Hyd yn oed i rywun sydd ddim yn Babydd, does dim llawer o achlysuron all gystadlu o ran drama ac ysblander gydag ethol Pab. Y grym a’r cyfoeth, y gwisgoedd, y darogan. A’r aros… Y Cardinaliaid – Tywysogion yr Eglwys – yn eu coch yn dod o bedwar ban byd i ymgynnull yn y Capel Sistinaidd gogoneddus. Y miloedd o ffyddloniaid wedi eu gwasgu at ei gilydd ar Sgwâr San Pedr i ddisgwyl y cip cyntaf o’r mwg gwyn dadlennol. Ac yna drysau’r balconi yn agor – a’r geiriau Habemus Papam – ‘Mae gennym Bab’ – yn diasbedain drwy’r Sgwâr.
Mae’n wir fod yr Eglwys Babyddol mewn trafferth y dyddiau hyn. Ond mae hi’n gwybod o hyd sut i lwyfannu sioe werth chweil. A’r tro hwn fe lwyddodd hefyd i roi dipyn o syrpreis i bawb. Ychydig iawn oedd wedi rhagweld mai Jorge Maria Bergoglio, Archesgob Buenos Aires, fyddai’n cael ei ddewis. Mewn sawl ffordd mae’r dewis yn arwydd o newid cyfeiriad ar ran yr Eglwys. Am y tro cyntaf mae’r Cardinaliaid wedi dewis Pab o Dde America, lle mae bron i hanner Pabyddion y byd yn byw. Ac am y tro cyntaf maen nhw wedi dewis Iesüwr.
Mae’r ffaith mai Iesüwr yw’r Pab hwn yn hynod ddiddorol. Adnabyddir y Jeswitiaid fel yr urdd fwyaf deallusol ac annibynnol ymhlith Pabyddion, ac yn draddodiadol maen nhw’n cilio rhag sylw a rhag derbyn swyddi mawr cyhoeddus. Os arddelir y llythrennau SJ ar ôl enw offeiriad, sef Society of Jesus, golyga hynny ei fod yn Iesüwr. Gellir bod yn sicr bod yr offeiriad hwnnw wedi cael yr addysg orau, o leiaf bymtheng mlynedd o astudio cyn cael ei ordeinio.
Mae ’na jôc amdanyn nhw sy’n dweud y cyfan. Mae’r urddau i gyd – y Benedictiaid ac ati – yn dadlau ymysg ei gilydd. Pa urdd sy’n rhagori dros y lleill? Dyna asgwrn y gynnen. Maen nhw’n penderfynu gofyn i Dduw dorri’r ddadl. Anfonir neges fry at yr Hollalluog. Yn ddiymdroi, i lawr atyn nhw i’r ddaear daw’r ateb: ‘Rydych chi i gyd lawn cystal â’ch gilydd yn Fy Ngolwg I. Duw – SJ’.
Dyw’r Jeswitiaid ddim yn rhan o strwythur mewnol yr Eglwys. Ac yn wahanol i’w ragflaenydd, y Pab Bened, dydy Bergoglio ddim yn rhan o’r clic mewnol yn y Fatican sy’n rheoli’r Eglwys o’r canol. Dydy’r Pab newydd , felly, ddim yn gysylltiedig â gwleidydda a chynllwynio’r Curia – sef biwrocratiaeth y Fatican. Ni all neb awgrymu am eiliad ychwaith bod a wnelo ef ddim oll â’r cyhuddiadau o lygredd sy’n chwyrlïo o gwmpas y Fatican – yn enwedig yn sgil sgandal ‘Fatilîcs’. Yn yr achos hwnnw arestiwyd bwtler y Pab Bened ar ôl iddo ddwyn dogfennau. Paratowyd adroddiad mewnol i’r digwyddiad. A’r sôn yw mai cynnwys yr adroddiad hwnnw – tystiolaeth o lygredd ariannol difrifol, a dylanwad grwp o glerigwyr hoyw o fewn y Fatican – a ysgogodd Bened i ymddeol.
Mae’n ymddangos bod y Cardinaliaid yn teimlo bod angen cael gwared ar y drwg yng nghaws y Curia – a bod Bergoglio yn ateb y gofyniad hwnnw i’r dim. Dydy o ddim yn Eidalwr – ond mae’n siarad Eidaleg yn rhugl. Mae o’n fab i deulu a ymfudodd i’r Ariannin o’r Eidal. Roedd ei dad yn gweithio ar y rheilffyrdd. Doedden nhw ddim yn dlawd ond ddim yn gyfoethog chwaith. Roedd Bergoglio wedi rhoi ei fryd cynnar ar fod yn gemegydd ond yn 1958 ymunodd â’r Jeswitiaid a daeth yn Archesgob ar Buenos Aires yn 1998. Enillodd enw iddo’i hun fel arweinydd cryf dros yr Eglwys yno, amddiffynnwr y tlawd ac un a oedd yn barod i herio’r dynion pwerus a reolai’r farchnad gyffuriau.
