Thema dywyll Thema golau

Cofio ’79 – Beth Petai……?

Ysgrifennodd (o’i gyfieithu): ‘A gaf fi dynnu sylw at ganlyniadau tebygol pleidlais nacaol. Fe’i holynir gan etholiad cyffredinol. Fe all fod newid llywodraeth. Tasg gyntaf Senedd San Steffan fydd lleihau a meistroli chwyddiant. Ceir yng Nghymru byllau glo sy’n gweithio ar golled, gweithfeydd dur a ystyrir yn ddiangen a dyffrynnoedd addas i’w boddi. Ac ni fydd yr un amddiffynfa Gymreig.’

Ar lawer golwg, dyma grynodeb o hanes Cymru yn ystod y deunaw mlynedd a oedd i ddod. Dyw haneswyr ddim yn or-hoff o drafod ‘beth fyddai wedi digwydd pe byddai?’, ac ati. Ond diddorol yw dyfalu beth fyddai wedi digwydd pe bai’r cynulliad arfaethedig wedi’i gymeradwyo gan etholwyr Cymru yn 1979. Ni foddwyd yr un cwm yng Nghymru rhwng 1979 a 1997, ond roedd Saunders Lewis yn llygad ei le wrth feddwl y byddai’r blynyddoedd hynny’n gyfnod o grebachu enfawr yn y diwydiannau glo a dur. Yn wir, cymaint y newid fel ag i beri bod diwydiant trwm, a fu am bron i ddau gan mlynedd yn ddiffiniad o Gymru, yn ymylu at fod yn amherthnasol i economi’r wlad.

Ond, a fyddai pleidlais wahanol yn 1979 wedi sicrhau y byddai gan Gymru’r modd i amddiffyn y wlad yn erbyn yr anrhaith? Go brin. Mae’n bwysig cofio bod buddugoliaeth Mrs Thatcher yn erbyn Callaghan yn 1979 yn wahanol iawn i fuddugoliaeth Churchill yn erbyn Attlee yn 1951, neu fuddugoliaeth Heath yn erbyn Wilson yn 1970. Oddi ar 1945, buasai cryn gonsensws ymhlith gwleidyddion Prydain, gyda’r Llafurwyr a’r Ceidwadwyr yn cytuno ar bynciau fel economi gymysg, gwladwriaeth les a chyflogaeth lawn. Nid felly Mrs Thatcher, a deimlai ei bod wedi’i ‘galw’ i ddinistrio’r consensws, i danseilio grym yr undebau ac i sicrhau sofraniaeth y farchnad rydd. Ddechrau’r 1980au bu Phil Williams yn galaru ynglyn â pharodrwydd aelodau Plaid Cymru i gefnogi Gwynfor Evans yn ei ymgyrch o blaid sefydlu sianel deledu Cymraeg. Yn ei farn ef, byddai ymdrech yr un mor daer o blaid cynnal cyflogaeth yn y diwydiant dur yn sicr o fod yn fuddugoliaethus. Mi gofiaf anghytuno. Roedd dofi gweithwyr diwydiannol yn ganolog i bolisi Mrs Thatcher; doedd sianel Gymraeg ddim o unrhyw ddiddordeb iddi.

Pe bai’r cynulliad wedi’i gymeradwyo yn 1979, rhaid cofio na fyddai ynddo unrhyw elfen o bleidlais gyfrannol. Mae’n fwy na thebyg, felly, y byddai patrwm pleidiol aelodaeth y Cynulliad wedi bod yn debyg i batrwm cynrychiolwyr Cymru yn San Steffan wedi etholiad cyffredinol 1979, sef Llafur 22, Ceidwadwyr 11, Plaid Cymru 2, Rhyddfrydwyr 1. Wedi’r etholiad hwnnw, gellid teithio o Fôn i Fynwy heb adael etholaeth Geidwadol. Ceir cred erbyn hyn fod pawb yng Nghymru yn ffieiddio Mrs Thatcher, ond dyw’r ystadegau ddim yn cadarnhau hynny. Wrth i’r sefyllfa ddwysáu ddechrau’r 1980au, cynyddu a wnaeth parodrwydd y Cymry i bleidleisio i’w phlaid. Gwelir hynny yng nghanlyniadau etholiad cyffredinol 1983: Llafur 20, Ceidwadwyr 14, Plaid Cymru 2, Rhyddfrydwyr 2. Diau na fyddai’r aelodau Ceidwadol wedi bod yn amddiffynfa yn erbyn polisïau eu plaid. Dichon y byddai cyfran o’r aelodau Llafur wedi bod yn llafar eu gwrthwynebiad, ond o gofio tueddiadau gwrth-ddatganoli carfan helaeth oddi mewn i’r blaid honno, o’r braidd y byddent wedi achub y cyfle i herio’r drefn Brydeinig.

Gellir derbyn felly na fyddai Cynulliad, pe bai un wedi dod i fodolaeth yn 1979, wedi medru gwneud fawr ddim i amddiffyn diwydiannau trymion Cymru. Hwyrach na fyddai ychwaith wedi hybu Cymreictod i’r graddau yr hybwyd hwnnw gan ddatblygiadau fel sefydlu S4C a chydnabod y Gymraeg fel pwnc craidd yn yr ysgolion. Ond pe bai Cynulliad wedi’i sefydlu, fe fyddai unrhyw hybu o’r fath wedi dibynnu ar ewyllys cynrychiolwyr etholedig trigolion Cymru yn hytrach na deillio o wleidydda drws-cefn yn Whitehall.

Ond efallai mai’r peth pwysicaf ynglyn â refferendwm 1979 yw ei fod wedi profi bod cwestiwn, unwaith y mae wedi’i ofyn, yn aros ar yr agenda. Anodd oedd sylweddoli hynny ar y pryd. Mi gofiaf deimlo nad oedd mwyach unrhyw reswm dros barhau i fyw yng Nghymru. Ar y pryd, roeddwn wrthi’n hel deunydd ar gyfer fy nghyfrol i Penguin ar hanes Cymru, ond bu bron i mi roi’r gorau i’r dasg oherwydd fy mod yn teimlo nad oedd Cymru a’i hanes bellach yn destun. Roedd fy ngwraig o’r farn fod dadl o blaid ymfudo i Israel. Roeddwn i’n gweld rhinwedd yn Kurdistan. Bu bron i ni gyfaddawdu ar y Cotswolds. Ond wythnos ar ôl y refferendwm, cefais alwad ffôn oddi wrth John Osmond. Gofyn ydoedd am gymorth i lunio cyfrol gyda’r teitl, The National Question Again. ‘Ond John,’ medde fi gan feddwl am gyflafan y Somme, ‘yr ydym newydd gael ein sgubo allan o’r ffosydd.’ Ei ateb ef oedd: ‘Nawr yw’r amser i fynd yn ôl i’r ffosydd.’ Gobeithiaf ryw ddiwrnod y bydd cerflun o flaen y Senedd yn dwyn y geiriau: ‘Daeth y sefydliad hwn i fodolaeth trwy rym ewyllys John Osmond’.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Cwlt y Bydiaid

Ymlaen >

Carol, Harry a ni – wynebu ein hiliaeth