Thema dywyll Thema golau

Unoliaethwyr Cenedlaetholgar Cymru

Ond byth ers arwyddo’r cytundeb clymbleidio a luniwyd ar frys gwyllt dros un penwythnos ym mis Mai 2010 fe newidiodd popeth. O’r foment honno gwelwyd un llifeiriant di-baid o wawd a dirmyg yn cael ei dywallt drostynt o gyfeiriad y Chwith. Roedd selogion y Blaid Lafur fel petaent yn falch o’r cyfle i ddial am yr anghysur a achoswyd iddynt gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn sgil anfadwaith yr ymosodiad ar Irac. Trodd Nick Clegg, yn arbennig, yn gyff gwawd. Yn wir fyddai dyn ddim yn synnu petai darllenwyr y Guardian bellach yn defnyddio ei enw fel rhyw fath o Fwci Bo i ddychryn plant: ‘Brysiwch i frwsio eich dannedd Jacob a Lauren fach, neu fe fydd Nick Clegg yn dod i’ch cipio...’

A thra bod y Chwith – cartref gwleidyddol naturiol y rhan fwyaf o Ddemocratiaid Rhyddfrydol – wedi troi tu min, chafwyd fawr o groeso gan eu cynghreiriaid newydd ar y Dde chwaith. Iddynt hwy nid yw’r DemRhyddion yn ddim mwy na niwsans dirmygedig. Y bobl feddal hynny sy’n rhwystro Torïaid o waed coch cyfan rhag gwneud yr hyn y byddent yn deisyfu ei wneud – ‘yr hyn sydd ei angen ar y wlad’, wrth reswm – pe na baent yn gorfod tymheru a glastwreiddio er mwyn cadw criw Clegg yn ddiddig.

A dyma’n union pam y gellir mentro dweud mai uchafbwynt y flwyddyn ddiwethaf o wleidydda i’r rhan fwyaf o Aelodau Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol fu’r bleidlais ar ffiniau etholiadol ar ddiwedd Ionawr. Dyna pryd yr ymunon nhw gyda Llafurwyr a Chenedlaetholwyr i ohirio unrhyw ad-drefnu sylweddol ar y ffiniau etholaethol tan y Senedd nesaf. Roedd hon, fe dybiaf, yn foment felys ar sawl gwastad. Dyma gyfle i ddangos i’r byd a’r betws nad cwn bach David Cameron a’i blaid mohonynt a’u bod yn dal i gyfrif yn eu rhinwedd eu hunain. Cyfle hefyd i dalu’r pwyth i’r Torïaid am y modd y maent wedi mynnu rhwystro’r newidiadau cyfansoddiadol y bu’r DemRhyddion yn gobeithio eu sicrhau – diwygio Ty’r Arglwyddi a newid y gyfundrefn bleidleisio ar gyfer Ty’r Cyffredin – a hynny er gwaethaf holl ymdrechion Clegg a’i blaid i ganfod cyfaddawd a fyddai’n tycio gyda’r Ceidwadwyr.

Gogoniant canlyniad y bleidlais o safbwynt y DemRhyddion yw y bydd ei heffaith yn parhau hyd at etholiad cyffredinol 2015 a thu hwnt. Yn absenoldeb lleihau’r nifer o Aelodau Seneddol, fel y bwriadwyd, mae bellach bron yn amhosibl dychmygu sut y gall y Torïaid fyth ffurfio llywodraeth ar eu pennau eu hunain wedi’r etholiad hwnnw. Mae’r gyfundrefn bleidleisio yn ffafrio Llafur i’r fath raddau fel y byddai’n rhaid i’r Ceidwadwyr orffen ymhell o’u blaenau – tua 9 i 10% ar y blaen – er mwyn cael mwyafrif bychan hyd yn oed. Byddai hynny’n anodd dan yr amgylchiadau mwyaf ffafriol, ond yng nghyfnod cyni a thorri...? Ys dywedai Ifas y Tryc: sgersli bilîf. Bydd y Ceidwadwyr yn talu’n ddrud ac yn hir am gymryd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ysgafn.