Daeth yn boblogaidd fel Archesgob oedd yn agos at ei braidd. Teithiai ar y metro a’r bws, ac fe roddai ei rif ffôn i bob offeiriad. Symudodd allan o Balas yr Archesgob ac aeth i fyw mewn fflat bychan lle byddai’n coginio iddo fo’i hun. Gyda’i wreiddiau Eidalaidd, mae ganddo’r enw o fod yn dipyn o gogydd. Ond clywais offeiriad ar y radio – cyd-Iesüwr o Iwerddon – a letyai gyda Bergoglio ym Muenos Aires, a oedd yn amau hynny. Byddai Bergoglio ei hun yn dianc ambell noson draw i dy’r Christian Brothers lle gallai fod yn siwr o ginio da! Mae’r Pab hefyd yn gallu dawnsio’r tango, medden nhw.
Ond beth bynnag am ei sgiliau yn y gegin, neu ar lawr y ddawns, mae’n amlwg fod y Cardinaliaid wedi dewis dyn diymhongar sy’n mynnu byw bywyd syml, dirodres. Ac roedd ei weithredoedd cyntaf fel Pab yn ategu hynny.
I gychwyn, dewisodd yr enw Ffransis –- nid ar ôl Francis Xavier, un o sefydlwyr y Jeswitiaid – ond ar ôl Sant Ffransis o Asisi, ffigwr oedd yn byw’r bywyd syml. Fe wrthododd y Pab Ffransis wisgo clogyn aur a chroes aur y Pab. Parhaodd i wisgo ei groes haearn ei hun.
Ei eiriau cyntaf ar ôl dod allan ar y balconi uwchben y dyrfa yn Sgwâr San Pedr oedd y cyfarchiad syml ‘Buena sera’ – noswaith dda. Yna gofynnodd i’r dorf weddïo drosto.
Mae hyn i gyd yn argoeli’n dda am ddyfodol yr Eglwys Babyddol. Yn Iwerddon, mae o’n cael ei weld fel chwa o awyr iach, dyn a all newid arddull y Babaeth. Y gobaith yma ydy y bydd o’n fwy agored, ac yn fwy agos at bobl na’i ragflaenydd. Llai o bwyslais ar seremonïaeth a chyfrinachedd a mwy o bwyslais ar y tlawd a’r byd sydd ohoni.
Ond mae unrhyw un sy’n disgwyl newidiadau radical yn safbwynt yr Eglwys Babyddol ar faterion fel ordeinio merched neu briodasau hoyw yn mynd i gael ei siomi. Er ei fod wedi beirniadu offeiriaid eraill yn yr Ariannin am wrthod bedyddio babanod mamau sengl, ac er ei fod yn weithgar ymhlith y tlawd, mae o ymhell o fod yn wrthryfelwr, na hyd yn oed yn rhyddfrydwr. Mae o wedi brwydro’n ffyrnig ac yn gyhoeddus yn erbyn polisïau Arlywydd yr Ariannin, Christina Kirchner, a ddeddfodd o blaid caniatáu i hoywon briodi, a thros wneud offer atal-cenhedlu yn haws i’w brynu.
Ac mae dau bwnc sy’n achosi pryder i feirniaid allanol yr Eglwys ac i rai beirniaid oddi mewn iddi. Yn gyntaf mae lle i amau record Bergoglio yn ystod dyddiau’r Jwnta yn yr Ariannin, rhwng 1976 a 1983, pan lywodraethwyd y wlad gan y fyddin. Diflannodd miloedd o wrthwynebwyr y llywodraeth ar orchymyn y Cadfridogion, i gael eu poenydio a’u llofruddio. Yn ôl beirniaid Bergoglio, roedd o’n rhy dawel yn ystod y cyfnod tywyll hwnnw yn hanes y wlad. Ac fel arweinydd y Jeswitiaid ar y pryd, dylai fod wedi gwneud llawer mwy i herio’r Cadfridogion.
Yr ail bwnc ydy cam-drin plant yn rhywiol. Dyma’r sgandal sydd wedi achosi mwy o boen i Babyddion Iwerddon – a sawl gwlad Babyddol arall – na’r un pwnc arall. Dyma’r pwnc ,yn anad yr un arall, y mae’r Gwyddelod eisiau gweld y Pab Ffransis yn ei wynebu’n agored. Maen nhw eisiau ei weld yn cosbi’r Archesgobion a’r swyddogion yn y Fatican a aeth ati mor ddeheuig i guddio’r cam-drin.
Mae gan Ffransis y cyntaf sawl her sylweddol arall – gan gynnwys ceisio adfywio’r Eglwys yn wyneb seciwlariaeth, a thwf crefyddau eraill. Ond yn anad dim byd arall, yma yn Iwerddon bydd pawb yn aros i weld sut y bydd y Pab newydd yn delio â cham-drin rhywiol. Nid yn unig yr holl achosion sydd wedi dod i’r fei yn barod ond y rhai sydd, o bosib, yn dal yn guddiedig, mewn rhannau o’r byd fel De America. Yno dydy’r Eglwys ddim wedi dechrau codi’r caead ar gamymddygiad offeiriadol o’r fath.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
