Thema dywyll Thema golau

Carol, Harry a ni – wynebu ein hiliaeth

Mae’n sefyllfa ddifyr am sawl rheswm. Mae’n anodd anwybyddu eironi sefyllfa lle mae Carol Thatcher yn colli ei swydd ar ôl un sylw ‘preifat,’ ar ôl i’w mam lwyddo i gadw ei joban hi am flynyddoedd, er iddi ddweud pethau cwbwl annerbyniol yn gyhoeddus ac o lwyfannau ‘parchus’ gwleidyddiaeth, pethau a arweiniodd at golli swyddi lot fawr iawn o bobol. Efallai mai dyna pam fod ‘Gollygate’ yn dal i rygnu. Mae ots ganddon ni be ddigwyddith i Carol yn sgil ei sylwadau twp ac amlwg hiliol, yn rhannol am nad oedd ei theulu hi yn malio botwm corn yn yr wythdegau. Annheg? Efallai. Dealladwy? Wel, dyna’r natur ddynol i chi.

Ac mae hiliaeth a rhagfarn yn rhan annatod o’r natur ddynol. Rydan ni i gyd yn gaethweision i’r ddau beth rywle ym mannau cudd ein meddyliau, licio hynny neu beidio. Rydan ni i gyd yn gynnyrch lobscows o ragfarnau teuluol, cymdeithasol a hanesyddol, boed hynny am bobol dduon, Ffrancwyr, hoywon, Saeson – y Cymry Cymraeg, hyd yn oed, yn enwedig pan nad ydyn nhw’n trosglwyddo’r heniaith i’w plant! – ac mae hynny’n beth cwbwl naturiol. Fel y dywedodd Nessa pan gyhuddodd Stacey hi o fod yn hiliol tuag at Saeson: ‘That’s not racism, it’s Xenophobia!’

Ond rydan ni wedi’n breintio â deallusrwydd, ac os ydan ni’n dal i ddewis dweud pethau sy’n rhagfarnllyd ac yn peri poen i bobol eraill, yna mae’n rhaid derbyn y bydd yna ganlyniadau. Yn wir, mae cynnal trafodaeth ar gorneli tywyll ein meddyliau yn fodd o symud cymdeithas yn ei blaen, ac yn gam at well ddealltwriaeth a chydymdeimlad dynol. Ond pan wrthododd Carol Thatcher ymddiheuro nac ymhelaethu ar ei sylwadau, fe gaewyd y drws yn glep ar unrhyw gyfathrebu, a fyddai, o bosib, wedi bod yn ddefnyddiol.

Bu llawer o gymharu sefyllfa Carol Thatcher gydag un Jonathan Ross, a gadwodd ei swydd yn dilyn ‘Sachsgate’. Y gwahaniaeth amlwg ydi i Ross gydnabod ei gamgymeriad yn syth, ac ymddiheuro’n llaes amdano fo. Yr unig beth mae Thatcher wedi ei gydnabod ydi iddi deimlo’n ‘baffled by all the fuss’. Neis wan, Carol. Cymhariaeth decach, o bosib, ydi Carol Thatcher a Jade Goody – er i un dderbyn addysg a breintiau a ddylai fod wedi peri iddi wybod yn well... ac eto, o bosib ddim, gan mai disgybl ysgol fonedd oedd Thatcher wedi’r cyfan. Fe ddywedodd Jade Goody bethau hiliol ar Celebrity Big Brother, a bu trafodaeth helaeth ar y mater, trafodaeth yr oedd hi yn rhan ohoni bob cam o’r ffordd, a thrafodaeth a wnaeth i lawer o bobol feddwl, dwi’n siwr.

Efallai fod y ‘PC Brigade’ yn mynd dros ben llestri weithiau, ond mae hiliaeth yn bodoli, mae symbolau hiliol yn bodoli, ac mae iaith hiliol yn cael ei defnyddio bob dydd, yn breifat ac fel arall. Os nad yw pobol yn codi llais ac yn dweud nad ydi hyn yn dderbyniol, sut mae modd inni byth gael gwared ar y math yma o iaith ac agwedd? Roeddwn i’n arfer galw plant tras-cymysg yn ‘half-caste’ flynyddoedd yn ôl, tan i rywun dynnu fy sylw at y ffaith mai ystyr y term hwnnw ydi potyn sydd heb ei bobi yn iawn, ac felly yn ddiffygiol. Mi ddysgais i rywbeth newydd y diwrnod hwnnw, a dydw i erioed wedi defnyddio’r term wedyn.

Roedd yr hyn a ddywedodd Thatcher yn osodiad gelyniaethus dan gochl jôc wedi’i hanelu at berson o dras ethnig gwahanol iddi hi. Mae sylwadau felly yn annerbyniol gan bawb call. Onibai am y sylwadau hynny sy’n cyfeirio at y Cymry, wrth gwrs, ac sydd i’w gweld yn ddyddiol bron ym mhapurau ‘deallusol’ Llundain. Ond stori arall ydi honno.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Cofio '79 - Beth Petai......?

Ymlaen >

Golygyddol - Hawliau dynol a’r Cymry Cymraeg