Ar ben hynny bydd parhau â’r ffiniau blaenorol yn helpu i achub croen nifer dda o blith Aelodau Seneddol y Democrataidd Rhyddfrydol eu hunain. Mae hynny oherwydd y fantais sylweddol iawn y mae Aelodau Seneddol y blaid honno’n arbennig yn ei mwynhau o sefyll mewn seddau y maent eisoes yn eu cynrychioli – yr incumbency effect bondigrybwyll. Oedd roedd hon yn noson dda i’r blaid.

* * *

Canlyniad arall y bleidlais ar 29 Ionawr, wrth gwrs, yw y bydd gorgynrychiolaeth Cymreig yn Nhy’r Cyffredin hefyd yn parhau am y tro.

Fel y nodwyd yn gyson yn y golofn hon, mae gan Gymru fwy o Aelodau Seneddol y pen nag unman arall yn y Deyrnas Gyfunol. Petaem yn cael ein cynrychioli ar yr un gwastad â Lloegr byddai gennym tua 32 aelod yn hytrach na’r 40 presennol. A gan mai bwriad gwreiddiol y llywodraeth yn San Steffan oedd lleihau maint Ty’r Cyffredin o 650 i 600 tra, ar yr un pryd, yn cysoni maint etholaethau, byddai’r nifer wedi disgyn i 30.

Ystyriaethau realpolitik yn codi o ddeinameg mewnol y llywodraeth glymblaid yn Llundain sydd wedi ‘achub’ yr Aelodau Seneddol Cymreig. Yn sicr nid grym dadleuon yr Aelodau Seneddol eu hunain oedd yn gyfrifol. Roedd y rhain, yn ddiwahân – ac ar draws ffiniau pob plaid – yn druenus ac yn wir yn chwerthinllyd o annigonol. Dyna i chi honno o gyfeiriad Aelodau Seneddol Llafur oedd yn dal fod y bwriad i gysoni maint etholaethau’n enghraifft o gerrymandro. Anghofiwyd yn gyfleus fod y mudiad Llafur ei hun ar un adeg wedi dadlau’n groch o blaid sicrhau bod etholaethau yn gyson o ran maint. Wedi’r cyfan, un o’r prif rwystrau i’r twf yng nghynrychiolaeth etholiadol y dosbarth gweithiol ganrif yn ôl oedd y gwahaniaethau enfawr o ran maint etholaethau’r cyfnod.

Neu dyna i chi’r honiad fod clymau cymunedol mor glòs yng Nghymru – a rhwystrau daearyddol rhwng cymunedau mor anodd eu goresgyn – fel nad oedd bosib sicrhau cynrychiolaeth addas ac eithrio oddi mewn i’r ffiniau ‘traddodiadol’ presennol. Ffiniau sydd, wrth gwrs, wedi newid yn gyson wrth i nifer yr Aelodau Seneddol a etholir yng Nghymru gynyddu’n gyson ar hyd y blynyddoedd. Roedd 36 AS Cymreig pan etholwyd Gwynfor Evans i’r Senedd yn 1966; cynyddodd y nifer i 38 yn 1983 ac eto i 40 yn 1997. Traddodiadol? Unwaith yn rhagor, sgersli bilîf!

Do, gwelwyd ymdrech i guddio hunan-les a hunan-fudd digywilydd dan gochl pob math o ddadleuon. Pob un ohonynt yn gloff ar y naw.

* * *

Yr hyn oedd yn fy nharo’n ddiddorol yw nad oedd unrhyw un o’r Aelodau Seneddol Cymreig yn poeni’r un iot am sut y gallasai eu dadleuon daro gwrandawyr ar ochr arall Clawdd Offa. Efallai na ddylai hynny ein synnu yn achos ASau Plaid Cymru, ond oni ddylai rhywun ddisgwyl y byddai Aelodau Seneddol o Unoliaethwyr yn rhoi mymryn mwy o ystyriaeth i’r cwestiwn ehangach o sut i sicrhau cyfundrefn wleidyddol sy’n cael ei hystyried yn deg ar draws pob un o wledydd y Deyrnas Gyfunol?

