Mae’r cynnydd, wrth gwrs, ymhlith pobol ifanc 5–15 oed sy’n adlewyrchu twf addysg cyfrwng Cymraeg. Ond faint o Gymraeg mae’r bobol ifanc hyn yn ei siarad y tu allan i’r ysgol? Faint o’u bywydau sy’n cael ei fyw yn yr iaith? Ochr yn ochr â hyn mae’r patrwm o grebachu ar yr ardaloedd hynny lle mae’r Gymraeg yn brif iaith y gymuned. Ac mae hanes yn dangos bod defnydd iaith leiafrifol yn gallu dirywio’n gyflym iawn dan bwysau allfudo a mewnfudo mewn broydd a fu’n gadarnleoedd y Gymraeg. Felly, gadewch i ni gytuno ar rywbeth y mae pawb yn ei wybod go iawn, sef bod sefyllfa’r Gymraeg yn dal yn fregus iawn. Ond mae’n ymhell o fod yn anobeithiol.
Y teitl y dylwn fod wedi ei roi ar yr erthygl hon yw ‘Strategaeth Newydd i’r Iaith Gymraeg’. Ond mi wn y byddai’r gair ‘strategaeth’ yn ddigon i yrru’r dewraf i gysgu neu i droi’r dudalen. Ond beth mae Llywodraeth Cymru’n Un yn ei wneud yw hyn: creu cynllun ar gyfer adfywio ac atgyfnerthu’r Gymraeg dros y blynyddoedd nesaf. Dyma fydd olynydd Iaith Pawb, yr ymdrech gyntaf erioed i lunio rhaglen waith i greu dyfodol sicrach i’r Gymraeg. Dogfen drafod fydd hi, a dwi am weld pobol ledled Cymru yn ymateb iddi er mwyn i ni ei gwella. I mi, mae’r blaenoriaethau yn glir ac yn amlwg.
• Mae angen cynyddu’r niferoedd sy’n siarad Cymraeg wrth reswm. Ond hefyd mae’n rhaid cynyddu’r niferoedd sy’n defnyddio’r Gymraeg.
• Rhaid creu mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn gweithgareddau hamdden ac yn y gweithle.
• Rhaid cryfhau sefyllfa’r Gymraeg mewn cymunedau o bob math.
• Rhaid cynyddu’r ymwybyddiaeth o werth y Gymraeg fel un o’r sgiliau sylfaenol ac fel rhan o’n treftadaeth genedlaethol.
Ni fydd y strategaeth hon, wrth ei chyhoeddi, yn bodoli mewn gwagle, wrth gwrs. Fel llywodraeth rydym ni eisoes wedi creu Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg sydd wedi cael croeso cyffredinol. Mae seiliau a fframwaith wedi eu gosod ar gyfer y Coleg Cymraeg – y Coleg Ffederal. Bydd mesur iaith newydd yn ei le fydd yn datgan yn glir bod gan y Gymraeg statws swyddogol yng ghymru. Bydd swydd Comisiynydd annibynnol yn cael ei sefydlu fydd a^ phwerau eang i hyrwyddo’r Gymraeg a buddiannau siaradwyr yr iaith. A bydd dyletswyddau yn cael eu gosod ar gannoedd o gyrff yng Nghymru i baratoi gwasanaeth yn y Gymraeg, a hawliau defnyddwyr yn cael eu diogelu gan y Comisiynydd. Ac mi fyddwn yn sefydlu Cyngor Partneriaeth y Gymraeg i gynghori’r Llywodraeth a chraffu ar ei gwaith yn hyn o beth.
Ond er cystal hyn i gyd, mae angen fframwaith sy’n cysylltu hyn gyda hynt a helynt pobol ar lawr gwlad, boed hynny mewn dinasoedd Saesneg eu hiaith yn bennaf lle mae mwy a mwy o ysgolion Cymraeg, neu mewn ardaloedd gwledig sy’n wynebu heriau gwahanol. Colled ddifesur dros y ganrif ddiwethaf fu’r gweithleoedd hynny lle’r oedd defnydd naturiol a chyson o’r Gymraeg: pwll glo, chwarel, efail y gof, ac ati. Sut mae creu cyfleoedd yn ein gweithleoedd i bobol ddefnyddio’r Gymraeg? Dwi’n eithriadol o falch o fod wedi bod yn rhan o greu polisi yng Nghyngor Gwynedd yn y 1990au lle y gorseddwyd y Gymraeg yn brif iaith weinyddol y Cyngor. Cam blaengar ac ymarferol a oedd yn adeiladu ar waith cynghorwyr y gorffennol. Mae angen hyrwyddo mwy o’r math yna o batrwm er mwyn rhoi ystyr i’r polisiau addysg ledled Cymru a magu hyder pobol i ddefnyddio’r iaith.
Mae angen gweld cyfleoedd gwaith mewn ardaloedd hefyd a hyfforddi Cymry Cymraeg ar eu cyfer neu adnabod cyfleoedd i greu busnesau lleol fydd yn creu cyflogaeth. Iaith a gwaith, hwnna ydi o. A’r sialens fawr, dybiwn i, ydi tanio dychymyg plant a phobol ifanc. Creu’r awydd i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg. A sicrhau cyfleoedd iddyn nhw ddatblygu eu hyder a’u medrau yn yr iaith fel y byddan nhw’n dewis ei defnyddio a chreu Cymru lle y mae’r iaith yn cael ei defnyddio gyda balchder ym mhob rhan o’u bywyd cenedlaethol.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
