Y mae dieithryn tal, Yr Un Heb Enw (ond a elwir yn Joe), yn gwisgo het gantel llydan a phonsio, yn marchogaeth i brif stryd (ac unig stryd) pentref yn y Gorllewin Gwyllt (sbageti), ar gefn mul. Y mae dyrnaid o ddihirod un o’r ddau deulu dylanwadol yn y pentref yn saethu at draed y mul a dychryn y creadur bach fel ei fod yn rhedeg yn wyllt. Wrth fynd o dan pren yn dal lamp y mae’r marchog yn gafael yn hwnnw, a’r mul yn mynd yn ei flaen. Yna y mae’r marchog yn dod yn ei ôl ac yn wynebu’r dihirod, a dweud wrthyn nhw, â sierwt yng nghongol ei geg, ei fod o – wrth reswm – yn deall mai tipyn o hwyl oedd y saethu, ‘Ond dydi fy mul i ddim yn deall. Mae o’n cario’r syniad eich bod chi’n chwerthin am ei ben o, a dydi o ddim yn hoffi i bobol chwerthin am ei ben o. Wrth gwrs, pe baech chi’n dweud wrth fy mul fod yn ddrwg gynnoch chi ...’ Fel y gellid disgwyl, dydi ymddiheuro i ful ddim yn gwir apelio at y dihirod ac, fel sy’n digwydd mewn lluniau cowbois sbageti, y maen nhw’n dadweinio eu gynnau – neu’n ymdrechu (yn ofer) i wneud hynny. Fel rhuban, y mae pedair bwled yn cael eu tanio, a phedwar dihiryn hyll yn gelain.
Dyna fel y daeth Clint Eastwood i amlygrwydd mawr, er ei fod o wedi actio mewn ffilmiau cyn hynny, ac wedi dod i amlygrwydd cymharol fel Rowdy Yates mewn cyfres gowbois ar deledu Americanaidd, sef Rawhide. (Y mae’n werth nodi ei fod o wedi ymddiddori mewn sgriptio a chyfarwyddo wrth iddo gymryd rhan yn y gyfres honno: dydi hi ddim yn syndod, felly, ei fod o wedi mynd rhagddo i fod yn gyfarwyddwr ffilmiau o fri rhyngwladol.) Y llun uchod oedd A Fistful of Dollars (1964) a’r cyfarwyddwr oedd Sergio Leone. Nid Clint oedd ei ddewis cyntaf ar gyfer rhan yr arwr, ond Jam-es Cobwrn (dyna, yn llythrennol, ei ynganiad), ond yr oedd hwnnw’n rhy ddrud. Yn ôl Leone, yr oedd o’n meddwl am gowbois fel yr oedd Homer yn meddwl am ei arwyr, fel ymladdwyr di-ail.
Fe ymddangosodd Yr Un Heb Enw mewn sbageti-luniau eraill, For a Few Dollars More (1965), a The Good, the Bad and the Ugly (1966). Yn y diwethaf o’r rhain yr oedd yna ennyd neu ddwy o bendroni mwy difrifol nag arfer ynghylch lladd a dioddefaint, yn yr adran am Ryfel Cartref America ond, ar y cyfan, tipyn o hwyl arwrol oedd y tair ffilm yma. Ond dylid sylwi bod ein harwr yn y ffilmiau hyn yn cael curfa, neu’n gorfod dioddef yn greulon fwy nag unwaith; y mae hyn yn nodwedd mewn eraill o’r amryw ffilmiau cowbois y serennodd Clint ynddynt. Hynny ydi, dydi’r arwr ddim heb nodweddion dynol a meidrol, er ei fod yn goresgyn y gwendid hwnnw.
Fe gymerodd Clint ran mewn amryw o ffilmiau cowbois eraill, lle y mae o’n arwr di-ail, fel y mae o mewn ffilmiau fel y ditectydd caled Harry Callahan, gwr o argyhoeddiadau di-nonsens ac o weithredoedd anghymhleth. Fel y rhan fwyaf o dditectyddion y mae o, yn wahanol i’w benaethiaid diweledigaeth, yn dra effeithiol fel ataliwr drwgweithredwyr. Doedd yr arwriaeth ddi-ffriliau hon ddim yn apelio at un a ystyrid yn un o’r prif sylwedyddion ar ffilm yn ei dydd, sef Pauline Kael.
