Erbyn i ni gyrraedd Pwllheli mae hi’n pluo eira a’r gwynt wedi codi. Mae coed esgyrnog y Maes wedi cael eu haddurno efo goleuadau yma ac acw, y bylbiau oren a melyn yn dangos bod Cyngor Tref Pwllheli wedi cadw gwyl unwaith eto. Y pnawn gwyntog, llwyd yma yn niwedd y pumdegau, mae Caernarfon wedi dod i chwarae yn erbyn Pwllheli yng Nghynghrair Gogledd Cymru – yr hen North Wales League (Division One). Tîm caled ydi Pwllheli, yn enwedig pan mae hi’n gêm gartref.
Mae Emyr Price yn sefyll ar ochr y cae efo rhai eraill o hogia’r Cownti Sgwl, Pwllheli. Mae o’n dilyn ei arwr mawr, Tommy Jones, cyn-chwaraewr i Everton, cyn-gapten tîm Cymru a heddiw yn gapten Pwllheli. Colli y mae Caernarfon y pnawn yma. Gwilym Owen, Llannerch-y-medd, Sir Fôn, ydi dyn y bib, yn fain yn ei lifrai du.
Digon anhapus ydi Emyr yn ysgol Pwllheli, a chyn bo hir mae’r teulu yn symud i fyw i Gwm Ystradllyn wedi i Bob Price, y tad, gael swydd yn y gwaith dwr yno. Mae Emyr yn hapusach yn Ysgol Eifionydd, ac oddi yno yr aiff i’r coleg ym Mangor i astudio Hanes a Hanes Cymru. C. L. Mowatt ydi pennaeth yr Adran Hanes, dyn mwyn y mae Emyr yn dod i edmygu ei gyfrol Britain Between the Wars yn arw. Yn adran Hanes Cymru y mae J. Gwynn Williams a Keith Williams Jones, haneswyr o’r radd flaenaf un, yn ei dywys ar hyd erwau coll ei wlad. Ond mae cymylau duon digalondid yn rhan o fywyd Emyr bellach ac mae o’n gadael y coleg am flwyddyn gan fynd i arddio yng ngerddi Portmeirion. Mi ddaw y cymylau duon trymion hyn yn eu holau i’w lethu o dro i dro ar hyd ei oes.
Wedi iddo ddod yn ei ôl i Fangor mae bywyd Neuadd Reichel yn galw, yr hen nyth hwnnw o uchelgais. Aled Eames, hanesydd gloyw arall, ydi’r warden, ac mae o yn cynnig canllaw i Emyr yn y dyddiau blin. Yma hefyd y mae Mair o Dy’n Braich, Dinas Mawddwy, y ferch dlos a fydd yn wraig iddo maes o law.
Cinio Cymdeithas y Cymric yng ngwesty’r Grand yn Llandudno. Cyrchfan achlysurol y Ceidwadwyr yn eu cynadleddau. Mae’r Cymric yn dathlu Gwyl Ddewi ac mae hwyliau da ar bawb. Y dynion yn eu crysau Bri-Nylon a’u teis colegol, ac ambell un yn gwisgo blazer y coleg, y genhedlaeth olaf i wneud hynny. Mae’r merched mewn ffrogiau blodeuog ac esgidiau lledr patent du, ac mae yma awelon o berffiwm Coty a Yardley. Dyma gyfnod recordio ‘Green Green Grass of Home’ gan Tom Jones, ac mae Emyr ar dân. A dyma gyfieithu’r geiriau yn y fan a’r lle a’i chanu hi i Mair.
Dyma gyfnod dechrau sgwennu hefyd. Emyr sy’n dilyn Derec Llwyd Morgan yn olygydd Y Dyfodol, papur myfyrwyr Bangor. Mae o hefyd yn sgwennu’n ddigri, yn fileinig ac yn achlysurol enllibus i Bronco a Miriman, papurau poblogaidd sy’n cael eu cyhoeddi gan griw Reichel. Dafydd Glyn Jones ydi impressario y pethau hyn. Yno hefyd y mae Dafydd Elis Thomas, yn ffrindiau mawr efo Emyr. Ac Euryn Ogwen Williams, Ifan Roberts, Cenwyn Edwards, Penri Jones, Robat Gruffudd, Dafydd Huw Williams ac ati – oriel nas welwyd ei thebyg wedyn. Mae Emyr yng nghanol hyn. Ond mae’r cymylau duon yn eu holau eto yn hofran o’i gwmpas, a hynny ar adeg dyngedfennol yr arholiadau gradd. Daw drwyddi, diolch i Mair. Wedyn mae yna ysgoloriaeth Hanes Cymru yn aros amdano, a maes yr ymchwil fydd gyrfa gynnar David Lloyd George. A byth ar ôl hyn mae Mair yn gorfod rhannu’i hamser rhwng Emyr a Dewin Dwyfor.
Tan y Ffordd, Bethel, ydi eu cartref cyntaf. Mae Emyr bellach yn bennaeth yr Adran Hanes Cymru yn Ysgol Brynrefail, ac ym Methel y mae Angharad, Irfon a Iolo yn cael eu geni. Wrth ddysgu plant y fro Gymraeg hon caiff Emyr gymaint o bleser yng nghwmni’r disgyblion anacademaidd ag a gaiff efo’r gweddill sydd â’u bryd ar goleg neu’r cyngor sir. Mae Emyr yn sylweddoli mor brin ydi’r deunydd Cymraeg ar gyfer disgyblion canol yr oed uwchradd ac ar eu cyfer nhw y mae o’n sgwennu Cymru a’r Byd Modern ers 1918 (1979).
