phosib o niwed i’r iaith Gymraeg a’r diwylliant lleol’. Ni ymhelaethir ar natur y gefnogaeth a thebyg bod y geiriad Saesneg yn gyfystyr â pheidio â gwneud dim i hyrwyddo’r ffordd o fyw sy’n gynhenid i’r ardal ond yn hytrach sefyll naill ochr yn ddiymadferth tra bo’r dirywiad yn parhau.
Y gwir amdani yw bod Glandwr eisoes wedi’i wladychu ers y dyddiau pan brofodd yn dir ffrwythlon i’r erthyl hwnnw o fudiad ‘Education First’. Cafwyd cyfarfodydd stormus yn lleol pan gyflwynodd yr hen Gyngor Sir Dyfed bolisi o gategoreiddio ysgolion yn ieithyddol a chlustnodi Ysgol Gynradd Gland?r yn ysgol categori A lle disgwylid i’r dysgu fod trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ar un achlysur bu rhaid i John Phillips, y Cyfarwyddwr Addysg, dawelu Cadeirydd y Pwyllgor Addysg, a’r anwylaf o blant dynion, y Cynghorydd John Thomas, rhag cynhyrfu’n ormodol. Esboniodd John i’r rhieni o fewnfudwyr beiddgar fod y Gymraeg mor hen â’r Preselau a thra byddai anadl yn ei gorff y byddai’n gwneud ei eithaf i ddiogelu’r iaith yng nghesail y mynyddoedd. Ymateb un fam o glywed hynny oedd cyhoeddi y byddai’n cyflogi jac codi baw i symud y mynyddoedd bore trannoeth. Nid rhyfedd i John ddweud wrthi mai tipyn haws a rheitiach peth fyddai iddi hithau symud i fyw islaw’r lansker rhywle.
Yng nghanol y 1990au gellid cyfrif ar un llaw'r nifer o ddisgyblion a glywai’r Gymraeg ar eu haelwydydd a thasg bron yn amhosib a wynebai’r athrawon wrth geisio gorseddu’r Gymraeg yn wyneb y fath elyniaeth. Bellach, ers dwy flynedd , caewyd yr ysgol, a’r un modd siop a swyddfa bost y pentref. Er bod cyn-athro newydd ei ordeinio a’i sefydlu’n weinidog rhan-amser ar gapel yr Annibynwyr mae’r ofalaeth yn cynnwys chwech o gapeli lle cynt, tan ryw ugain mlynedd nôl, y byddai dau gapel yn cynnal gweinidog amser llawn.
Petai gwrthwynebwyr y cais cynllunio wedi comisiynu arolwg o gyflwr y Gymraeg yn lleol tebyg y byddai’r darlun yn dangos nad yw’r mewnfudwyr wedi ymdoddi nac wedi dysgu’r Gymraeg i’r graddau y gellid rhagweld ei pharhad fel iaith gymunedol. Byddai’r darlun yn dangos cymuned o fewnfudwyr sy’n medru cyflogi crefftwyr o’u plith eu hunain i gyflawni bron pob gorchwyl. Byddai’r darlun yn dangos patrwm lle mae’r rhelyw o blant yn mynychu ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg yn Hendy-gwyn-ar-daf yn hytrach na’r ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghrymych.
Petai’r gwrthwynebwyr wedi ffurfio eu hunain yn fudiad protest swyddogol diau mai mewnfudwyr a’r rheiny yn Saeson o dras fyddai’r arweinwyr. Does gan y Cymry fawr o lais ym mywyd yr ardal mwyach.
I roi unrhyw obaith i’r Gymraeg oroesi’n lleol byddai’n rhaid i NCT 20 fod mor radical â’i gwneud yn orfodol i gymuned Lammas gynnal ei holl weithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn y cyswllt hwn mae NCT 20 yn gwbl aneffeithiol. Go brin y gall yr un aelod o Lammas ddarllen y llith hwn heb gryn drafferth a thebyg mai felly y pery.
A’r hyn sy’n eironig wrth i gymuned Lammas balu arni yw bod cynddeiliaid Pont-y-gafel, yn eu hamser, hefyd, wedi bod yn arloeswyr amaethyddol o fri, yn arbennig yn ystod teyrnasiad teulu’r Jamsiaid dros saith cenhedlaeth o ddechrau’r 18g. tan y 1970au.
Gadewch i ni ddechrau gydag Edward Howell (1844–1929) a arferai ddweud nad oedd gwlân yn gadael ei dir nes ei fod yn frethyn ar ei gefn am fod ganddo ei felin ei hun yn cael ei throi gan dd?r Afon Gafel. Fe’i hadwaenid ar lafar gwlad fel ‘Justice y Bont’ ar gownt ei ddyletswyddau fel Ynad Heddwch; roedd hynny’n ychwanegol i’w ddyletswyddau fel un o aelodau cyntaf Cyngor Sir Penfro, a chael ei godi’n Henadur yn ddiweddarach, yn ogystal â’i ddyletswyddau fel diacon yng Nghapel Gland?r am hanner can mlynedd.
Ar y clos dywedir iddo lunio rhod dd?r o olwynion cart er mwyn tsiaffo’r cnwd ebran ac arferid gwerthu cynnyrch y fferm mewn marchnadoedd mor bell i ffwrdd â Chastell-nedd. Roedd yn un o gyfranddalwyr gwasanaeth trên y Cardi Bach, yn un o sefydlwyr Co-op Crymych a chafodd y fraint o feirniadu cystadleuaeth traethawd ar amaethyddiaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar un achlysur.