Mewn dwy ffilm gowbois, High Plains Drifter a Pale Rider, y mae yna elfen oruwchnaturiol yn yr arwr; y mae fel pe bai wedi dod yn ei ôl i’r byd o dir y meirwon, ac y mae o’n cadw ei ddirgelwch. Y mae’n amlwg fod yr elfen ddieithr hon yn apelio at Clint. Ac er nad oes yna elfen oruwchnaturiol yn The Outlaw Josey Wales (1976), y mae’r arwr yn un y mae ei fedrau yn rhai goruwchddynol; ac yn y ffilm nodedig honno Unforgiven (1992) y mae yna gymysgedd o ddau beth tra gwahanol. Ar un llaw, y mae’r cymeriad y mae Eastwood yn ei actio, sef William Munny, erbyn dechrau’r ffilm yn heneiddio; y mae wedi bod yn ddyn drwg iawn, yn saethu dynion, gwragedd a phlant, ond y mae dylanwad ei wraig wedi ei newid. Ar ôl ei marwolaeth hi, y mae’n ceisio cadw ei fferm ddilewyrch ac edrych ar ôl ei ddau blentyn. Daw gwr ifanc heibio a dweud fod rhai ‘hwrod’ (gair cyson y ffilm) wedi cynnig arian yn wobr i rywun am ladd dau gowboi, oherwydd i un o’r ddau farcio wyneb un hwran â chyllell. Yn ei dlodi, y mae Munny’n mynd gydag o. Erbyn diwedd y ffilm, y mae’r lladdwr enbyd wedi deffro eto yn Munny, ac y mae yna gysgodion bron yn oruwchnaturiol yn ei bresenoldeb marwol. Ond mewn ysgrifen, fe ddywedir eto ar ddiwedd y ffilm fod y lladdwr enbyd wedi cael ei newid gan ei wraig.
Un o’r llinellau yn y ffilm hon ydi, ‘Peth uffernol [mewn ystyr lythrennol] ydi lladd dyn’. Y mae gwirionedd y llinell hon yn codi ei ben eto yn ffilm ddiweddaraf Clint Eastwood, un y mae o’n actio ynddi, yn ei chyfarwyddo a’i chynhyrchu (y mae o’n wr busnes craff iawn), sef Gran Torino (2009). Yn y ffilm hon y mae Clint (Walt Kowalski) yn hen ddyn ac, er gwaethaf ei gorff cadarn, y mae olion bywyd ar ei wyneb. Fe’i portreadir fel milwr a fu yn y rhyfel yn Corea, ac un a wnaeth bethau enbyd yno, pethau na all o eu hanghofio. Y mae o’n ei gael ei hun, ar ddechrau’r ffilm, yn wr gweddw, crinclyd – hyd at led ysgyrnygu, o bryd i’w gilydd – heb fawr ddim i’w ddweud wrth ei ddau fab a’u teuluoedd. Y mae’n ei gael ei hun mewn cyfnod nad ydi o yn ei ddeall, mewn stryd lle y mae estroniaid o Hmong wedi symud i mewn, a lle y mae yna ambell gang frawychus o beryglus. Y mae Walt yn wyllt gudyll pan mae o’n dal yr hogyn drws nesa (Hmongiad) yn ceisio dwyn y car y mae o’n dotio arno, sef y Gran Torino. Ond daw i ddeall mai cael i wthio i wneud hyn gan gang wnaeth o. O dipyn i beth, er ei fod o hyd yn dal yn grinclyd-sgyrnyglyd, y mae o a’r teulu drws nesa, yn enwedig yr hogyn a’i chwaer, yn dod i ddeall ei gilydd yn iawn. Er ei hyned, y mae Clint yn y ffilm yn dal i fod yn gymeriad nad ydi o’n fodlon cilio rhag y gangiau dychrynllyd, yn un sy’n dal ei dir yn eu herbyn ac yn achub cam y teulu drws nesa. Y mae’r daioni sydd yn y crinc yn mynnu dod i’r wyneb.
Beth sy’n digwydd i arwyr pan maen nhw yn hen, yn enwedig ar sgrîn anferth y sinema, sy’n dangos pob brycheuyn? Wel, y mae Clint yn wynebu hyn yn y ffilm hon, fel mewn ambell ffilm arall a wnaeth yn ddiweddar: y mae’n derbyn ei fod o yr hyn ydi o, ac y mae yna arwr o fath newydd yn cael ei greu, yr un sy’n arbed cam y gwan a’r diniwed o hyd, ond un sy’n gwybod yn iawn peth mor ofnadwy ydi lladd unrhyw un.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
