Mae’r Gweinidog Addysg yn ddyn ar frys. Yn wir, byddai ‘ar garlam’ yn ddisgrifiad gwell – ar garlam i wneud ei farc cyn iddo yntau, fel pob un yn ei sefyllfa, lithro i’r llonyddwch gwleidyddol mawr yn ôl. Mae wrthi fel lladd nadroedd, yn pledu polisïau a strategaethau i bob cyfeiriad at gnau coco niferus o broblemau (real neu ddychmygol) o ran safonau addysg yng Nghymru. Rhaid edmygu’r Gweinidog am ei ddycnwch, er y gellir amau ei anel, a’i darged, sawl tro. Eto, efallai mai yn y taflu y mae gwir hanfod y weithred, ac nid yn y taro terfynol. Pan fo gwleidyddion yn canfod problem, rhaid iddynt gael eu gweld yn gwneud rhywbeth amdani. Mae hynny’n ddigon. Taith y belen tuag at y gneuen goco sy’n bwysig, nid ei heffaith wrth iddi lanio. Y daith yw’r cyfan; nid yw’r cyrraedd o wirioneddol bwys.
Efallai mai hynny sy’n egluro pam mai un o brif nodweddion cyfnod Leighton Andrews (a’i ragflaenwyr hefyd, o ran hynny) wrth y llyw yn y Bae yw methu rhagweld, neu ystyried, goblygiadau gweithredu strategaethau a pholisïau. Cyn taflu, dylech ystyried beth allai ddigwydd pan drewir rhywbeth. Ni wnaed hynny gyda’r mwyafrif o bolisïau’r Adran Addysg. Ond ai bai’r Gweinidog yn llwyr yw hyn? Cael ei weld yn gwneud rhywbeth yw ei gonsyrn mawr ef. Mae ei gynghorwyr yn llunio pelenni’r polisïau a cherrig y strategaethau, ac yn eu rhoi yn ei law barod i’w pledu at y problemau canfyddedig. Yn anffodus, yr argraff gyffredinol a geir yn rheolaidd yw mai sgribls cefn paced sigaréts yw’r rhan fwyaf o’r polisïau hyn. Eto, mewn proses ddemocrataidd, mae dull o ddelio efo sgribls, hyd yn oed.
Y cam pwysicaf yn y broses weinyddu yw’r craffu, y drefn honno lle mae unrhyw bolisi a gyflwynir yn cael ei roi dan chwyddwydr manwl gan aelodau eraill o’r corff rheoli, sy’n edrych arno yn aml o gyfeiriadau gwleidyddol gwahanol i’r cyfeiriad y cyflwynir ef ohono. Priod, ac unig, swydd y craffwyr yw gofyn cwestiynau caled a phwrpasol am y modd y caiff y polisïau eu gweithredu. Ni welaf fod hyn wedi’i wneud gyda pholisïau addysg Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf. Neu, os gofynnwyd y cwestiynau, pam nas gofynnwyd yn uwch, yn daerach, yn finiocach? A pham na fynnwyd atebion?
Ystyrier y cwricwlwm lleol, sef y drefn honno sy’n mynnu bod pob disgybl neu fyfyriwr 14 ac 16 oed yng Nghymru yn cael dewis o 30 pwnc i’w dilyn at safon TGAU ac Uwch. Ei sail yw’r egwyddor hyglod y dylai pob disgybl / myfyriwr, ble bynnag y bônt yn y Gymru fach hon, gael yr un dewis o gyrsiau addas. Syniad ardderchog, ond syniad dinesig ei weithrediad, yn ei hanfod, gan fod angen i bob darparwr cyrsiau fod o fewn cyrraedd rhesymol i’r disgyblion. Dim ond wrth weithredu’r drefn y daeth yn amlwg y dylid bod wedi gofyn nifer o gwestiynau perthnasol, cwestiynau sydd bellach yn ymddangos yn rhai amlwg. Mae’r cwestiynau hynny’n ymwneud ag addysg Gymraeg, ysgolion gwledig, costau, hygyrchedd, teithio, ac ansawdd, ynghyd â gallu ysgol i gadw rheolaeth resymol ar yr hyn y mae ei disgyblion, y mae hi’n uniongyrchol gyfrifol amdanynt, yn ei brofi. Canlyniad y drefn bresennol yw bod swmp y dewis yn bwysicach na’i ansawdd na’i addasrwydd i anghenion y disgyblion.