Mae’r blynyddoedd o ddarllen ac o ddehongli hen rifynnau o’r Herald Cymraeg a’r Genedl Gymreig yn llyfrgell Coleg Bangor yn dwyn ffrwyth yn 1974 ac Emyr yn cael MA flwyddyn ar ôl iddo gychwyn swydd newydd fel darlithydd yn y Coleg Normal. Mae’r fflodiart wedi agor led y pen a llyfrau, pamffledi ac erthyglau yn tywallt o’i stydi, nifer fawr ohonynt yn dehongli bywyd rhyfeddol Lloyd George. Uchafbwynt hyn i gyd ydi’r gyfrol Lloyd George y Cenedlaetholwr Cymreig: Arwr ynteu Bradwr?(1999). Dyma’r gyfrol sydd yn rhoi’r pleser mwyaf i Emyr o’i holl gynhyrchion.
Mae’r saithdegau yn ddegawd euraidd – heblaw am un camgymeriad yn 1979. Yn etholiad cyffredinol y flwyddyn honno mae Emyr yn sefyll fel ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Conwy. Dydi Emyr, er ei fod o’n anadlu gwleidyddiaeth, ddim yn wleidydd ei hun, ac mae’r talwrn gwleidyddol, y cyfarfodydd a’r hustingau yn boendod llwyr iddo.
Ac eto… Dyma’r ddau ohonom ar y cei yng Nghaernarfon yn Nhachwedd 1982. Mae’r gwynt o’r môr a chri’r gwylanod lond y lle. Dacw fo’n dwad yn ei anorac, mor flêr ag erioed. ‘Mi ydw i wedi cael cynnig swydd. Swydd bwysig iawn.’ Mae o’n tynnu’r cetyn o’i geg ac yn gwagio’r hen faco i boced yr anorac. ‘Ond fedra i ddim deud dim am y swydd rwan.’ Mae’r sgwrs ar y cei yn hollol fisâr. Mae Emyr yn hoffi pethau felly ambell dro. Wedyn yr ydw innau’n pendroni. Mi wn nad ydi o’n hapus yn y Normal, yn enwedig ar ôl iddo gael ei yrru am flwyddyn i’r LSE er mwyn paratoi ar gyfer cyrsiau newydd yn y coleg – cyrsiau a fyddai’n ei yrru oddi wrth ddysgu Hanes Cymru, ei briod faes a gwaith ei oes.
Buan y daw ateb i’r dirgelwch wrth iddo dderbyn swydd golygydd Y Faner yn y Bala, i olynu Jennie Eirian Davies wedi ei marwolaeth ddisyfyd. Maent yn flynyddoedd main ar yr wythnosolyn a’i ddyfodol yn y fantol. Mae Emyr wedi newyddiadaura llawer, wrth gwrs, ac yn enw cyfarwydd ar radio a theledu ers blynyddoedd. Mae Mair yn dysgu ac felly mae yna sadrwydd ariannol y tu ôl i fenter Y Faner. Ond dyma gyfnod creulon streic y glowyr a chyfrifoldeb mawr ar ysgwyddau’r golygydd ynghyd â Hafina Clwyd a Meg Dafydd, yr is-olygyddion. Mae’r tri yn ceisio gwneud y Faner yn gylchgrawn eang ei apêl – cenhadaeth naturiol i’r gwr a oedd wedi sgwennu llyfrau poblogaidd ar hanes Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc.
Wedi tair blynedd mae Emyr yn troi at newyddiaduraeth teledu. Yn HTV, mae Cenwyn Edwards, hen gyfaill coleg, yn rhoi arweiniad hael iddo. Mae yno hefyd rai eraill sydd yn barod i rannu eu profiad a’u harweiniad, megis Tweli Griffiths, Owen Roberts, Ellis Owen, Vaughan Hughes ac Eifion Glyn. Er nad yw Emyr yn dechnegydd teledu o fath yn y byd, mae Eifion Glyn ac yntau’n cydweithio ar res o raglenni llwyddiannus. Mae Emyr ar ei orau wrth y bwrdd golygyddol yn trafod syniadau ac yn dod â’i weledigaeth academaidd i fyd teledu cyfoes. Mae’r portreadau o bobl fel Wyn Roberts, Cledwyn Hughes, Emlyn Hooson a Gwynfor Evans yn tystio i greadigrwydd mawr y cyfnod hwn. Efallai mai cyfres Canrif y Werin ydi’r goron ar y cyfan.
Am un mlynedd ar ddeg olaf ei fywyd mae Emyr yn ddyn gwael iawn, ac ysbyty a chlinig a chyffuriau a thriniaethau yn amod bywyd iddo. Mae’n dioddef llawer yn gorfforol ac yn feddyliol, wrth i’r hen gymylau duon ddychwelyd eto. Ond trwy’r cyfan mae cariad diamod Mair a’r teulu yn ei gynnal. Mae yna hefyd wyr ac wyres ar yr aelwyd – ‘cannwyll fy llygaid i’ meddai ychydig cyn ei farw. Mae yna gwmni hen gyfeillion a nosau o yfed gwin coch a siarad am heddiw ac am yr hen ddyddiau, y tân yn sbarcio yn y grât a’r hen hen wreichion yn dal yn enaid Emyr.
Addasiad yw’r uchod o deyrnged a draddodwyd yn angladd Emyr Price.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