Nid rhyfedd ei fod yn un aml ei ddoniau am fod ei dad-cu, Dafi, yn cyfansoddi emynau ac yn darllen Groeg a Lladin yn bur rhwydd, a hynny o dan ddylanwad y polymath hwnnw o weinidog, Siôn Gymro, yn ôl pob tebyg. Nid rhyfedd fod ei or-wyrion yntau yn flaenllaw yn eu meysydd.
Arferai’r hynaf, Hugh Edward, gynnal dosbarthiadau amaeth yn yr ysgoldy gyda’r nos i ffermwyr y fro cyn dringo i fod yn Gyfarwyddwr Addysg Sir Benfro ac yn gefnogwr pob mudiad i wella byd yr amaethwr megis y Bwrdd Marchnata Llaeth ac Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr.
Herbert oedd y brawd a arhosodd adref i ffermio a gwneud hynny gyda chryn raen gan ennill tlws y Gymdeithas Gwartheg Duon am y fuches orau ar un achlysur. Olynodd ei dad fel cynghorydd sir a bu’n godwr canu yng Ngland?r am 40 mlynedd. Arferai ddweud gydag arddeliad iddo fod yn un o 100 o blant a deithiodd am ddim ar siwrnai gyntaf y Cardi Bach i Aberteifi ym mis Medi 1886 ac iddo deithio ar y siwrnai olaf hefyd ym mis Medi 1962 ac yntau’n 81 oed.
Pan werthwyd yr hen gartref i deulu o Cenya* yn y 1970au, roedd yr eiddo yn nwylo Elwyn, a orffennodd ei yrfa’n Bennaeth Coleg Amaeth Gelli Aur, ger Llandeilo. Arferai yntau adrodd stori am asen o eiddo gwraig weddw yn yr ardal. Byddai’r asen yn bwrw ebol yn ddi-ffael bob blwyddyn, a chafodd ei gwisgo mewn dillad galar a’i harwain i’r fynwent ac yn ôl pan drigodd asyn un o’r cymdogion yn ddisymwth.
Brawd arall a ddisgleiriodd yn ei faes oedd Howell Edwart a ddringodd yn uchel yn y gwasanaeth sifil a chael ei ethol yn aelod o Fwrdd Iechyd Cymru. Gwelwyd addewid ynddo pan oedd yn gyw gyfreithiwr yn ôl un o’r cymdogion sef neb llai na’r enwog Twm Waunbwll, yr hwn a ddisgrifiwyd gan D. J. Williams, yn ei glasur Hen Dy Ffarm, fel cymeriad lled chwedlonol tebyg i Jac Abertegan ym mhen uchaf Dyffryn Tywi.
Gwysiwyd Twm Waunbwll (Thomas Phillips) ger bron ei well i Hwlffordd ar fater yn ymwneud â’i eiddo helaeth fel tirfeddiannwr a Howell Edwart oedd yn ei erlyn. Pan ofynnodd ‘Justice y Bont’ i Twm sut gyfreithiwr wnâi ei fab, yr ateb a gafodd oedd ‘un da’r jawl achos gorfod i fi ddweud llwyth o gelwydde i’w faeddu fe’.

Llun: Twm Waunbwll
Tebyg y byddai gan yr hen Dwm sylw go grafog i’w gynnig heddiw pe gwyddai mai arwyddocâd yr enw Lammas, a arddelir gan yr arloeswyr sydd yn amaethu ym Mhont-y-gafel bellach, yw dynodi gwyl baganaidd.
Tybed, yn ystod y misoedd nesaf, pan fydd y deiliaid newydd yn arddid y tir mewn dull amrwd heb danwydd, a fyddan nhw’n myfyrio uwchben tasg gyffelyb a gyflawnid gan un o weision Pont-y-gafel slawer dydd. Gosod llyfr ar gorn yr arad i’w ddarllen tra dilynai’r ychen oedd arfer y mab llwyn a pherth, Thomas Rees. Flynyddoedd yn ddiweddarach fe’i penodwyd yn brifathro Coleg Diwinyddol Bangor ac fe’i diarddelwyd o Glwb Golff Bangor, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, oherwydd ei ddaliadau ynghylch heddychiaeth.
*Meddylfryd trefedigaethol a berthynai i deulu’r Herbertiaid. Anfonwyd y tri phlentyn i ysgol fonedd a golygfa ryfedd yn y cyfnod hwnnw oedd gweld eu gwas croenddu’n gyrru tractor ar hyd feidrioedd yr ardal. Ond roedden nhw’n fentrus wrth ffermio’r 240 erw a godro 300 o dda gan ddefnyddio parlwr godro ar gyfer dwsin o wartheg ar y tro. Tyfwyd rhygwellt Eidalaidd, barlys a silwair a phlannwyd pyrwydd Sitca. Dywedir iddyn nhw ddymchwel rhai o’r hen fythynnod ar y tir rhag iddyn nhw gael eu meddiannu gan y gawod o hipis a ddisgynnodd ar yr ardal. Fe’u holynwyd gan deulu’r Grimshaws yng nghanol y 1980au a fu’r un mor fentrus yn creu llyn pysgota, yn botelu d?r a rhoi cynnig ar fagu gwartheg duon a hyd yn oed geifr Saanens. Mynychai’r plant yr ysgol leol ond roedd y rhieni ymhlith y mwyaf croch o gefnogwyr ‘Education First’.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