A beth am Y Broses Fandio? Dyma drefn sy’n gosod ysgolion mewn pum gwahanol fand, yn ddibynnol ar wahanol ffactorau, ond canlyniadau TGAU Iaith a Mathemateg yn bennaf. Cyfyd cwestiynau amlwg am ddilysrwydd y drefn, am ei heffaith, ac am anghysonderau, heb sôn am yr effaith ar ysgolion unigol. Pan fo Estyn yn nodi safon hollol wahanol i leoliad yr ysgol ar system y Cynulliad, pwy sy’n iawn? A phan fo rhiant yn dewis ysgol i’w blentyn ar sail y ffaith ei bod yn y Band uchaf eleni, gall yn hawdd fod yn tynnu’r gwallt o’i ben y flwyddyn nesaf pan fydd yr un ysgol yn union wedi syrthio i Fand 4. A pha synnwyr sydd mewn trefn lle mae ysgol yn neidio dau neu dri band yn flynyddol, gan fynd i fyny ac i lawr fel io-io.
Neu beth am y ffars o geisio, a methu, uno tair o brifysgolion y de-ddwyrain? Gormod o frys i greu Cynllun Busnes. Twt twt!
A rwan dyma gynlluniau’r Gweinidog ar gyfer Corff Rheoleiddio a Dyfarnu newydd i Gymru. Pan fo CBAC yn tynnu sylw at y ffaith fod gwireddu’r cynlluniau erbyn 2015 yn rhy frysiog, ac yn peryglu addysg disgyblion Cymru, ac yn mynegi pryder nad yw goblygiadau’r gweithredu ar garlam hwn wedi eu hystyried, beth yw ymateb y Gweinidog? Trafod y sefyllfa yn rhesymol? Ystyried tybed a oes sail i gorff proffesiynol, gyda phrofiad helaeth, ac iddo barch cenedlaethol a rhyng-genedlaethol, ddweud yr hyn a ddywedodd? Dim perygl! Ei ymateb yw llyncu mul a chwythu bygythion, yn union fel prifathro hen-ffasiwn, sy’n ystyried ei air ei hun yn ddeddf, ac unrhyw her yn sarhad. Efallai mai ofn llithro i’r llonyddwch mawr yn ôl cyn gwneud ei farc sydd y tu ôl i’r brys i bledu’r gneuen goco hon hefyd.
Gellir mynd ymlaen fel hyn am bob polisi addysgol diweddar – enghreifftiau lu o weithredu heb ystyried y canlyniadau. Amheuaf fod hynny’n bod yn rhannol oherwydd nad yw’r craffu yn y Cynulliad yn ddigon caled a miniog. Pam, tybed? Ai oherwydd y teimlad gan rai aelodau y byddai gwrthwynebu unrhyw strategaeth a gyflwynir gyda’r bwriad o godi safonau mewn perygl o gael ei weld fel gwrthwynebiad i godi safonau yn ei hanfod? Digon posibl, mewn ambell achos. Ond y gwir reswm yw nad oes digon o aelodau yn y Bae. Taenu’r menyn yn rhy denau. Mae mwy o aelodau yn y mwyafrif o gynghorau sir Cymru nag sydd yn y Cynulliad. Mae 108 o aelodau yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon, ar gyfer 1,800,000 o boblogaeth. Trigain sydd yng Nghymru, a dwywaith y boblogaeth. Y canlyniad yw na all y nifer cyfyngedig presennol o aelodau roi digon o amser, na magu digon o arbenigedd, i graffu ar bob polisi ym mhob maes yn ddigon manwl i sicrhau effeithlonrwydd y polisïau pan ddeuant yn weithredol.
Hyd nes y ceir mwy o aelodau yn y Cynulliad i sicrhau craffu effeithiol, fe fydd y mwyafrif o bolisïau, deddfau, a strategaethau yn parhau i gael eu cyflwyno heb ystyriaeth drylwyr o’r goblygiadau, ac yn parhau i gael eu haddasu wrth gael eu gweithredu. Yn anffodus, unig ganlyniad y newid meddwl cyson hwn wrth weithredu polisi yw atgyfnerthu’r argraff o gynlluniau brysiog hanner-pob, ac nad yw’r gwleidyddion, yn y bôn, yn gwybod beth y maent yn ei wneud, nac i ble y maent yn mynd, na pham. Hyd nes y ceir digon o ddwylo at y gwaith, felly yr erys pethau. Ac mae mwy o waith deddfu ar y ffordd!
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
