Thema dywyll Thema golau

Mynd i’r Capel

Ydw i wedi cael troëdigaeth? Nacdw. Ydw i’n chwilio am rywbeth i lenwi gwagle yn fy mywyd? Wel, tydan ni i gyd.

Fy mab wyth oed wthiodd y cwch i’r dwr, drwy benderfynu ei fod o isho mynd i’r Ysgol Sul. Do’n i ddim cweit yn siwr beth i’w ddweud wrth hynny – dwi wedi hen arfer efo ceisiadau am wersi tenis a karate, ond Ysgol Sul? Fy ngreddf cyntaf oedd dweud, ‘Wel dacw’r capel, a dyna dy feic di,’ – rhyw fath o ‘seeya, wouldn’t wanna be ya’. Ond pan mae o’n gofyn am gael cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd hamdden arall, mi fydda i fel arfer yn mynd â fo heb feddwl ddwywaith. Pam y fath drafferth efo capel, felly? Rhagfarn, mae’n debyg.

Ac wedyn, mi gollais i ffrind annwyl yn 42 oed, i gancr. Mae rhywbeth felna yn rhoi hergwd i’r hard dreif, yn ailraglennu’ch system chi rywsut. Rydach chi’n cau lawr, ac ar ôl aildanio, dydach chi ddim yr un fath.

Es i ddim i’r capel i chwilio am atebion, nac am Dduw, nac am y gallu i gredu mewn rhywbeth gwell i ddod hyd yn oed, ond ro’n i angen cysur o fath gwahanol. Ro’n i angen perthyn i rywbeth sydd yn fwy na’r cylch cydnabod dwi wedi ei greu i mi fy hun dros ddeugain mlynedd o fyw. Rhywbeth mwy na fi, a rhywbeth sydd yn fwy na swm y darnau unigol.

Dwi wedi osgoi’r byd crefyddol fel y pla erioed, oherwydd fy rhagfarn bersonol, profiadau hyll gydag ambell i Gristion honedig, ac oherwydd natur begynnol y ddelwedd gyhoeddus. Anffyddwyr a ffwndamentalwyr sydd uchaf ’u cloch, ac mae unrhyw beth yn y canol wedi mynd yn dir neb, rhywsut.

Dydw i ddim yn hollol gyfforddus yn y capel, na phob tro yn siwr os ydw i ‘i fod’ yna ai peidio. Dydw i ddim yn credu yn Nuw, ac mae ambell i bregeth wedi gwneud imi deimlo y bydda i wastad yn eilradd ac ar y cyrion oherwydd hynny. Peth cas ydi peidio credu, ond dal i fod isho’r tameidiau cymdeithasol a chysurlon sy’n dod efo’r bywyd capelyddol. Oes gen i hawl i dynnu’r cyrainj o’r gacen er mwyn ei gwneud hi’n haws imi ei threulio?

Tybed ai ystyriaethau fel hyn sydd wedi rhoi bodolaeth i’r Sunday Assembly, neu eglwys yr anffyddwyr. Dechreuodd yr eglwys yn Llundain, ac maen nhw’n codi mewn trefi a dinasoedd ar hyd a lled gwledydd Prydain. Os ewch chi ar eu gwefan nhw, mae yna neges yn datgan bod yna gymaint o ddiddordeb erbyn hyn nes bod y wefan wedi gorfod cau dros dro, a bod manylion y gwasanaethau i’w cael ar wefannau cymdeithasol. Eglwysi yn cynnig y cyfle i bobol ddod at ei gilydd i gyd-ganu a chyd-wrando ac i ddathlu bywyd ydi’r rhain, ond heb yr elfen grefyddol.

Mae’n amlwg bod ’na bobol – pobol fel fi – yn chwilio am y profiad cynhwysol mae capel yn medru ei roi, y cyfle i rannu a gwrando ac ystyried, a bod yn dawel am awran yng nghanol prysurdeb bywyd. A lle arall ewch chi i gyd-ganu, rwan bod y tafarndai yn cau wrth y dwsin?

Tybed a ydi’r rhai sydd yn mynychu’r Sunday Assembly wedi trio’u capeli lleol yn gyntaf, neu ydi rhagfarn, ofn neu ambell i bregeth anffodus wedi troi’r drol. Yn y cyfamser, dwi am ddal ati yn y capel, gan hefyd gymryd at fy nghalon arwyddair eglwys yr anffyddwyr, sef ‘Byw yn well, helpu’n aml a rhyfeddu mwy’.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Dwyieithrwydd Twyllodrus

Ymlaen >

Cwrs y Byd - Gee Ceffyl Blasus