Thema dywyll Thema golau

Materion y Mis – Bygwth Cerddoriaeth Yn Yr Ysgol

Mewn cyni economaidd, yr arian a fuddsoddir yn y celfyddydau a gaiff ei dorri gyntaf. Sut mae dadlau dros addysg gerddorol pan mae angen gwarchod aelodau gwannaf ein cymdeithas – pobl anabl, pobl sâl a thlawd? Gwyddom fod ardaloedd yng Nghymru ymhlith y rhai tlotaf yn Ewrop.

Ond os gall gwlad fel Venezuela gynhyrchu El Sistema, gan ddod â cherddoriaeth glasurol i blant tlotaf y wlad, oni ddylem ni fod yn ddigon hyderus, blaengar a dyfeisgar i ddatblygu cynlluniau tebyg? Sut allwn ni adael i gyfrifydd difeddwl a diddiwylliant dynnu llinell trwy gyllideb Cyngor Sir ac arbed arian ar draul addysg gerddorol?

Mae’n ddyletswydd arnom ni sy’n credu’n angerddol yng ngrym cerddoriaeth i ddadlau’r achos ac i ddylanwadu ar ein cynghorwyr a’n gwleidyddion. Rhaid eu hargyhoeddi o bwysigrwydd gwarchod ein gwaddol celfyddydol. Credaf yn gryf y dylai plant gael gwersi cerdd yn yr ysgol – ochr-yn-ochr â hanes a mathemateg. Fel llenyddiaeth, mae’n cyfoethogi a gwareiddio cymdeithas a’r unigolyn.

Mae manteision dysgu offeryn yn amrywiol iawn: dysgu canolbwyntio; gwella cydgysylltiad meddyliol a chorfforol; datblygu sgiliau cymdeithasol; codi hyder a hunan-werth personol; cymryd rhan mewn eisteddfodau a chael hwyl a boddhad o gyflawni.

Cymerwyd camau breision ymlaen yn y 50 mlynedd diwethaf i greu cyfleoedd i bobl ifanc yng Nghymru. Hyrwyddwyd addysg gerddorol yn yr ysgolion gan roi cyfle i bob plentyn cerddgar wella’i ddoniau a chymryd rhan mewn bandiau a cherddorfeydd. Yma yng Nghymru y sefydlwyd y Gerddorfa Ieuenctid gyntaf yn y byd ac mae’r diolch am hynny i genhedlaeth o arweinwyr gwleidyddol arloesol wedi’r Ail Ryfel Byd a gredai mewn sicrhau addysg i’w plant, a chyfleoedd na chawsant hwy eu hunain. Ond ni cheir Cerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Cymru heb y pyramid lleol a rhanbarthol, lle dysgir offerynnau yn ein hysgolion cynradd ac uwchradd.

Gwyddom fod cynghorau’n gorfod datblygu dulliau fforddiadwy o ddarparu gwasanaethau. Pan aildrefnwyd llywodraeth leol yng Nghymru yn y 90au sefydlwyd cwmni elusennol i gydweithio gyda thri chyngor sir yng ngogledd Cymru i warchod y drefn beripatetig gerddorol ac i ddatblygu’r cerddorfeydd ieuenctid a’r bandiau. Gallai awdurdodau eraill fabwysiadu’r system a fu mor llwyddiannus yng Ngwynedd, Môn a Dinbych dan adain Gwasanaeth Ysgolion William Mathias.

Y cwestiwn mawr sydd raid ei wynebu yw sut fath o gymdeithas a ddymunwn ei throsglwyddo i’n plant a’n hwyrion? A yw addysg faterol yn ddigonol? A ydym eisiau sicrhau bod cerddoriaeth gan gyfansoddwyr mawr y gorffennol yn dal i gael ei gwerthfawrogi a’i chanu gan genedlaethau’r dyfodol?

Mae gan gerddoriaeth y grym i newid bywydau, i godi’r galon, i leddfu pryderon – a rhoi pwrpas i fywyd. Dyna’r rhesymau dros hybu addysg gerddorol i bob plentyn yng Nghymru. Ysgrifennodd un athro cerdd ar wefan The Teacher’s Network yn ddiweddar:

Nid sôn yn unig ydw i am sicrhau cyflenwad o gerddorion i gerddorfeydd y byd; ond am newid bywydau pobl, rhoi gobaith a hyder. Rydym newydd orffen sioe gerdd. Mae’r ysgol ar dân gyda phobl a ysbrydolwyd gan yr achlysur. Mi fuon nhw’n gweithio mor galed – ymhell tu hwnt i oriau ysgol gan berfformio i gannoedd o bobl am nosweithiau. Maent wrth eu boddau’n dod i’r ysgol. Bydd y brwdfrydedd yna’n llifo allan i bynciau eraill ac yn eu gyrru ymlaen i gyflawni llawer mwy eto.

Na siomwn ein plant.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Y Pridd A'r Concrid - Y Frenhines A'r Eos

Ymlaen >

Emynau Mawl i America