Twyllo oedd y pechod mawr – nid o angenrheidrwydd y defnydd a wnaed o gig ceffyl. Yn achos byrgars a selsig rhad, mae’n wybyddus bod pethau gwaeth o lawer na chig ceffyl yn mynd i mewn i’r gymysgedd. Y ffaith nad y cig ceffyl gorau ond yn hytrach ysgyrion ceffyl a thameidiau o groen yr anifail a roddwyd ym myrgars Tesco, dyna ddylai fod wedi cipio’r penawdau.
’Dach chi’n gweld, mae’r pedwar ohonom ni, loddestwyr rhwng-cyfnos-a-gwawr yr hen Gaerdydd, yn argyhoeddedig mai cig ceffyl oedd yn cael ei weini ers talwm yn un o’n hoff fwytai yng ngorllewin y ddinas. Steak yn unig, heb unrhyw eglurhad pellach, a argraffwyd ar y fwydlen. Ac roedd hynny’n ddigon da i ni. Roedd pob golwyth yn anferth. Parodd hynny i’r dramodydd Gwenlyn Parry ganu ei chlodydd drwy ei galw’n ‘stecan fel boch tin eliffant’. Cofiai’r pedwar ohonom yn hiraethus am y wledd o gig difraster hollol a doddai ar y tafod. Ac ar daflod y genau, gadawai’r blasusgig rhagorol hwnnw awgrym o felystra ysgafn, amheuthun.
Wedyn y daethom i ddeall mai dyna yw union briodoleddau golwyth o gig ceffyl o’r radd flaenaf. Yn uchel mewn Omega 3, ac yn archelyn colesterol uchel, mae cig ceffyl, siwr o fod, gyda’r cig coch iachaf y medrwch ei brynu, ynghyd ag estrys a changarw. (Archwiliwch wefan exoticmeats.co.uk. Fel yr awgryma enw’r cwmni, mae seigiau o gigoedd anifeiliaid tra annisgwyl o fewn cerdyn credyd i’n ceginau.)
Ond dim ots gan y wasg am rinweddau meddyginiaethol a blasusol cig ceffyl. Peidied neb â gadael i’r ffeithiau ymyrryd â stori liwgar. Gan fod Eidalwyr a Ffrancwyr a Belgiaid, ymhlith peth wmbredd yn rhagor o bobol y byd, yn bwyta cig ceffyl, roedd hynny’n fêl ar fysedd yr elfen honno o fewn y wasg Brydeinig sy’n arddel estrongasineb.
Cofiwch, yn achos cig ceffyl doedd y papurau mwyaf goleuedig ddim mymryn gwell. Gyda’r sentimentaleiddiwch bas a roddodd i’r Prydeiniwr yr enw o fod yn gyfaill anifeiliaid, gwnaed tab? o fwyta cig ceffyl. Roedd o’n weithgarwch yr un mor ffiaidd, bron, â llosgach. Ond be arall fedrwch chi ei ddisgwyl gan ddiwylliant a ddwyfolodd Black Beauty, Mr Ed – y ceffyl oedd yn medru siarad (anthropomorffaeth ar ei waethaf) –a My Little Pony?
Prydain, wedi’r cyfan, yw’r wladwriaeth lle mae pobol yn gadael mwy o arian yn eu hewyllysiau i gartrefi cathod nag i gartrefi plant. Damniol, yntê. Ond ar yr un pryd mae’r Prydeiniwr yn gallu cam-drin anifeiliaid yn felltigedig o greulon.
Efo’r wasg yn honni bod dinasyddion yr ynysoedd hyn wedi rhoi’r gorau i brynu byrgars, braf oedd clywed fy nghigydd yn y Benllech yn dweud bod cynnydd wedi bod yng ngwerthiant ei byrgars cartref hi. Dyw pobol ddim yn ddwl. Maen nhw’n gwybod bod gwahaniaeth rhwng byrgar a byrgar mewn gogoniant.
Cofiaf fod yn ei siop un Sadwrn braf yn yr haf ar yr un pryd â theulu o ymwelwyr oedd â’u bryd ar gynnal barbeciw’r noson honno. Wedi iddyn nhw holi oedd gan y cigydd fyrgars, tynnwyd eu sylw at resi o fyrgars gwaedgoch hyfryd mewn cas gwydr dan eu trwynau. Brawychwyd y Blackburniaid gan y fath olygfa. Camasant yn ôl. O bellter diogel, rhythodd y rhieni a’r plant ar y byrgars bygythiol hynny. Wedi trafodaeth deuluol ddwys cafwyd gweledigaeth. Trodd y penteulu at y cigydd a gofyn, ‘’Ave yah got frozen?’ Nacaol oedd yr ateb. Dihangodd yr ymwelwyr yn waglaw i’r archfarchnad agosaf. Llonnodd eu calonnau wrth iddyn nhw ymestyn i’r rhewgell am ddisgiau cyfarwydd o fyrgars caled, llyfn llwydfrown, heb yr un arlliw o waed ar eu cyfyl. (Yr eironi, wrth gwrs, ydi bod Sir Gaerhirfryn yn enwog am ei phwdinau gwaed rhagorol. Ond pobol ddibris o’u hetifeddiaeth oedd y rhain.) Dychmygwn hwy, yn deulu dedwydd drachefn, yn rhoi’r byrgars yn eu basged ynghyd â llwyth o selsig ‘containing mechanically recovered pork’.
A dyna’r bobol fyddai’n chwydu wrth feddwl am fwyta cig ceffyl…
Cofiwch, ddylwn i ddim bod yn or-feirniadol. Er mor hoff oedd beirdd yr uchelwyr o lafoerio’n eiriol dros y danteithion a fyddai’n cael eu gweini yn y llysoedd, welais i erioed gyfeiriad at gig ceffyl mewn unrhyw gerdd – ddim hyd yn oed yng nghyfrol hyfryd yr ysgolhaig Enid Pierce Roberts, Bwyd y Beirdd. Tybed a oedd statws y march o fewn cymdeithas yn golygu na fedrai neb feddwl am fwyta’r fath gymwynaswr?
Gwahanol oedd hanes y mochyn. Roedd mochyn yn ei dwlc yn olygfa gyfarwydd mewn sawl gardd am genedlaethau lawer. Mewn dyddiau main, daeth ‘Cadwa di fochyn ac fe wnaiff y mochyn dy gadw di’ yn wireb i werin a ymlafniai’n barhaus i oroesi.
Mae’r mwyafrif ohonom yn dal i fwynhau cig. Ond gorau oll os gallwn ei brynu ar ôl iddo fo gael ei becynnu a’i gyflwyno inni ar ffurf sy’n gosod y pellter mwyaf posib rhyngom a’r creadur byw a laddwyd ar ein cyfer.
Fel sawl Sosialydd siampaen gwerth ei Halen Môn roedd gan y bargyfreithiwr a’r llenor gwych John Mortimer ail gartref yn y Cotswolds. Soniodd am ddynes ddwad o Kensington a ofynnodd yn siop y cigydd yn Biddestone am goes cig oen. ‘Wedi mynd i gyd, mae’n ddrwg gen i,’ esboniwyd wrthi, ‘ond dwi’n lladd heno.’ ‘Lladd!’ ebychodd hithau, ar lewygu. ‘Wnes i ddim gofyn i chi ladd dim byd.’
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
