Thema dywyll Thema golau

Chwip o Bentra

Mi symudais i o Gaerdydd i Lanrug ryw wyth mlynedd yn ôl, ac roedd Cymreictod naturiol y pentref yn ffactor mawr yn fy mhenderfyniad i bryd hynny. Chefais i mo fy siomi, a phetaech chi’n dymuno byw eich bywyd yn gyfan gwbwl drwy gyfrwng y Gymraeg, mi fedrech chi wneud hynny yn Llanrug. Mae yma Swyddfa Bost, siop cigydd a delicatessen, dwy siop gornel, dwy dafarn, meddygfa, siop jips, gwesty, cartref henoed, capel, eglwys, dwy siop trin gwallt ac un salon harddwch – a’r Gymraeg yw’r iaith yn y rhan fwyaf o’r llefydd rheiny. Mae’r timau pêl-droed plant ac oedolion, eisteddfod bentra, carnifal, band pres ac ati yn digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg, nid fel rhyw ymdrech i hybu’r iaith ond fel cyfrwng cyfathrebu naturiol. Mae yma hefyd gyrsiau dysgu Cymraeg i oedolion, a’r dosbarthiadau’n brysur a bywiog.

Yn Llanrug, mae’r Gymraeg yn rhywbeth dydach chi ddim yn meddwl amdano fo – mae o jest yna, yn mynd drwy’i betha – ac mae hynny’n beth prin.

Mawr yw’r dyfalu ynglyn â pham bod Llanrug mor Gymraeg, pan fo rhieni mewn pentrefi cyfagos yn cwyno mai Saesneg yw iaith buarth eu hysgolion, a bod mewnfudo’n gwasgu. Yn sicr, mae agwedd yr ysgol gynradd yn ffactor pwysig, yn yr ystyr mai Cymraeg yw unig iaith y dysgu o’r cychwyn cyntaf, a gan bod plant yr ysgol yn chwarae yn Gymraeg, buan iawn mae plant mewnfudwyr yn cael eu cymhathu. Ond mae’n ymddangos i mi mai ’chydig iawn o fewnfudwyr di-Gymraeg sy’n dewis Llanrug fel lle i fyw. Mae’n gyrchfan poblogaidd i bobol debyg i fi, sy’n chwilio am rywle bywiog a Chymreigaidd i fagu plant, ond dydi o ddim fel petai o’n denu llawer o bobol o du allan i Gymru.

Mae gen i un theori – cwbwl anwyddonol ac ychydig yn ecsentric – mai’r pebbledash sy’n gyfrifol. Gobeithio na châi ’ngyrru o’ma am ddeud hyn, ond dydi Llanrug ddim y delia’ o blith pentrefi gogledd-orllewin Cymru. Yndi, mae’r ardal o’i gwmpas o’n odidog, peidiwch â nghamddallt i, ond fel pentref, peth digon plaen ydi o. Does ’na ddim canolbwynt iddo fo rwsut, ac mae’r hen pebbledash yn bla, fel mae o mewn nifer o bentrefi Cymreigaidd eraill ffordd hyn. Dull cymharol rad a thra effeithiol o ddiogelu’ch ty rhag yr elfennau ydi ei chwipio fo efo’r hen gerrig bach hyll yma wrth gwrs – ‘a prickly mackintosh for a house’, meddai gohebydd pensaernïaeth y Guardian, ac ydi, mae o ar fy nhy i hefyd.

Ond i fod o ddifri’ am funud, dydi pentrefi fel Llanrug ddim yn cynnig yr un ddelwedd ddelfrydol, byw-yn-y-wlad â phentrefi eraill. Does ’na ddim cymaint o fythynnod a ffermydd bychain ar gyrion y pentref, ac felly i bobol sydd isho trio byw y good life, dydi Llanrug ddim cweit yn gweddu.

Wedi dweud hynny, mae mewnfudwyr yn medru bod yn andros o gaffaeliad i bentra ac ardal, ac i wlad hyd yn oed. Difyr oedd nodi’n ddiweddar mai Robin Farrar yw cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Bachgen a fagwyd yn Ninorwig yw Robin, yn fab i fewnfudwraig o Nottingham, sydd, fel mae’n digwydd, yn cynnal y dosbarthiadau Cymraeg i oedolion yn Llanrug. Fe ddysgodd hi Gymraeg, a newid iaith ei haelwyd o’r Saesneg i’r Gymraeg, fel bod Robin a’i frodyr a’i chwiorydd yn cael magwraeth naturiol Gymraeg.

Mae’n braf peidio gorfod meddwl am y Gymraeg yn Llanrug, ac mi fedrwn ni dician drosodd mewn lle fel hyn, heb orfod poeni’n ormodol am y darlun ehangach. Ond diolch am y bobol sydd yn meddwl ac yn poeni – nifer fawr ohonyn nhw’n bobol ddwad, sydd weithiau’n gweld y darlun mawr yn gliriach na’r rhai sydd wedi bod yma erioed.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Emynau Mawl i America

Ymlaen >

Peiriant a Hanner