Wrth wrando ar yr Aelodau Seneddol Cymreig yn amddiffyn eu breiniau, cefais fy atgoffa o gyfrol wych yr hanesydd Graeme Morton sy’n trafod bywyd sifig yr Alban yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg; cyfrol sy’n dwyn y teitl gogleisiol Unionist Nationalism.

Dadl Morton yw fod y darlun arferol o’r Alban fel gwlad oedd wedi cefnu ar wladgarwch brodorol ac yn hytrach wedi meddwi ar Brydeindod – y math o ddadleuon a gysylltwn yn y cyd-destun Cymreig â gwaith Hywel Teifi Edwards – yn gamarweiniol. Yn hytrach roedd cefnogaeth yr élite Albanaidd i’r wladwriaeth yn fwy amodol ac yn ymdebygu at ryw fath o gytundeb neu ddealltwriaeth anffurfiol: roedd yr élite yn estyn ei chefnogaeth i’r wladwriaeth ganolog ar y ddealltwriaeth fod y wladwriaeth honno’n caniatáu mesur helaeth o ryddid i’r élite o ran llywio bywyd beunyddiol ar lawr gwlad.

Rhag-amod dealltwriaeth o’r fath, wrth gwrs, oedd na fyddai gan y wladwriaeth ganolog unrhyw ddiddordeb arbennig mewn ymyrryd ym mywyd beunyddiol yr Alban. Roedd ganddi bethau amgenach i’w gwneud, megis adeiladu a rheoli Ymerodraeth fyd-eang.

Beth yw perthnasedd hyn i’r Gymru gyfoes a’i Haelodau Seneddol? Mae’n fy nharo i fod eu hagwedd ddi-hid tuag at sut y bydd pobl y tu hwnt i Gymru – a phobl Lloegr yn arbennig – yn canfod gorgynrychiolaeth Gymreig yn seiliedig ar y dybiaeth fod Saeson yn fodlon caniatau i’r élite lleol yng Nghymru (yn yr achos dan sylw, yr ASau) gael eu ffordd cyn belled â’u bod yn parhau’n deyrngar i’r wladwriaeth ganolog.

Y broblem sy’n eu hwynebu, fodd bynnag, yw fod yna dystiolaeth sy’n awgrymu’n gryf nad oes modd iddynt barhau i gymryd hyn yn ganiataol. Fel y datgelwyd yn nhudalennau Barn yn gyntaf, mae’r farn gyhoeddus yn Lloegr yn newid. Mae pobl Lloegr yn gynyddol anfodlon hefo’r hyn a ystyrir ganddynt yn driniaeth ffafriol a dderbynia’r cyrion Celtaidd yn sgil datganoli. Maent yn gynyddol awyddus i weld Lloegr yn cael ei thrin fel uned yn ei henw ei hun. Ac yn wir, dros y flwyddyn ddiwethaf bu Comisiwn a sefydlwyd gan lywodraeth San Steffan yn dwys ystyried sut y dylid addasu gweithdrefnau Ty’r Cyffredin i sicrhau bod Lloegr a’r dimensiwn Seisnig yn cael eu cydnabod yn fwy eglur: Comisiwn McKay.

Er y bydd ein sylw ni yng Nghymru dros yr wythnosau nesaf yn canolbwyntio ar y dystiolaeth a gyflwynir i Gomisiwn Silk, mae’n ddigon posibl y bydd adroddiad Comisiwn McKay – a ddisgwylir ym mis Mawrth – yr un mor arwyddocaol o ran dyfodol Cymru. Yn bennaf oll, efallai, oherwydd y bydd yn cyhoeddi na all ‘unoliaethwyr cenedlaetholgar’ Cymru barhau i ymddwyn fel pe na bai barn a chanfyddiadau trigolion Lloegr yn cyfrif. Os felly bydd yn amhosibl gwrthsefyll pwysau i ddileu gorgynrychiolaeth Gymreig, i fynnu bod Llywodraeth Cymru’n gyfrifol am godi cyfran go dda o’r arian y mae’n ei wario, a nifer o gamau eraill sy’n codi braw ar ein gwleidyddion.

 


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Peiriant a Hanner

Ymlaen >

Priodasau Cyfartal: Cam yn Nes at Gyfartaledd